Er enghraifft, sŵn, arogleuon, effeithlonrwydd ynni neu ddiogelu tir a dŵr.  Bydd y dolenni ar waelod y dudalen hon yn mynd â chi i'r canllawiau sydd ar gael.

H1 Pecyn cymorth meddalwedd a chanllawiau

Gellir defnyddio’r offeryn meddalwedd asesu risg H1 a ddatblygwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd i asesu effaith llygryddion peryglus mewn gollyngiadau a arllwyswyd i ddŵr wyneb ac i systemau ymdreiddiol bychain o ganlyniad i sefydliadau a safleoedd gwastraff, gweithgareddau arllwys dŵr ffynhonnell ac o weithgareddau arllwys dŵr unigol.

Mae’r atodiadau canllawiau trosolwg asesu risg a chanllawiau technegol sy’n cefnogi’r offeryn H1 wedi cael eu hadolygu a’u hamnewid. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylchedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i’w dilyn. Byddwch yn gweld manylion ar sut i gael copi o’r offeryn meddalwedd H1 a’r canllawiau a dolen at ganllawiau ar asesu risg llygredd dŵr wyneb ar gyfer eich trwydded amgylcheddol.

Mae canllawiau pellach ar gael i fodelu’r arllwysiad unwaith y bydd yr asesiad risg llygredd dŵr wyneb wedi’i gwblhau. Lle gwneir cyfeiriad yn y canllawiau i Asiantaeth yr Amgylchedd yn nhermau ceisiadau am drwydded, datrys ymholiadau ac ymgymryd â modelu, cyfeiriwch at Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer arllwysiadau yng Nghymru.

H2 Effeithlonrwydd ynni

Mae'r Canllaw H2 wedi cael ei ddisodli gan ganllawiau 'Techneg Gorau ar Gael' perthnasol. Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i ganllawiau perthnasol Asiantaeth yr Amgylcheddol yr ydym yn parhau i'w dilyn.

EA H2 Effeithlonrwydd ynni

Rheoli sŵn a dirgryniad

Ar gyfer y rhan fwyaf o asesiadau effaith sŵn diwydiannol, rydym yn disgwyl i chi ddilyn meini prawf a gofynion adrodd BS 4142:2014+A1:2019 Dull ar gyfer sgorio ac asesu sain ddiwydiannol a masnachol (BS 4142).

H4 Rheoli arogleuon

Gweler ein canllawiau ar Reoli Arogleuon (H4) isod.

H5 Adroddiad ar gyflwr safle

Gweler ein:

Diweddarwyd ddiwethaf