Hysbysebiad penderfyniad drafft: Circular Waste Solutions Limited  

Rhif y cais: PAN-022087
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa - Adran 5.3 A (1) (a) (ii): Gwaredu neu adfer gwastraff peryglus gyda chapasiti sy'n fwy na 10 tunnell y dydd sy'n cynnwys triniaeth ffisegol-gemegol; ac; Adran 5.6 A (1) (a) Storio gwastraff peryglus dros dro gyda chyfanswm capasiti sy’n fwy na 50 tunnell tra’n aros unrhyw un o'r gweithgareddau a restrir yn Adrannau 5.1, 5.2, 5.3 a pharagraff (b).
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Cyfleuster Trin Gwastraff Hylifol, Circular Waste Solutions, Ffordd Titaniwm, Waunarlwydd, Abertawe, SA5 4SF.

Mae'r cais hwn yn ceisio trwydded i weithredu gweithfa a fydd yn derbyn, trin a storio gwastraff hylifol peryglus ac amheryglus.

Rydym yn bwriadu rhoi'r drwydded.  Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn rhoi trwydded. Bydd unrhyw drwydded a roddwn yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.

Gwybodaeth a roddwyd ar y gofrestr gyhoeddus at ddiben ymgynghori:

  • Trwydded ddrafft  
  • Dogfen y penderfyniad drafft

Gallwch weld y drwydded ddrafft a dogfen y penderfyniad drafft yn rhad ac am ddim, ar https://publicregister.naturalresources.wales/ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio manylion y cais, uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch y rhain erbyn 15 Awst 2024.

Ebost: permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk 

Neu ysgrifennwch at:

Arweinydd y Tîm Gosodiadau a Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Diweddarwyd ddiwethaf