Y trwyddedau mae eu hangen ar gyfer cynhyrchu hydrogen

Y trwyddedau mae eu hangen ar gyfer cynhyrchu hydrogen

Mae yna dri math o drwydded y gallai fod eu hangen arnoch fel cynhyrchydd hydrogen, yn dibynnu ar y risg amgylcheddol.

Trwydded gyflym i gynhyrchu hydrogen

Os ydych yn cynhyrchu hydrogen trwy electrolysis, gan ddefnyddio trydan o’r grid cenedlaethol neu ffynonellau cynaliadwy a chan weithio o fewn paramedrau diffiniedig penodol, bydd modd i chi wneud cais am drwydded gyflym sy’n cymryd llai o amser i’w phrosesu ac sy’n gofyn am lai o wybodaeth yn y cais.

Y tâl a godir am drwydded gyflym i gynhyrchu hydrogen yw: £788

Codir tâl blynyddol o £920 i gadw’r drwydded.

Darllenwch fwy am wneud cais am drwydded gyflym i gynhyrchu hydrogen

Trwydded am osodiad effaith isel

I fod yn gymwys am drwydded am osodiad effaith isel, rhaid i chi fodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • Rhyddhau dim mwy na 50m3 y diwrnod o ddŵr wedi’i brosesu.
  • Aros o fewn terfynau ansawdd aer ar gyfer allyriadau heb ddibynnu ar unrhyw systemau lliniaru sy’n weithredol.
  • Dim allyriadau i ddŵr daear na suddfannau dŵr.
  • Cynhyrchu dim mwy nag 1 tunnell y dydd o wastraff nad yw’n beryglus neu 10kg y dydd o wastraff peryglus, gydag uchafswm dyddiol o 20 tunnell o wastraff nad yw’n beryglus neu 200kg o wastraff peryglus.
  • Defnyddio llai na 3MW o ynni, neu lai na 10MW os ydych yn defnyddio system gwres a phŵer cyfunol. Bod â mesurau cyfyngu digonol mewn lle ar gyfer gollyngiadau.
  • Bod eich potensial i achosi cwynion am sŵn oddi ar y safle yn isel.
  • Bod y tebygolrwydd y byddwch yn rhyddhau symiau sylweddol o unrhyw fath o sylwedd llygredig yn isel.
  • Bod eich potensial i achosi cwynion am arogleuon oddi ar y safle yn isel.
  • Dim camau gorfodi sylweddol diweddar yn erbyn y gweithredwr ar gyfer troseddau amgylcheddol.

Gellir trin gosodiadau sy’n bodloni’r meini prawf symlach hyn fel rhai effaith isel at ddibenion trwyddedu. Mae cais am osodiad effaith isel yn costio llai ac mae’r broses ymgynghori’n fyrrach nag ar gyfer trwydded lawn am osodiad pwrpasol.

Y ffi am drwydded am osodiad effaith isel yw: £7066

Gwnewch gais am drwydded am osodiad effaith isel

Trwydded am osodiad pwrpasol

Os nad yw eich gweithrediad yn bodloni’r meini prawf ar gyfer trwydded gyflym i gynhyrchu hydrogen neu drwydded am osodiad effaith isel, bydd angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol lawn am osodiad pwrpasol.

Gwnewch gais am drwydded amgylcheddol lawn am osodiad pwrpasol

Trwydded Tynnu Dŵr

Os ydych yn bwriadu tynnu mwy na 20m3 (4,400 galwyn) o ddŵr y dydd, bydd angen trwydded tynnu dŵr arnoch. Mae’r penderfyniad i ddyfarnu trwydded ai peidio yn dibynnu ar faint o ddŵr sydd ar gael.

Fel arfer mae cyfyngiad amser ar drwyddedau tynnu dŵr ac mae dyddiad dod i ben arnynt. Bydd tîm Trwyddedu CNC yn cynghori ynghylch y dyddiad dod i ben fel rhan o’r broses cyn ymgeisio.

Dysgwch fwy am drwyddedau tynnu dŵr a sut i wneud cais.

Rydym yn argymell i chi gysylltu â ni yn gynnar wrth wneud cais i drafod argaeledd dŵr ar gyfer eich cynnig gan y gallai fod yn ffactor sy’n cyfyngu ar y broses arfaethedig ar gyfer cynhyrchu hydrogen.

Ceir rhagor o wybodaeth am argaeledd dŵr yn ein strategaethau trwyddedu tynnu dŵr o ddalgylchoedd

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded cronni dŵr os ydych yn bwriadu cronni dŵr (er enghraifft drwy adeiladu neu addasu cored) i’ch hwyluso i dynnu dŵr neu os ydych yn bwriadu creu unrhyw gronfeydd neu byllau storio dŵr o fewn y corff dŵr. 

Dylech hefyd ystyried unrhyw ofynion trwyddedu ehangach o ran adnoddau dŵr, er enghraifft os oes angen i chi ddad-ddyfrio er mwyn codi adeiladau, ffyrdd mynediad, neu bibellau i gludo hydrogen.

Gwnewch gais am ein gwasanaeth cyn ymgeisio i drafod eich gofynion.

 

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf