Gwastraff mwyngloddio
Oes angen i fi wneud cais am drwydded?
Gall gwastraff echdynnol gael ei gynhyrchu o ganlyniad i chwilota, cloddio, trin a storio adnoddau mwynol ar y lan a gwaith chwarelydda. Gall fod yn:
- solidau gwastraff neu’n slyri sy’n weddill ar ôl trin mwynau gan ddefnyddio nifer o dechnegau
- craig a phridd neu ddeunydd arall ar ben y graig y mae gweithrediadau echdynnu’n eu symud wrth asesu mwyn neu gorff mwynol, yn cynnwys yn ystod y cam cyn-gynhyrchu
pridd, er enghraifft, haen uchaf y tir, yn cynnwys yr isbridd
Darllenwch ein dehongliad o’r diffiniad o wastraff echdynnol ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae’r datganiad sefyllfa’n disgrifio’r egwyddorion y byddwn ni’n eu dilyn wrth asesu a yw deunyddiau sy’n codi yn ystod proses echdynnu’n wastraff echdynnol ai peidio. Dim ond i Gymru a Lloegr mae’n berthnasol.
Mae Grŵp Mwynau Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) hefyd wedi cyhoeddi nodyn cyfarwyddyd sy’n egluro sut i gynnal yr asesiad, a’i gyflwyno i ni, mewn ffordd gyson a chost-effeithiol. Bydd y nodyn cyfarwyddyd hwn ar gael ar wefan Grŵp Mwynau y CBI (gweler dolen isod).
Dyddodi pridd heb ei lygru, rhai mathau o wastraff sy’n codi o chwilota am adnoddau mwynol a gwaith mawn: Rhaid cael trwydded amgylcheddol ar gyfer pob gwaith sy’n ymwneud â gwastraff mwyngloddio. Fodd bynnag, rydym wrthi’n edrych ar opsiynau i reoleiddio’r gwaith o ddyddodi’r canlynol gan ddefnyddio trywydd gwahanol:
- gwastraff amheryglus a gynhyrchir wrth chwilota am adnoddau mwynol (ac eithrio olew ac anweddiadau, heblaw gypswm ac anhydrit)
- gwastraff a gynhyrchir wrth gloddio am fawn, ei storio a’i drin;
- pridd heb ei lygru
Ni fydd angen trwydded ar gyfer dyddodi’r deunyddiau hyn hyd nes y bydd yr opsiynau hyn wedi cael eu penderfynu’n derfynol ac i unrhyw newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud i’r fframwaith. Yn hytrach, rydym yn gofyn i chi gofrestru’r gweithgarwch hwn. Mae’r broses gofrestru yn cael ei hegluro yn y Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol (RPS042) y gallwch ei ddarllen drwy glicio’r ddolen yn ein hadran dolenni allanol isod.
Gwneud cais am ddogfennau trwydded
Mae gennym ddau fath o drwydded: trwydded rheolau safonol a trwydded bwrpasol
Trwydded rheolau safonol ar gyfer rheoli gwastraff echdynnol anadweithiol (heb ollwng o darddiad i ddŵr)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y rheolau safonol sy’n disgrifio’n union yr hyn rydych eisiau ei wneud, a gwnewch yn siŵr y bydd modd ichi fodloni gofynion y rheolau hyn. Darllenwch drwy’r rheolau safonol llawn yn drylwyr a’r asesiad risg generig cysylltiedig. Os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r rheolau safonol, rhaid ichi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Mae’r trwyddedau rheolau safonol sydd ar gael a’r asesiadau risg generig ar gyfer pob un ohonynt, ar ein tudalen Gwneud cais am drwydded safonol ar gyfer gweithgareddau gwastraff.
Trwydded bwrpasol ar gyfer unrhyw weithrediadau gwastraff mwyngloddio eraill. Mae hyn yn cynnwys gweithrediadau gwastraff mwyngloddio gyda gollyngiadau dŵr newydd, safleoedd Categori A, a safleoedd nad ydyn nhw’n ymdrin â gwastraff anadweithiol.
Mae gollyngiadau dŵr yn cael eu rheoleiddio o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol hefyd. Os oes gennych chi ganiatâd i ollwng dŵr o weithgarwch mwyngloddio ar hyn o bryd, mae hwnnw’n cael ei ystyried yn drwydded amgylcheddol bellach. Os yw hynny’n briodol, rydym yn argymell amrywio’r drwydded i ychwanegu’r gofynion ar gyfer y gweithgarwch gwastraff mwyngloddio.
Cyn i chi wneud cais am drwydded, rydym yn argymell eich bod yn darllen ein fframwaith rheoleiddio ar weithredu’r Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein nodyn canllaw technegol EPR 6.14 Sut i gydymffurfio â’ch trwydded amgylcheddol. Canllawiau ychwanegol ar weithrediadau gwastraff mwyngloddio.
Trosglwyddo i’r rheoliadau gwastraff mwyngloddio
Mae EPR yn nodi’r darpariaethau trosiannol ar gyfer gweithrediadau gwastraff mwyngloddio, boed yn cynnwys cyfleusterau gwastraff mwyngloddio cyfredol ai peidio. Mae’r rhain wedi’u crynhoi yn y ddogfen darpariaethau trosiannol - gweler y ddolen isod: