Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli: creu asesiad risg
Er mwyn gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli, bydd angen i chi greu asesiad risg.
Byddwn yn gofyn i chi atodi eich asesiad risg gyda’ch cais.
Beth sydd angen ei gynnwys
Mae’n rhaid i’ch asesiad risg gynnwys y wybodaeth ganlynol o leiaf:
- enw trefnydd y gweithgaredd
- crynodeb o’r gweithgaredd (er enghraifft gyrru car a cheffyl neu feicio mynydd)
- lleoliad y gweithgaredd
- enw’r person sydd wedi paratoi’r asesiad risg
- dyddiad cwblhau’r asesiad
Ar gyfer pob perygl, mae’n rhaid i chi nodi’r canlynol:
- pwy allai gael ei niweidio
- dulliau rheoli y byddwch yn eu rhoi ar waith
- could be harmed
- controls you will put in place
- the risk rating for severity, likelihood of harm and level of risk
Enghraifft
Perygl |
Pwy allai gael ei niweidio |
Difrifoldeb (1-5) |
Tebygolrwydd (1-5) |
Lefel y risg (1-5) |
Mesurau rheoli |
---|---|---|---|---|---|
Drain, danadl poethion, brigau |
Oedolion sy’n cymryd rhan |
1 |
1 |
1 |
Annog ymwybyddiaeth ymysg cyfranogwyr, cadw pecyn cymorth cyntaf wrth law, arsylwi |
Diweddarwyd ddiwethaf