Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau

Beth yw'r Rhestr Allyriadau?

Gofynnwn i safleoedd rheoledig penodol roi adroddiad i ni bob blwyddyn ar eu gollyngiadau i aer a dŵr, a'r gwastraff a drosglwyddir o'r safle. Mae hon yn wybodaeth y mae'n rhaid i lywodraeth y DU ei chasglu i fodloni ei gofynion adrodd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer y Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol, y Gofrestr Ewropeaidd ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion a Chofrestr y DU ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion.

Pwy sydd angen adrodd

Os yw'n ofynnol i'ch safle adrodd, byddwch wedi derbyn Hysbysiad Rheoliad 61 pan roddwyd eich trwydded.

Pryd i adrodd

Dylech ddarparu data allyriadau yn flynyddol.

Bydd y system adrodd ar-lein ar gael i chi o'r ail wythnos o Chwefror ymlaen bob blwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data yw 31 Mawrth.

Mae’n rhaid i chi adrodd ar ddata allyriadau ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol.

Os nad ydych yn adrodd erbyn 31 Mawrth gallwn gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Sut i adrodd

Dylech wneud eich datganiad blynyddol ar-lein yn https://prtr.defra.gov.uk/data-entry-system. Nid yw'n bosib cyflwyno datganiad ar bapur.

Hyd yn oed os yw eich gweithrediad wedi cau yn ystod y flwyddyn adrodd, mae’n rhaid i chi gyflwyno data ar gyfer y cyfnod yr oeddech yn gweithredu. Os nad ydych wedi gweithredu, ac nad oes gennych unrhyw allyriadau i'w hadrodd, dylech wirio, a diweddaru os yn briodol, manylion eich cyfleuster a gwneud datganiad ‘dim’. I wneud datganiad ‘dim’ dylech adael y manylion gollwng a throsglwyddo yn wag ond cyflwynwch y gollyngiad gwag yn ogystal â'r trosglwyddiad gwag. Mae'n ddefnyddiol os ydych yn cynnwys sylw yn un o'r blychau sylwadau i ddweud mai datganiad ‘dim’ ydyw.

Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa i gwblhau'r rhestr bob blwyddyn, felly rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich manylion gyda ni.

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau'r datganiad ar gael ar dudalen mewngofnodi'r system adrodd ar-lein. Ceir arweiniad ar sut i gyfrifo eich gollyngiadau yn y canllaw Adroddiadau i’r Rhestr Allyriadau isod.

Os ydych yn cael trafferthion yn defnyddio’r system neu'n cael mynediad ati, cysylltwch â ni ar prtp.national.manager@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

GN25 - Emissions inventory reporting guidance (Saesneg yn unig) PDF [430.4 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf