Gweld a oes angen trwydded bywyd gwyllt arnoch yn ystod gweithrediadau coedwig

Rhaid ystyried bywyd gwyllt, cynefinoedd a phlanhigion prin os ydych yn:

  • cwympo coed mewn coetir neu goedwig
  • creu neu reoli coetir neu goedwig

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded rhywogaeth a warchodir cyn y gallwch wneud unrhyw waith.

Gallwn eich helpu i gymryd y rhagofalon angenrheidiol, cydymffurfio â'r gyfraith a gwneud cais am y trwyddedau y gallai fod eu hangen arnoch.

Os ydych yn bwriadu torri coed, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded cwympo coed hefyd.

Gwarchod adar gwyllt ac adar sy'n nythu

Gall unrhyw weithrediadau coedwig neu goetir, fel torri coed, darfu ar adar gwyllt ac adar sy'n nythu.

Er mwyn lleihau aflonyddwch ar adar sy'n magu ac yn nythu, rhaid cynnal arolwg o bob llannerch (ardaloedd o goetir neu goedwig sydd wedi'u nodi ar gyfer gwaith) cyn dechrau unrhyw waith coetir neu goedwig.

Gwarchodir pob aderyn gwyllt, eu nythod, a'u hwyau. Mae'n drosedd gwneud y canlynol yn fwriadol neu'n ddi-hid:

  • lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt
  • cymryd, difrodi neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra bo'r nyth hwnnw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei adeiladu
  • cymryd neu ddinistrio wy unrhyw aderyn gwyllt
  • meddu ar unrhyw aderyn gwyllt byw neu farw neu wy unrhyw aderyn gwyllt, neu unrhyw ran o aderyn byw neu farw

Efallai y byddwch yn gallu lawrlwytho trwydded gyffredinol cyn gwneud cais am drwydded adar benodol gennym ni. Rydym yn rhoi trwyddedau cyffredinol sy'n eich galluogi i gynnal rhai gweithgareddau sy'n effeithio ar adar gwyllt. Os nad yw eich gweithgaredd yn dod o dan drwydded gyffredinol gallwch wneud cais am drwydded adar at ddibenion penodol. 

Gwarchod bywyd gwyllt

Os ydych yn cynnal unrhyw weithrediadau coed neu goetir a allai effeithio ar fywyd gwyllt neu eu mannau gorffwys, bydd angen trwydded rhywogaeth a warchodir arnoch.

Os oes gennych unrhyw un o'r rhywogaethau bywyd gwyllt hyn yn eich coetir neu goedwig, darllenwch ein canllawiau am yr hyn y dylech ei wneud:

Gwarchod planhigion prin

Mae rhai rhywogaethau planhigion y gellir eu canfod mewn coetiroedd yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Dyma'r mathau o rywogaethau planhigion prin gwarchodedig y gall gweithrediadau coedwig effeithio arnynt:

  • Tegeirian y Fign Galchog
  • Llyriad-y-Dŵr Arnofiol
  • Rhedynen Cilarne
  • Tafolen y Traeth

Os ydych yn gwneud unrhyw waith coedwig neu waith coetir, neu os yw eich gwaith yn effeithio ar unrhyw blanhigion prin, bydd arnoch angen trwydded rheoli coedwigaeth neu goetir.

Trwydded rheoli coedwigaeth neu goetir

Gallwch wneud cais am drwydded rhywogaeth a warchodir os ydych yn gweithio mewn coetir neu goedwig ac yn bwriadu:

  • lladd
  • anafu
  • dal
  • tarfu
  • cludo
  • difrodi neu ddinistrio safle magu neu fan gorffwys

Gwneud cais am drwydded rheoli coedwigaeth neu goetir

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais am drwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf