Oes angen i mi wneud cais am drwydded neu gofrestru eithriadau?
Diweddariad: 31/03/2023
Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.
Gwiriwch a oes esemptiad ar gyfer eich gweithgaredd
Eithriadau ar gyfer gweithgareddau nad oes angen trwydded ar eu cyfer. Mae angen i chi gofrestru llawer o’r rhain gyda ni er mwyn i ni wybod amdanyn nhw.
Mae’r rhan fwyaf o eithriadau i’w cael am ddim.
Dysgwch sut i wirio’r rhestr esemptiadau gwastraff a sut i gofrestru esemptiad gyda ni.
Gwiriwch a allwch chi gael trwydded rheolau safonol
Trwyddedau safonol cyfres o reolau penodedig ar gyfer gweithgareddau cyffredin. Os ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion mae gennych chi hawl i gael trwydded safonol.
Mae yna dâl penodol amdanyn nhw.
Gwneud cais am drwydded safonol ar gyfer gweithrediadau gwastraff.
Sut i wneud cais am drwydded arbennig
Trwyddedau pwrpasol mae’r rhain yn cael eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer eich gweithgarwch chi.
Maen nhw’n cymryd mwy o amser i’w prosesu na thrwyddedau safonol felly’n tueddu i fod yn ddrutach.
Os na allwch fodloni’r gofynion am eithriadau neu drwydded safonol bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Ffioedd a thaliadau
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol.
Cael cymorth gyda’ch cais
Rydym yn eich cynghori i gael trafodaeth cyn-ymgeisio gyda ni cyn paratoi a chyflwyno’ch cais. Dylai hyn eich helpu i gael y cais am drwydded yn iawn y tro cyntaf a thynnu sylw at unrhyw broblemau’n gynnar, gan arbed amser ac arian i chi yn y pen draw.
Yn y trafodaethau hyn gallwn roi cyngor i chi ar:
- sut i baratoi eich cais
- pa nodiadau canllaw sydd ar gael
- pa fath o wybodaeth sydd angen i chi ei darparu er mwyn dangos i ni y bydd eich cynigion yn diogelu’r amgylchedd ac na fyddan nhw’n niweidio iechyd pobl
Gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio am drwydded amgylcheddol.
Pan fyddwch yn cael eich trwydded
Byddwn yn penderfynu ar eich cais cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os yw’ch cais am drwydded yn fwy cymhleth oherwydd deddfwriaeth arall neu gyfyngiadau cynllunio, neu os oes gennym ni bryderon penodol am y cynnig, efallai y bydd angen i ni gytuno ar amserlen wahanol gyda chi.
Rhaid i ni benderfynu ar eich cais o fewn yr amserlenni a nodir yn ein siarter ar gyfer cwsmeriaid.
Beth rydym ni’n ei wneud
Ein cyfrifoldeb ni yw:
- asesu pob cais am effeithiau posib
- rhoi sylw dyledus i’n hamcanion a’n dyletswyddau cyfreithiol
- gwrando ar y cyhoedd a allai gael eu heffeithio gan y cynigion