Gwneud cais i adleoli trwydded gwaith symudol

Diweddariad: 31/03/2023 

 

Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.   

 

Gweler manylion y ffioedd arfaethedig yr ydym yn bwriadu eu gweithredu ar gyfer 2023-2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol.  

Cyn y gallwch gynnal gweithgareddau gwaith symudol, rhaid bod gennych:

  • trwydded rheolau safonol neu drwydded bwrpasol
  • gosodiad wedi'i gymeradwyo

Darganfyddwch sut i wneud cais am drwydded rheolau safonol.

Darganfyddwch sut i wneud cais am drwydded bwrpasol.

Gwneud cais i adleoli trwydded gwaith symudol

Gallwch wneud cais am osodiad pan fydd gennych y drwydded addas.

Rhaid bod gennych osodiad wedi'i gymeradwyo ar gyfer gwaith symudol bob tro yr ydych am gynnal gweithgareddau. Deuddeg mis yw cyfnod pob gosodiad.

Taenu ar dir

Er mwyn gwneud cais am osodiad taenu ar dir, rhaid bod gennych un o'r trwyddedau canlynol:

  • SR2010 Rhif 4 Offer symudol ar gyfer taenu ar dir (gwaith trin tir sy’n arwain at fudd amaethyddol neu ecolegol)
  • SR2010 Rhif 5 Defnydd o offer symudol ar gyfer adennill tir, adfer neu wella tir
  • SR2010 Rhif 6 Offer symudol ar gyfer taenu slwtsh carthion ar dir
  • Trwydded offer symudol wedi’i deilwra ar gyfer taenu ar dir neu adennill tir

Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais am osodiad gwaith symudol ar gyfer taenu ar dir (Saeneg un unig).

 

Trin gwastraff i gynhyrchu pridd, pridd amgen ac agregau

Er mwyn gwneud cais i adleoli trin gwastraff, rhaid bod gennych y drwydded rheolau safonol canlynol:

  • SR2010 Rhif 11 Gwaith symudol ar gyfer trin gwastraff i gynhyrchu pridd, pridd amgen ac agregau

Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar sut i wneud cais am drin gwastraff i gynhyrchu pridd, pridd amgen ac agregau (Saesneg un unig).

Gwneud cais am drwydded adleoli ar gyfer trin gwastraff i gynhyrchu pridd, pridd amgen ac agregau.

Adfer neu driniaeth ar dir a/neu dŵr daear gan ddefnyddio gwaith symudol adferol

Er mwyn gwneud cais am waith adfer neu driniaeth ar dir a/neu dŵr daear gan ddefnyddio trwydded adferol gwaith symudol, rhaid bod gennych un o'r trwyddedau canlynol:

  • SR2008 Rhif 27 Gwaith symudol ar gyfer trin pridd, sylweddau neu gynhyrchion halogedig
  • Trwydded bwrpasol ar gyfer gweithgareddau adferol tir a dŵr daear
  • Trwydded bwrpasol ar gyfer triniaeth gan ddefnyddio gwaith symudol

Cyn dechrau eich cais, darllenwch y canllawiau ar waith adfer neu driniaeth ar dir a/neu dŵr daear gan ddefnyddio trwydded adferol gwaith symudol (Saesneg un unig).

Gwneud cais i adleoli adfer neu driniaeth ar dir a/neu dŵr daear gan ddefnyddio trwydded adferol gwaith symudol.

Talu eich ffioedd adleoli

Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd angen i chi dalu eich ffi.

Cyfrifwch yr hyn sydd angen i chi ei dalu trwy ddarllen y cynllun codi tâl ar gyfer trwyddedu amgylcheddol.

Gallwch dalu drwy ein ffonio 0300 056 3000 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy drosglwyddiad banc i:

Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438

Ni allwn brosesu cais nes bod y ffi gywir wedi'i thalu.

Ar ôl i chi wneud cais i adleoli

Pan fyddwn yn derbyn eich cais i adleoli a gwblhawyd a'r ffi gywir, rhaid i ni:

  • sicrhau bod gennych y drwydded fyw addas ar gyfer y gweithgareddau rydych yn bwriadu eu cynnal.
  • asesu pob cais am effeithiau posibl a sicrhau bod gennych y mesurau ar waith i ymdrin â nhw
  • ystyried ein nodau a dyletswyddau cyfreithiol
  • gwrando ar aelodau o'r cyhoedd a allai gael eu heffeithio arnynt gan eich cynigion

Byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn 25 diwrnod.

Cydymffurfio â'ch trwydded a'ch adleoliad

Gallwch ddysgu mwy trwy ddarllen y canllawiau a'r wybodaeth dechnegol ar gydymffurfio â'ch trwydded gwastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf