Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2023–2024

Crynodeb Gweithredol

Croeso i grynodeb Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2023-2024. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi gweithredu ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ‘Gyda'n Gilydd – All Together’, a ddatblygwyd i gefnogi nodau ac amcanion ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol.

Mae rhai o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys y canlynol:

  • Yn dilyn ymgynghoriad â'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid, rydym wedi cytuno i barhau i weithio tuag at ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol cadarn ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu ein blaenoriaethau yn erbyn yr adborth o'r ymgynghoriad, yn benodol o ran data, recriwtio a diwylliant.
  • Adolygu a diweddaru ein polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a lansio ein canllawiau fideo a'n canllaw brand i gefnogi ein cydweithwyr ac ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein ffyrdd o weithio.
  • Datblygu ein Hofferyn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i gefnogi ein cydweithwyr
  • Sesiwn hyfforddiant cychwynnol i'n cydweithwyr sydd heb brofiad o gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r rhai sy'n edrych i ddiweddaru eu gwybodaeth am y broses.
  • Hyfforddiant Peilot Peidio Cadw’n Dawel i helpu ein cydweithwyr i fod yn ymwybodol pan fydd ymddygiad rhywun yn amhriodol a herio ymddygiad o'r fath fel rhywbeth annerbyniol.
  • Hyfforddiant Mynediad Cynhwysol sy’n rhoi trosolwg o egwyddorion mynediad cynhwysol, gan helpu ein cydweithwyr i fod yn fwy hyderus a chefnogol yn y maes hwn o'u gwaith. Mae'r hyfforddiant hwn wedi galluogi nifer o welliannau i wella mynediad i rai o'n cyfleusterau hamdden.
  • Sefydlu dau Grŵp Adnoddau newydd i Weithwyr – Rhwydweithiau Staff

Er ein bod wedi gwneud cynnydd i ddod yn sefydliad mwy cynhwysol, mae gennym waith i'w wneud os ydym am ddod yn fwy amrywiol yn yr ystyr ehangaf, sy'n hanfodol os ydym am sicrhau dyfodol lle gall pobl a natur ffynnu gyda'i gilydd.

Wrth ailddatgan ein hymrwymiad i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ac ystyried yr adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, byddwn yn adolygu ein gweithredoedd ac o bosibl yn ailflaenoriaethu gweithgarwch fel y gallwn nid yn unig gymryd camau i gyflawni’r amcanion, ond hefyd fesur a thystiolaethu ein haeddfedrwydd os ydym am ddod yn sefydliad mwy amrywiol a chynhwysol yn ddiwylliannol.

Roeddem yn falch o weld bod ein Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau wedi gostwng eleni 0.3% i 2.0% yn dilyn cynnydd bach y llynedd.

Er ein bod wedi derbyn rhai cwynion, mae ein cydweithwyr wedi gweithio i ddatrys y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r achwynydd, sydd yn ei dro yn gwella ein dealltwriaeth o sut y gall ein gwaith achosi trafferth i eraill ar brydiau.

Roeddem yn falch o dderbyn canmoliaeth gan aelod o'r cyhoedd a gymerodd yr amser i gysylltu â ni i ddweud pa mor falch oedd i weld ein llwybrau hygyrch yng Ngwarchodfa Natur Cors Caron. Roedd hyn yn golygu llawer i'r tîm sy'n rheoli'r llwybrau ac yn brawf o’r gwahaniaeth y gall eu gwaith ei wneud i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i gefn gwlad oherwydd problemau symudedd.

Cefndir

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr effaith y gall ein gwaith, ein polisïau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ei chael ar eraill, gan gynnwys effeithiau yn ein gweithle ein hunain. I grynhoi, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi 'sylw dyledus' i'r angen i wneud y canlynol:

  • Cael gwared ar gamwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.
  • Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â "nodwedd warchodedig”. Mae’r nodweddion gwarchodedig fel a ganlyn:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus datganoledig yng Nghymru fel yr amlinellir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, sy’n pennu y bydd cyrff a restrir yn ymgymryd â’r canlynol:

  • Adroddiadau Monitro Blynyddol
  • Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol
  • Gosod amcanion
  • Casglu a Dadansoddi Gwybodaeth am Gydraddoldeb
  • Gwybodaeth am Gydraddoldeb Defnyddwyr Gwasanaeth
  • Gwybodaeth am Gydraddoldeb y Gweithlu a Gwahaniaethau Cyflog yn y Gweithlu
  • Ymgynghori ac ymgysylltu
  • Asesu Effaith
  • Hyfforddiant i gydweithwyr
  • Caffael
  • Hygyrchedd

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb (2010) ac yn ofyniad cyfreithiol. Nod eang y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw integreiddio ystyriaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, peidio â gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da ym mhopeth a wnawn. Diben y dyletswyddau penodol yw ein helpu i gyflawni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol.

Mae ein dyletswyddau i hybu a defnyddio'r Gymraeg wedi'u pennu ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Safonau’r Gymraeg yn mynnu bod yr iaith yn cael ei hystyried yn ein holl brosesau gwneud penderfyniadau ac yn cael ei chynnwys fel ystyriaeth yn ein proses ar gyfer Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb, gan sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020 – 2024

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff sydd ar y rhestr adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf bob pedair blynedd.

Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, mae'r ddyletswydd yn gyfle i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i gydnabod yr heriau a nodwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru’n Decach?, 2018'., a mynd i'r afael â'r heriau hynny ar y cyd. https://www.equalityhumanrights.com/en/publication-download/wales-fairer-2018

Datblygwyd y themâu a'r amcanion ar gyfer ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 ar y cyd â sefydliadau cyhoeddus eraill fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru (WPBEP) ac maent yn rhan o'n Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2025.

Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru yn cynrychioli grŵp o gyrff cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn uno y tu ôl i amcanion cydraddoldeb a rennir. Mae'r dull hwn yn hyrwyddo gweithio doethach ac yn creu cyfle i ymgysylltu, dysgu ac ymyrryd ar y cyd i gael rhagor o effaith ar draws y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gyfrannu'n sylweddol at sicrhau cydraddoldeb.

Gellir gweld cynnydd rydym wedi'i wneud wrth weithredu ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020 – 2024 yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2024 – 2028

Mae themâu ac amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru / Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yn parhau i fod yn bwysig ac yn berthnasol i'n gwaith.

Oherwydd Covid-19 a'n huchelgais i ddatblygu cynllun gweithredu mwy penodol, wedi'i deilwra i'n blaenoriaethau a'n gwerthoedd sefydliadol, nid ydym wedi gallu gwneud cynnydd gyda nodau ac amcanion ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 am y pedair blynedd lawn. Cafodd ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ei chymeradwyo ddechrau mis Ionawr 2022 a chafodd y Cynllun Gweithredu ei ddatblygu a dod yn weithredol ym mis Mehefin 2022. Felly ni fu digon o amser i ni ddechrau rhoi’r camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun ar waith yn llawn er mwyn gallu mesur y newid mewn diwylliant ac amrywiaeth fel y cynlluniwyd.

Cadarnhau penderfyniad y WPBEP i barhau i wneud cynnydd gyda’n Hamcanion Cydraddoldeb Strategol presennol ar gyfer y pedair blynedd nesaf, 2024-2028. Mae pob aelod wedi adrodd eu bod mewn sefyllfa debyg ar ôl methu symud ymlaen â'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol presennol fel y cynlluniwyd, oherwydd effaith y pandemig yn bennaf. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n dyletswyddau cyfreithiol ac yn cyd-fynd ag amcanion sefydliadau partner WPBEP.

Ymgynghoriad ar Amcanion Cydraddoldeb Strategol

Cynhaliwyd proses ymgynghori rhwng 15 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024 ar ein hyb ymgynghori Citizen Space gan roi'r cyfle i'r cyhoedd, rhanddeiliaid, partneriaid a chydweithwyr roi eu barn i ni ynghylch a ydynt yn cytuno â'r amcanion ac a oes unrhyw beth arall y mae angen ei gynnwys. Rhannwyd yr ymgynghoriad hefyd gydag aelod o'n Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Undebau Llafur, a'n Grwpiau Adnoddau Gweithwyr.

I grynhoi, cytunwyd ar yr amcanion gan gyfartaledd o 77.5% o'r ymatebwyr gyda 16.0% yn nodi nad oeddent yn siŵr a oeddent yn cytuno â'r amcanion, a 6.5% yn nodi nad oeddent yn cytuno â'r holl amcanion. Ni chafwyd unrhyw ymatebion Cymraeg. Dywedodd 22.5% o'r rhai a ymatebodd eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Defnyddiwyd ymatebion o'r ymgynghoriad i gadarnhau a chryfhau'r canlyniadau a fwriadwyd yn y tymor hir erbyn 2028. Bydd hyn yn llywio ymhellach y mesurau a'r camau y bydd y bartneriaeth yn eu cymryd i gyflawni canlyniadau arfaethedig y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Rennir. Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn cynnwys y themâu allweddol cyffredinol a ddadansoddwyd wrth edrych ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn cynorthwyo parhad ein hamcanion presennol.

Bydd parhau i weithio tuag at ein hamcanion cyfredol, cadarn yn rhoi rhagor o gyfleoedd inni symud ymlaen mewn meysydd lle rydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros oes y strategaeth a thu hwnt i hynny er mwyn helpu i gyflawni nodau ac uchelgeisiau ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn ein cynllun gweithredu gyda thargedau CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).

Mae'r adborth hefyd wedi gwneud i ni ystyried ein blaenoriaethau a sut y gallwn wella ein data, ac integreiddio hyn â gwasanaethau eraill i fesur a gwella ein cynwysoldeb a'n hamrywiaeth.

‘Gyda'n Gilydd – All Together’ - Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC 2021-25

Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar 6 amcan allweddol fel a ganlyn: -

  • Newid yn ein diwylliant drwy nodi a gweithredu mentrau sy'n cefnogi pawb i wrando’n weithredol ac yn modelu ymddygiad cynhwysol yn y gweithle
  • Gwella ansawdd y data rydym yn ei gasglu i'n galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a gwell
  • Codi'r safonau mewn perthynas ag Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy 'fyw ein gwerthoedd' a thrwy gefnogi a dathlu ein hamrywiaeth ein hunain yn ogystal ag amrywiaeth Cymru
  • Adolygu'r ffordd rydym yn defnyddio iaith yn ein polisïau a'n harferion er mwyn creu diwylliant mwy cynhwysol ac amrywiol
  • Sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru, gan gynnwys ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth presennol a newydd yn gallu llunio ein gwasanaethau a chael mynediad hawdd i'n lleoliadau
  • Sicrhau bod ein polisïau yn gydnaws â'n hamcanion Amrywiaeth a Chynhwysiant ac yn datblygu ein pobl mewn ffordd ystyrlon.

Yn yr adroddiad isod, amlygir y cynnydd o ran sut rydym wedi rhoi rhai o'r camau gweithredu ar waith i gyflawni nodau ac amcanion ein Strategaeth a'n helpu i ddod yn sefydliad mwy amrywiol a chynhwysol.

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Diweddarwyd y polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Hydref 2023 a'i gymeradwyo gan y Bwrdd ym mis Tachwedd 2023. Cafodd y polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ei adolygu gan y Tîm Cydraddoldeb, Grwpiau Adnoddau Gweithwyr – Rhwydweithiau Staff ac aelodau o Undebau Llafur. Roedd y newidiadau i'r polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fach, gan na fu unrhyw ddiwygiadau na newidiadau sylweddol mewn deddfwriaeth na gofynion busnes. Felly, roedd yn fater o adolygu a diweddaru'r ddogfen yn unol â hynny, a oedd yn cynnwys gwneud y diweddariadau canlynol i’n templed polisi corfforaethol cywir: diweddaru dolenni yn ymwneud â pholisïau a phrosesau Adnoddau Dynol gan fod y rhain wedi dyddio.

Asessiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Offeryn Sgrinio Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Ym mis Tachwedd 2023 lansiwyd ein Hofferyn Sgrinio Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb sydd newydd ei ddatblygu. Mae hwn yn galluogi ein cydweithwyr i asesu a gwneud eu penderfyniad gwybodus eu hunain ynghylch a oes angen cynnal Asesiad o’r fath ar waith y maent yn bwriadu ei wneud. Bydd yr offeryn hefyd yn darparu tystiolaeth/sicrwydd at ddibenion archwilio. Hyrwyddwyd yr offeryn sgrinio yn fewnol.

Er mwyn sicrhau bod y pecyn cymorth yn addas i'r diben, mae wedi bod yn mynd trwy adolygiad parhaus yn dilyn adborth gan ein cydweithwyr. Hyd yn hyn mae'r ymateb i'r offeryn wedi bod yn gadarnhaol ac mae’n golygu un cam yn llai yn y broses i'n cydweithwyr orfod aros am gydnabyddiaeth gan y Tîm Cydraddoldeb.

Yn 2023, aseswyd cyfanswm o 109 o friffiau/gwaith prosiect o ran yr angen i gwblhau Asesiad. O'r rhai a aseswyd, aseswyd bod angen cwblhau asesiad ar gyfer 50 ohonynt.

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau, arferion a pholisïau yn deg ac nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp nodwedd warchodedig. Mae ein hasesiadau hefyd yn cynnwys ystyriaethau mewn perthynas â’r Gymraeg, Dyletswydd Economaidd Gymdeithasol a Hawliau Dynol ac maent yn ein helpu i gyflawni dyletswydd y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r asesiadau yn cael eu hadolygu gan y Tîm Cydraddoldeb sy'n rhoi cyngor i'r rhai sy'n cwblhau'r asesiad ar rwystrau posibl gan helpu i ail-werthuso eu cynnig i ddileu neu leihau unrhyw effeithiau. Mae ymgysylltu a cheisio barn gwahanol bobl sydd â phrofiad bywyd yn helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ein helpu i fyfyrio ar y cynnig am fwy o gyfleoedd cadarnhaol.

Cafodd cyfanswm o 25 o Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb eu hadolygu yn 2023.

Traciwr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae'r Traciwr yn nodi camau gweithredu a nodwyd yn yr asesiadau. Mae'n ein helpu i nodi tueddiadau a meysydd lle mae angen i ni wella ein dealltwriaeth wrth ddatblygu prosiectau a pholisïau ac yn y ffordd y gwneir penderfyniadau pwysig.

Dyma rai tueddiadau a nodwyd: -

  • Yr angen i ystyried grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol/lleisiau sydd prin yn cael eu clywed ac ystyried opsiynau ar gyfer cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol wrth gynllunio gwasanaethau newydd
  • Cyfathrebu ein gwaith yn eang i sicrhau ein bod yn ymgysylltu ar lefel gymunedol / lleol ac yn ceisio barn pobl yn hytrach na chymryd yn ganiataol
  • Darparu digon o wybodaeth mewn canllawiau mewnol e.e., cynnwys rhai enghreifftiau, er mwyn helpu cydweithwyr i wneud penderfyniad gwybodus
  • Angen monitro ac adolygu'r asesiad wrth adolygu polisi neu ar ddiwedd prosiect

Mae nodi’r tueddiadau hyn yn helpu'r Tîm Cydraddoldeb i ddeall lle mae angen cyngor ac arweiniad pellach i helpu. Mae hyn yn sicrhau bod ein prosiectau, gwaith, polisïau ac arferion yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Hyfforddiant

Hyfforddiant ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Cynhaliwyd cwrs Hyfforddiant deuddydd ar Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ym mis Mawrth 2023. Roedd y cwrs yn sesiwn hyfforddi rhagarweiniol a gyflwynwyd i garfan o'n cydweithwyr a oedd yn cynnal asesiadau am y tro cyntaf ac i rai oedd am ddiweddaru eu gwybodaeth am y broses.

Amcanion yr hyfforddiant oedd: -

  • Deall beth yw asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, pam rydym yn eu cynnal a'r gwahanol gamau sy'n gysylltiedig
  • Nodi tystiolaeth y gellir ei defnyddio i lywio'r asesiad
  • Nodi effeithiau posibl ar grwpiau gwarchodedig a chamau gweithredu lliniarol
  • Cydnabod y broses ar gyfer cwblhau gwahanol rannau o'r broses asesu.

Cwblhaodd 10 aelod o staff y cwrs deuddydd.

Hyfforddiant Peidio Cadw’n Dawel

Ym mis Awst, trefnwyd Hyfforddiant Cydraddoldeb Peilot ar Beidio Cadw’n Dawel a fynychwyd gan 15 o gydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad. Mae'r hyfforddiant yn rhoi'r sgiliau i gydweithwyr herio ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys ymddygiadau a allai fod wedi'u normaleiddio dros amser, ac sy'n ymdrin â meysydd fel difaterwch y sawl sy’n gweld yr ymddygiad yn digwydd; technegau pendantrwydd i siarad; rhannu enghreifftiau o ymddygiad amhriodol/annerbyniol; a thechnegau gwneud penderfyniadau i helpu pobl i oresgyn diffyg hyder i ymyrryd.

Mae bod yn rhywun sy’n peidio cadw’n dawel am ymddygiad yn golygu dod yn ymwybodol o pryd mae ymddygiad rhywun yn amhriodol neu'n fygythiol a dewis herio, gan roi gwybod i’r troseddwr nad yw ei ymddygiad yn dderbyniol. Rydym yn adolygu sut y gallwn gyflwyno'r Hyfforddiant Peidio Cadw’n Dawel ar draws y sefydliad mewn sefyllfa o gyfyngiadau cyllidebol, fel bod gan ein holl gydweithwyr yr hyder i herio ymddygiad amhriodol ac annerbyniol yn y gweithle.

Hyfforddiant Mynediad Cynhwysol

Mae'r Tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored hefyd yn datblygu'n dda gyda galluogi mynediad i'n gofodau. Darparwyd Hyfforddiant ar Fynediad Cynhwysol gan Sensory Trust and Experience. Darparwyd dwy sesiwn i gydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad: cafodd un ei chyflwyno yn yr haf yng Nghoed y Brenin a'r ail yn yr hydref yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys trosolwg o egwyddorion mynediad cynhwysol a chymorth i gydweithwyr ar y safle i fod yn fwy hyderus a chefnogol.

Canllawiau

Canllawiau Fideo

Ym mis Tachwedd 2023 lansiwyd canllawiau mewnol newydd ar gyfer cydweithwyr sy'n bwriadu creu cynnwys gweledol ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol. Mae'n hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn dangos cynhwysiant ac amrywiaeth ystyrlon a dilys mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo.

Mae'r canllawiau'n darparu offeryn myfyriol y gall cydweithwyr ei ddefnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl creu bwrdd stori a byddant yn helpu i sicrhau bod y cynnwys yn cynrychioli'r bobl a'r cymunedau sy'n ymweld â'n safleoedd, y gwaith a wnawn a'r bobl sy'n gweithio yma, gan sicrhau bod y cynnwys a gynhyrchir mor gynrychiadol â phosibl.

Nod y canllawiau nid yn unig yw helpu cydweithwyr i ystyried Amrywiaeth a Chynhwysiant fel rhan o'r gwaith hwn ond hefyd ein rhwymedigaethau iaith Gymraeg yn ogystal â safonau hygyrchedd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y cynnwys a gynhyrchir yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Canllaw Brand

Er mwyn cefnogi ein brand newydd, datblygwyd Llawlyfr Brand. Mae'r Crynodeb Canllaw Brand yn fwy na dim ond logo, graffeg, delweddau a lliw. Mae'n cwmpasu'r stori rydym yn ei hadrodd a'r profiad cwsmer cyffredinol. Mae ein brand yn arddangos pob agwedd ar ein sefydliad o'n cydweithwyr a chyfathrebu i'n hymgyrchoedd, gwaith addysg, canolfannau hamdden a rhyngweithiadau bob dydd. Mae'r canllaw yn rhoi gwell ymwybyddiaeth i ni i gyd o'n hunaniaeth brand. Mae'n cwmpasu ein hymddangosiad, ein tôn llais, cynrychiolaeth ac yn arfogi cydweithwyr â'r offer angenrheidiol i'w ddefnyddio'n effeithiol bob dydd.

Hygyrchedd y Wefan – Gwneud ein gwasanaethau ar-lein yn fwy hygyrch

Rydym yn parhau i hyrwyddo a gwella hygyrchedd i'n holl wasanaethau drwy wneud y canlynol:

  • ailysgrifennu cynnwys fel ei fod yn glir i fwy o bobl ei ddeall
  • cyhoeddi'r rhan fwyaf o’r cynnwys fel tudalennau gwe, gan eu bod yn fwy hygyrch na dogfennau PDFs
  • profi gwasanaethau, ffurflenni cais a dogfennau newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd
  • cyhoeddi PDFs drwy eithriad wrth i ni eu derbyn (papurau bwrdd, adroddiadau tystiolaeth) – rydym wedi rhoi proses archwilio hygyrchedd newydd ar waith - adrodd ac uwchgyfeirio materion o fewn y sefydliad, er mwyn cael mwy o bobl i gymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb am hygyrchedd
  • parhau i ddatblygu a gwella canllawiau i gydweithwyr fel bod pawb yn y sefydliad yn ystyried hygyrchedd wrth greu cynnwys i bobl

Bydd ein datganiad hygyrchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru.

Mae perygl y bydd dogfennau mwy anhygyrch yn cael eu cyhoeddi yn y tymor byr, a byddwn yn gweithio i uwchgyfeirio’r rhain ac adrodd arnynt.

Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn

Mae'r Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn yn canolbwyntio ar greu cymunedau gwydn trwy gynyddu cyfranogiad y gymuned ym myd natur i gynyddu iechyd a lles a gwytnwch a bydd yn cyfrannu at y blaenoriaethau presennol sy’n berthnasol i gymunedau gwydn ac sy'n seiliedig ar le ac a nodwyd yn ein Datganiadau Ardal.

Cawsom 210 o geisiadau, cyfanswm o dros £20m, ac roedd 21 ohonynt yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys Age Cymru a fydd yn dod â phobl hŷn yn y gymuned at ei gilydd drwy raglen celfyddydau coedwigoedd creadigol; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn cyflwyno dwy raglen Xplore! a Groundwork i bobl 11-24 oed er mwyn annog gwell cysylltiadau â natur, ennill sgiliau a gwybodaeth; a Diverse Cymru sydd wedi partneru gyda Coed Cadw i gynnig cyfleoedd penodol sy'n gysylltiedig â choedwigoedd a choed i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cynllun Peilot Canolfannau Ymwelwyr ar gyfer Lleoliadau i Ymadawyr Ysgol a myfyrwyr Prifysgol

Datblygodd y Tîm Recriwtio a'r Tîm Canolfannau Ymwelwyr Gynllun Peilot ar gyfer lleoliadau mewn Canolfannau Ymwelwyr i gynnig cyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc. Yna hysbysebwyd y lleoliadau ar-lein ac yn ein canolfan. Cawsom bum cais, gyda phedwar o'r ymgeiswyr yn llwyddiannus. O'r pedwar, roedd tri ohonynt o oedran ysgol, rhwng TGAU a Safon Uwch. Roedd y llall yn fyfyriwr prifysgol. Cafodd pob lleoliad ei gynnal dros gyfnod o ychydig wythnosau. Roedd peth o'r gwaith a wnaethant yn cynnwys:

  • Defnyddio'r til i gymryd taliadau cardiau ac arian parod i werthu stoc a thocynnau maes parcio
  • Gwasanaethu cwsmeriaid, rhoi gwybodaeth am ddiogelwch ac ateb cwestiynau am y warchodfa natur
  • Casglu sbwriel ar y safle a glanhau tu mewn
  • Gwiriadau iechyd a diogelwch a chofnodi canfyddiadau (e.e., tymheredd yr oergell yn y bore ac yn y prynhawn, archwiliadau cerbydau wythnosol)
  • Helpu i reoli'r ardaloedd cadwraeth ar gyfer cwtiaid torchog.

Ar ôl i'r lleoliadau ddod i ben, derbyniodd yr ymgeiswyr dystysgrif waith iddynt ei defnyddio yn y dyfodol. Dywedodd y pedwar fu ar leoliad eu bod wedi mwynhau eu hamser yn Ynyslas yn fawr, ac roeddent yn gwerthfawrogi dysgu mwy am weithio ar warchodfa natur, yn ogystal â bod y tu ôl i'r ddesg yn y ganolfan ymwelwyr. Roeddent hefyd yn mwynhau gweithio gyda'r cyhoedd, gan ddod yn fwy cyfforddus yn siarad â phobl.

Prosiectau

Ehangu'r Sector Amgylcheddol yng Nghymru

Daeth prosiect ymarfer cwmpasu Amrywio’r Sector Amgylcheddol (Ethnigrwydd yn yr Amgylchedd gynt), a oedd yn brosiect ar y cyd ag eNGOs (sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol) eraill i ddeall pa waith sy'n digwydd gyda grwpiau ethnig leiafrifol i arallgyfeirio'r sector amgylcheddol yng Nghymru, i ben ym mis Gorffennaf 2023. Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am sefydlu’r prosiect yn y dechrau.

Disgwylir i adroddiad diwedd y prosiect gael ei ysgrifennu gan y sefydliad lletyol, Yr Ymddiriedolaethau Natur, a'r partneriaid. Byddwn yn ystyried unrhyw ganfyddiadau yn yr adroddiad o ran camau y gallwn eu cymryd, fel sefydliad ac fel partneriaeth ehangach, i arallgyfeirio'r sector a'r gwelliannau y gall hyn eu gwneud wrth gyflawni ein canlyniadau i bobl a natur.

Natur am Byth

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar raglen o'r enw Natur am Byth. Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect Adferiad Gwyrdd blaenllaw Cymru a gafodd ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Mehefin 2023. Mae Natur am Byth yn cael ei arwain gan ein sefydliad ac mae'n uno naw elusen corff anllywodraethol amgylcheddol: Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Buglife, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Cadwraeth Glöynnod Byw, Plantlife, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) ac Ymddiriedolaeth Natur Vincent. Bydd y grŵp hwn yn gweithio'n agos gyda ni i gyflawni rhaglen dreftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â natur.

Bydd Natur am Byth yn:

  • ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn deall cymunedau yn well
  • hyrwyddo llesiant drwy gysylltiad â natur
  • darganfod perthnasedd rhywogaethau prin i bobl Cymru

Drwy gyfathrebu â'r cyhoedd, ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a chreu gweithgareddau gwirfoddoli, byddwn yn dod â rhywogaethau'n fyw ac yn cynyddu'r gwerth y mae diwylliant ac iaith Cymru yn ei roi ar y byd naturiol.

Prosiect SIARC

Rydym hefyd yn cyd-arwain prosiect amlddisgyblaethol gyda ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) ar gyfer 'Project SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) Phase 2'.

Trwy weithio'n agos gyda phobl sy'n pysgota a chymunedau amrywiol a rhai Cymraeg eu hiaith, bydd yn llenwi bylchau data hanfodol ar gyfer chwe rhywogaeth o siarcod a morgathod, yn goresgyn rhwystrau i sicrhau mwy o degwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn cadwraeth forol ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf trwy arddangos amgylchedd morol Cymru.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig - Pen Llŷn a'r Sarnau (PLAS) a Bae Caerfyrddin ac Aberoedd (CBAE).

Natur a Ni

Rydym hefyd yn gweithio ar raglen o'r enw 'Natur a Ni – Nature and Us' i gynnwys pobl Cymru i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer yr amgylchedd naturiol ar gyfer 2050. Rydym wedi bod yn cynnal sgwrs genedlaethol - gan gasglu lleisiau gan bobl ledled Cymru a gwneud ymdrechion ychwanegol i sicrhau bod pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys. Bydd y weledigaeth a rennir yn cael ei defnyddio fel cwmpawd i ni a sefydliadau eraill sy'n cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Rhaglen Natur Creadigol

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn rhan o'r Rhaglen Natur Greadigol sy'n ceisio meithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol, fel rhan o'n hymrwymiad cyffredin i wella lles amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Yn ymuno â Chyngor Celfyddydau Cymru a ni eleni mae partneriaid ychwanegol sef Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan ar gyfer y thema 'cysylltiad â natur’. Mae Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol yn grant o £25,000 yr un i 8 artist unigol neu unigolyn creadigol dreulio 16 mis yn gwneud gwaith ymchwil creadigol ar y thema "cysylltiad â natur”.

Gwybodaeth a Chofnodion - Llyfrgell

Mae'r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n Tîm Gwybodaeth a Chofnodion ar sicrhau bod ein silffoedd llyfrgell mewnol yn cynnwys amrywiaeth ehangach. Bu cynnydd mewn cyhoeddiadau gwrth-hiliol; a bydd cyhoeddiadau pellach sy'n adlewyrchu awduron o gefndiroedd anabl, niwroamrywiol, anneuaidd a thrawsryweddol yn cael eu cynnwys dros amser.

Mynediad Cynhwysol i Hamdden

Mae timau Rheoli Tir ledled Cymru yn darparu cyfleoedd mynediad a hamdden ar ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n cael eu rheoli ac Ystad Coetiroedd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys 107,694 hectar o fynediad agored, 1,939 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus, 102 cilomedr o lwybrau ceffylau pwrpasol, 50 llwybr beicio mynydd pwrpasol, 10 ardal bicnic a 4 canolfan ymwelwyr.

Mae tîm Cynllunio Hamdden yr Ystad yn rheoli adran 'Ar Grwydr' ein gwefan, gan dynnu sylw at feysydd parcio, meinciau picnic, cyfleusterau toiled, llwybrau cerdded a beicio mynydd, a llwybrau hygyrch. Rydym yn darparu gwybodaeth hygyrchedd ar ein gwefan ac yn ein llyfryn newydd 'Ymweld â Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a Choetiroedd’.

Yn llawer o'n safleoedd, rydym yn cynnwys gwybodaeth am barcio i ddeiliaid bathodynnau glas, toiledau hygyrch, llwybrau a gynlluniwyd mewn partneriaeth â chymdeithasau anabl lleol, a byrddau picnic addas i gadeiriau olwyn. Yn ogystal â chynnal y llwybrau presennol, rydym yn cynllunio ymlaen drwy’r amser i greu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer llwybrau hygyrch ar draws ein Hystad.

Bydd ein Strategaeth Hamdden, a gyhoeddir ym mis Mehefin 2024, yn sicrhau ein bod yn cynnal y cysylltiad cryf rhwng pobl a natur - gan greu'r cyfleoedd gorau posibl i bawb fwynhau'r awyr agored. Ein nod yw parhau i ddarparu mynediad i bawb, cael gwared ar rwystrau corfforol lle y gallwn, a chyflwyno elfennau synhwyraidd i lwybrau dros y blynyddoedd nesaf.

Galluogi Mynediad yn Niwbwrch

Niwbwrch yw un o'n safleoedd mwyaf poblogaidd gyda thua hanner miliwn o ymweliadau y flwyddyn gan bobl leol a thwristiaid. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym rwymedigaeth i alluogi o leiaf mynediad cyfyngedig trwy bob dull rhesymol ond gan barhau i sicrhau nad yw nodweddion cadwraeth pwysig, megis systemau twyni dynamig, yn cael eu heffeithio neu eu cyfyngu. Mae hyn wedi bod yn her sylweddol i'r timau sy'n gweithio yn Niwbwrch wrth iddynt geisio dod o hyd i ateb addas sy'n bodloni'r gofynion statudol hyn.

I ddechrau, adeiladwyd llwybr pren o'r maes parcio dros y system twyni tywod arfordirol i blatfform gwylio'r traeth, gyda "ysgolion traeth" yn galluogi mynediad i'r môr. Roedd hyn hefyd yn amddiffyn system y twyni rhag erydiad annaturiol yn sgil pobl yn cerdded, ond ni wnaeth wrthsefyll y broses o erydu arfordirol.

Rydym bellach yn defnyddio "Mobi-Mats" sy’n athraidd i dywod. Maent wedi'u cynllunio ar gyfer mynediad diogel i'r traeth ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, pramiau, beiciau etc. Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i ddarparu cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth a fydd yn darparu mynediad i lawr at y môr. Mae'r matiau wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu sy'n helpu i atal erydiad yn sgil pobl yn cerdded a gellir eu symud wrth addasu ar gyfer unrhyw newidiadau naturiol yn y system dwyni.

Yn y tymor hwy, bydd mynediad i'r traeth yn rhan o'r Cynllun Pobl ehangach a fydd yn ystyried llawer o agweddau eraill ar brofiad ymwelwyr yn Niwbwrch.

Llwybrau “Tramper” yng Nghoed y Brenin

Lansiwyd llwybrau Tramper ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yn 2020 ar y cyd â Countryside Mobility. Sgwteri symudedd ar gyfer pob math o dir a llwybrau oddi ar y ffordd yw tramperi ac maent yn galluogi ystod ehangach o ddefnyddwyr i gael mynediad i gefn gwlad.

Mae defnyddwyr yn llogi'r Trampers o'r ganolfan ymwelwyr i gael mynediad i'n llwybrau ac mae wedi bod yn hynod boblogaidd gyda 70 o ddefnyddwyr gwahanol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae angen llwybrau hirach i ategu'r rhai sydd eisoes ar gael ar gyfer ymwelwyr sy’n dod dro ar ôl tro ond hefyd i ddenu ymwelwyr sydd â'u Trampers eu hunain er mwyn iddynt allu archwilio ymhellach i barc y goedwig. Mae ein cydweithwyr yn y ganolfan wedi croesawu'r gwaith hwn yn llawn ac wedi bod yn barod i fod yn gyfrifol am y trefniadau llogi; mae wedi bod yn wych o safbwynt cefnogaeth gan ein cydweithwyr.

Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi bod yn gweithio gyda Disabled Ramblers a Countryside Mobility (ein partner Elusen wrth hyrwyddo'r Trampers) sydd wedi bod allan ar y safle yn asesu'r llwybrau newydd arfaethedig ac mae eu hawgrymiadau/argymhellion wedi'u hystyried.

Byddwn yn gosod 4 llwybr Tramper ag arwyddbyst newydd, yn bennaf ar ffyrdd coedwig, gyda'r nod o lansio yng ngwanwyn 2025. Dylai hyn olygu cynnydd yn nifer y bobl sy’n dychwelyd i ymweliad eto ac ehangu apêl y llwybrau i'r rhai sy'n dymuno treulio mwy o amser allan yn y goedwig yn ystod eu hymweliad.

Gwella hygyrchedd ym Mharc Coedwig Coed y Brenin

Yn ogystal â'r llwybr Tramper mae'r tîm yng Nghoed y Brenin hefyd wedi ychwanegu byrddau picnic mwy hygyrch yn ein safleoedd picnic hygyrch. Mae'r tîm Rheoli Tir lleol wedi creu mynediad ehangach o amgylch sawl rhwystr coedwig yng Nghoed y Brenin er mwyn caniatáu gwell mynediad i'r parc i'r rhai sydd ar droed, beic, Tramper neu geffyl.

Mae pwyntiau gwefru beiciau trydan wedi'u gosod ac mae hyn wedi arwain at gynnydd mawr yn y rhai sy'n defnyddio beiciau trydan sy'n defnyddio'r cyfleusterau gan ganiatáu i bobl llai actif yn gorfforol archwilio parc y goedwig.

Dros y flwyddyn nesaf mae'r tîm yn bwriadu gwella arwyddion i ddod o hyd i feysydd parcio hygyrch o fewn y parc coedwig.

Hyrwyddo amrywiaeth yn yr awyr agored gyda Muslim Hikers

Fel sefydliad, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar Lwybr Arfordir Cymru i annog pobl o bob cefndir i ymweld â'r llwybr. Un enghraifft o hynny yw ein gwaith ar y cyd â Muslim Hikers sy'n hyrwyddo amrywiaeth yn yr awyr agored, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Dinas Abertawe, Portmeirion, Croeso Cymru a gweddill tîm WCP.

Croesawodd y bartneriaeth bron i 300 o gerddwyr o'r gymuned Fwslimaidd a chymunedau ethnig eraill. Trefnwyd dwy daith gerdded yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2023 i archwilio persbectif unigryw arfordir Cymru ar benrhyn Gŵyr, Cricieth a Phortmeirion.

Ar ôl gweld bod Muslim Hikers yn trefnu teithiau tywys ar y cyfryngau cymdeithasol, estynnodd y partneriaid allan atynt a’u gwahodd i ddod am dro ar Lwybr Arfordir Cymru. Cenhadaeth Muslim Hikers yw "hyrwyddo amrywiaeth yn yr awyr agored". Maent eisoes wedi trefnu teithiau cerdded yn rhai o fannau gwyrdd anhygoel y DU, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru

Fel sefydliad, rydym hefyd yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy'n galw am ymagwedd gydweithredol at y gwaith hwn a chamau y gallwn eu cymryd ar y cyd ar unwaith ac yn y tymor hir. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022 gyda gweledigaeth o 'Gymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030’.

Nod y Cynllun yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol sefydliadol a strwythurol yng Nghymru er mwyn gwneud 'newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy fynd i'r afael â hiliaeth’.

Wrth ddatblygu'r cynllun gweithredu, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar 6 ffordd y mae hiliaeth yn effeithio ar fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig:

  • profiad o hiliaeth mewn bywyd bob dydd
  • profiad o hiliaeth wrth brofi darpariaeth gwasanaeth
  • profiad o hiliaeth wrth fod yn rhan o'r gweithlu
  • profiad o hiliaeth wrth ennill swyddi a chyfleoedd
  • profiad pan nad oes ganddynt fodelau rôl gweladwy mewn swyddi dylanwadol
  • profiad o hiliaeth fel ffoaduriaid neu geiswyr lloches.

Wrth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gyflawni'r cynllun, bydd cydweithredu gan aelodau o gymdeithas Cymru, gan gynnwys CNC, yn allweddol.

Mae'r Cynllun yn rhoi pwyslais cryf ar uwch-arweinwyr yn bod yn gynrychiadol ac yn gynhwysol, pobl mewn cyrff cyhoeddus yn bod yn wrth-hiliol, heb oddef unrhyw fath o wahaniaethu neu anghydraddoldeb, a chyrff cyhoeddus yn bod yn amgylcheddau diogel a chynhwysol i bobl o leiafrifoedd ethnig.

Felly, mae gan arweinyddiaeth ar draws Sector Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys ein Cadeirydd ni, amcan perfformiad amrywiaeth a chynhwysiant sy'n gysylltiedig â gwrth-hiliaeth yn 2023, gyda'r bwriad o gynnwys hyn yn amcanion ehangach Aelodau'r Bwrdd eleni.

Yn ogystal â'r Cynllun Cymru Wrth-hiliol, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu cynllun gweithredu mwy cynhwysfawr i gynnwys gwaith ar newid hinsawdd, materion gwledig a'r amgylchedd, yn seiliedig ar dystiolaeth o ddata ac o 'brofiadau bywyd' pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o bob rhan o Gymru.

Mae ein Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ym maes Amrywiaeth a Chynhwysiant, a benodwyd ym mis Medi 2022 ac sydd â phrofiad proffesiynol helaeth yn ymwneud â gwrth-hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil, wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y darn hwn o waith.

Yn fewnol, mae fforwm wedi'i gyd-greu gyda chefnogaeth y Cynghorydd Arbenigol Arweiniol er mwyn cael 'sgyrsiau anghyfforddus am hiliaeth’. Mae'r fforwm wedi'i sefydlu i gydweithwyr nodi camau gweithredu unigol a gweithio tuag at ddod yn gynghreiriaid rhagweithiol. Mae'r sesiynau cyd-hwyluso hyn wedi codi ymwybyddiaeth am: Hanes Pobl Ddu Cymru; Hanes De Asia; Islam a Gwrth-Hiliaeth a Diwrnod Cofio Stephen Lawrence a Diwrnod Cofio llofruddiaeth George Floyd.

Y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfarfu’r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant bedair gwaith yn 2023 i drafod materion cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae cynrychiolaeth o bob un o'n Rhwydweithiau Staff yn y Fforwm yn ogystal â chynrychiolwyr o'n Bwrdd, ein Tîm Gweithredol, pob un o'n wyth Cyfarwyddiaeth a'n Hundebau Llafur.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Aelodau'r Fforwm wedi chwarae mwy o ran yn ein gwaith ar Amrywiaeth a Chynhwysiant ac wedi darparu mewnwelediad a thrafodaethau gwerthfawr sy'n helpu i wreiddio ein gwaith ar draws y sefydliad.

Dyma rai enghreifftiau o'r gwaith y mae aelodau'r Fforwm wedi bod yn ymwneud ag ef -

  • Cefnogaeth gydag uchelgeisiau'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Cyfrannu at Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gan gynnwys adborth ar Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
  • Sut i ymgorffori Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Pecyn Cymorth i Reolwyr
  • Pasbort Gwaith a Llesiant a Chynllun Hyderus o ran Anabledd
  • Rhoi adborth i'r Tîm Cynllunio Corfforaethol ar y Cynllun Corfforaethol drafft
  • Trafodaethau parhaus ar ofynion hyfforddi rheolwyr ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i helpu i wreiddio ein gwerthoedd a'n hymddygiad disgwyliedig o fewn eu timau

Grwpiau Adnoddau Gweithwyr - Rhwydweithiau Staff

Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr, a elwir hefyd yn Rhwydweithiau Gweithwyr neu Staff yn ofod cefnogol a chroesawgar i'n cydweithwyr ddod at ei gilydd i greu newid yn y gweithle. Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn aml yn canolbwyntio ar nodwedd warchodedig heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithle. Mae'r rhwydweithiau'n rhoi cyfle i'n cydweithwyr gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhwydwaith.

Mae Grwpiau Adnoddau Gweithwyr hefyd yn cyflawni'r tasgau hanfodol o greu arferion da newydd o ran amrywiaeth a chynhwysiant sy'n dylanwadu ar y rhai sy'n gyfrifol am eu gweithredu.

Yn ystod y flwyddyn hon, sefydlwyd dau Grŵp Adnoddau Gweithwyr newydd i gefnogi ein cydweithwyr sef Rhwydwaith Menywod a'r Rhwydwaith Staff ag Amhariad ar y Golwg o dan y Grŵp Adnoddau Gweithwyr Anabledd ehangach.

Mae gan bob un o'n Grwpiau Adnoddau Gweithwyr dudalen fewnrwyd bwrpasol gyda gwybodaeth berthnasol i bob grŵp ac mae gan bob cydweithiwr fynediad i’r tudalennau hyn.

Ar hyn o bryd mae gennym naw Grŵp Adnoddau Gweithwyr sy'n cynrychioli themâu nodweddion gwarchodedig, sef Anabledd, Rhyw a Rhywedd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Crefydd a Chred. Mae’r themâu hynny fel a ganlyn:

  • Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir
  • Calon- Rhwydwaith Staff LHDTC+
  • Rhwydwaith Staff y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtch - Rhwydwaith Gofalwyr
  • Rhwydwaith Cyfeillion Dementia
  • Rhwydwaith Staff Mwslimaidd
  • Rhwydwaith Staff ar gyfer Niwroamrywiaeth
  • Rhwydwaith Staff ag Amhariad ar y Golwg
  • Rhwydwaith Menywod

Mae gan bob Grŵp/Rhwydwaith arweinydd, neu mae'r rôl yn cael ei chyflawni ar y cyd â chydweithiwr arall. Mae'r rolau hyn yn cael eu cyflawni'n wirfoddol ac maent yn rhoi lle diogel i gydweithwyr a rhywun i gysylltu â nhw pan fo angen cymorth. Paratowyd canllawiau arferion da gyda chefnogaeth y Grwpiau a oedd yn amlinellu nodau ac amcanion y Rhwydweithiau, a rôl arweinwyr Rhwydweithiau ar gyfer cysondeb. Mae'r canllawiau hefyd yn darparu fframwaith i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u llesiant ac i gydbwyso eu swydd a'u rôl bob dydd fel Arweinwyr Rhwydwaith, yn ogystal â chynllunio olyniaeth.

Mae Arweinwyr Grwpiau hefyd yn cael eu hannog gan y Tîm Cydraddoldeb i wneud mwy o ddefnydd o ddydd Mercher Gweminar yn enwedig wrth godi ymwybyddiaeth o ddyddiadau Amrywiaeth a Chynhwysiant Arwyddocaol fel Wythnos Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth, Mis Hanes LHDTC+ a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae rhagor o wybodaeth ar waith ein Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn Atodiad 3 yr adroddiad hwn.

Aelodaeth

Niwroamrywiaeth mewn Busnes

Ym mis Mawrth 2023, er mwyn nodi Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, fe wnaethom ymuno â Neurodiversity in Business (NiB).

Mae NiB yn fforwm i gefnogi busnesau a sefydliadau i greu gweithle gwell ar gyfer gweithwyr Niwrowahanol, rhannu arferion da ar recriwtio, cadw a grymuso.

Fel rhan o'r aelodaeth rad ac am ddim hon, mae gennym fynediad i hyb adnoddau ar gyfer gweithwyr a rheolwyr, gweithdai ar bynciau allweddol, digwyddiadau, rhannu arferion da, cyngor a hyfforddiant ar gyfer cydweithwyr a rheolwyr.

Cyflogwyr ar gyfer Gofalwyr Carers UK

Rydym yn aelodau cyswllt o Carers UK. Mae'r buddion aelodaeth Cyflogwyr ar gyfer Gofalwyr yn cynnwys:

  • Mynediad i Hyb Cyswllt Carers UK, sy'n cynnal nifer o adnoddau i'n helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau, arferion a data sy'n ymwneud â gofalwyr
  • Gweminarau rheolaidd yn tynnu sylw at ymgyrchoedd diweddaraf Carers UK a'r wybodaeth ddiweddaraf ar waith Polisi ac Ymchwil
  • Crynodeb Polisi misol o newidiadau Polisi allweddol, ymgyngoriadau llywodraeth, a'r Ymchwil diweddaraf sy'n effeithio ar ofalwyr
  • Gwahoddiadau â blaenoriaeth i ddigwyddiadau a gostyngiadau o 10% oddi ar gynadleddau Carers UK

Stonewall Cymru

Rydym yn aelodau o Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall Cymru. Mae Stonewall Cymru wedi gweithio gyda miloedd o gyflogwyr blaenllaw y DU a’r byd drwy'r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth a'r Rhaglen Grymuso yn y Gweithle; ac yn falch o weld cymaint mwy o bobl LHDTC+ yn cael eu dathlu a'u cefnogi yn y gwaith. Fel aelodau, mae gennym fynediad at ganllawiau ac adnoddau arferion da.

Gweithgor Arweinyddiaeth Menywod Cymru

Mae ein sefydliad hefyd yn rhan o Weithgor Arweinyddiaeth Menywod Cymru a gynhelir gan y CBI. Mae’r Pennaeth Datblygu Pobl a Llesiant yn mynychu’r Gweithgor.

Ystadegau Ceisiadau Recriwtio

O fis Ionawr 2023 tan fis Rhagfyr 2023, cawsom gyfanswm o 4118 o geisiadau, 670 o'r rhain gan ymgeiswyr mewnol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i amcanion strategol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac i'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, ein nod fydd denu ceisiadau o bob rhan o’n cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru. Mae dadansoddiad o'n hystadegau recriwtio allanol ar gyfer y cyfnod uchod yn Atodiad 4 yr adroddiad hwn. Mae'r ystadegau yn seiliedig ar gwestiynau a ofynnwyd ar ein ffurflen gais allanol o'r enw 'Ffurflen Monitro Cydraddoldeb Recriwtio’.

Dengys yr ystadegau, o blith y rhai a hunan-ddatganodd, bod y ganran uchaf o geisiadau fel a ganlyn:

  • 31% rhwng 25 a 34 oed *
  • 55% yn fenywod
  • 74% yn datgan eu bod yn dod o ethnigrwydd gwyn neu gymysg gwyn

Derbyniwyd y ganran leiaf o geisiadau gan y canlynol:

  • 7% o LHDTC+
  • 7% o grwpiau ethnig leiafrifol

O ystadegau a gasglwyd mae'n ymddangos bod cynnydd o 2% mewn ceisiadau gan grwpiau ethnig leiafrifol.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

“Mae "Hyderus o ran Anabledd" yn gynllun sydd wedi'i gynllunio i'n helpu i recriwtio a chadw pobl anabl am eu sgiliau a'u doniau. Mae hyn yn sicrhau y bydd pobl ag anableddau sy’n ymgeisio am swyddi gwag yn ein sefydliad yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad cyn belled â’u bod yn bodloni'r gofynion isaf o ran meini prawf sgiliau’r rôl. Llwyddwyd i gael ailachrediad Lefel 2 i'r cynllun hwn ym mis Mai 2021 ac rydym yn gweithio tuag at ailachrediad erbyn mis Ebrill 2024.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi derbyn 180 o geisiadau am gyfweliadau o dan broses gwarantu cyfweliad y cynllun hwn. O'r 180 o geisiadau, roedd 35 cais gan gydweithwyr mewnol a 145 gan ymgeiswyr allanol, gyda 132 o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Nid oedd y 48 arall yn bodloni'r gofyniad isaf o ran meini prawf y rolau dan sylw a gwrthodwyd cyfweliad iddynt y tro hwn.

O fis Ionawr 2023 tan fis Rhagfyr 2023, cawsom gyfanswm o 4118 o geisiadau, 670 o'r rhain gan ymgeiswyr mewnol.

Ystadegau Hunan-Ddatgelu

Gall cydweithwyr hunan-ddatgelu manylion personol – megis ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ffydd, cred neu ddiffyg cred a chyfrifoldebau gofalu – yn wirfoddol ac yn gyfrinachol yn ein system Adnoddau Dynol a Chyllid ganolog. Rydym yn gofyn i’n cydweithwyr ac yn eu hannog i hunan-ddatgelu gan fod hyn yn ein helpu i ddeall cyfansoddiad ein gweithlu, ond mater i’r gweithiwr yw penderfynu faint neu gyn lleied o wybodaeth y mae’n ei datgan. Mae hunan-ddatgan yn ein helpu i sicrhau bod y polisïau a'r gweithdrefnau cywir ar waith gennym i gefnogi ein cydweithwyr ac yn dangos hefyd i ba raddau mae’r sefydliad yn adlewyrchu’r boblogaeth a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau presennol yn dangos bod 69% o'n cydweithwyr wedi hunan-ddatgelu peth neu'r cyfan o'r wybodaeth yn wirfoddol. Mae hyn yn gynnydd o 1% ers y llynedd, gyda 31% o gydweithwyr heb hunan-ddatgelu neu wedi penderfynu defnyddio'r opsiwn "mae’n well gen i beidio â dweud”. Yn ôl y ffigyrau, cychwynnodd 287 o gydweithwyr newydd gyda ni gyda 157 yn gadael y sefydliad rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023.

Cyfraddau Cwblhau’r Broses Hunan-Ddatgelu fesul Cyfarwyddiaeth Rhagfyr 2023

-

Nifer y bobl sydd wedi cwblhau datgeliad

Nifer y bobl sydd heb gwblhau datgeliad

Cyfanswm

Canran y bobl sydd wedi cwblhau datgeliad

Canran y bobl sydd heb gwblhau datgeliad

Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

91

56

147

62%

38%

Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

90

34

124

73%

27%

Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

511

183

694

74%

26%

Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

126

66

192

66%

34%

Gweithrediadau

904

431

1335

68%

32%

Cyfanswm

1722

770

2492

69%

31%

Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad 5 ar ystadegau hunan-ddatgelu ein cydweithwyr. Mae datgeliad yn cynnwys opsiwn 'mae’n well gen i beidio â dweud’.

Y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau ar 31/03/2023

Mesur

2019

2020

2021

2022

2023

Cymedr

5.3%

2.5%

2.0%

2.3%

2.0%

Canolrif

12.1%

3.1%

3.1%

6.4%

3.1%

2020

Chwartelau Gwrywod Menywod
Chwartel Isaf 54% 46%
Chwartel Canol Isaf 53% 47%
Chwartel Canol Uchaf 52% 48%
Chwartel Uchaf 62% 38%
Cyfanswm y Gweithlu 55% 45%

2021

Quartiles Gwrywod Menywod
Chwartel Isaf 53% 47%
Chwartel Canol Isaf 54% 46%
Chwartel Canol Uchaf 51% 49%
Chwartel Uchaf 62% 38%
Cyfanswm y Gweithlu 55% 45%

2022

Quartiles Gwrywod Menywod
Lower quartile 53% 47%
Chwartel Canol Isaf 52% 48%
Chwartel Canol Uchaf 53% 47%
Chwartel Uchaf 62% 38%
Cyfanswm y Gweithlu 55% 45%

2023

Quartiles Gwrywod Menywod
Chwartel Isaf 52% 48%
Chwartel Canol Isaf 50% 50%
Chwartel Canol Uchaf 50% 50%
Chwartel Uchaf 60% 40%
Cyfanswm y Gweithlu 53% 47%

Dadansoddiad o'r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn mesur y gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (canolrifol) fesul awr dynion a menywod, a ddangosir fel arfer gan y ganran sy’n nodi faint yn fwy y mae dynion yn ei ennill na menywod.

Caiff ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn a chaiff ei hadrodd ar y Gwasanaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar wefan .Gov er mwyn cydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) 2017.

O'r ffigurau a gasglwyd ym mis Mawrth 2023 mae’r dadansoddiad ar gyfer 2418 o gydweithwyr yn dangos bod y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng 0.3% i 2.0% eleni. Mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 98c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Mae ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau hefyd wedi gostwng eleni i 3.1%, gostyngiad o 3.3%. Mae hyn yn dangos bod menywod yn ennill 96.9c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr.

Yn bwysig, nid yw'r bwlch hwn yn golygu bod dynion yn cael eu talu mwy na menywod am gyflawni'r un math o rôl.

Er bod y bwlch cyflog canolrifol yn dangos gwahaniaeth o (96.9c i bob £1), mae'r cyfartaledd yn dangos "ar y cyfan" nad yw'r cyflogau fesul awr yn rhy bell oddi wrth ei gilydd (98c i bob £1). Mae sawl ffactor yn effeithio ar y bwlch cyflog e.e.

  • Mae 53.2% o'n gweithlu yn ddynion
  • Mae 46.8% o'n gweithlu yn fenywod
  • Mae 93% o'n gweithlu gwrywaidd yn gweithio amser llawn gyda 7% yn gweithio'n rhan-amser
  • Mae 77% o'n gweithlu benywaidd yn gweithio amser llawn gyda 23% yn gweithio'n rhan-amser
  • Mae 60% o'n cyflogau fesul awr yn y chwarter uchaf yn ddynion
  • Mae mwy o ddynion na merched yn ein holl chwarteli

Gallai cyflwyno ein polisïau Dulliau Gweithio newydd helpu i leihau'r bwlch ymhellach trwy ddarparu mwy o gyfleoedd i'n cydweithwyr weithio yn unol â’u cyfrifoldebau os dymunant.

Mae bwlch cyflog y DU ar gyfer Ebrill 2023 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 1 Tachwedd 2023 ar gyfer gweithwyr llawn amser yn 7.7%, cynnydd o 0.1% ers 2022.

Cwynion a Chanmoliaeth

Yn ystod 2023, fe wnaethom dderbyn 4 cwyn ac un cymeradwyaeth mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant fel a ganlyn: -

Cwyn 1

Derbyniwyd Cwyn 1 yn dilyn newidiadau a wnaed i'r fynedfa i'r llwybrau ym maes parcio Llanwynno. Cafodd atalydd beiciau modur ei osod i leihau gweithgarwch anghyfreithlon cerbydau oddi ar y ffordd ond roedd yr achwynydd yn dweud ei fod yn atal mynediad i’w gadair olwyn.

Gwiriodd y tîm lleol yr atalydd a chanfod nad oedd wedi'i osod i'r fanyleb gywir ac felly aethant ati i weld a oedd modd unioni'r mater. Fel rhan o'r ymateb i'r achwynydd, cynigiodd Arweinydd y Tîm gwrdd â'r unigolyn dan sylw os oedd yn dymuno trafod y mater a'i anghenion ymhellach.

Cwyn 2

Derbyniwyd Cwyn 2 ar ôl i fynediad cyhoeddus gael ei gyfyngu a'i rwystro o amgylch cronfa ddŵr Pysgodlyn Mawr yn dilyn gwaith gwella i'r gronfa ddŵr. Roedd yr achwynydd wedi ymweld â'r safle'n rheolaidd ar droed yn flaenorol, ond bellach yn ymweld â sgwter symudedd a chanfu nad oedd yn gallu gwneud hynny yn dilyn y gwaith. Aeth y gŵyn i ymchwiliad Cam 2 gan fod yr achwynydd yn teimlo bod yr ymateb cyntaf yn anfoddhaol.

Yn dilyn ymchwiliad Cam 2 penderfynwyd yn gyffredinol i gadarnhau’r gŵyn bod y mynediad wedi'i gyfyngu, ac y byddai'r argymhellion canlynol yn cael eu rhoi ar waith gennym ni:

  • Bydd mynediad i'r cyhoedd i lan orllewinol y gronfa ddŵr yn cael ei ailosod gan sicrhau bod y giât yn hygyrch i ddefnyddwyr sgwteri symudedd.
  • Bydd y Tîm Rheoli Tir yn darparu amserlen resymol ar gyfer cynnal y

gwaith uwchraddio i'r de o ogledd-ddwyrain y clawdd yn y gronfa ddŵr ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r achwynydd os bydd y gwaith yn cael ei ohirio.

Bydd Asesiad Risg Diogelwch y Cyhoedd yn cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion y Grŵp Diogelwch Ymwelwyr erbyn diwedd mis Awst 2023.

Cwyn 3

Derbyniwyd Cwyn 3 yn dilyn anfodlonrwydd ynghylch ailwynebu traciau Wet Meadow a The Duchess Ride yn Sir Fynwy, yr oedd yr achwynydd yn eu defnyddio at ddibenion hamdden. Teimlwyd bod yr agreg a ddefnyddiwyd yn rhy fawr oedd yn golygu ei fod yn anghyfforddus wrth gerdded arno. Soniodd y gŵyn hefyd y byddai'n anodd rhedeg, defnyddio cadair olwyn neu gadair wthio arno.

Mewn ymateb, eglurwyd bod y gwaith ailwynebu wedi'i wneud er mwyn paratoi ar gyfer y rhaglen waith teneuo coedwig oedd i'w chynnal yn yr ardal. Bwriad y rhaglen oedd diogelu'r ffordd pan fyddai peiriannau trwm yn gweithio i gael gwared â choed ynn a llawrydd heintiedig dros y blynyddoedd nesaf a diben yr uwchraddiad oedd sicrhau bod y trac yn addas ar gyfer cyflawni'r gweithrediadau hyn.

Cynhaliwyd diwrnod agored yn lleol i esbonio'r gwaith arfaethedig i aelodau'r cyhoedd.

Cwyn 4

Derbyniwyd Cwyn 4 drwy Croeso Cymru ynghylch y llwybrau cerdded hygyrch yng Ngwarchodfa Natur Cors Caron yn dilyn e-bost a dderbyniwyd gan aelod o'r cyhoedd. Roedd yr achwynydd yn honni fod y newid o gerdded ar y llwybr bwrdd plastig di-lithr i'r stribedi di-lithr ar fyrddau pren ar y daith hygyrch wedi achosi i'r gadair olwyn ysgytio gan ei gwneud yn anghyfforddus i'r defnyddiwr a'r person sy'n gwthio'r gadair olwyn. Dywed Croeso Cymru bod ein gwefan yn nodi bod Cors Caron yn cynnig cyfleusterau hygyrchedd a symudedd ac os oedd hyn yn anghywir gofynnwyd am ddileu’r wybodaeth. Nododd yr achwynydd hefyd nad oedd mannau parcio bathodyn glas dynodedig amlwg ar y safle.

Mewn ymateb, eglurwyd bod dau lwybr hygyrch ar y safle. Mae'r cynnyrch a ddefnyddir yn lleihau effaith llithro'r byrddau pren sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o'r llwybr pren. Y stribedi a ddefnyddwyd yw'r unig gynnyrch cadarn a wneir i safon Brydeinig y gellir ei ôl-ffitio ar y llwybr pren yn benodol i leihau llithro. Trafodwyd y mater gyda'r gwneuthurwyr a esboniodd fod effaith y stribedi hyn yn amrywio yn dibynnu ar fath ac arddull y gadair olwyn, gyda chadeiriau pŵer gydag olwynion mwy yn cael eu heffeithio leiaf.

Mae'r mynediad i'r llwybr 400 metr o'r prif faes parcio ar hyd llwybr cwbl hygyrch. Eglurwyd i'r achwynydd bod penderfyniad wedi’i wneud nad oedd angen darparu mannau parcio bathodyn glas dynodedig.

Mae gwaith wedi'i drefnu i ddisodli'r byrddau yr effeithir arnynt fwyaf â llwybr plastig newydd, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn ystod hydref a gaeaf 2023. Disgwylir i'r byrddau sy'n weddill gael eu disodli yn y 5 mlynedd nesaf.

Canmoliaeth

Derbyniodd tîm Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ganmoliaeth am ddyluniad y llwybr cerdded hygyrch yn y warchodfa. Roedd yr adborth yn nodi bod y defnyddwyr yn teimlo bod dyluniad y llwybr wedi cael ei ystyried a'i adeiladu'n dda ar gyfer cael ei ddefnyddio gan ddefnyddiwr cadair olwyn drydan sydd ddim yn cael llawer o gyfleoedd i gael mynediad at lwybrau fel y rhain.

Canmolwyd y safle cyfan hefyd, gan gynnwys arwyddion a seddi, a dywedodd y ganmoliaeth fod y llwybr yn gwneud i'r defnyddiwr cadair olwyn deimlo'n normal. Rhoddodd ganmoliaeth i’r tîm cyfan oedd wedi cynllunio’r llwybr gan barchu natur a chadw ymdeimlad y lle yr un pryd.

Fel sefydliad, roeddem yn ddiolchgar i'r unigolion a gymerodd yr amser i ysgrifennu a dweud wrthym am eu profiad o ddefnyddio'r cyfleuster, ar ôl ei gael yn gyfeillgar i'r anabl ac yn hawdd i gerdded arno gyda'u ci. 

Casgliad

Dros y flwyddyn rydym wedi cymryd nifer o gamau cadarnhaol wrth weithredu'r cynllun gweithredu i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a chefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros oes y strategaeth a thu hwnt ac yn helpu i wneud ein sefydliad yn weithle mwy amrywiol a chynhwysol lle gall pob unigolyn ddod â'i hunan yn llwyr i'r gwaith.

Mae'r hyfforddiant sydd wedi digwydd wedi hybu dealltwriaeth ein cydweithwyr o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i wneud gwahaniaeth, nid yn unig i wneud ein gweithle yn fwy amrywiol a chynhwysol ond hefyd i wella'r cyfleusterau hamdden rydyn ni'n eu rheoli i helpu i wneud ein lleoedd a'n mannau hamdden awyr agored yn fwy cynhwysol a hygyrch fel y gall pawb eu mwynhau.

O'r ffigurau a gasglwyd ym mis Mawrth 2023, mae dadansoddiad yn dangos bod y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng 0.3% i 2.0% eleni. Mae hyn yn golygu bod menywod yn ennill 98c am bob £1 y mae dynion yn ei ennill wrth gymharu tâl fesul awr. Y bwlch cyflog yn y DU ar gyfer Ebrill 2023 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 1 Tachwedd 2023 ar gyfer gweithwyr amser llawn yw 7.7%, sy’n gynnydd o 0.1% ers 2022.

Mae ystadegau hunan-ddatgelu ein cydweithwyr yn aros yn ddigyfnewid ar y cyfan fel mewn ystadegau a adroddwyd yn flaenorol. Mae denu gweithlu mwy amrywiol yn rhan o'n Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae amrywiaeth yn cynnwys amrywiaeth o feddwl a ffyrdd o weithio. Mae angen gwneud mwy yn y maes hwn i godi ymwybyddiaeth o bwy ydym ni a'r amrywiaeth o swyddi sydd gennym fel sefydliad. Os ydym am gyflawni ein diben a helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae angen i ni fod â gweithlu sy’n meddwl mewn ffyrdd amrywiol, sy’n dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol amrywiol ac sydd â nodweddion gwarchodedig amrywiol.

Atodiad 1: Cynnydd a wnaed wrth weithredu Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu

  • Penodi Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Datganiad cynhwysol wedi'i gynnwys mewn ffurflenni cais.
  • Mynychodd aelodau’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol sesiwn ymwybyddiaeth bwrpasol ar Niwroamrywiaeth (dyma'r recordiad sy'n cael ei rannu ar gyfer Rheolwyr ac yn esbonio'r gwahanol amodau etc).
  • Addasiadau rhesymol o amgylch anabledd: Niwroamrywiaeth h.y., Gofyn cwestiynau i ymgeiswyr ymlaen llaw.
  • Cynllun cyfweliad gwarantedig i bobl anabl.
  • Sesiynau cynefino Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer pob dechreuwr newydd.
  • Modiwl Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Rhagfarn Ddiarwybod ar-lein ar gyfer pob cydweithiwr.
  • Panel Cyfweld yn gweithredu rhagfarn ddiarwybod wrth recriwtio.
  • Lansio Pasbort Gwaith a Lles.
  • Mae cyfres o sesiynau ymwybyddiaeth wedi'u cyflwyno drwy Weminar Dydd Mercher ynghylch anabledd: niwroamrywiaeth, sefydliad sy’n deall dementia.
  • Mae'r Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd wedi cyflwyno a chynnal sesiynau misol: Sgyrsiau anghyfforddus am 'Hil' a Hiliaeth i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.
  • Mwy o gyhoeddiadau Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer y llyfrgell fewnol.
  • Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi'i sefydlu.
  • Mwy o Grwpiau Adnoddau Gweithwyr – Rhwydweithiau Staff
  • Lansio gwerthoedd newydd a’u cyfathrebu ar draws y sefydliad mewn digwyddiadau corfforaethol i gydweithwyr.
  • Cyfleoedd cychwynnol wedi'u hanelu at bobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
  • Datblygu prentisiaethau a lleoliadau ar draws CNC.
  • Cyfleoedd gwirfoddoli ar draws y sefydliad.
  • Gweithio ar brosiect cwmpasu peilot i gyflwyno mwy o amrywiaeth i sector yr amgylchedd gyda chyrff anllywodraethol.
  • Aelodaeth Cyflogwyr ar gyfer Gofalwyr/Neruodiversity in Business/Stonewall Cymru.

Dileu bylchau cyflog

  • Cynhaliwyd archwiliad dwfn i'n diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau. Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys archwilio'r rhesymau sylfaenol pam fod y gwahaniaeth mewn cyflog rhwng y rhywiau (Gwryw / Benyw) yn fwy ymhlith enillwyr uwch. Edrych yn fanwl ar yr ystadegau ar gyfer ymrwymiad gwaith (amser llawn/rhan-amser) ac yn ôl rôl.
  • Hyrwyddo cwblhau hunan-ddatgeliad cydweithwyr i'r holl gydweithwyr ac yn y cyfnod cynefino ar gyfer cydweithwyr newydd.
  • Cynhaliodd y Cynghorydd Arbenigol Arweiniol – Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddadansoddiad Bwlch a nododd feysydd i'w gwella o ran casglu a monitro data yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig.
  • Cyflwyno Polisi Dulliau Gweithio wedi'i gynllunio i roi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cynyddu hyblygrwydd a boddhad mewn swydd, gwella cynhyrchiant a pherfformiad, gan sicrhau ein bod yn gallu cyflawni'n effeithiol fel sefydliad.
  • Cyflogwr achrededig Cyflog Byw
  • Gwaith parhaus i annog pobl i hunan-ddatgelu eu data personol/sensitif
  • Adroddiad Blynyddol ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
  • Cymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori dan arweiniad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y potensial i gyrff cyhoeddus fynd y tu hwnt i'r gofyniad i gyhoeddi data cyflog rhwng y rhywiau ac i adrodd yn wirfoddol ar nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys ethnigrwydd ac anabledd.

Ymgysylltu â'r Gymuned

  • Strategaeth Ymgysylltu yn cael ei datblygu.
  • Mae Natur am Byth yn rhaglen bedair blynedd a fydd yn cefnogi un ar ddeg o brosiectau ledled Cymru. Dyma un o'r rhaglenni cadwraeth mwyaf uchelgeisiol erioed yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyfle i fwy o bobl ailgysylltu â natur yn eu cymdogaeth. Bydd Natur am Byth yn cynnig gweithgareddau ymgysylltu a gwirfoddoli; gan ddathlu'r gwerth y mae’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn ei roi ar y byd naturiol.
  • Roedd Natur a Ni/Nature and Us (Gweledigaeth 2050 gynt) yn gwahodd pobl Cymru i gymryd rhan mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol yr amgylchedd naturiol. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwerthusiad o'r rhaglen Natur a Ni, sy'n debygol o arwain at wersi allweddol i'r sefydliad mewn perthynas â sut rydym yn gweithio.
  • Cynllun Corfforaethol 2023-2030 – buom yn gweithio gyda phartneriaid fel Diverse Cymru a Cynnal Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Race Equality First, Shelter Cymru, Llamau a Senedd Ieuenctid Cymru, i ehangu ein rhwydweithiau rhanddeiliaid gan ddefnyddio eu 'llais' i gysylltu â chymunedau y maent yn eu cynrychioli.
  • Mae’r Tîm Pobl a Lleoedd ledled Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol ar brosiectau.

Sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori yn y broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy'r broses ddarparu drwyddi draw.

  • Mae gan y tîm caffael set o safonau sy'n cael eu hystyried wrth gaffael: Pan fo'r contract yn cynnwys darparu nwyddau neu wasanaethau i'n cydweithwyr neu'r cyhoedd fel rhan uniongyrchol o'r contract. Mae caffael yn tynnu sylw rheolwyr contractau at yr angen i sicrhau bod y fanyleb yn ystyried meini prawf hygyrchedd ar gyfer pobl anabl neu ddyluniad ar gyfer pob defnyddiwr. Hefyd, mewn ymgynghoriad â'r arbenigwr pwnc, cynghori ar feini prawf dethol a dyfarnu priodol y gellir eu defnyddio i wirio polisïau a gweithdrefnau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y cynigiwr, gan sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn gymesur â'r gofyniad.
  • Hyfforddiant Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gyflwyno i garfan o gydweithwyr.
  • Wedi diweddaru ein ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, canllawiau ac mae offeryn sgrinio ar waith sydd wrthi’n cael ei dreialu

Sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth yn adlewyrchu anghenion unigol.

  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
  • Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, safon AA. Mae hyn oherwydd rhai materion ac eithriadau nad ydynt yn cydymffurfio sy’n parhau i fod ar ein gwefan.
  • Tudalen ar y wefan sy'n hyrwyddo ein llwybrau a'n cyfleusterau hamdden hygyrch ledled Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru / Ymweliadau hygyrch
  • Matiau tywod yn Niwbwrch sy'n galluogi cadeiriau olwyn i fynd ar y traeth
  • Mae gan Coed y Brenin lwybr tramper newydd yn 2021 - Parc Coedwig Coed y Brenin | Countryside Mobility
  • Diweddaru deunydd hyrwyddo hamdden i fod yn fwy cynrychiadol o amrywiaeth Cymru.
  • Mae’r Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ac Iechyd, Diogelwch a Lles yn cefnogi pob gweithiwr gyda darpariaeth gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Strategaeth Profiad ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn cael ei datblygu.
  • Roedd prosiect Natur a Ni/Nature and Us (Gweledigaeth 2050 gynt) yn cynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol yr amgylchedd naturiol. Y nod oedd datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer y flwyddyn 2050 ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud cyn 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.
  • Fe wnaethon ni gasglu barn miloedd o bobl ledled Cymru fel rhan o sgwrs genedlaethol. Yna gofynnom i Gynulliad Dinasyddion ystyried y safbwyntiau hynny, a chreu'r Weledigaeth a rennir. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwerthusiad o'r rhaglen Natur a Ni, sy'n debygol o arwain at wersi allweddol i'r sefydliad mewn perthynas â sut rydym yn gweithio.

Atodiad 2: Themâu Allweddol Cyffredinol o’r ymgynghoriad ar Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2024-2018

Themâu allweddol cyffredinol o arolwg ac ymgynghoriad blaenorol 2020; a’r ymgynghoriad diweddaraf ar gyfer 2024:

Amcan 1: Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithlu

Canlyniad hirdymor - Bydd ein sefydliadau yn adlewyrchu amgylchedd teg a chynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael cyfle cyfartal i gyflawni eu potensial o fewn sefydliad.

Themâu allweddol: cynrychiolaeth o'r gweithlu; hyfforddiant cydweithwyr; data; amrywiaeth/targedu gwaith o ran recriwtio; cyfathrebu; cyfranogiad ac ymgysylltiad a newid diwylliant.

Amcan 2: Dileu bylchau cyflog

Canlyniad hirdymor - Mae datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant sefydliadol, mae cydweithwyr yn deall pam y cesglir data, gan sicrhau mai dim ond casglu data angenrheidiol a wneir (GDPR).

Themâu allweddol: Gwybodaeth hygyrch; tryloywder casglu a dadansoddi data; recriwtio; gwerthuso swyddi, cyflogau cyfartal a gwybodaeth am gyflog; diwylliant y sefydliad; rhannu swyddi a gweithio hyblyg;

Amcan 3: Ymgysylltu â'r gymuned

Canlyniad hirdymor - Bydd cymunedau amrywiol ledled Cymru yn cymryd rhan weithredol yng ngwaith ein sefydliadau. Bydd strategaethau, polisïau a phenderfyniadau yn cael eu cyd-gynhyrchu ag unigolion amrywiol. Bydd profiadau a safbwyntiau pobl yn siapio ein sefydliadau.

Themâu allweddol – cyd-gynhyrchu gyda chymunedau; ymgysylltu uniongyrchol ac allgymorth mewn cymunedau; hygyrchedd ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth o wahanol grwpiau; cyfathrebu mewn iaith glir; hyfforddiant cydweithwyr; newid diwylliant; cydweithio yn y sector cyhoeddus; arolygon ac ymchwil; tryloywder, adrodd, mesur a monitro cynnydd cynhwysiant cymunedol.

Amcan 4: Sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori yn y broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy'r broses ddarparu drwyddi draw

Canlyniad tymor hir - Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori mewn egwyddorion caffael sy'n weithredol ac yn cael eu dogfennu.

Themâu allweddol – diffiniad clir o'r hyn a olygir gan gaffael; ddim yn canolbwyntio ar werth am arian ond cynnyrch o safon; microfusnesau a sefydliadau'r trydydd sector ddim dan anfantais; ystyried amrywiaeth darparwyr

Amcan 5: Sicrhau bod darparu gwasanaethau'n adlewyrchu angen unigol

Canlyniad hirdymor - Mae pobl ac arferion da a rennir yn dylanwadu'n weithredol ar ddarpariaeth gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol.

Themâu allweddol – hygyrchedd; ymgysylltu â phobl a gweithredu ar brofiadau pobl; cynllunio a darparu gwasanaeth; darparu systemau dysgu a rennir ac arferion gorau; newid diwylliant; mesur effaith.

Atodiad 3: Gwybodaeth am Rwydweithiau Staff

Grŵp Defnyddwyr â Gynorthwyir – derbyniwyd 13.10.23

Mae'r Grŵp Defnyddwyr â Gynorthwyir wedi cwrdd 4 gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf a’r prif waith y maent wedi’i wneud yw helpu gyda phrofion fel a ganlyn: -

  • Y bwrdd gwaith o bell (AVD) a fydd yn cael ei gyflwyno i'n cydweithwyr maes o law
  • Cyflwyno'r fersiwn ddiweddaraf o Dragon ar gyfer y rhai sy'n defnyddio'r feddalwedd
  • Datrys problemau defnyddwyr â gynorthwyir gyda meddalwedd gynorthwyol

Ar gyfer 2024 bydd y grŵp yn ymwneud â phrofi'r arwynebau Windows 11 ac MS newydd a fydd yn cael eu cyflwyno i'r holl gydweithwyr. Bydd y grŵp yn parhau i gefnogi defnyddwyr â gynorthwyir o fewn y sefydliad.

Cyfeillion Dementia

Er bod llawer o'n timau yn parhau i weithio gartref, rydym wedi creu 61 o gyfeillion dementia newydd drwy sesiynau rhithwir eleni.

Mae ein sesiynau rhithwir yn cynnwys sesiwn ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia, wedi’i dilyn gan drafodaeth fer am ein taith fel sefydliad i ddod yn Gymuned sy'n Deall Dementia, yr adnoddau sydd ar gael i gydweithwyr a'r disgwyliadau sydd gennym ohonynt i 'Ddeall Dementia' yn eu gwaith. Rydym yn parhau i drefnu sesiynau trwy Weminarau Dydd Mercher ac yn ymateb i geisiadau unigol / tîm.

Mae eleni wedi dod â newidiadau i'r ffordd rydym yn dogfennu a thystiolaethu ein gwaith deall dementia, gydag achrediad ffurfiol gan Gymdeithas Alzheimer’s yn cael ei ddisodli gan sefydliadau yn gosod ac yn rheoli eu hamcanion deall dementia fel rhan o’u 'busnes fel arfer’. Rydym wedi manteisio ar y cyfle i newid y broses hon hefyd i adolygu sut rydym yn rheoli ein gweithgarwch deall dementia ar draws y sefydliad er mwyn rhoi goruchwyliaeth a llywodraethu ehangach ar draws ein ffrydiau gwaith niferus. Mae'r Arweinwyr Rhwydwaith yn parhau i ymwneud llawer ond gyda ffocws 'cydweithiwr', gan gysylltu â rhwydwaith Cwtsh a pharhau i ddarparu sesiynau ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia.

Newidiodd y gofynion ar gyfer yr Hyrwyddwr Dementia ym mis Tachwedd 2022. Bellach mae gennym un Llysgennad achrededig i gynnal sesiynau gwybodaeth, ac un person sy'n aros am yr hyfforddiant.

Mae ein gwaith Deall Dementia yn parhau i gael ei gynrychioli yn ein cyfarfodydd Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant parhaus, galwadau Rhwydwaith Gofalwyr (Cwtsh) a sesiwn paned rithwir 'gofalu am bobl hŷn’. Wrth i ni ddod yn fwy sefydledig, mae'r rhan fwyaf o'n cyswllt Deall Dementia gan gydweithwyr bellach yn tueddu i ddod trwy'r grŵp Cwtsh a digwyddiadau paned i gydweithwyr.

Rydym yn parhau i gymryd rhan mewn grŵp dementia 'golau glas' ar draws Cymru gyfan er mwyn rhannu dysgu a’r arferion gorau. Y gwasanaeth ambiwlans sy’n ei gydlynu, ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth gan yr heddlu a’r gwasanaeth tân yn ogystal. Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau i ymuno â grwpiau Clymblaid Sirol, yn enwedig o Sir Gaerfyrddin sy'n arbennig o weithgar, ac mae'r cyd-Arweinwyr yn ymuno â'r rhain lle gallwn – gan fanteisio ar y cyfle i rannu syniadau ac adnoddau.

Y Gymdeithas Gristnogol

Rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth weddi i'n gilydd / y sefydliad (CNC a Llywodraeth Cymru) / argyfyngau'r byd ac astudiaethau Beiblaidd gyda'r nod o fyw egwyddorion bod yn Ddisgybl Cristnogol.

Rydym yn codi ymwybyddiaeth ar ein sianeli Viva Engage o wir ystyr ein Gwyliau Cyhoeddus Cristnogol ac yn atgoffa cydweithwyr o bwy ydym ni a beth rydym yn ei gredu, yn ogystal â phryd a sut rydym yn cwrdd.

Mae cydweithwyr newydd yn cael gwybod am ein Rhwydwaith fel rhan o'r cyflwyniad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y sesiynau e-sefydlu.

Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd fel a ganlyn: -

  • Bob dydd Llun 20–30 munud ar gyfer gweddi ac addoli
  • Cyfarfodydd y Gymdeithas amser cinio dydd Mercher bob pythefnos ar Teams
  • Cyfarfodydd y gymdeithas amser cinio dydd Iau bob pythefnos ar y cyd â Chymdeithas Gristnogol Llywodraeth Cymru

Bwriadu trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb dros y flwyddyn nesaf.

Rhwydwaith Gofalwyr Cwtsh

Sefydlwyd ein grŵp Rhwydwaith Gofalwyr (Cwtsh) yn 2019 gyda'r nod o wneud mwy i gydnabod, cefnogi a gwerthfawrogi ein cydweithwyr sy'n gofalu am anwyliaid. Erbyn hyn mae gennym oddeutu 30-35 yn ein haelodaeth grwpiau cyfarfod. Mae rhwng 10 ac 20 o bobl yn mynychu'n rheolaidd. Mae gennym 100 o aelodau ar ein tudalen Viva Engage.

Mae gan ein grŵp Cwtsh gysylltiadau â rhwydweithiau staff eraill fel y grŵp Cyfeillion Dementia a'r grwpiau llesiant ac amser i siarad. Rydym hefyd yn mynychu’r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn parhau i'w cefnogi yn eu gwaith.

Cynhelir sesiynau 'Paned Gofalwyr' yn fisol, fel Paned Gofalu am yr Henoed a phaned 'Un gair’, a grŵp sy'n gofalu am eu partneriaid. Mae'r cyd-arweinwyr yn parhau i gael llawer o alwadau neu geisiadau am sesiynau personol gan gydweithwyr sy'n ceisio cymorth yn eu rôl fel Gofalwr a gweithiwr. Mae un o'r cyd-arweinwyr wedi cwblhau cwrs Hyrwyddwr Gofalwyr yn y Gweithle Gofalwyr Gofalwyr Cymru ac wedi trefnu i wneud y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ym mis Chwefror 2024.

Mewn cyfarfodydd eleni mae'r grŵp wedi trafod:

  • Adroddiad Cyflwr Gofal 2023 – ymchwil mwyaf cynhwysfawr y DU i fywydau a phrofiadau gofalwyr yn 2023
  • Y pasbort gwaith a lles - sut mae'n cael ei ddefnyddio a sut y gellid ei wella
  • Gweithgareddau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau Gofalwyr ac Wythnos Gofalwyr 2023
  • Cymorth Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Polisïau absenoldeb gofalwyr a'r newidiadau newydd sy'n dod yn gyfraith yn 2024

Ym mis Mehefin 2023 fe wnaethom ddathlu Wythnos Gofalwyr. Roedd gennym bresenoldeb cryf ar y fewnrwyd yn rhoi gwybod i bobl am y grŵp a chynhaliwyd sawl sesiwn galw heibio gyda'r tîm o Gofalwyr Cymru.

Ym mis Tachwedd ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, cynhaliwyd gweithdy yn canolbwyntio ar 'Euogrwydd Gofalwyr.’

Mae grŵp Cwtsh yn parhau i weithio gyda'r Tîm Cydraddoldeb i gysylltu â'r cynllun 'Cyflogwyr ar gyfer Gofalwyr' ac rydym wedi parhau i fod yn aelodau o hyb Cymru, ac mae'r aelodaeth newydd gael ei hadnewyddu am drydedd blwyddyn. Nod Cyflogwyr ar gyfer Gofalwyr yw cynorthwyo cyflogwyr i roi cefnogaeth i’w gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a chreu gweithleoedd sy'n gyfeillgar i ofalwyr. Rydym yn gallu defnyddio eu deunydd cyhoeddusrwydd, canllawiau a deunydd hyfforddi ac rydym yn rhannu'r manylion hyn gyda chydweithwyr sy'n ofalwyr a'u rheolwyr llinell drwy'r fewnrwyd, yammer a'r cylchlythyr misol i reolwyr fel y bo'n briodol.

Yn 2024 ein nod yw:

  • Cyflwyno ein cynigion ar gyfer absenoldeb Gofalwyr i’r Bwrdd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Tîm Gweithredol
  • Cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn
  • Cynnal sesiynau sgwrsio dros baned i ofalwyr
  • Cynnig cyfarfod wyneb yn wyneb i aelodau
  • Ailedrych ar y cais Hyderus o ran Gofalwyr
  • Gweithio gyda’r Tîm Gweithredol i eirioli dros a hyrwyddo gwaith rhwydwaith Cwtsh

Rhwydwaith Menywod

Mae'r Rhwydwaith Menywod yn hyrwyddo ac yn annog cydraddoldeb rhywiol a hawliau menywod yn y gwaith, ond hefyd gartref ac mewn bywyd cyhoeddus. Mae'r Rhwydwaith Menywod yn credu mewn cymdeithas sy'n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd lle mae gan bobl awdurdod a chyfle cyfartal i lunio cymdeithas a'u bywydau eu hunain.

Nod y Rhwydwaith Menywod yw creu dyfodol cryfach, hapusach a gwell i bawb trwy alluogi amgylchedd gwaith lle mae menywod a merched yn eu holl amrywiaeth yn gyfartal ac yn wirioneddol rydd i gyflawni eu potensial. Rydym am i eraill ymuno â ni a'n helpu gyda'n nodau a'n gweithgareddau.

Rydym wedi postio am Ddiwrnod Menopos y Byd a Mis Hanes Pobl Ddu, 'Saluting our Sisters', ar Yammer, yn ogystal â digwyddiadau ac ymgyrchoedd newyddion eraill llai sy'n effeithio ar fenywod.

Rydym wedi cynnal un cyfarfod rhagarweiniol ar 6 Rhagfyr 2023 i gasglu syniadau ar gyfer y grŵp a nawr mae angen i ni gynllunio beth i’w wneud nesaf yn dilyn y cyfarfod hwnnw. Syniad allweddol a godwyd oedd menywod yn mentora menywod ac rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd pellach gyda'r Tîm Cydraddoldeb yn gynnar yn 2024 i weld sut y gallwn weithio gyda'r syniad hwn.

Yn 2024 rydym yn cynnal Dydd Mercher Gweminar ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a bydd panel o gydweithwyr benywaidd CNC yn siarad am eu profiadau. Rydym yn ein camau cynnar ac yn gobeithio datblygu'n raddol trwy wrando ar ein haelodau.

Calon – Rhwydwaith LHDTC+

Ymddiswyddodd cyd-arweinwyr o Calon ym mis Ebrill oherwydd rolau newydd a phryder personol na fyddent yn gallu ymrwymo cymaint o amser i arwain Calon ag y mae'r rhwydwaith yn ei haeddu.

Ym mis Gorffennaf fe ddechreuodd tri aelod newydd drafodaethau i ddod yn gyd-arweinwyr newydd. Er ei bod wedi bod yn anodd cael mynediad at y rhestr aelodaeth a'r e-bost oherwydd absenoldebau cydweithwyr, mae'r tîm wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol a pholau piniwn trwy yammer i fesur beth mae pobl yn dymuno i’r rhwydwaith fod wrth symud ymlaen. Unwaith y bydd mynediad llawn i'r rhestr aelodaeth ar gael, bydd cyfleoedd ychwanegol i'r rhwydwaith drafod yr hyn y maent yn chwilio amdano. Bydd galw hefyd am arweinwyr lleol i drefnu sesiynau yn y cnawd yn lleol, a hyrwyddwyr eraill i gefnogi amrywiaeth o fewn y rhwydwaith.

Rhwydwaith niwroamrywiaeth

Yn 2023 mae'r Rhwydwaith wedi bod yn brysur gyda'r canlynol:

  • Mae'r rhwydwaith yn cynnal sesiynau galw heibio amser cinio wythnosol i aelodau'r rhwydwaith gael sgwrsio a chodi unrhyw faterion sydd ganddynt
  • Cynhaliodd y rhwydwaith arolwg o aelodau i nodi unrhyw broblemau a llywio ymatebion corfforaethol
  • Trefnwyd gweminar ddydd Mercher i gyflwyno niwroamrywiaeth
  • Buom yn codi llawer o ymwybyddiaeth dros Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth gyda llawer o ymgysylltu wrth i aelodau'r Bwrdd bostio am eu profiad eu hunain a blog gan y prif weithredwr
  • Buom yn codi ymwybyddiaeth yn ystod wythnosau ymwybyddiaeth dyslecsia, awtistiaeth ac ADHD
  • Fe wnaethom roi adborth ar basbortau hyfforddi, recriwtio a lles
  • Rydym wedi cynyddu'r aelodaeth i dros 160 o bobl

Atodiad 4: Ystadegau Recriwtio Allanol ar gyfer Ionawr - Rhagfyr 2023

Beth yw eich grŵp oedran?

Grŵp Oedran

Cyfanswm

16 – 24

559

25-34

1070

35-44

648

45-54

393

55-64

152

65+

0

Mae’n well gen i beidio â dweud

28

Dim ateb

598

 

Beth yw eich rhywedd?

Rhywedd

Cyfanswm

Benyw

1882

Gwryw

1501

Dim ateb

59

Mae’n well gen i beidio â dweud

6

Anneuaidd

0

 

A yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â’r rhywedd a gafodd ei nodi pan gawsowch eich geni?

Hunaniaeth rhywedd

Cyfanswm

Ydy

2804

Heb ateb

590

Mae’n well gen i beidio â dweud

39

Nac ydy

15

 

Ydych chi ar hyn o bryd yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Partneriaeth sifil neu briod

Cyfanswm

Nac ydw

1784

Ydw

996

Heb ateb

597

Mae’n well gen i beidio â dweud

71

 

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?

Cyfeiriadedd rhywiol

Cyfanswm

Heb ateb

593

Heterorywiol / Strêt

205

Mae’n well gen i beidio â dweud

174

Deurywiol

143

Dyn hoyw

42

Menyw hoyw / Lesbiad

37

Arall

6

Mae'n well gen i ddefnyddio fy nherm fy hun

4

 

Pa gyfrifoldebau gofalu sydd gennych?

Cyfrifoldeb gofalu

Cyfanswm

Dim

514

Prif ofalwr plant (o dan 18 oed)

230

Gofalwr eilaidd

41

Mae’n well gen i beidio â dweud

23

Prif ofalwr (dros 65 oed)

6

Prif ofalwr plentyn anabl (dan 18)

2

Ydych chi’n ystyried bod gennych chi anabledd?

Anabledd

Cyfanswm

Nac ydw

2620

Heb ateb

587

Ydw

193

Mae’n well gen i beidio â dweud

48

 

Beth yw eich crefydd neu eich cred?

Crefydd neu gred

Cyfanswm

Dim ffydd na chred

1794

Mae gen i ffydd neu gred

816

Heb ateb

605

Mae’n well gen i beidio â dweud

219

Arall

14

 

Beth yw eich ethnigrwydd?

Ethnigrwydd

Cyfanswm

Gwyn (Seisnig, Cymreig, Albanaidd, Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon, Prydeinig, Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr, unrhyw gefndir Gwyn arall)

2552

Heb ateb

601

Mae’n well gen i beidio â dweud

55

 

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

(Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall)

100

Cymysg/grwpiau aml-ethnig

(Gwyn a Du Caribïaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Gwyn ac Asiaidd, unrhyw gefndir cymysg/aml-ethnig arall)

66

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig

(Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall)

59

Grŵp ethnig arall

(Arabaidd neu unrhyw grŵp ethnig arall)

15

 

Atodiad 5: Ystadegau hunan-ddatgelu cydweithwyr CNC

Dadansoddiad oedran

Ionawr 2022

Oedran

Nifer

y cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

33

1.4%

25 i 35

428

19.0%

35 i 45

636

28.2%

45 i 55

671

29.7%

55 i 65

446

19.8%

65 a throsodd

43

1.9%

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Oedran

Nifer

y cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

41

1.7%

25 i 35

461

19.6%

35 i 45

688

29.0%

45 i 55

688

29.0%

55 i 65

453

19.1%

65 a throsodd

38

1.6%

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Oedran

Nifer

y cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

44

1.9%

25 i 35

492

20.8%

35 i 45

700

29.5%

45 i 55

712

30.1%

55 i 65

496

20.9%

65 a throsodd

48

2.0%

Cyfanswm

2492

100%

 

Proffil oedran – staff amser llawn a rhan-amser

Ionawr 2022

Rhan-amser

Oedran

 

Nifer y

cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

0

0.0%

25 i 35

37

1.6%

35 i 45

106

4.7%

45 i 55

100

4.4%

55 i 65

76

3.4%

65 a throsodd

16

0.7%

Cyfanswm

335

14.8%

 

amser llawn

Oedran

Nifer y

cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

33

1.5%

25 i 35

391

17.3%

35 i 45

530

23.5%

45 i 55

571

25.3%

55 i 65

370

16.4%

65 a throsodd

27

1.2%

Cyfanswm

1922

85.2%

Cyfanswm cyffredinol: 2257

 

Ionawr 2023

Rhan-amser

Oedran rhan-amser

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Dan 25

#

0.1%

25 i 35

39

1.6%

35 i 45

115

4.9%

45 i 55

98

4.1%

55 i 65

85

3.6%

65 a throsodd

14

0.6%

Cyfanswm

353

14.9%

 

amser llawn

Oedran

Nifer

y cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

39

1.6%

25 i 35

422

17.8%

35 i 45

573

24.2%

45 i 55

590

24.9%

55 i 65

368

15.5%

65 a throsodd

24

1.0%

Cyfanswm

2016

85.1%

Cyfanswm cyffredinol: 2369

 

Ionawr 2024

Rhan-amser

Oedran

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Dan 25

#

0.1%

25 i 35

35

1.5%

35 i 45

115

4.9%

45 i 55

97

4.1%

55 i 65

92

3.9%

65 a throsodd

21

0.9%

Cyfanswm

363

14.6%

 

amser llawn

Oedran

Nifer

y cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Dan 25

41

1.7%

25 i 35

457

19.3%

35 i 45

585

24.7%

45 i 55

615

26.0%

55 i 65

404

17.1%

65 a throsodd

27

1.1%

Cyfanswm

2129

85.4%

Cyfanswm cyffredinol: 2492

 

Trefniadau gweithio

Ionawr 2022

Trefniadau gweithio

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Amser llawn

1922

85.2%

Rhan-amser

395

14.8%

Cyfanswm

2257

100%

 

O'r rhai a ddatgelodd drefniant gwaith

Trefniadau gweithio

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Amser llawn – Gwryw

1147

50.8%

Amser llawn – Benyw

775

34.4%

Rhan-amser – Gwryw

79

3.5%

Rhan-amser – Benyw

256

11.3%

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Trefniadau gweithio

Nifer y cydweithwyr

Canran y

cydweithwyr

Amser llawn

2016

85.1%

Rhan-amser

353

14.9%

Cyfanswm

2369

100%

 

O'r rhai a ddatgelodd drefniant gwaith

Trefniadau gweithio

Nifer y cydweithwyr

Canran y

cydweithwyr

Amser llawn – Gwryw

1178

49.7%

Amser llawn – Benyw

838

35.4%

Rhan-amser – Gwryw

82

3.5%

Rhan-amser – Benyw

271

11.4%

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Trefniadau gweithio

Nifer y

cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Amser llawn

2129

85.4%

Rhan-amser

363

14.6%

Cyfanswm

2492

100%

 

O'r rhai a ddatgelodd drefniant gwaith

Trefniadau gweithio

Nifer y

cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Amser llawn – Gwryw

1230

49.4%

Amser llawn – Benyw

899

36.1%

Rhan-amser – Gwryw

95

3.8%

Rhan-amser – Benyw

268

10.7%

Cyfanswm

2492

100%

 

Dadansoddiad anabledd

Ionawr 2022

Statws o ran anabledd

Nifer y

cydweithwyr

Canran

y cydweithwyr

Nac oes

1390

61.6%

Oes

83

3.7%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

784

34.7%

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Statws o ran anabledd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Nac oes

1431

60.4%

Oes

85

3.6%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

853

36.0%

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Statws o ran anabledd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Nac oes

1505

60.4%

Oes

83

3.3%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

904

36.3%

Cyfanswm

2492

100%

 

Dadansoddiad rhywedd

Ionawr 2022

Rhywedd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwryw

1226

54.3%

Benyw

1031

45.7%

Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb

0

0

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Rhywedd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwryw

1260

53.2%

Benyw

1109

46.8%

Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb

0

0

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Rhywedd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwryw

1325

53.2%

Benyw

1167

46.8%

Mae'n well gen i beidio a dweud/heb ateb

0

0

Cyfanswm

2492

100%

 

Dadansoddiad cyfeiriadedd rhywiol

Ionawr 2022

Cyfeiriadedd rhywiol

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Heterorywiol / Strêt

1288

57.1%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

914

40.5%

Menyw hoyw/lesbiad

15

0.7%

Dyn hoyw

12

0.5%

Deurywiol

18

0.8%

Arall

10

0.4%

Cyfanswm

2257

100%

% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+

55

2.39%

 

Ionawr 2023

Cyfeiriadedd rhywiol

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Heterorywiol / Strêt

1312

55.4%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

989

41.7%

Menyw hoyw/lesbiad

15

0.6%

Dyn hoyw

18

0.8%

Deurywiol

22

0.9%

Arall

15

0.6%

Cyfanswm

2369

100%

% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+

70

3%

 

Ionawr 2024

Cyfeiriadedd rhywiol

Nifer y cydweithwyr

Canran y

cydweithwyr

Heterorywiol / Strêt

1369

54.9%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

1046

42%

Menyw hoyw/lesbiad

15

0.6%

Dyn hoyw

17

0.68%

Deurywiol

28

1.1%

Arall

17

0.7%

Cyfanswm

2492

100%

% y gweithlu sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+

77

3.1%

 

Dadansoddiad ethnigrwydd

Ionawr 2022

Ethnigrwydd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwyn

1440

63.8%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

782

34.6%

Grwpiau cymysg aml-ethnig

16

0.7%

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

13

0.6%

Du/Affricanaidd/

Caribïaidd/Du Prydeinig

#

#

Grwpiau ethnig eraill

#

#

Cyfanswm

2257

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig

35

1.6%

 

Ionawr 2023

Ethnigrwydd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwyn

1480

62.5%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

850

35.9%

Grwpiau cymysg aml-ethnig

20

0.8%

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

13

0.5%

Du/Affricanaidd/

Caribïaidd/Du Prydeinig

#

#

Grwpiau ethnig eraill

#

#

Cyfanswm

2369

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig

39

1.65%

 

Ionawr 2024

Ethnigrwydd

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Gwyn

1547

62.1%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

905

36.3%

Grwpiau cymysg aml-ethnig

22

0.9%

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

12

0.5%

Du/Affricanaidd/

Caribïaidd/Du Prydeinig

#

#

Grwpiau ethnig eraill

#

#

Cyfanswm

2492

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu bod yn Ddu, neu o leiafrif ethnig

40

1.6%

 

Dadansoddiad crefydd, cred neu ddi-gred

Ionawr 2022

Crefydd, cred neu ddi-gred

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Heb unrhyw ffydd na chred

650

28.8%

Mae gen i ffydd neu gred

501

22.2%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

1106

49%

Cyfanswm

2257

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred

501

22.2%

 

Ionawr 2023

Crefydd, cred neu ddi-gred

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Heb unrhyw ffydd na chred

675

28.5%

Mae gen i ffydd neu gred

507

21.4%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

1187

50.1%

Cyfanswm

2369

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred

507

21.4%

 

Ionawr 2024

Crefydd, cred neu ddi-gred

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Heb unrhyw ffydd na chred

633

25.4%

Mae gen i ffydd neu gred

512

20.5%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

1249

50.1%

Cyfanswm

2492

100%

% y cydweithwyr sy'n nodi eu crefydd, cred, neu ddim cred

512

20.5%

 

Cyfrifoldebau gofalu

Ionawr 2022

Cyfrifoldebau gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cyfrifoldeb gofalu

568

25.2%

Dim cyfrifoldeb gofal

783

34.7%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

906

40.1%

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Cyfrifoldebau gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cyfrifoldeb gofalu

588

24.8%

Dim cyfrifoldeb gofal

806

34.0%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

975

41.2%

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Cyfrifoldebau gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cyfrifoldeb gofalu

612

24.6%

Dim cyfrifoldeb gofal

850

34.1%

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

1030

41.3%

Cyfanswm

2492

100%

 

Math o gyfrifoldeb gofalu

Ionawr 2022

Cyfrifoldeb gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18)

 

381

 

67.1%

Gofalwr eilaidd

91

16.0%

Cyfrifoldebau gofalu lluosog

45

7.9%

Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed

30

5.3%

Prif ofalwr am blentyn/plant anabl

 

#

 

#

Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed)

 

12

 

2.1%

Cyfanswm

568

25.2%

 

Ionawr 2023

Cyfrifoldeb gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18)

401

68.2%

Gofalwr eilaidd

89

15.1%

Cyfrifoldebau gofalu lluosog

43

7.3%

Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed

31

5.3%

Prif ofalwr am blentyn/plant anabl

11

1.9%

Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed)

13

2.2%

Cyfanswm

588

24.8%

 

Ionawr 2024

Cyfrifoldeb gofalu

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Prif ofalwr am blentyn/plant (dan 18)

426

69.6%

Gofalwr eilaidd

91

14.9%

Cyfrifoldebau gofalu lluosog

44

7.2%

Prif ofalwr am oedolyn dros 65 oed

28

4.6%

Prif ofalwr am blentyn/plant anabl

10

1.63%

Prif ofalwr am oedolyn anabl (dros 18 oed)

13

2.1%

Cyfanswm

612

24.6%

 

Dadansoddiad hunaniaeth genedlaethol

Ionawr 2022

Hunaniaeth Genedlaethol

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

714

31.6%

Cymreig

738

32.7%

Prydeinig

634

28.1%

Seisnig

100

4.4%

Arall

50

2.2%

Albanaidd

17

0.8%

Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon

#

#

Cyfanswm

2257

100%

Noder: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Ionawr 2023

Hunaniaeth Genedlaethol

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

784

33.1%

Cymreig

776

32.8%

Prydeinig

642

27.1%

Seisnig

97

4.1%

Arall

51

2.2%

Albanaidd

15

0.6%

Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon

#

#

Cyfanswm

2369

100%

Noder: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Ionawr 2024

Hunaniaeth Genedlaethol

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Mae'n well gen i beidio â dweud/heb ateb

835

33.5%

Cymreig

812

32.6%

Prydeinig

659

26.4%

Seisnig

118

4.7%

Arall

50

2.0%

Albanaidd

15

0.6%

Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon

#

#

Cyfanswm

2492

100%

Noder: Dangosir data o dan 10 fel # at ddibenion diogelu data

 

Gallu cydweithwyr yn y Gymraeg

Ionawr 2022

Gallu Iaith

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW

2214

98.1%

Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau

2126

96%

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

941

41.7%

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

458

20.3%

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

331

14.7%

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

222

9.8%

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

174

7.7%

Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg

88

3.9%

Heb ateb

43

1.9%

Cyfanswm

2257

100%

 

Ionawr 2023

Gallu Iaith

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW

2326

98.1%

Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau

2228

95.8%

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

991

41.8%

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

477

20.1%

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

347

14.7%

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

227

9.6%

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

186

7.9%

Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg

98

4.1%

Heb ateb

43

1.8%

Cyfanswm

2369

100%

 

Ionawr 2024

Gallu Iaith

Nifer y cydweithwyr

Canran y cydweithwyr

Cydweithwyr sydd wedi hunanasesu eu sgiliau yn MyNRW

2450

98.3%

Cydweithwyr sydd wedi datgan eu bod yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ar wahanol lefelau

2355

96.1%

Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

1058

42.5%

Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

498

20%

Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

360

14.4%

Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

228

9.1%

Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

211

8.5%

Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg

95

3.8%%

Heb ateb

42

1.7%

Cyfanswm

2492

100%

 

Gallu yn y Gymraeg fesyl Cyfarwyddiaeth, Ionawr 2024

Lefel Iaith

Cyfathrebu Cwsmeriaid a Masnachol

Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Gweithrediadau

Cyfanswm

0 - Dim dealltwriaeth o'r Gymraeg

4

3

26

16

46

95

1 - Gallu ynganu ymadroddion ac enwau Cymraeg sylfaenol

35

43

319

85

576

1058

2 - Gallu llunio brawddegau Cymraeg sylfaenol

24

32

161

35

246

498

3 - Gallu trafod rhai materion gwaith yn hyderus

14

9

63

16

109

211

4 – Rhugl ar lafar yn y Gymraeg

16

12

48

16

136

228

5 – Rhugl yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig

48

22

73

21

196

360

Dim Datganiad

6

3

4

3

26

42

Cyfanswm

147

124

694

192

1335

2492

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf