Cyfarfod y Bwrdd 19 a 20 Mai 2021
Bydd sesiwn gyhoeddus cyfarfod Bwrdd CNC yn cael ei hailgyflwyno ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 20 Mai 2021.
Bydd y cyfarfod Bwrdd yn cael ei gynnal ar Skype. Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy’n awyddus i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno drwy Skype ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ryngweithiol gyda’r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol ddod i ben.
Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)
Amser y Cyfarfod - 9:30AM i 12:20PM - 20 Mai
Amser | Rhif Eitem | Eitem |
---|---|---|
9:30 |
1 |
Agor y cyfarfod
Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
9:35 |
2 |
Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Gweithredu
Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) |
9:40 |
3 |
Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: Y Cadeirydd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd |
9:50 |
4 |
Adroddiad y Prif Weithredwr Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau allweddol cyfredol Cyflwyniad yn unig |
10:10 |
5 |
Adroddiad diweddaru y pwyllgorau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau
Crynodeb: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am weithgareddau diweddar y pwyllgorau |
10:30 |
6 |
Adolygiad blynyddol o’r Cylch Gorchwyl Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: Cymeradwyo Cylch Gorchwyl diwygiedig y Bwrdd, Pwyllgorau’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol Cyfeirnod y papur: 21-05-B11 |
10:40 |
Egwyl |
|
10:55 |
7 |
Newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo Statudol a Chyfreithiol Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: Cymeradwyo newidiadau i’r Cynllun Dirprwyo Statudol a Chyfreithiol Cyfeirnod y papur: 21-05-B12 |
11:05 |
8 |
Cyflwyniad ‘Lle’ Noddwr: Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyflwynydd: Mike Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru; Aneurin Cox, Rheolwr Gweithrediadau Tir ac Asedau; Andy Robinson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Canol De Cymru; Tim England, Rheolwr Gweithrediadau (Rheoli Llifogydd a Dŵr); Scott Squires, Rheolwr Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni; Fiona Abbott, Arweinydd Tîm, Polisi Ymbelydredd a Diwydiant Crynodeb: Darparu trosolwg ar weithgareddau allweddol yn rhanbarth Canol De Cymru |
Diwedd cyfarfod cyhoeddus y Bwrdd |
||
11:50 |
9 |
Sesiwn holi ac ateb gyhoeddus |
12:20 |
Diwedd y cyfarfod |
Os hoffech arsylwi’r Cyfarfod Bwrdd, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofyn am fynediad i’r cyfarfod. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael, gadewch inni wybod a fyddwch angen hyn yn eich e-bost.