Gwneud cais am gynllun samplu ar gyfer trwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu

Cyn i chi wneud cais am drwydded i garthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu yn y môr, rhaid sicrhau bod amrediad o briodweddau ffisegol a chemegol y deunydd wedi'u dadansoddi yn unol â chanllawiau OSPAR

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cytuno ar y gofynion samplu a dadansoddi gwaddod gyda ni trwy gyflwyno cynllun samplu.
  • cyflawni'r gwaith samplu a dadansoddi yn unol â'r cynllun hwn
  • cyflwyno'r canlyniadau gyda'ch cais am drwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunydd sydd wedi'i garthu

Gwneud cais am gynllun samplu


Rydym yn defnyddio ymgynghorwyr gwyddonol allanol i lunio'r cynllun samplu. Byddant yn ei ddychwelyd atom a byddwn ni'n ei anfon atoch chi. Byddwch yn derbyn eich cynllun tua phedair wythnos ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen a thalu eich ffi.

Talu eich ffi

Pan fyddwch wedi cwblhau'r ffurflen bydd angen i chi dalu ffi o £420. Gallwch dalu drwy ein ffonio ar 03000 653 770 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy drosglwyddiad banc i:

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438

Nid yw'r ffi hon yn cynnwys costau allanol sy'n gysylltiedig ag amser ymgynghorwyr gwyddonol ar gyfer llunio'r cynllun samplu. Pan fyddwn yn derbyn cadarnhad o'u costau fe wnawn ni eich anfonebu chi.

Ble y gellir dadansoddi eich samplau gwaddod

Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio un o'r labordai canlynol, y maent wedi'u dilysu ar gyfer cyflawni gwaith dadansoddi gwaddod ar gyfer ategu ceisiadau am drwydded forol.

Gwiriwch a yw'r labordy wedi'i ddilysu ar gyfer y penderfynyddion y mae eich cynllun samplu'n ei gwneud yn ofynnol i chi eu mesur.

-

Cefas

Technoleg Deunyddiau Elfennol

Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Kenneth Pye Associates Limited

Ocean Ecology Limited

RPS

SOCOTEC

Cyfansoddion anorganig (gan gynnwys metelau hybrin)

Ydy

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Ydy

Cyfansoddion organotun (tribwtyltun a deubwtyltun))

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Ydy

Biffenylau polyclorinedig (PCBs)

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Ydy

Deunyddiau gwrthdan brominedig

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Cyfanswm y cynnwys hydrocarbon (THC)

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Hydrocarbonau aromatig polyseiclig (PAHs)

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Plaladdwyr organoclorin (OCPs))

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Cyfanswm y carbon organig (TOC)

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Nac ydy

Ydy

Ydy

Dadansoddiad maint gronynnau (PSA)

Ydy

Nac ydy

Ydy

Ydy

Ydy

Nac ydy

Nac ydy

 

Gall y dadansoddiad gymryd hyd at wyth wythnos i'w gwblhau, gan ddibynnu ar y labordy yr ydych yn ei ddefnyddio a gofynion y dadansoddiad.

Costau dadansoddi'r sampl

Bydd costau dadansoddi sampl yn amrywio, gan ddibynnu ar y cynlluniau samplu pwrpasol ar gyfer y gwaith cysylltiedig. Bydd angen i chi drafod a chytuno ar y costau dadansoddi sampl yn uniongyrchol â'ch labordy dewisol.

Sut i anfon y data dadansoddi gwaddod atom

Bydd angen i chi wneud y canlynol er mwyn anfon data eich dadansoddiad atom:

  • gofynnwch i ni am dempled trwy anfon e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiol.cymru
  • cwblhewch y templed a'i anfon atom ynghyd â gweddill eich cais am drwydded forol ar gyfer carthu neu gael gwared ar ddeunyddiau sydd wedi'u carthu

Ni allwn dderbyn canlyniadau gwaddod sydd wedi'u cyflwyno ar ffurf wahanol.

Byddwn yn dychwelyd unrhyw gyflwyniadau anghyflawn atoch a gall hyn achosi oedi yn y broses ymgeisio am drwydded forol.

Os ydych yn gwneud newidiadau i'ch gwaith arfaethedig

Os ydych yn gwneud newidiadau i'ch gwaith arfaethedig ar ôl i'r cynllun samplu gael ei lunio, gofynnwch i ni am gadarnhad bod y cynllun yn parhau i fod yn gymwys. Gall newidiadau gynnwys newid y lleoliad i'w garthu neu swm y deunydd i'w garthu. 

Bydd methiant i wneud hynny'n golygu y bydd oedi, taliadau ychwanegol i'w talu, a gofyniad posibl i ail-samplu.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r data

Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y data dadansoddi gwaddod a gyflwynir i ategu cais yn gyson a chymaradwy rhwng ceisiadau gwahanol. Mae'r lefelau gweithredu hyn yn cael eu defnyddio i benderfynu ar faint o halogyddion sydd yn y deunydd a'i addasrwydd ar gyfer cael gwared arno yn y môr.

Mae’r lefelau gweithredu wedi’u rhestru isod:

Lefel gweithredu 1

Halogydd / Cyfansoddyn mg/kg Pwysau Sych (ppm)
Arsenig 20
Mercwri 0.3
Cadmiwm 0.4
Cromiwm 40
Copr 40
Nicel 20
Plwm 50
Sinc 130
Orgotinau; TBT DBT MBT 0.1
PCBau, swm o ICES 7 0.01
PCBau, swm o 25 o ansoddau cysylltiedig 0.02
DDT 0.001
Dieldrin 0.005

Noder: Pennwyd y lefelau ar gyfer DDT a Dieldrin yn 1994

Lefel gweithredu 2

Halogydd / Cyfansoddyn mg/kg Pwysau Sych (ppm)
Arsenig 100
Mercwri 3
Cadmiwm 5
Cromiwm 400
Copr 400
Nicel 200
Plwm 500
Sinc 800
Orgotinau; TBT DBT MBT 1
PCBau, swm o ICES 7 dim
PCBau, swm o 25 o ansoddau cysylltiedig 0.2


Bydd y data dadansoddi gwaddod yn rhan o'r wybodaeth ategol ar gyfer y cais. Byddwn yn rhannu'r data a'r cais gyda'n hymgyngoreion, a byddant ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Mae'n debygol y bydd angen i ni ymgynghori ag ymgynghorwyr gwyddonol allanol a fydd yn codi ffi am eu hamser. Byddwn yn darparu dyfynbris i chi ar gyfer y gost hon yn ystod y broses ymgeisio.

Diweddarwyd ddiwethaf