Gwneud cais i drosglwyddo gweithfa hylosgi ganolig annibynnol neu drwydded generadur penodedig i chi eich hun
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych chi'n trosglwyddo gweithfa hylosgi ganolig neu drwydded generadur penodol i chi eich hun.
Os dymunwch drosglwyddo trwydded rheolau safonol, bydd angen i chi wneud cais ar gyfer gweithfa hylosgi ganolig newydd neu drwydded generadur penodedig.
Cyn dechrau
Mae angen i chi wybod:
- unrhyw gyfeirnod cyn-ymgeisio (os ydych wedi delio â ni o’r blaen)
- rhif eich trwydded
- eich Cyfundrefn enwi codau Gweithgareddau Economaidd ar gyfer sector eich gweithgaredd
- gallu technegol y gweithredwr
- ynghylch systemau rheoli
- os yw troseddau yn effeithio ar bobl berthnasol
- os yw ansolfedd neu fethdaliad yn effeithio ar bobl berthnasol
- pa ddatganiadau i'w gwneud
- ein taliadau trwydded
- sut i dalu
Bydd angen i ni hefyd wybod y dyddiad rydych am drosglwyddo'r drwydded:
- ar gyfer trwyddedau peiriannau symudol, dylai hyn fod o leiaf 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y cais
- ar gyfer trwyddedau ar safle, dyma'r dyddiad y bydd y deiliad newydd arfaethedig yn rheoli'r cyfleuster
Dogfennau i'w uwchlwytho
Bydd angen i chi uwchlwytho rhai neu bob un o'r dogfennau canlynol gyda’ch cais:
- tystiolaeth eich bod yn gorff cyfreithiol y gallwn roi trwydded iddo
- unrhyw weithdrefnau methdaliad neu ansolfedd yn eich erbyn ar hyn o bryd neu yn y gorffennol
- tystiolaeth os ydych yn hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol
- datganiad gan ddeiliad/deiliaid y drwydded bresennol, neu dystiolaeth na allwch ddod o hyd iddynt
Gwnewch gais i drosglwyddo eich trwydded
Amserlenni
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno cais cyflawn a thalu'r ffi gywir, byddwn yn trosglwyddo eich trwydded o fewn dau fis.
Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau ei fod yn gyflawn. Os nad yw'n gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych.
Diweddarwyd ddiwethaf