Gwneud cais am drwydded i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb

Diweddariad: 31/03/2023 

 

Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.   

 

Gweler manylion y ffioedd arfaethedig yr ydym yn bwriadu eu gweithredu ar gyfer 2023-2024, yn amodol ar gymeradwyaeth Weinidogol.  

I wneud cais am Drwydded Amgylcheddol i ollwng dŵr o gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb, bydd angen ichi lenwi ein ffurflen gais B1.

Os byddwch angen cyngor cyn ichi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Rhan A

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan A – Amdanoch chi.

Rhan F

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan F1 neu F2.

Os ydych chi’n gwneud cais am safle, gwaith gwastraff, gwaith gwastraff mwyngloddio neu weithgarwch dŵr daear, er enghraifft taenu ar dir, llenwch Ran F1.

Os ydych yn gwneud cais i ollwng dŵr tardd annibynnol llenwch Ran F2.

Rhan B

Rhaid i bob ymgeisydd lenwi rhan B1 – Trwydded rheolau safonol.

 

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol.

Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau i:

permitreceiptcentre@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen - Rhan A WORD [176.9 KB]
NODYN CANLLAW A.doc WORD [208.0 KB]
Standard rules SR2010No2 Discharge to surface water cooling water and heat exchangers (saesneg yn unig) PDF [295.4 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf