Mae pob rhywogaeth o adar gwyllt yng Nghymru wedi’u gwarchod.

Rydym yn rhoi trwyddedau cyffredinol sy’n awdurdodi camau penodol sy’n effeithio ar adar gwyllt a fyddai fel arall yn anghyfreithlon, heb fod angen gwneud cais am drwydded benodol. Dim ond at ddibenion penodol y rhoddir trwyddedau cyffredinol ac maent yn berthnasol i rywogaethau penodol.

Fe gynhaliom adolygiad o’n trwyddedau cyffredinol ar gyfer rheoli adar gwyllt (GL001, GL002, GL004 a GL005) yn 2023. Fe rannom y ddogfen adolygu gyda sefydliadau rhanddeiliaid a gofyn am eu hadborth ar ein cynigion. Fe ystyriom yr adborth a gafwyd wrth ddod i’n penderfyniadau ar drwyddedau cyffredinol ar gyfer 2024, a gyhoeddir yn ein dogfen benderfynu. Mae ein GL001, GL002, GL004 a GL005 ar gyfer 2024 yn ystyried y penderfyniadau hyn.

Os ydych yn bwriadu defnyddio trwydded gyffredinol, rhaid i chi fod yn fodlon eich bod yn gweithredu o fewn darpariaethau’r drwydded honno. Eich cyfrifoldeb chi yw deall a dilyn amodau presennol y drwydded. Gallai methu â chydymffurfio fod yn drosedd.

Mae ein trwyddedau cyffredinol yn cael eu cynhyrchu mewn HTML. Os hoffech gadw neu argraffu copi, cliciwch “Argraffu’r dudalen hon” ac yna dewiswch “Cadw fel pdf” o’r gwymplen Argraffu. O’r fan honno gallwch gadw’r ddogfen pdf i leoliad o’ch dewis ac argraffu copi caled os dymunwch.

Trwyddedau Cyffredinol i 2024

Trwydded Gyffredinol 001
Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt i atal difrod difrifol i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau neu i atal clefyd rhag lledaenu i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau. 

Trwydded Gyffredinol 002
Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt at ddibenion gwarchod iechyd y cyhoedd ac atal clefyd rhag lledaenu i bobl.

Trwydded Gyffredinol 004
Trwydded i ladd neu gymryd rhai adar gwyllt at ddibenion cadwraeth adar gwyllt.

Trwydded Gyffredinol 005
Trwydded i ganiatáu lladd neu gymryd neu ddinistrio wyau hwyaden goch.

Trwydded Gyffredinol 006
Trwydded i gymryd wyau adar o flychau nythu wedi eu gadael.

Trwydded Gyffredinol 007
Trwydded i gadw adar gwyllt yn rhestredig ar atodlen 4 at ddiben eu hadfer.

Trwydded Gyffredinol 008
Trwydded i gymryd wyau hwyaden wyllt i fagu a rhyddhau.

Trwydded Gyffredinol 009
Trwydded i ryddhau adar ar atodlen 9 sydd wedi bridio yn y gwyllt.

Trwydded Gyffredinol 010
Trwydded i ganiatáu gwerthu rhai adar byw a fagwyd mewn caethiwed.

Trwydded Gyffredinol 011
Trwydded i ganiatáu gwerthu ac arddangos llinos flodiog.

Trwydded Gyffredinol 012
Trwydded i werthu adar marw.

Trwydded Gyffredinol 013
Trwydded i ganiatáu arddangos adar gwyllt byw penodol sydd wedi’u bridio mewn caethiwed mewn sioe gystadleuol ac i ganiatáu cadw adar penodol mewn cawellau arddangos at ddibenion eu hyfforddi.

Trwydded Gyffredinol 014
Trwydded i ganiatáu deori wyau adar sy’n atodlen 4 a chadw’r cywion sy’n deillio ohonynt am hyd at 15 niwrnod heb eu cofrestru.

Trwydded Gyffredinol 015
Trwydded i labordai gadw gwaed a samplau meinwe a gymerwyd yn ystod ymchwiliad troseddau.

Trwydded Gyffredinol 016
Trwydded i gymryd adar gwyllt penodol o safleoedd bwyd at ddiben diogelu iechyd a diogelwch cyhoeddus.

Trwydded Gyffredinol 018
Trwydded i feddu ar sbesimenau marw at ddibenion gwaith ymchwil ac addysgol ac at ddibenion unrhyw arddangosfa gyhoeddus.

Trwyddedau Adar Eraill

Gall bwrw ymlaen â gweithgareddau sy'n effeithio ar adar gwyllt fod yn drosedd os nad oes caniatâd yn y drwydded gyffredinol. Os ydych am gynnal unrhyw un o'r gweithrediadau hyn, dylech wneud cais am drwydded benodol. Mae gwybodaeth bellach ynghylch trwyddedau adar ar gael ar ein tudalen ar-lein.

Cysylltu â ni

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost, neu trwy ffonio 0300 065 3000.

Diweddarwyd ddiwethaf