Adroddiad rheoleiddio blynyddol 2022

Cyflwyniad

Dyma ein chweched Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol. Ei nod yw cynnig trosolwg o’r gweithgareddau rheoleiddio ffurfiol yr aethom i’r afael â nhw ym mlwyddyn galendr 2022, yn cynnwys trwyddedu a chydymffurfio, ymateb i ddigwyddiadau llygredd a throseddau, a gweithgareddau gorfodi dilynol. Hefyd, mae’r adroddiad yn cofnodi sut yr aethom ati i gyflawni ein dyletswyddau statudol mewn perthynas â rheoleiddio a gorfodi. Mae’r data a ddefnyddiwyd i lywio’r adroddiad hwn wedi deillio o’n systemau digwyddiadau, cydymffurfio, trwyddedu a gorfodi.

Mae sawl ffurf yn perthyn i’n rôl reoleiddio, ac mae rheoleiddio yn dal i fod yn ddull hollbwysig o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru, atal llygredd ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Rydym yn rheoleiddio busnesau er mwyn sicrhau y gallant weithredu’n llwyddiannus heb niweidio pobl na’r amgylchedd. Trwy gyfrwng y camau a gymerwn, rydym yn sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn cydymffurfio â chyfreithiau, fan leiaf, ac rydym yn eu hannog i fynd ymhellach er budd yr amgylchedd ac er lles iechyd pobl Cymru.

Y dull cyffredinol a roddwn ar waith yw ymgysylltu â’r rhai a reoleiddiwn er mwyn eu haddysgu a’u galluogi i gydymffurfio neu er mwyn atal niwed. Cynigiwn wybodaeth a chyngor i’r rhai a reoleiddiwn ac rydym bob amser yn ceisio osgoi biwrocratiaeth neu gostau gormodol. Rydym yn annog unigolion a busnesau i roi’r lle blaenaf i’r amgylchedd yn ogystal ag integreiddio arferion amgylcheddol da mewn dulliau gweithio arferol.

Fodd bynnag, gwyddom nad yw pawb yn cydymffurfio bob amser – weithiau trwy ddamwain, weithiau oherwydd rhesymau eraill. O’r herwydd, mae gorfodi yn arf hollbwysig inni. Ein nod yw ceisio cyfiawnder cymesur am droseddau, diogelu ein hamgylchedd, atal llygredd a chefnogi’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae mynychu digwyddiadau a gorfodi digwyddiadau yn rhan bwysig o’n harfau rheoleiddiol, gan helpu i sicrhau y gallwn ymateb i ddigwyddiadau llygredd mewn ffordd gymesur. Hefyd, mae ein dull o ymdrin â rheoleiddio yn helpu i atal llygredd a’r niwed a achosir ganddo mewn modd rhagweithiol, trwy gyfrwng cydymffurfio, arferion gorau, ymgyrchoedd a chyngor.

Rydym yn parhau i weld pwysau ar ein hamgylchedd naturiol, ac mae diffyg cydymffurfio rheoleiddiol, troseddau a digwyddiadau llygredd yn achosi niwed sylweddol diangen. Yn ei dro, mae hyn yn effeithio ar gymunedau ac yn tanseilio busnesau cyfreithlon. Hefyd, mae rheoleiddio yn wynebu pwysau cynyddol o du newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth a disgwyliadau’r cyhoedd. Yng ngoleuni’r heriau hyn, mae hi’n bwysicach fyth inni sicrhau bod y sylfaen reoleiddiol a ddefnyddiwn i adeiladu dyfodol cynaliadwy yn cael ei rheoleiddio a’i gorfodi’n briodol.

Caiff yr adroddiad hwn ei rannu’n bedair prif ran, gyda phob rhan yn ymdrin ag agwedd allweddol ar ein dull rheoleiddio, sef: ymateb i ddigwyddiadau, trwyddedu, cydymffurfio, a gorfodi. Oddi mewn i’r rhannau hyn ceir is-benawdau sy’n ystyried gweithgareddau’n ymwneud â phob un o’r sectorau pwysig a reoleiddiwn.

Nid ydym wedi cynnwys astudiaethau achos yn yr adroddiad. Gallwch ddarllen am ein newyddion a’n blogiau ar ei gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Newyddion

Gofynnwn ichi wneud un peth fel darllenwyr yr adroddiad rheoleiddio blynyddol hwn – wrth bori trwy’r adroddiad hwn, os hoffech ddarllen am rywbeth arall neu weld yr eitemau’n cael eu cyflwyno mewn ffordd wahanol yn ein hadroddiad rheoleiddio blynyddol nesaf, a wnewch chi gysylltu gyda ni i roi gwybod inni am eich syniadau. Ymrwymwn i gnoi cil ar yr holl adborth, a byddwn yn parhau i addasu’r adroddiad yn y dyfodol – er mwyn sicrhau y bydd yr adroddiad rheoleiddio blynyddol hwn yn parhau i fod yn deg, yn gytbwys, yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol i’w ddarllenwyr.

Ymateb i Ddigwyddiadau

Ein dull o ymateb i ddigwyddiadau

Rydym yn ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r digwyddiadau rydym yn delio â nhw yn cynnwys llifogydd, llygredd aer, llygredd tir, llygredd dŵr, pysgodfeydd, troseddau yn erbyn bywyd gwyllt a niwed i dir, yn ogystal â digwyddiadau lle rydym yn cynghori’r gwasanaethau brys.

Rydym yn sefydliad Categori Un o dan delerau’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl. Golyga hyn fod gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith ar gyfer rheoli digwyddiadau, fel y gellir ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau.

Categoreiddio Digwyddiadau

Byddwn yn asesu bod digwyddiadau’n Ddigwyddiad Effaith Lefel Uchel neu’n Ddigwyddiad Effaith Lefel Isel:

Digwyddiad Effaith Lefel Uchel: digwyddiad y mae angen ymateb iddo’n syth, 24 awr y dydd, er mwyn lleihau effaith y digwyddiad;

Digwyddiad Effaith Lefel Isel: digwyddiad nad oes angen ymateb iddo’n syth, oddi mewn i oriau swyddfa arferol neu os ceir gwybod amdano y tu allan i oriau swyddfa, gellir gohirio ymateb iddo hyd nes y bydd oriau swyddfa arferol ar waith a gellir delio ag ef fel gwaith gweithredol arferol.

Dyma’r prif feini prawf generig a ystyriwn pan fyddwn yn asesu digwyddiadau:

  • Y risg i iechyd y cyhoedd, yn cynnwys yr effaith ar ansawdd aer, arogleuon, sŵn, ymbelydredd, a’r effaith ar amwynderau.
  • Risgiau’n ymwneud ag un o’n hasedau, y tiroedd neu’r cyrff dŵr a reolwn.
  • Effeithiau difrifol ar adnoddau naturiol Cymru (yn cynnwys aer, tir, dŵr, pysgodfeydd a bioamrywiaeth) a’r effaith ar gadwraeth ac ar yr economi.
  • Llifogydd gwirioneddol neu bosibl a all effeithio ar eiddo neu seilwaith.
  • Ein cyfraniad at ymateb amlasiantaeth i ddigwyddiadau.
  • Diddordeb y cyfryngau yn y digwyddiad a/neu risg i’n henw da.

Crynodeb o Ddigwyddiadau 2022

Yn 2022, fe wnaethom ymateb i dri ar ddeg o ddigwyddiadau mawr yn ymwneud â llygredd dŵr, sŵn, tân, cau a niweidio cyrsiau dŵr, pysgota anghyfreithlon, a chwympo coed yn anghyfreithlon. Mae ‘digwyddiad’ mawr’ yn golygu digwyddiad sy’n ddifrifol, yn barhaus a/neu sy’n effeithio’n fawr ar bobl neu eiddo. Yn ystod 2022, cawsom ein hysbysu ynglŷn â 7,255 o ddigwyddiadau ac fe wnaethom fynychu 29% o’r rhain. Mae’r ffigur hwn ddwy ganran yn uwch na’n cyfradd fynychu ar gyfer 2021. Caiff yr holl ddigwyddiadau a ddaw i’n sylw eu hasesu ar sail y meini prawf uchod. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith ein bod heb fynychu digwyddiad yn golygu na wnaethom ymateb iddo, oherwydd rydym yn ymdrin â llawer o ddigwyddiadau o bell, naill ai trwy e-bost neu dros y ffôn; ac ar ôl asesu digwyddiadau, gellir dod i’r casgliad bod llai o flaenoriaeth yn perthyn i rai ohonynt ac nad oes angen neilltuo cymaint o adnoddau ar eu cyfer.

  • Roedd 2,556 (31%) o’r digwyddiadau y cawsom ein hysbysu yn eu cylch yn ymwneud â dŵr. Roedd y rhain yn cynnwys llygredd dŵr, cronfeydd dŵr, tynnu dŵr, a chau neu addasu cyrsiau dŵr.
  • Roedd y categori ‘digwyddiadau llygredd dŵr’ yn cyfateb i 63% o’r holl ddigwyddiadau Lefel Uchel a fynychwyd gennym a 43% o’r holl ddigwyddiadau Lefel Isel a fynychwyd gennym.
  • Roedd 1,337 (16%) o’r digwyddiadau’n ymwneud â gwastraff. Roedd y rhain yn cynnwys tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff, safleoedd gwastraff anghyfreithlon a chludwyr gwastraff anghyfreithlon.
  • Roedd 1,536 (18%) o’r digwyddiadau’n ymwneud â gweithgareddau a reoleiddir (a chanddynt drwyddedau).
  • Roedd 306 (4%) o’r digwyddiadau’n ymwneud â physgota anghyfreithlon, casglu cocos yn anghyfreithlon, a lladd pysgod.
  • Roedd 652 (8%) yn ymwneud â choedwigaeth.
  • Roedd 1,205 (14%) yn ymwneud â digwyddiadau eraill.
  • Mae’r categori ‘Arall’ yn ymwneud â materion fel llygredd ar draethau, niweidio natur, tân, gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ar dir yr ystad, rhywogaethau goresgynnol, da byw ar yr ystad, arllwysiadau olew a chemegau. Mae ‘Arall’, ‘Safleoedd Gwarchodedig’, ‘Digwyddiadau Cronfeydd Dŵr’ a ‘Gwrthdrawiadau Traffig Ffyrdd’ yn cyfateb i 14% o’r holl ddigwyddiadau Lefel Uchel a fynychwyd gennym ac 8% o’r holl ddigwyddiadau Lefel Isel a fynychwyd gennym.
  • Arweiniodd 579 o’r digwyddiadau a fynychwyd gennym at argymhellion gorfodi.

Digwyddiadau Amaethyddol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llygredd amaethyddol yn fater sydd wedi bod yn destun craffu cynyddol. Yn 2022, cafwyd 225 o ddigwyddiadau Amaethyddol – mae’r ffigur hwn yn cyfateb i dri y cant o’r digwyddiadau y cawsom ein hysbysu yn eu cylch. O blith y rhain, roedd 69% yn ymwneud â llygredd dŵr ac roedd 12% yn ymwneud â halogi pridd. Ar hyn o bryd, rydym yn ailwampio ein system gofnodi ar gyfer digwyddiadau amaethyddol a chydymffurfio, a bydd hyn yn ein galluogi i ddeall yn well pam y caiff digwyddiadau eu priodoli i is-sectorau ac achosion penodol. Bydd hyn yn helpu i ategu ein dull ‘seiliedig ar risg’ wrth ymdrin â rheoleiddio amaethyddol.

Mathau o ddigwyddiadau amaethyddol

Cyfanswm

Tynnu Dŵr / Lefelau Isel

1

Llygredd ar Draethau

2

Llosgi Gwastraff

9

Niweidio / Addasu Cyrsiau Dŵr

1

Niweidio Natur

1

Lladd Pysgod

1

Coedwigaeth – Cwympo Anghyfreithlon

4

Halogi Tir

28

Sbwriel

1

Da Byw ar yr Ystad

1

Sŵn

1

Arogleuon

6

Arall

5

Safleoedd Gwarchodedig

1

Tor-trwydded Posibl

6

Cludwyr Gwastraff

1

Llygredd Dŵr

156

Cyfanswm

225

 

Digwyddiadau’n ymwneud â Physgodfeydd dŵr croyw a mudol

Mae’r dirywiad parhaus a welir yn statws stociau eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru yn parhau i beri pryder difrifol. O blith 23 o brif afonydd eogiaid yng Nghymru, dengys canlyniadau’r asesiad diweddaraf yr ystyrir bod 21 (91%) ohonynt ‘mewn perygl’, a bod y 2 (9%) sy’n weddill ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’. Ni roddwyd yr un afon yn y categori ‘ddim mewn perygl’ na’r categori ‘ddim mewn perygl yn ôl pob tebyg’.

Ymhellach, mae stociau brithyllod y môr yn parhau i ddirywio – rhywbeth sy’n destun pryder. Yng Nghymru, ceir 33 o brif afonydd brithyllod y môr; dim ond 4 (12%) o’r rhain yr ystyrir eu bod ‘ddim mewn perygl yn ôl pob tebyg’, ac mae’r gweddill naill ai ‘mewn perygl yn ôl pob tebyg’ (24%) neu ‘mewn perygl’ (64%). Nid ystyrir bod yr un o’r afonydd yn perthyn i’r categori ‘ddim mewn perygl’.

O ystyried y dirywiad parhaus hwn, mae digwyddiadau sy’n ymwneud â niweidio pysgodfeydd yn destun cryn bryder. Yn 2022, cawsom ein hysbysu ynghylch 267 o ddigwyddiadau’n ymwneud â Physgodfeydd, sef 197 o ddigwyddiadau’n ymwneud â physgota anghyfreithlon a 70 o ddigwyddiadau’n ymwneud â lladd pysgod. Roedd y digwyddiadau hyn yn cyfateb i 4% o’r holl ddigwyddiadau y cawsom ein hysbysu yn eu cylch.

Gweithgareddau a Reoleiddir

Trwyddedu

Rydym yn gyfrifol am benderfynu ar geisiadau a rhoi amrywiaeth eang o drwyddedau. Mae trwyddedu’n agwedd hanfodol ar ein gweithgareddau rheoleiddio; a phan gedwir atynt, mae trwyddedau’n galluogi busnesau i fynd i’r afael â’u gweithrediadau’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd. Mae rheoleiddio trwyddedau yn effeithiol yn golygu y gellir cynnig sefyllfa deg a chyfartal i fusnesau cyfreithlon trwy atal gweithredwyr anghyfrifol neu anghyfreithlon rhag codi prisiau rhatach na hwy ac ati.

Yn 2022 fe wnaethom benderfynu ar 86% o geisiadau o fewn ein hamserlenni neu lefelau gwasanaeth statudol. Mae gwybodaeth am sut rydym yn rheoli ceisiadau trwyddedu a pha mor hir y mae'n ei gymryd i ni eu prosesu ar gael ar ein gwefan.

Hefyd, caiff ein penderfyniadau trwyddedu amgylcheddol eu cyhoeddi bob mis.

Nid yw’r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y Trwyddedau Gweithgaredd Perygl Llifogydd. Byddwn yn cynnwys yr wybodaeth hon mewn adroddiadau yn y dyfodol.

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i wneud penderfyniadau sy'n diogelu'r amgylchedd, yn diogelu iechyd pobl, ac yn sicrhau nad yw diwydiant a reoleiddir yn arwain at golli nodweddion dymunol i gymunedau lleol. Mae ein trwyddedau yn cynnwys amodau i ddiogelu'r amgylchedd a phobl. Rydym yn gosod cyfyngiadau ar weithgareddau y mae angen i ni eu rheoli a, lle bo angen, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i fonitro allyriadau i aer, dŵr a thir.

Trwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) a Thrwyddedau Adnoddau Dŵr

Ar ddiwedd 2022, roedd 10,742 o drwyddedau EPR a thrwyddedau adnoddau dŵr a roddwyd gennym ni mewn grym yng Nghymru:

Math o Drwydded

Cyfanswm

Gweithgaredd sy’n Uniongyrchol Gysylltiedig (DDA)

14

Defnyddio

73

Gweithfeydd

333

Dip Defaid

987

Gwastraff Mwyngloddio

6

Offer Symudol

65

Gwastraff

667

Gweithgaredd Gollwng Dŵr

6,546

Cyfanswm

8,691

 

Trwydded Adnoddau Dŵr

Cyfanswm

Tynnu Dŵr Llawn

1,174

Cronni Dŵr

737

Awdurdodiad Newydd ar gyfer Tynnu Dŵr Llawn

74

Awdurdodiad Newydd ar gyfer Trosglwyddo Tynnu Dŵr

34

Trosglwyddo Tynnu Dŵr

32

Cyfanswm

2,051

 

Yn 2022, cawsom y nifer canlynol o geisiadau am drwyddedau o dan EPR. Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys:

  • ceisiadau am drwyddedau newydd (trwyddedau pwrpasol a Thrwyddedau Rheolau Safonol)
  • ceisiadau i amrywio trwyddedau presennol
  • ceisiadau i drosglwyddo trwyddedau i ddeiliaid newydd
  • ceisiadau i ildio trwyddedau presennol

Y Gyfundrefn

Cyfanswm

Ceisiadau am drwyddedau gwastraff (yn cynnwys offer symudol a gwastraff mwyngloddio) (yn cynnwys ceisiadau’n ymwneud â thrwyddedau pwrpasol, Trwyddedau Rheolau Safonol, amrywio, trosglwyddo ac ildio trwyddedau)

106

Gwastraff – ceisiadau defnyddio

73

Ceisiadau am drwyddedau’n ymwneud â Gweithfeydd (yn cynnwys ceisiadau’n ymwneud â thrwyddedau pwrpasol, Trwyddedau Rheolau Safonol, amrywio, trosglwyddo ac ildio trwyddedau)

93

Gweithgaredd sy’n Uniongyrchol Gysylltiedig – Gweithfeydd

1

Esemptiadau

Pan fo gweithgareddau a reoleiddir yn esgor ar risg is, mae yna amrywiaeth o esemptiadau a nodir mewn deddfwriaeth sy’n caniatáu i weithredwyr gynnal y gweithgareddau hyn heb drwydded amgylcheddol, cyn belled ag y cedwir at rai amodau arbennig. Fel arfer, bydd esemptiadau’n gosod terfynau ar raddfa’r gweithgaredd neu ar y math o weithgaredd y dymunir ei wneud.

Ceir esemptiadau o dan ddeddfwriaeth adnoddau dŵr, ond gan nad yw’n ofynnol i’r esemptiadau hyn gael eu cofrestru, ni allwn gyflwyno gwybodaeth yn eu cylch.

Ar ddiwedd 2022, roedd 34,841 o esemptiadau gwastraff wedi’u cofrestru gyda ni mewn 10,436 o leoliadau gwahanol. Lleolir y mwyafrif o’r rhain ar safleoedd amaethyddol (22,480), a rhennir y gweddill rhwng safleoedd anamaethyddol (6,361) a chyfuniad o safleoedd amaethyddol ac anamaethyddol (5,979).

Cofrestrwyd 7,945 o’r rhain gan Gwmnïau, 18,932 gan unigolion, 5,422 gan bartneriaethau a 366 gan gyrff cyhoeddus; yn achos y 2,185 sy’n weddill, ni nodwyd manylion y sefydliad.

Dŵr Cymru/Welsh Water yw’r sefydliad sydd wedi cofrestru’r nifer fwyaf o esemptiadau – sef cyfanswm o 1,484. Mae’r mwyafrif o’r cofrestriadau hyn (mwy na 1,400 ohonynt) ar gyfer esemptiadau S3, sef storio slwtsh carthion ar y safle lle bwriedir ei ddefnyddio.

Dyma’r esemptiadau a gofrestrir yn fwyaf cyffredin:

  • U1 Defnyddio gwastraff wrth adeiladu (mewn 5,096 o leoliadau)
  • D7 Llosgi gwastraff yn yr awyr agored (4,058)
  • U10 Gwasgaru gwastraff ar dir amaethyddol er budd y tir (3,132)
  • S2 Storio gwastraff mewn man diogel (2,246)
  • S3 Storio slwtsh (2,030)
  • T6 Trin pren gwastraff a deunyddiau planhigion gwastraff trwy eu hasglodi, eu darnio, eu torri neu eu malurio (1,610)

Mae adolygiad diweddar o’r gyfundrefn esemptiadau wedi peri i Lywodraeth Cymru a DEFRA gynnig newid y gyfundrefn yn sylweddol er mwyn ymdrin â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant gwastraff. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd nesaf.

Gweithfeydd a drwyddedir o dan EPR

Ar ddiwedd 2022, roeddem wedi rhoi 242 o drwyddedau ar gyfer gweithfeydd, 130 o Drwyddedau Ffermio Dwys a 44 o drwyddedau ar gyfer Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Gweithfeydd Hylosgi Penodol a Generaduron Penodol.

Trwyddedu Coedwigaeth

Mae ein tîm Rheoliadau Coedwigaeth ac Iechyd Coed yn cynnig cyngor arbenigol yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer trwyddedau cwympo a barn EIA (Asesu Effeithiau Amgylcheddol), mae’n rheoleiddio trwyddedau cwympo, mae’n ymchwilio i gwympo anghyfreithlon ac mae’n rheoleiddio plâu a chlefydau a reolir ar goed o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020.

Isod, ceir crynodeb o weithgareddau trwyddedu coedwigaeth yr aethpwyd i’r afael â nhw yn 2022.

Deddf/Rheoliad

Ceisiadau a dderbyniwyd

Trwyddedau a roddwyd

Ceisiadau ar y gweill

Ceisiadau a wrthodwyd

Trwyddedau a dynnwyd yn ôl

Deddf Coedwigaeth 1967

482

411

26

5

40

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

75

70

-

-

5

Cyfanswm

557

481

26

5

45

Trwyddedu Rhywogaethau

Rydym yn penderfynu ar geisiadau’n ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau a rhywogaethau o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Gwarchod Moch Daear 1992, Deddf Ceirw 1991, Deddf Cadwraeth Morloi 1970 a Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. Rydym yn penderfynu ar geisiadau yn unol â pholisïau, canllawiau technegol a chyfarwyddiadau gweithredol (mewnol) perthnasol. Rydym yn asesu ac yn awdurdodi ceisiadau am drwyddedau yn unol â deddfwriaethau cyfredol, gan fynd ati’n fynych i ymgynghori ag arbenigwyr gweithredol er mwyn cael cyngor ecolegol, cyn llunio a rhoi trwyddedau.

Wrth asesu ceisiadau, rydym yn ystyried sawl ffactor, yn cynnwys profiad yr ymgeisydd a’r ecolegydd, y diben, dewisiadau amgen boddhaol, a yw’r cais yn cadw at resymau hanfodol yn ymwneud â budd cyhoeddus tra phwysig, a’r effaith ar y rhywogaeth ac ar statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth. Yn y tabl isod, ceir crynodeb o’n gweithgareddau trwyddedu rhywogaethau yn 2022:

Math


Ceisiadau a dderbyniwyd

Trwyddedau newydd / Trwyddedau a adnewyddwyd

Trwyddedau a ddiwygiwyd


Ceisiadau a wrthodwyd

Ceisiadau a nacawyd

Trwyddedau a dynnwyd yn ôl

Trwyddedu Rhywogaethau

 1,882 

1,316

321

112

22

111

Trwyddedu Gwastraff

Mae rheoleiddio dulliau priodol o gynhyrchu, rheoli a gwaredu gwastraff yn agwedd hollbwysig ar ein gweithgareddau rheoleiddio. Er ein bod yn hyrwyddo cynnydd tuag at economi gylchol, mae gwastraff yn dal i fod yn agwedd bwysig ar weithgareddau busnesau a chartrefi, gan esgor ar gyfran fawr o’r digwyddiadau yr ymatebwn iddynt. Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau gwastraff trwy gyfrwng y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) a hefyd trwy gyfrwng nifer o gynlluniau trwyddedu penodol, a nodir isod.

Ar ddiwedd 2022, roedd 748 o drwyddedau (669 o drwyddedau gwastraff, 65 o drwyddedau offer symudol, 14 o drwyddedau gwastraff mwyngloddio) mewn grym. O blith y rhain, roedd 569 yn safleoedd gweithredol.

Cofrestru Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff

Mae’r gyfundrefn ar gyfer Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff yn rhan bwysig o’r modd y rheoleiddiwn y diwydiant gwastraff. Rhaid i bawb sy’n cludo gwastraff, sy’n broceru gwastraff neu sy’n delio mewn gwastraff gofrestru. Rhaid i’r rhai sy’n cludo gwastraff gofrestru fel cludwyr gwastraff. Mae broceriaid yn trefnu i gludo, gwaredu neu adfer gwastraff busnesau neu sefydliadau. Mae delwyr yn prynu ac yn gwerthu gwastraff neu’n defnyddio asiant i wneud hynny. Fel arfer, mae’r rhai sy’n perthyn i’r ‘Haen Uchaf’ yn trin gwastraff pobl eraill, tra mae’r rhai sy’n perthyn i’r ‘Haen Isaf’ yn trin eu gwastraff eu hunain. Gellir codi tâl am fod yn perthyn i’r Haen Uchaf. Bydd y cofrestriad y para am dair blynedd a rhaid ei adnewyddu er mwyn gallu parhau i weithredu ar ôl y cyfnod hwnnw. Nid oes yn rhaid talu i fod yn perthyn i’r Haen Isaf ac ni ddaw’r cofrestriad hwnnw byth i ben.

Mae gennym rôl hollbwysig o ran rheoleiddio’r gyfundrefn sy’n ymdrin â Chludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff, ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner yn cynnwys Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) er mwyn sicrhau bod gwastraff yn cael ei drin yn briodol. Gall gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon a thipio anghyfreithlon achosi llygredd, gallant effeithio ar iechyd pobl ac ar ein cymunedau a gallant danseilio busnesau cyfreithlon. Rydym yn cadw cofrestr gyhoeddus o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff – yn achos pawb sy’n trosglwyddo gwastraff, dylent edrych ar y rhestr hon i gadarnhau bod y cludydd gwastraff wedi’i gofrestru. Gelwir hyn yn Ddyletswydd Gofal Gwastraff, ac mae’n rhan o’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer rheoli gwastraff yn effeithiol ac yn ddiogel.

Byddwn yn dirymu neu’n gwrthod cofrestriadau ar gyfer cludwyr, broceriaid a delwyr Haen Uchaf os oes ganddynt gofnod troseddol ac os nad ydynt yn gymwys i drin gwastraff – er enghraifft, os ydynt wedi’u cael yn euog o gyflawni troseddau amgylcheddol fel tipio anghyfreithlon. Mae hyn yn helpu i leihau cyfleoedd i weithredwyr troseddol fynd i’r afael â gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon.

Ar ddiwedd 2022, roedd 12,767 o gofrestriadau ar gyfer Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff ar ein cofrestr gyhoeddus – sef 5,146 yn yr Haen Uchaf a 7,621 yn yr Haen Isaf.  Roedd 4,838 o’r cofrestriadau hyn ar gyfer cwmnïau, 285 ar gyfer elusennau/mudiadau gwirfoddol, 940 ar gyfer partneriaethau a 234 ar gyfer cyrff cyhoeddus. Roedd gweddill y cofrestriadau ar gyfer unigolion (6,469).

Yn ystod 2022, derbyniwyd 1,991 o gofrestriadau newydd ar gyfer Cludwyr, Broceriaid a Delwyr Gwastraff – 1,310 yn yr Haen Uchaf a 681 yn yr Haen Isaf. Hefyd, derbyniwyd 907 o geisiadau i adnewyddu cofrestriadau Haen Uchaf.

Gwastraff: Unigolion Cofrestredig Uniongyrchol ar gyfer Deunyddiau Pacio 2022

Roedd 26 o unigolion cofrestredig uniongyrchol wedi’u cofrestru yn 2022, sef lleihad o bedwar o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan nad oeddynt o dan rwymedigaeth mwyach neu gan eu bod wedi dewis cofrestru trwy gyfrwng cynlluniau cydymffurfio. Yn ystod 2022, fe wnaeth yr unigolion cofrestredig hyn drin cyfanswm o 211,158 tunnell o ddeunyddiau pacio. Cyflwynodd pob un o’r unigolion cofrestredig ar gyfer 2022 eu cofrestriadau erbyn y dyddiad cau.

Cyfanswm y rhwymedigaeth ailgylchu ar gyfer unigolion cofrestredig yn 2022 oedd 38,643. Roedd hyn yn cynnwys rhwymedigaeth ailgylchu deunydd-benodol o 26,346 tunnell a rhwymedigaeth ailgylchu gyffredinol o 12,297 tunnell.

Gwastraff: Achredu ailbroseswyr ac allforwyr deunyddiau pacio

Yn 2022, fe wnaethom achredu 29 o ailbroseswyr ac allforwyr – roedd 21 ohonynt yn ailbroseswyr ac roedd wyth ohonynt yn allforwyr. Cyflwynodd pob un o’r ailbroseswyr a’r allforwyr eu ffurflenni chwarterol; roedd un yn hwyr gan ein bod wedi gofyn am gyflwyno addasiadau.  Cafodd cyfanswm o 619,837 o dunelli o ddeunyddiau pacio eu hailbrosesu a’u hallforio yn 2022. Hawliwyd Nodyn Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio (PRN) / Nodyn Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio drwy Allforio (PERN) ar 609,746 o dunelli.

Gwastraff: Awdurdodi trin Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff

Y dyddiad cyflwyno blynyddol ar gyfer achredu Cyfleusterau Trin Awdurdodedig Cymeradwy yw diwedd mis Medi. Ein dyddiad cau ar gyfer penderfynu ar geisiadau a chyflwyno hysbysiadau cymeradwyo yw 31 Rhagfyr. Yn 2022, derbyniwyd pob un o’r pymtheg cais cyn neu ar 30 Medi, gan roi cyfle inni asesu a chymeradwyo’r holl geisiadau cyn 1 Ionawr 2023.

Mae esemptiad T11 yn caniatáu ichi atgyweirio, ailwampio neu ddatgymalu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff o wahanol fathau, fel y gellir ailddefnyddio’r Cyfarpar neu unrhyw ran ohono ar gyfer y diben gwreiddiol, neu ei adfer. Ar ddiwedd 2022, roedd 29 o esemptiadau T11 yng Nghymru wedi’u cofrestru gyda ni.

Gwastraff: Achredu trin batris

Ceir tri safle yng Nghymru sy’n Allforwyr Cymeradwy ac yn Weithredwyr Trin Batris Cymeradwy mawr. Mae dau ohonynt yn trin batris diwydiannol, modurol a symudol, ac mae un ohonynt yn trin batris modurol yn unig. Cyflwynodd y tri safle ddatganiad blynyddol yn 2022. Erbyn diwedd 2022, roedd cyfanswm o 36,631 o dunelli o fatris wedi cael eu trin yng Nghymru – 34,728 tunnell o fatris diwydiannol a modurol a 1,903 tunnell o fatris symudol. Cofrestrwyd Allforiwr Batris Achrededig newydd yn gynnar yn 2023.

Roedd pump o gynlluniau cydymffurfio ar gyfer cynhyrchwyr batris wedi’u cofrestru yng Nghymru. Yn 2022, prynwyd 18,636 o nodiadau tystiolaeth batris gan gynhyrchwyr.

Gwastraff: Cludo Gwastraff Rhyngwladol

Yn 2022/23, derbyniwyd 27 o geisiadau hysbysu ar gyfer allforio hyd at 773,478 tunnell o wastraff ac 19 o geisiadau hysbysu ar gyfer mewnforio 547,920 tunnell o wastraff.

Yn achos pob llwyth gwastraff unigol o’r fath, rhaid llenwi ffurflenni olrhain symudiadau a rhaid anfon y ffurflenni hyn gyda’r llwythi wrth iddynt gael eu hallforio neu eu mewnforio. Yn ystod 2022/23, fe wnaethom dderbyn a chofnodi 10,309 o ffurflenni olrhain symudiadau ar y system Cludo Gwastraff Rhyngwladol ar-lein.

Trwyddedau Adnoddau Dŵr a Thrwyddedau Gollwng Dŵr

Rydym yn gyfrifol am reoli a defnyddio dŵr yn effeithiol yng Nghymru, fel y gellir cydbwyso anghenion pobl ac anghenion yr amgylchedd naturiol. Gwneir hyn trwy roi trwyddedau tynnu dŵr a thrwyddedau cronni dŵr o dan y Ddeddf Adnoddau Dŵr. Rhaid gwneud cais am drwydded os ydych eisiau cronni dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr neu os ydych eisiau tynnu mwy nag 20 metr ciwbig (4,000 galwyn) o ddŵr y dydd o ryw ffynhonnell (afon neu nant, cronfa ddŵr, llyn neu bwll, camlas, tarddell, ffynhonnell danddaearol, doc, sianel, cornant, bae, aber, neu forgainc).

Heb drwyddedau adnoddau dŵr, gellid arwain at brinder yn y cyflenwad dŵr pe bai gormod o ddŵr yn cael ei dynnu’n barhaus neu pe bai gwaith yn cael ei wneud i rwystro neu lesteirio llif y dŵr mewn cyrsiau dŵr. Hefyd, gallai gweithgareddau o’r fath gynyddu llygredd mewn afonydd gan na fyddai’r llygryddion yn cael eu gwanhau’n ddigonol, gallent arwain at niweidio ecoleg a chynefinoedd, neu gallent beri inni fethu â defnyddio afonydd at ddibenion hamddena a phlesera. Trwy drwyddedu, gallwn reoli faint o ddŵr a gaiff ei dynnu a’i gronni er mwyn diogelu cyflenwadau dŵr a gwarchod yr amgylchedd.

Yn ystod 2022, fe wnaethom gwblhau’r rhaglen waith ar gyfer Awdurdodiadau Newydd er mwyn dod â thynwyr dŵr a oedd wedi’u hesemptio cyn hynny o dan reolaeth reoleiddiol trwy roi 108 o ‘drwyddedau Awdurdodiadau Newydd’ trosiannol (74 o drwyddedau llawn a 34 o drwyddedau trosglwyddo). Roedd modd i’r mwyafrif o’r tynwyr dŵr hyn dynnu dŵr yn gyfreithlon heb iddynt fod yn destun mesurau rheoli a anelai at ddiogelu tynwyr dŵr eraill neu amddiffyn yr amgylchedd; ond roedd tynwyr dŵr trwyddedig yn destun mesurau rheoli o’r fath. Roedd ambell un o’r tyniadau dŵr esempt hyn yn achosi niwed amgylcheddol, ac roedd rhai ohonynt wedi’u lleoli mewn ardaloedd a oedd eisoes o dan straen, ond roedd modd iddynt barhau i dynnu dŵr yn ddirwystr. Trwy ddwyn y tyniadau dŵr hyn o dan reolaeth reoleiddiol, bydd modd inni reoli adnoddau dŵr yn fwy effeithiol.

Hefyd, rydym yn rheoleiddio trwyddedau gweithgareddau gollwng dŵr a thrwyddedau gweithgareddau dŵr daear a roddir o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

Ym mis Mai 2023, roedd 2,059 o drwyddedau Adnoddau Dŵr mewn grym:

Math o Drwyddedau Adnoddau Dŵr

Cyfanswm

Trwyddedau tynnu llawn

1,174

Trwyddedau cronni dŵr

737

Trwyddedau trosglwyddo

32

Awdurdodiad Newydd – trwyddedau tynnu llawn

74

Awdurdodiad Newydd – trwyddedau trosglwyddo

34

Cyfanswm

2,051

Erbyn diwedd 2022, roeddem wedi gorffen asesu ychwaneg o drwyddedau, sef 113 o drwyddedau Adnoddau Dŵr a 474 o drwyddedau Gollwng Dŵr.

Trwyddedu morol

Mae ardal forol drwyddedadwy Cymru yn cynnwys ardal y glannau a’r rhanbarth alltraeth. Mae ardal y glannau yng Nghymru yn ymestyn 12 o filltiroedd môr tua’r môr o Benllanw Cymedrig y Gorllanw hyd at y terfyn tiriogaethol. Mae rhanbarth alltraeth Cymru yn ymestyn y tu hwnt i’r terfyn tiriogaethol ac mae’n cynnwys pob rhan o’r môr ym Mharth Cymru.

Mae angen trwydded forol ar gyfer mynd i’r afael â gweithgareddau trwyddedadwy, fel y’u diffinnir yn adran 66 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, oddi mewn i’r ardal forol drwyddedadwy. Rhoddir trwyddedau morol mewn bandiau gwahanol (sef bandiau 1, 2 a 3). Hefyd, mae ein tîm Trwyddedu Morol yn mynd i’r afael â rhai swyddogaethau statudol fel rhan o’r cam ôl-ganiatáu, megis amrywiadau, cyflawni amodau a chymeradwyo adroddiadau monitro. Ymhellach, mae’r tîm yn darparu Barn Sgrinio a Chwmpasu o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, fel y’u diwygiwyd, ac yn rhoi cyngor cyn ymgeisio ynghylch cynlluniau samplu gwaddodion ar gyfer rhai ceisiadau.

Yn gyffredinol, mae angen trwydded forol os bwriedir mynd i’r afael ag un neu fwy o’r gweithgareddau a restrir isod oddi mewn i’r ardal forol drwyddedadwy:

  • Gosod neu waredu unrhyw ddeunydd neu sylwedd, gan ddefnyddio cerbyd neu long/cwch. Nid yw gosod neu waredu â llaw yn weithgareddau morol trwyddedadwy
  • Gwaith adeiladu, addasu neu wella (yn cynnwys gwaith a gaiff ei hongian uwchben yr ardal forol drwyddedadwy a gwaith o dan wely’r môr, e.e. twnelau, pontydd a phierau)
  • Suddo llongau/cychod neu gynwysyddion arnofiol
  • Carthu
  • Llosgi gwrthrychau
  • Gosod a defnyddio ffrwydron
  • Cynaeafu neu dyfu dyframaeth (gwymon neu bysgod cregyn)

Mae’n bosib nad oes angen Trwydded Forol ar gyfer rhai gweithgareddau ac fe’u diffinnir fel gweithgareddau esempt.

Mae nifer o weithgareddau risg isel ac esempt i’w cael. Fodd bynnag, nid ystyrir bod gosod neu dynnu deunyddiau neu sylweddau trwy ddefnyddio cerbyd neu fad, neu osod neu dynnu deunyddiau neu sylweddau â llaw, yn weithgareddau morol trwyddedadwy.

Nodir isod y trwyddedau morol a roddwyd gennym yn 2022.

Math o gais

Y cyfanswm a roddwyd

Amrywiad 0 – Amrywiad CNC

7

Trwyddedau Morol – Band 3

6

Amrywiad 2 – Cymhleth – Band 3

1

Cyflawni Amodau – Band 3

34

Trwyddedau Morol – Band 1

34

Trwyddedau Morol – Band 2

24

Cwmpasu Sgrinio

3

Amrywiad 1 – Gweinyddol

1

Amrywiad 2 – Cymhleth – Band 2

6

Amrywiad 3 – Arferol

10

Cyflawni Amodau – Band 2

14

Cynllun Samplu

12

Cymeradwyo Gwaith Monitro

5

 

Trwyddedu pysgodfeydd dŵr croyw a mudol

Mae prynu trwyddedau pysgota â gwialen yn helpu i gynnal a rheoli’r stociau pysgod y mae pysgotwyr yn eu mwynhau. Ar ddiwedd 2022/23, roedd gan fwy na 33,727 o bobl drwydded bysgota yng Nghymru a phrynwyd 37,582 o drwyddedau. O blith y trwyddedau hyn, roedd 34,494 yn drwyddedau ar gyfer pysgota bras a physgota brithyllod ac roedd 3,088 yn drwyddedau ar gyfer pysgota eogiaid a brithyllod y môr.

Bras

Cyfanswm

Llawn 365

13,275

Anabl 365

1,450

Iau

1,715

Hŷn 365

7,098

Cyfanswm

23,538

 

Gwialen

Cyfanswm

Llawn 365

2,430

Anabl 365

312

Iau

692

Hŷn 365

296

Is-gyfanswm

3,730

Bras a Brithyllod

27,268

 

Tymor Byr

Cyfanswm

1 diwrnod

5,859

1 diwrnod i bobl hŷn

293

8 diwrnod

1,018

8 diwrnod i bobl hŷn

55

Is-gyfanswm

7,226

Cyfanswm ar gyfer Bras a Brithyllod

34,494

 

Pysgod Eogaidd Mudol

Cyfanswm

Llawn 365

1,299

Anabl 365

119

Iau

269

Hŷn 365

1,148

Cyfanswm

2,835

 

Pysgod Eogaidd Mudol – Tymor Byr

Cyfanswm

1 diwrnod

178

1 diwrnod i bobl hŷn

14

8 diwrnod

49

8 diwrnod i bobl hŷn

12

Is-gyfanswm

253

Cyfanswm ar gyfer Eogiaid

3,088

 

Math

Cyfanswm

Cyfanswm y trwyddedau a werthwyd yng Nghymru

37,582

Pysgotwyr yng Nghymru

33,727

 

Hefyd, rydym yn trwyddedu pysgodfeydd rhwydi masnachol ar ddeg o afonydd yng Nghymru. Yn 2023, fe wnaethom roi trwydded i 39 o bysgotwyr rhwydi eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru (gweler y tabl isod). Sylwer: ers 2020, rhaid rhoi pob eog yn ôl yn y dŵr, heb ei niweidio; dim ond brithyllod y môr y gall pysgotwyr rhwydi eu cadw.

Pysgodfa

Dull

Y trwyddedau a roddwyd

Afon Cleddau

Rhwyd gwmpas

5

Afon Nevern

Rhwyd sân

1

Afon Taf

Cwrwgl

1

Afon Taf

Rhwyd fracso

1

Afon Teifi

Cwrwgl

9

Afon Teifi

Rhwyd sân

1

Afon Towy

Cwrwgl

5

Afon Towy

Rhwyd sân

2

Afon Conwy

Rhwyd sân

3

Afon Conwy

Trap lledr

0

Afon Dyfi

Rhwyd sân

2

Afon Dysynni

Rhwyd sân

0

Afon Mawddach

Rhwyd sân

1

Afon Wye

Rhwyd gafl

8

Cyfanswm

-

39

 

Rheoleiddio sylweddau ymbelydrol

Ni yw’r rheoleiddiwr amgylcheddol ar gyfer safleoedd niwclear yng Nghymru. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cwmnïau niwclear a’r safleoedd a weithredir ganddynt yn bodloni safonau uchel mewn perthynas â diogelu’r amgylchedd drwy gydol y camau cynllunio, adeiladu, gweithredu a datgomisiynu.
Bydd cwmnïau sy’n dymuno adeiladu neu weithredu cyfleuster niwclear newydd yng Nghymru (er enghraifft, gorsaf ynni niwclear neu gyfleuster gwaredu daearegol) angen gwneud cais i ni am drwyddedau a chaniatadau o wahanol fathau.

Hefyd, byddant angen:

  • trwydded safle niwclear a chaniatadau perthnasol gan y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR)
  • caniatadau cynllunio gan yr awdurdod perthnasol

Mae’r trwyddedau amgylcheddol a roddwn i weithredwyr safleoedd niwclear yn cynnwys amodau llym (rheolau). Rhaid iddynt ddilyn yr amodau hyn bob amser. Pwrpas amodau o’r fath yw sicrhau na fydd gweithgareddau’r gweithredwr yn peri niwed i bobl nac i’r amgylchedd.

Rheoleiddio niwclear: y cam cynllunio

Dechreuodd Cam 1 (Cychwyn) Asesiad Cynllun Generig Rolls-Royce SMR ym mis Ebrill 2022, a pharhaodd am 12 mis. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid rheoleiddio, sef Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear, a hefyd gyda’r Parti sy’n Gofyn, sef Rolls-Royce SMR Ltd, er mwyn ceisio pennu cynllun generig derbyniol o safbwynt Cymru. Rhoddwyd Cam 2 yr Asesiad Cynllun Generig (Asesiad Sylfaenol) ar waith ym mis Ebrill 2023. Proses wirfoddol yw’r Asesiad Cynllun Generig, ac mae’n cyfrannu at broses gymeradwyo gynhwysfawr yn ymwneud ag amrywiaeth o reoleiddwyr. Gan mai ystyried y cynllun generig a wneir yn yr Asesiad Cynllun Generig, nid yw’n gysylltiedig â phennu lleoliadau posibl ar gyfer y cynlluniau. Rhaid cael caniatadau ac asesiadau eraill sy’n ymwneud yn benodol â’r safle.

Hefyd, rydym wedi cysylltu â’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear ynglŷn â Thechnolegau Niwclear Uwch a thechnolegau ymasiad y gellid eu defnyddio yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol, gan ystyried y goblygiadau rheoleiddio posibl sydd ynghlwm wrth y systemau uwch hyn.

Sylweddau ymbelydrol anniwclear

Ar hyn o bryd, ceir 113 o drwyddedau sy’n cwmpasu 88 o safleoedd ledled Cymru, lle defnyddir ffynonellau agored neu ffynonellau wedi’u selio. Rhestrir y gweithgareddau hyn o dan Atodlen 23 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR 2016). Mae’r defnydd a wneir ohonynt yn amrywio o ymchwil a thriniaethau meddygol i ddulliau mesur a phrofi mewn lleoliadau diwydiannol. Ystyrir bod y gweithgareddau hyn mewn perthynas â sylweddau ymbelydrol yn “anniwclear” gan na chânt eu lleoli mewn safleoedd niwclear trwyddedig.

Yn 2002 fe wnaethom bennu 14 o drwyddedau, ynghyd â dau amrywiad ychwanegol i drwyddedau o dan arweiniad CNC. Roedd y ceisiadau’n cynnwys chwe amrywiad, dwy drwydded newydd, pum achos o ildio trwyddedau a dau drosglwyddiad. Erbyn hyn, mae’r holl drwyddedau hŷn wedi cael eu diweddaru er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thempled Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Diogelwch Cronfeydd Dŵr

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 397 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru gyda ni.

Cydymffurfio

Un agwedd yn unig ar reoleiddio effeithiol yw rheoliadau a thrwyddedau. Mae hi’n hanfodol inni gynnal archwiliadau cydymffurfio er mwyn sicrhau y cedwir at reoliadau a thrwyddedau. Mae archwiliadau ffisegol yn rhan hanfodol o reoleiddio, ond hefyd rydym yn casglu gwybodaeth o bell ac yn dadansoddi adroddiadau, gweithdrefnau, cynlluniau a data gweithredwyr er mwyn asesu perfformiad. Gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig darlun da inni, a gallwn ddefnyddio’r darlun hwnnw i asesu a gydymffurfir â rheoliadau ac i ddiogelu’r amgylchedd, ein cymunedau a diwydiannau cyfreithlon.

Asesiadau cydymffurfio

Rydym yn anelu at gynnig dadansoddiad manwl o dueddiadau mewn perthynas â’n gwaith cydymffurfio. Rydym wedi pennu llinell sylfaen newydd, a gallwn ei defnyddio i ddechrau mesur tueddiadau. Mae’r llinell sylfaen hon yn adlewyrchu’r newidiadau sylweddol a gyflwynwyd i’n ffyrdd o weithio, sef newidiadau a roddwyd ar waith ar ôl y pandemig Covid. Dylem allu cyflwyno gwybodaeth fanylach ynglŷn â thueddiadau mewn adroddiadau a lunnir yn y dyfodol.

Asesiadau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a gynhaliwyd: Gwastraff a gweithfeydd

Nifer yr Adroddiadau Asesu Cydymffurfedd (ffurflenni CAR) a gwblhawyd ar gyfer asesiadau o wahanol fathau.

Math o asesiad

Gweithrediadau Gwastraff

Gweithfeydd

Archwilio safleoedd

346

171

Archwilio

15

51

Adolygu adroddiadau/data

45

405

Gwirio gwaith monitro/samplu

2

33

Arall

6

19

Cyfanswm

414

679

 

Gweithrediadau Gwastraff – cynhaliwyd 414 o asesiadau ar gyfer 265 o drwyddedau.

Gweithfeydd – cynhaliwyd 679 o asesiadau ar gyfer 194 o drwyddedau.

 

Diffyg Cydymffurfio

Nifer yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a gofnodwyd yn erbyn amodau trwyddedau:

Math o ddiffyg cydymffurfio

Gweithrediadau Gwastraff

Gweithfeydd

C1 - Mawr

0

2

C2 - Sylweddol

31

34

C3 - Bach

202

464

C4 - Dim effaith amgylcheddol

75

120

Cyfanswm yr achosion o ddiffyg cydymffurfio

308

620

O Diffyg cydymffurfio parhaus – dim sgôr

40

11

X Gweithredu yn unig

280

306

 

Bandiau

Y nifer o safleoedd yn ôl bandiau cydymffurfio ar ddiwedd 2022.

Band

Gweithrediadau Gwastraff (safleoedd gweithredol)

Gweithfeydd

A - Da

455

121

B

86

67

C

9

29

D

11

10

E

7

12

F - Gwael

1

3

 

EPR – Ffermio Dwys

Yn 2022, roedd 130 o drwyddedau Ffermio Dwys ar waith ar ddiwedd 2022 a chafodd 62 o safleoedd eu hasesu gennym.

Diffyg cydymffurfio

Cyfanswm

C1 - Mawr

0

C2 - Sylweddol

0

C3 - Bach

57

C4 - Dim effaith amgylcheddol

94

Cyfanswm yr achosion diffyg cydymffurfio

151

X Gweithredu yn unig

5


Cydymffurfio o ran Coedwigaeth

Deddf Coedwigaeth 1967

Cyfanswm

Archwilio Trwyddedau

118

Archwilio Hysbysiadau

8

Hysbysiadau Ailstocio a Roddwyd

19

Hysbysiadau Gorfodi a Roddwyd

7

Llythyrau Rhybuddio a Roddwyd

18

Erlyniadau

2

Achosion Gorfodi ar y Gweill ar ddiwedd y flwyddyn

16

 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Cyfanswm

Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol a Roddwyd

231

Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol a Archwiliwyd

255

Cyfanswm yr achosion diffyg cydymffurfio a gofnodwyd

124

 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Cyfanswm

Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol a Archwiliwyd

255

Cyfanswm yr achosion diffyg cydymffurfio a gofnodwyd

124

 

Mae’r cyfnodau cydymffurfio sy’n berthnasol i Hysbysiadau Ailstocio, Hysbysiadau Gorfodi a Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol yn amrywio o rai misoedd i sawl blwyddyn. Efallai y bydd yn ofynnol cydymffurfio â Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol oddi mewn i gyfnod llawer byrrach er mwyn sicrhau bod plâu a chlefydau naill ai’n cael eu dileu neu’n cael eu rheoli. Efallai y bydd y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â Hysbysiadau Ailstocio a Hysbysiadau Gorfodi yn ymestyn dros sawl blwyddyn er mwyn sicrhau y caiff coed eu plannu yn unol ag arferion gorau coedwigaeth ac er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle gorau i ymsefydlu. Gall achosion diffyg cydymffurfio amrywio o ardaloedd bach lle gwelir bod yr ailblannu wedi methu neu lle gadawyd coed heintiedig ychwanegol i sefyll, i achosion lle methwyd yn llwyr â mynd i’r afael â’r gwaith a bennwyd yn yr hysbysiad.

Gweithrediadau Gwastraff

Mae yna 749 o weithfeydd a gweithrediadau Gwastraff oddi mewn i Fandiau A, B ac C, a cheir 44 o safleoedd ym Mandiau D, E ac F. Mae diffyg cydymffurfio o ryw fath yn perthyn i’r holl safleoedd ac eithrio’r rhai ym mand A. Ystyrir bod y safleoedd sydd ym mandiau D, E ac F yn perfformio’n wael. Mae’r rhain yn cyfateb i bedwar y cant o’r holl safleoedd yn y sector gwastraff (yn cynnwys gweithfeydd gwastraff a safleoedd tirlenwi).

Mae gennym 12 o safleoedd diwydiannol, gweithfeydd gwastraff a safleoedd tirlenwi â thrwyddedau bandiau D, E neu F ers dwy flynedd neu fwy yn olynol.

Cynlluniau Cydymffurfio ar gyfer Deunyddiau Pacio

Parhaodd Cynllun Cydymffurfio Ailgylchu Cymru â’i gofrestriad gyda ni yn 2022. Mae gan y cynllun 62 o aelodau, ac o blith y rhain lleolir 37 ohonynt yng Nghymru. Mae oddeutu 230 o gynhyrchwyr sy’n gweithredu yng Nghymru wedi cofrestru gyda chynllun a reoleiddir gan Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA), Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA) ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Monitro cydymffurfedd wrth drin Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff

Oherwydd cyfyngiadau o ran adnoddau a’r ffaith ein bod yn blaenoriaethu ein gwaith ar sail risg, ymwelwyd â safle un Cyfleuster Trin Awdurdodedig Cymeradwy. Hefyd, fe wnaethom gynorthwyo ein cydweithwyr TFS gyda gwaith cydymffurfio’n ymwneud â Chyfleuster Trin Awdurdodedig Cymeradwy ac aethom ati i gynnig arweiniad ar ddau Gyfleuster Trin Awdurdodedig Cymeradwy a oedd wedi newid perchnogaeth a gweithrediadau.

Gwastraff peryglus:

Mae cydymffurfedd derbynwyr o ran cyflwyno ffurflenni wedi parhau i wella yn 2022. Yn 2022, cwblhawyd deg o archwiliadau nodiadau cludo a gwelwyd bod y mwyafrif o’r safleoedd a archwiliwyd yn cydymffurfio’n fras â’u cyfrifoldebau.

Mae ein data’n dangos bod Ystadau Diwydiannol yn fannau lle ceir diffyg dealltwriaeth cyffredinol ynglŷn â gwastraff peryglus gan weithredwyr ar y gofyniad i gofrestru fel cynhyrchwyr gwastraff peryglus na pha broses i’w dilyn ar gyfer gwneud hynny.

Cynhaliwyd pedwar Archwiliad o’r Crud i’r Bedd yn 2022.

Gosodiadau sy’n cynhyrchu'r symiau mwyaf o wastraff peryglus yng Nghymru. Yn 2022 gwnaethom gynnal ymgyrch i archwilio pob purfa yng Nghymru, ac ar ddiwedd 2022, cwblhawyd pob archwiliad heblaw un ac mae’r data’n cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd prosiect yn ymwneud â’r posibilrwydd bod priddoedd sy’n cyrraedd safleoedd trosglwyddo/trin gwastraff yn cael eu camddosbarthu. Aethom ati i archwilio 28 o safleoedd a chymerwyd 226 o samplau o bridd ac aethpwyd ati i’w dadansoddi’n gemegol. Dangosodd hyn y dylai 30 (13.2%) allan o'r 226 o samplau fod wedi'u dosbarthu fel gwastraff peryglus.

Rydym yn rhoi dull newydd ar waith ar gyfer Archwiliadau Gofal Iechyd yn 2023/24, gan weithio gyda’r byrddau iechyd i’n cynorthwyo i bwysleisio pa mor bwysig yw cydymffurfio â’n gweithgareddau rheoleiddio yn y sector gofal iechyd. Ein targed yw ymweld ag o leiaf ddeg y cant o gynhyrchwyr gwastraff gofal iechyd bach (meddygon teulu) yng Nghymru. Hefyd, rydym yn bwriadu cynllunio prosiect ar gyfer cynnal o leiaf ddau o archwiliadau mawr mewn ysbytai yng Nghymru, a bennir trwy gynnal dadansoddiad risg ar y gwastraff a gynhyrchir ganddynt.

Yn y sector gwastraff peryglus, canfuwyd bod gan gynhyrchwyr ddibyniaeth ar gontractwyr gwastraff yn y sector i ddosbarthu gwastraff, llenwi gwaith papur a rheoli gwastraff ar y safle. Ymhlith y problemau cyffredin a nodwyd gennym mae camddosbarthu gwastraff a nodiadau cludo anghyflawn / anghywir.

Gwelsom mai gwastraff deunyddiau pacio oedd y gwastraff a gâi ei gamddosbarthu’n bennaf, a gwelwyd hefyd bod ffurflenni derbynwyr coll yn broblem fawr.

Taclo Tipio Cymru

Menter a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a gydgysylltir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw Taclo Tipio Cymru. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau allweddol, yn cynnwys 22 Awdurdod Lleol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus, Network Rail, Dŵr Cymru Welsh Water, Gwasanaethau Tân, a’r Heddlu. Mae Taclo Tipio Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol mewn sawl ffordd, er enghraifft mae’n eu cynorthwyo i orfodi ac mae’n rhannu arferion gorau gyda nhw. Cartref (flytippingactionwales.org)

Aethom ati i arwain prosiect tipio, sef un o blith 24 o brosiectau unigol a oedd yn rhan o’r Bartneriaeth Lefelau Byw, sy’n ymdrin â Gwastadeddau Gwent. Mae Lefelau Byw yn bartneriaeth draws-sefydliadol. Mae’n cwmpasu ffiniau gweinyddol ac mae’n gweithio’n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid eraill fel bod modd rheoli’r tirwedd hwnnw’n gynaliadwy. Bu cam cyflawni’r prosiect ar waith rhwng 2018 a 2012.

Taclo Troseddau Gwastraff

Menter gan Cyfoeth Naturiol Cymru yw Taclo Troseddau Gwastraff, ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r fenter yn rhoi dulliau arloesol ar waith er mwyn ceisio atal troseddau gwastraff. Mae’r fenter yn cynnwys tîm o swyddogion a leolir ledled Cymru.

Mae Taclo Troseddau Gwastraff wedi bod yn ategu gweithgareddau gorfodi ar ystad fasnachu yn Ne Cymru. Amheuwyd bod gwastraff wedi’i ollwng yn anghyfreithlon mewn gwahanol leoliadau ar y safle. Arweiniodd ein gwaith at gyflwyno hysbysiadau er mwyn helpu i glirio’r gwastraff.

Rhoddwyd Prosiect Gwastadeddau Gwent ar waith gennym yn 2020 oherwydd problemau parhaus yn ymwneud â throseddau amgylcheddol (troseddau gwastraff yn benodol) yn ardal Gwastadeddau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Gofynnwyd i Taclo Troseddau Gwastraff gymryd rhan yn y prosiect tua diwedd 2022. Erbyn hyn, rydym wrthi’n rhoi ambell ddull newydd ar waith, gyda’r nod o leihau troseddau gwastraff yn yr ardal.

Yn Ne Cymru, rydym yn rhoi dull rhagweithiol ar waith ar gyfer asesu pa mor ddilys yw unigolion a chwmnïau sy’n hysbysebu gwasanaethau gwastraff. Hyd yn hyn, mae’r gwaith hwn wedi dod o hyd i 181 o hysbysebwyr; mae’r mwyafrif o’r rhain yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld a ydynt yn meddu ar y caniatadau rheoleiddio priodol i fynd i’r afael â’r gweithgareddau a hysbysebir ganddynt. Rydym wedi anfon hysbysiadau atynt er mwyn cael gafael ar nodiadau trosglwyddo gwastraff, a hefyd rydym wrthi’n blaenoriaethu camau pellach.

Yng Ngogledd Cymru, rydym wedi bod yn cynnal prosiect ar gyfer archwilio mwy na 40 o Weithredwyr Sgipiau – sef gwirio eu bod yn gallu gweithredu’n gyfreithlon ar draws amrywiaeth o baramedrau. Gwelwyd bod y mwyafrif o’r busnesau yn meddu ar yr awdurdodiadau priodol i weithredu’n gyfreithlon. Cynhaliwyd ymchwiliadau pellach ar nifer fechan ohonynt, ac mae timau rheoleiddio lleol yn ymchwilio i rai o’r busnesau hyn.

Tua diwedd 2022, rhoddasom wybod i ffermwyr, trwy gyfrwng NFU Cymru, am y peryglon sy’n perthyn i ganiatáu i unigolion a chwmnïau ollwng gwastraff ar eu tir o dan esemptiadau. Yn aml, mae gweithredwyr diegwyddor yn chwilio am leoliadau rhad i ollwng eu gwastraff, gan honni bod popeth yn cael ei wneud yn gyfreithlon o dan esemptiad. Mae meini prawf llym yn perthyn i esemptiadau ac maent yn cyfyngu ar faint o wastraff y gellir ei storio neu ei ddefnyddio dros gyfnodau arbennig. Pan gaiff esemptiadau eu camddefnyddio, mae’n bosibl y bydd CNC yn cynnal ymchwiliad ac yn cymryd camau gorfodi.

Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Ers 2018, rydym wedi gweithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru. Mae Awdurdod Cyllid Cymru, sy’n casglu ac yn rheoli’r dreth, wedi dirprwyo rhai swyddogaethau cydymffurfio i ni mewn perthynas â’r dreth, a chaiff y swyddogaethau hyn eu cyflawni gan ein tîm Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r bartneriaeth wedi datblygu’n drefniant cydweithredu buddiol, lle eir ati i rannu arbenigedd a gwybodaeth er mwyn mynd i’r afael â throseddau gwastraff ac atal a thaclo diffyg cydymffurfio posibl yn y sectorau gwastraff cyfreithlon ac anghyfreithlon. Y nod yw sicrhau y rhoddir y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar waith mewn modd sy’n ategu amcanion amgylcheddol ehangach CNC a Llywodraeth Cymru.

Gwyddys yn gyffredin fod y rhai sy’n ymhél â throseddau gwastraff yn gwneud hynny er budd ariannol, a’u bod yn mentro gollwng gwastraff yn anghyfreithlon er gwaethaf y posibilrwydd y cânt eu herlyn. Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru y grym i godi tâl am waredu gwastraff yn anghyfreithlon – y nod yn hyn o beth yw datgymell unigolion rhag cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, gan y gallent wynebu bil treth mawr. Er enghraifft, byddai 150 tunnell o wastraff yn ôl y gyfradd ar gyfer gwaredu anawdurdodedig yn 2022/2023 – sef £147.90 fesul tunnell – yn esgor ar fil treth a fyddai’n fwy na £22,000.

Yn ystod eleni, rydym wedi parhau i rannu gwybodaeth am y sector gwastraff. Mae’r wybodaeth hon wedi cyfrannu’n fawr at lunio polisïau Awdurdod Cyllid Cymru, yn cynnwys un polisi pwysig yn ymwneud â’r dull o gyfrifo gwarediadau gwastraff anawdurdodedig. Disgwylir y bydd yr hysbysiadau cyntaf ar gyfer casglu’r dreth hon yn cael eu cyflwyno yn 2023.

Cydymffurfio â Thrwyddedau Adnoddau Dŵr a rheolau gollwng dŵr

Rydym yn asesu a gydymffurfir ag amodau trwyddedau adnoddau dŵr trwy archwilio safleoedd, trwy fonitro llif a lefel y dŵr, trwy wirio data a thrwy fynd i’r afael â gwaith archwilio, yn cynnwys gwirio data ffurflenni tynnu dŵr (gwybodaeth gan ddeiliaid trwyddedau ynglŷn â faint yn union o ddŵr a dynnir ganddynt yn flynyddol). Rydym yn asesu a gydymffurfir ag amodau trwyddedau adnoddau dŵr trwy archwilio safleoedd, trwy fonitro gollyngiadau, trwy wirio data a thrwy fynd i’r afael â gwaith archwilio.

Rydym hefyd yn rheoleiddio trwyddedau gweithgareddau gollwng dŵr a gweithgareddau dŵr daear a roddir o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Ledled Cymru, mae gollyngiadau’n amrywio o weithfeydd trin carthion domestig bach i weithfeydd trin carthion trefol mawr a gollyngiadau masnachol, diwydiannol. Caiff oddeutu 60% o’r trwyddedau gollwng dŵr eu dal gan ddau gwmni dŵr– sef Dŵr Cymru Welsh Water a Hafren Dyfrdwy. Ers 2010, mae’r cwmnïau dŵr wedi bod yn mynd i’r afael â gwaith hunanfonitro. Hefyd, rydym yn cynnal asesiadau cydymffurfio blynyddol ar berfformiad amgylcheddol y cwmnïau dŵr, gan lunio adroddiadau allanol a chyflwyno i Ofwat y ffurflenni data a ddefnyddir gan y cwmnïau i fonitro eu perfformiad.

Ar ôl cynnal asesiad cydymffurfio, rydym yn cofnodi ein canfyddiadau mewn Adroddiad Asesu Cydymffurfedd, gan nodi unrhyw amodau a dorrwyd mewn perthynas â’r drwydded a chan bennu camau unioni a/neu gamau i leihau’r risg y bydd yr un peth yn digwydd eto. Erbyn diwedd 2022, cwblhawyd yr asesiadau cydymffurfedd canlynol.

Adroddiadau Asesu Cydymffurfedd

Trwyddedau Adnoddau Dŵr

Trwyddedau Gollwng Dŵr

Cydymffurfio

50

118

Ddim yn cydymffurfio

63

356

Y cyfanswm a aseswyd

113

474

 

Rydym yn asesu’r effaith bosibl sydd ynghlwm wrth unrhyw dor-amod y deuwn ar ei draws. Rydym yn categoreiddio tor-amodau o’r fath ar ffurf C1-C4. Mae’n bosibl y byddwn yn cofnodi mwy nag un tor-amod wrth gynnal asesiad cydymffurfio, a dyna pam mae nifer y tor-amodau yn y tabl isod yn uwch na nifer yr asesiadau cydymffurfio a nodir uchod.

Tor-amodau a gofnodwyd

Trwyddedau Adnoddau Dŵr

Trwyddedau Gollwng Dŵr

C1 – Gallai diffyg cydymffurfio arwain at effaith amgylcheddol fawr

1

3

C2 – Gallai diffyg cydymffurfio arwain at effaith amgylcheddol sylweddol

14

31

C3 – Gallai diffyg cydymffurfio arwain at effaith amgylcheddol fach

72

187

C4 – Diffyg cydymffurfio heb unrhyw effaith amgylcheddol bosibl

16

204

Cyfanswm y tor-amodau a gofnodwyd

103

425

Rydym yn llunio adroddiadau perfformiad blynyddol ar gyfer Dŵr Cymru Welsh Water a Hafren Dyfrdwy. Mae’r rhain ar gael ar ein gwefan:

Hefyd, rydym wedi llunio adroddiad ar wahân yn ymwneud â gollyngiadau ysbeidiol (gorlifoedd storm). Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan:

Cydymffurfio o ran Trwyddedu Rhywogaethau

Yn 2022, fe wnaethom drosglwyddo 38 o ddigwyddiadau i ddwylo’r heddlu fel y gellid ymchwilio i achosion o beidio â chydymffurfio ag amodau trwyddedau neu waith a ddechreuwyd heb drwydded. Hefyd, fe wnaethom gynorthwyo’r heddlu gyda sawl ymchwiliad, gan gynnig cyngor arbenigol, gwybodaeth am drwyddedau a datganiadau tyst.

Cydymffurfio o ran pysgodfeydd dŵr croyw a mudol

Yn 2020, fe wnaethom gyflwyno is-ddeddfau newydd i sicrhau bod eogiaid a gâi eu dal â rhwydi a gwialenni yn cael eu dychwelyd i’r dŵr, a hefyd i fyrhau’r tymor rhwydo ar gyfer brithyllod môr. Ymhellach, roedd yr is-ddeddfau hyn yn cyfyngu ar y dulliau y gallai pysgotwyr eu defnyddio, gyda’r nod o wella cyfraddau goroesi dal a rhyddhau. O’r herwydd, un o’n blaenoriaethau pwysig yn 2022 oedd sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r is-ddeddfau hyn.

Yn 2022, cynhaliodd ein swyddogion 1,580 o wiriadau Trwyddedau Gwialen, sef 1,059 o drwyddedau ar gyfer pysgota bras a physgota brithyllod y môr, 433 o drwyddedau ar gyfer pysgota eogiaid a 25 o drwyddedau iau. Y gyfradd osgoi oedd 5%.

Yn 2022, cynhaliodd ein swyddogion gorfodi 28 o wiriadau Rhwydi Cwrwgl ac 14 o wiriadau Rhwydi Sân.

Cydymffurfio o ran sylweddau ymbelydrol anniwclear

Mae ein swyddogion yn cynnal archwiliadau cydymffurfio mewn cyfleusterau sy’n defnyddio, yn cadw neu’n gwaredu sylweddau ymbelydrol a ddaw o dan EPR 2016. Caiff amlder yr archwiliadau eu pennu ar sail risg, gan ddibynnu ar y math o weithrediad sydd o dan sylw. Fe wnaethom lwyddo i archwilio 37 o drwyddedau, sef cyfran sylweddol o’r rhaglen arfaethedig ar draws Cymru yn 2022.

Er mwyn ategu gwaith y sector meddygol yn dilyn y pandemig, penderfynasom y byddem rywfaint yn hyblyg mewn perthynas â chydymffurfio â therfynau trwyddedau, cyn belled â bod y risgiau i’r amgylchedd ac i iechyd yn isel. Yn dilyn adolygiad, daeth y penderfyniad rheoleiddio hwn i ben ar 31 Mawrth 2022. Hefyd, fe wnaethom barhau i weithio ar brosiectau ledled y DU gyda grwpiau defnyddwyr yn cynnwys y sectorau meddygol a diwydiannol ac ar y cyd â rheoleiddwyr eraill yn y DU.

Diogelwch Cronfeydd Dŵr

A ninnau’n awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru, mae hi’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr cronfeydd dŵr yn cydymffurfio â’r safonau sylfaenol a bennir gan y gyfraith.

Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2023:

  • Proseswyd 96 o benodiadau’n ymwneud â Pheirianwyr Goruchwylio mewn cronfeydd dŵr risg uchel. Mae pedair cronfa ddŵr wedi cael hysbysiad i benodi Peiriannydd Goruchwylio.
  • Derbyniwyd a phroseswyd 177 o ddatganiadau gan Beirianwyr Goruchwylio.
  • Derbyniwyd 27 o adroddiadau archwilio ar gyfer cronfeydd dŵr risg uchel. Aethom ati i ddefnyddio ein pwerau gorfodi i gynnal archwiliad ar gronfa ddŵr amddifad.
  • Cofnodwyd 74 o fesurau diogelwch newydd a oedd yn angenrheidiol mewn 25 o gronfeydd dŵr, gan ddod â’r cyfanswm cyfredol i 261 o fesurau. Dyma gynnydd o 25% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd yna 45 o fesurau diogelwch hwyr, yn cynnwys rhai mewn cronfeydd dŵr amddifad – rydym yn defnyddio ein pwerau gorfodi i roi’r rhain ar waith. Cyflwynwyd hysbysiadau gorfodi ar gyfer tair cronfa ddŵr lle mae angen cwblhau gwaith diogelwch.
  • Trefnwyd cynlluniau argyfwng llifogydd ar gyfer 70% o gronfeydd dŵr risg uchel trwy gyfrwng mesurau gwirfoddol pan na fo cynlluniau o’r fath yn ofyniad statudol.

Bydd ein Hadroddiad Eilflwydd i Weinidogion Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2023 ar gael ar ein gwefan o fis Medi 2023.

Gorfodi

Gwyddom nad yw pawb yn cydymffurfio bob amser – weithiau trwy ddamwain, weithiau oherwydd rhesymau eraill. O’r herwydd, mae gorfodi yn arf hollbwysig inni ar gyfer diogelu ein hamgylchedd, atal llygredd a chefnogi’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Yn achos diffyg cydymffurfio neu weithgareddau anghyfreithlon, mae ein polisi Gorfodi a Sancsiynau yn nodi sut y dylem fynd i’r afael â gwaith gorfodi. Mae hyn yn sicrhau y bydd modd ymdrin â throseddau amgylcheddol mewn ffordd gadarn, deg a chymesur, gan ganolbwyntio ar atal a rhwystro niwed pellach i’r amgylchedd a chan ddwyn y rhai sy’n cyflawni troseddau i gyfrif. Bydd y dull gorfodi a ddewisir yn dibynnu ar ddifrifoldeb a natur y drosedd, a hefyd ar barodrwydd y troseddwr i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio. Mae ein Hopsiynau Ymateb i Droseddau yn nodi’r dulliau gorfodi sydd ar gael inni, yn cynnwys cynghori, rhybuddio, hysbysiadau gorfodi, sancsiynau sifil ac erlyn.

Efallai mai mân droseddau neu droseddau anfwriadol fydd rhai ohonynt. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd yn fwy buddiol inni addysgu’r rhai o dan sylw neu ddefnyddio dulliau llai ffurfiol. Gall hyn olygu rhoi cyngor ac arweiniad er mwyn atal troseddau tebyg rhag digwydd eto yn y dyfodol, neu ddefnyddio trefniadau gwirfoddol i annog cwmnïau ac unigolion i gymryd camau i ymdrin â’r niwed amgylcheddol a ddeilliodd o’r hyn a wnaethant. Fodd bynnag, mae rhai troseddau yn droseddau difrifol. Er mai ‘pan fetho popeth arall’ y byddwn yn troi at erlyn, byddwn yn dwyn cwmnïau ac unigolion gerbron y llys pan fo dulliau gorfodi eraill heb weithio neu pan fo’r drosedd yn arbennig o ddifrifol, a phan fo cymryd cam o’r fath er budd y cyhoedd.

Yn ystod 2022, bu’r cyhoedd a’r cyfryngau yn craffu mwyfwy ar ein dulliau rheoleiddio a gorfodi ar gyfer diogelu amgylchedd Cymru. Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn ceisiadau am wybodaeth ynglŷn â’n gweithgareddau gorfodi, yn enwedig o ran ein gwaith gorfodi mewn perthynas â’r diwydiant dŵr, llygredd dŵr a physgodfeydd.

Mewn ymateb i’r diddordeb cynyddol hwn, pan fo modd rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion yn y rhan hon o’r adroddiad, a hefyd rydym wedi cyflwyno ychwaneg o astudiaethau achos.

Dylid nodi y gall ein gweithgareddau gorfodi gwmpasu sawl cyfnod adrodd mewn ambell achos. Daw hyn yn fwy amlwg pan fydd swyddogion yn cyfrannu at ymchwiliadau cymhleth, yn enwedig ymchwiliadau sy’n gysylltiedig ag asiantaethau gorfodi eraill fel yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol. Gall hyn arwain at oedi rhwng y digwyddiad gwreiddiol a chwblhau’r ymateb gorfodi. O’r herwydd, dylid cymryd gofal wrth fesur ein perfformiad gorfodi os canolbwyntir yn gyfan gwbl ar nifer y canlyniadau gorfodi a nifer yr erlyniadau.

Crynodeb Gorfodi 2022

Yn 2022, fe wnaethom gofnodi 849 o achosion gorfodi newydd a oedd yn cynnwys 889 o droseddwyr gyda 1,214 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Mae nifer y cyhuddiadau’n uwch na nifer yr achosion gan fod y troseddwyr, mewn ambell achos, wedi wynebu amryfal gyhuddiadau. Er bod ein gwaith gorfodi mewn perthynas â chyngor, arweiniad a rhybuddion yn cyd-fynd â blynyddoedd blaenorol, mae nifer yr hysbysiadau, y rhybuddiadau a’r erlyniadau’n cynyddu.

Isod, ceir manylion am ein cyhuddiadau gorfodi fesul rheoliad:

  • 494 o gyhuddiadau o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (41%)
  • 251 o gyhuddiadau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (21%)
  • 121 o gyhuddiadau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 (10%)
  • 106 o dan Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 (9%)
  • 45 o gyhuddiadau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (4%)
  • 31 o gyhuddiadau o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 (3%)
  • 26 o gyhuddiadau o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (2%)
  • 140 o gyhuddiadau o dan ddeddfwriaeth arall (12%)

Yn 2022, cynhyrchwyd rhyw 42% o achosion gorfodi trwy fynychu digwyddiadau. Deilliodd chwech y cant o achosion o faterion yn ymwneud â gwialen a lein mewn pysgodfeydd. Deilliodd y 52% a oedd yn weddill o archwiliadau cydymffurfio.

Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn 299 o gwmnïau a 590 o unigolion, gan arwain at 66 o erlyniadau llwyddiannus. Ar ddiwedd 2022, roedd 298 o achosion ychwanegol wedi’u rhestru fel “achosion cyfreithiol ar y gweill”.

Dengys y tablau isod faint o ymatebion gorfodi a gymerwyd gennym yn unol â’n Polisi Gorfodi a Sancsiynau, yn ôl cyfundrefn a math.

Gorfodi’n ymwneud ag Amaethyddiaeth

Math

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

Âr

7

1

7

7

8

9

6

Eidion

7

14

20

12

17

26

12

Llaeth

29

27

41

41

51

45

40

Coedwigaeth

6

13

10

13

24

59

59

Gerddi Marchnad/Garddwriaeth

1

-

-

-

2

-

1

Amaethyddol – Arall

20

13

18

23

42

40

39

Moch

1

-

1

1

1

1

1

Dofednod

4

3

2

2

3

6

3

Defaid

16

4

17

20

20

20

28

Stablau

-

2

2

8

8

17

11

Dim cofnod

4

7

10

6

6

4

9

Cyfanswm

95

84

128

133

182

227

209


Gorfodi’n ymwneud â’r Diwydiant Dŵr

Nodir crynodeb o'r camau gorfodi a gymerwyd yn erbyn cwmnïau dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2016 a 25 Ionawr 2023 yn y tablau isod:.

Cam gorfodi

Dŵr Cymru

Hafren Dyfrdwy

Erlyniadau

6

-

Rhybuddiadau Ffurfiol

19

-

Ymgymeriadau Gorfodi

8

 

-

Cosbau Sifil a Dalwyd

1

-

Llythyrau rhybuddio

342

11

Cyngor ac arweiniad

36

1

Ar y gweill

28

1

Dim gweithredu pellach

47

1

Hysbysiad y cydymffurfiwyd ag ef

3

-

Cyfanswm

490

15

 

Math

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

Gorlif Carthffosiaeth Gyfun

8

4

2

8

1

5

6

Carthffos Lifo

6

6

7

9

16

15

12

Diwydiant Dŵr – Arall Eiddo

2

1

1

2

3

5

6

Gorsaf Bwmpio

4

2

3

-

2

5

5

Prif Bibell

3

2

6

4

3

6

4

Gwaith Trin Carthion

8

4

4

3

7

6

4

Tanc Storm

-

1

1

-

1

-

-

Gollyngfa Dŵr Wyneb

-

-

-

1

2

1

1

System Dosbarthu Dŵr

-

2

5

2

5

13

6

Gwaith Trin Dŵr

14

7

15

17

29

48

24

Dim cofnod

1

1

-

-

2

2

4

Cyfanswm

46

30

44

46

71

106

72

 

Gorfodi’n ymwneud â Rheoli Dŵr

Math

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

Cyfleuster Compostio

-

1

2

-

-

-

1

Cyfleuster Gwasgaru/Adfer Esempt

4

3

4

5

4

6

2

Safle Gwastraff Cartrefi

6

9

13

4

-

2

3

Safle Tirlenwi Anadweithiol

1

-

-

1

5

3

1

Ailgylchu Metelau

13

11

16

11

8

17

15

Safle Tirlenwi nad yw’n Anadweithiol

5

3

6

2

3

2

2

Rheoli Gwastraff – Arall
Ffynhonnell

15

18

15

11

20

31

22

Gorsaf Drosglwyddo

49

44

38

38

30

28

13

Llosgydd Gwastraff

-

-

-

-

-

1

2

Dim cofnod

1

2

1

2

1

2

-

Cyfanswm

94

91

95

74

71

92

61

 

Gorfodi’n ymwneud â’r Sector Diwydiant

Math

2016

2017

2018

2019

2020

2021

2022

Amaethyddiaeth

-

-

-

-

1

1

-

Adeiladu

1

2

6

9

6

13

14

Addysg

-

-

-

-

-

1

1

Pysgota

1

-

1

-

1

-

-

Gwestai a Bwytai

1

-

-

-

-

2

3

Gweithgynhyrchu

6

1

7

5

4

9

6

Meddygol

-

-

1

1

1

-

-

Mwyngloddio, Chwarela, Echdynnu Deunyddiau

6

4

5

4

11

3

2

Cynhyrchu Ynni

2

-

-

-

1

2

-

Hamdden a Chwaraeon

-

1

1

-

1

1

2

Cludo, Storio, Cyfathrebu

2

-

2

2

3

3

4

Cyfleusterau Rheoli Gwastraff

4

1

3

5

2

5

1

Trin a Dosbarthu Dŵr

1

 

1

-

-

-

-

Cyfanwerthu a Manwerthu

-

-

2

2

1

1

2

Dim cofnod

3

-

2

1

4

1

-

Cyfanswm

27

9

31

29

36

42

35

 

Gorfodi’n ymwneud â Gwastraff Peryglus

O dan Reoliad 53, sy’n mynnu bod yn rhaid cyflwyno datganiadau chwarterol nas anfonwyd erbyn dyddiad penodedig, cyflwynwyd 16 o hysbysiadau. Roedd yr hysbysiadau hyn ar gyfer yr un cwmni ac roeddynt yn ymwneud â 15 o safleoedd. Ni chydymffurfiwyd â’r 15 hysbysiad olaf a bydd camau gorfodi pellach yn cael eu cymryd yn unol â’n polisi gorfodi a sancsiynau – ar ffurf Hysbysiad Cosb Benodedig yn ôl pob tebyg.

O dan Reoliad 55, sef dyletswyddau i gyflwyno gwybodaeth, cyflwynwyd 3 hysbysiad, cydymffurfiwyd â 3 ac anfonwyd un llythyr rhybuddio.

Cludo Gwastraff Rhyngwladol

Yn 2022/23, aethom i’r afael â naw o achosion gorfodi. Yn 2022/23, ni chawsom unrhyw gais ffurfiol gan awdurdod nad ydyw o’r DU i ddychwelyd gwastraff i Gymru. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod adrodd hwn dychwelwyd 96 o gynwysyddion/trelars i safleoedd yng Nghymru wrth deithio o borthladdoedd y DU, gan beri inni gymryd camau gorfodi yn unol â’n polisi gorfodi a sancsiynau.

Mae swyddogion wedi archwilio porthladdoedd yn Abergwaun, Caergybi a Phenfro fel rhan o Ymgyrch ‘Klayora’ ac Ymgyrch ‘Punctuate’, gan arwain at ddau rybudd ac at gydweithio gydag Awdurdodau Cymwys yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Gorfodi’n ymwneud â’r Diwydiant Dŵr

Fe wnaethon ni erlyn 93 cyhuddiad o bysgota anghyfreithlon a 26 cyhuddiad Gwialen a Lein. Fe wnaethon ni hefyd erlyn 2 gyhuddiad o dan Ddeddf Dwyn 1968 am droseddau Gwialen a Lein ac mae pedwar cyhuddiad arall o dan y Ddeddf Dwyn yn dal i fynd rhagddynt ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ogystal, fe roesom Gyngor ac Arweiniad mewn 14 achos a chyhoeddi 14 llythyr rhybudd, ac ar ddiwedd y flwyddyn roedd cyfanswm o 16 achos gorfodi ar y gweill.

Defnyddiwyd y Weithdrefn Ynad Unigol ar gyfer nifer o achosion gorfodi mewn perthynas â physgodfeydd. Mae’r Weithdrefn Ynad Unigol yn berthnasol i achosion sy’n ymwneud ag oedolion wedi’u cyhuddo o droseddau diannod yn unig nad oes modd rhoi dedfryd o garchar ar eu cyfer. Mae’n rhan o strategaeth y Llywodraeth i drawsnewid cyfiawnder diannod i’w wneud yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy cymesur; a sicrhau y gwneir y defnydd gorau o amser ynadon yn y llys fel y gallant ganolbwyntio ar yr achosion sy’n cael yr effaith fwyaf ar eu cymunedau. Mae’n galluogi i ynadon unigol ymdrin ag achosion heb fod naill ai erlynydd neu ddiffynnydd yn bresennol, a hynny y tu allan i leoliad traddodiadol y llys, gan ganiatáu i adnoddau erlynwyr o bosib gael eu dargyfeirio at waith arall a rhyddhau capasiti’r llys.

Yn 2022 roedd 24 o achosion dan y Weithdrefn Ynad Unigol, pob un ar gyfer troseddau Gwialen a Lein pysgodfeydd.

Gorfodi’n ymwneud â physgodfeydd cocos

Aber Afon Dwyryd

Ar hyn o bryd, mae gennym 54 o ddeiliaid trwyddedau cocos yn Aber Afon Dyfrdwy. Mae’r tymor cocos yn ymestyn o 1 Gorffennaf i 31 Rhagfyr. Yn 2022, treuliasom 272 o oriau’n rheoleiddio’r bysgodfa gocos a 418 o oriau’n mynd i’r afael â gwaith gorfodi y tu allan i oriau ac ar benwythnosau.

Cilfach Tywyn

Mae pysgodfa gregyn Cilfach Tywyn ar agor 12 mis o’r flwyddyn. Mae’r trwyddedau’n ymestyn o 1 Ebrill i 30 Mawrth bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, ceir 35 o ddeiliaid trwyddedau amser llawn a dau o ddeiliaid trwyddedau rhan-amser. Mae’r trwyddedau dros dro yn newid bob blwyddyn, gan ddibynnu ar agweddau fel lefel y stoc. Yn 2022, aethom ati i gynnal 70 o batrolau ar y bysgodfa, a oedd yn cynnwys cynifer â phump o swyddogion ar y tro, gan ddibynnu ar leoliad y patrôl. Treuliasom gyfanswm o 1,080 o oriau’n rheoleiddio’r bysgodfa a 100 o oriau’n mynd i’r afael â gwaith gorfodi.

Gorfodi’n ymwneud â choedwigaeth

Cofnodwyd y camau gorfodi canlynol yn 2022

Deddf Coedwigaeth 1967

Cyfanswm

Hysbysiadau Ailstocio a gyflwynwyd

19

Hysbysiadau Gorfodi a gyflwynwyd

7

Llythyrau Rhybuddio a gyflwynwyd

18

Erlyniadau

2

Achosion Gorfodi ar y gweill ar ddiwedd y flwyddyn

16

 


Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Cyfanswm

Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol a gyflwynwyd

231

Gorfodi yn ôl mesur gorfodi

Ni chymerwyd camau pellach mewn 31 o achosion ac nid aethom ati i gyflwyno tystiolaeth mewn 14 o achosion. Rhoddasom gyngor ac arweiniad ffurfiol ar gyfer 281 o achosion. Fe wnaethom gyflwyno 402 o rybuddiadau, 27 o hysbysiadau gorfodi y cydymffurfiwyd â nhw, ac 8 o hysbysiadau cosb benodedig. Aethom ati i gyflwyno 34 o rybuddiadau ffurfiol ac erlyn 122 o gyhuddiadau ar wahân, gan brofi 16 ohonynt yn absenoldeb y diffynyddion. Yn 2022, roedd y dirwyon llys a ddeilliodd o’n herlyniadau llwyddiannus yn gyfanswm o £510,156, a dyfarnodd y llysoedd fwy na £110,000 o gostau.

System Hysbysu Gwybodaeth Gyfreithiol am Droseddau a Thramgwyddau (COLINS)

System ar-lein ar gyfer cofnodi gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru yw COLINS. Mae’r system hon ar gyfer staff a chanddynt bwerau ymchwilio, er mwyn eu galluogi i gofnodi troseddau’n ymwneud â phob un o’n swyddogaethau, ynghyd ag unrhyw ymateb gorfodi a dogfennau dilynol. Ymhlith pethau eraill, mae COLINS yn ein galluogi i grynhoi ein camau gorfodi yn ôl math.

Yn 2022, crëwyd 849 o achosion newydd a oedd yn ymwneud ag 889 o droseddwyr, gyda 1214 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Cymerwyd camau gorfodi yn erbyn 299 o gwmnïau a 590 o unigolion. Ar ddiwedd 2022, roedd 298 o achosion yn dal i fod yn “achosion cyfreithiol ar y gweill”.

Blwyddyn

Achosion

Troseddwyr

Cyhuddiadau

Cwmnïau

Unigolion

2022

849

889

1,214

299

590

2021

1,002

956

1,373

355

601

2020

604

620

936

241

379

2019

638

623

941

258

365

 

Sancsiynau sifil: Ymgymeriadau Gorfodi

Math o sancsiwn sifil yw ymgymeriad gorfodi, sydd ar gael i CNC mewn perthynas â sawl trosedd amgylcheddol, fel y nodir yn Neddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae ymgymeriad gorfodi yn gytundeb cyfreithiol rwymol y bydd y troseddwr yn ymrwymo iddo’n wirfoddol, a chaiff ei gynnig i’r rheoleiddiwr pan fo sail resymol dros amau bod trosedd wedi’i chyflawni. Er mwyn i ymgymeriad gorfodi fod yn opsiwn i ni fel dewis amgen i erlyniad, rhaid inni fod wedi ymchwilio i’r drosedd a rhaid inni fod â chyfle realistig i erlyn yn llwyddiannus yn ôl y safon prawf troseddol, sydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Fe wnaethom gwblhau un Ymgymeriad Gorfodi yn 2022.

Astudiaeth Achos: Ymgymeriad Gorfodi – DoPower Ltd

Bydd elusen amgylcheddol yng Ngogledd Cymru yn defnyddio £9,000 i fynd i’r afael â gwaith gwella hanfodol ar ôl i waddodion o gronfa ddŵr lygru Afon Trystion. Bydd DoPower, sef perchennog y gronfa ddŵr a’r cwmni sy’n gyfrifol am ei gweithredu, yn talu’r arian i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad ym mis Ebrill 2021.

Credir bod oddeutu 143 o frithyllod wedi’u lladd yn y gronfa ddŵr, sy’n uwch i fyny nag Afon Cynwyd, a’u bod wedi mynd i mewn i’r afon wedyn gyda’r gwaddodion. Cynhaliodd ein swyddogion ymchwiliad ar ôl i aelodau o’r cyhoedd a’r grŵp pysgota lleol roi gwybod inni bod yr afon wedi newid ei lliw. Darganfu’r swyddogion bod gostwng lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr wedi arwain at symud gwaddodion oddi ar y glannau ac oddi ar wely’r gronfa ddŵr.

Aeth y gwaddodion i mewn i Afon Trystion trwy falf ddraenio agored a gwelwyd pentwr o waddodion yn y cwrs dŵr islaw wal yr argae, ynghyd â physgod marw. Rhoddwyd gwybod i DoPower am y mater a gweithiodd y cwmni gyda ni i leihau’r risg y byddai’r digwyddiad yn gwaethygu. Arweiniodd hyn at wella ansawdd y dŵr o fewn 24 awr. Gostyngwyd lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr wrth fynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw.

Ailgodwyd tâl ar y cwmni am gostau’r ymchwiliad cychwynnol, sef £2,812.50, a chytunwyd ar ymgymeriad gorfodi gyda DoPower ar gyfer gweddill y costau ymchwilio, sef £5,937.50. Cytunwyd y byddai’r cwmni’n talu £9,000 i Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru i fynd i’r afael â gwelliannau i gynefin y pysgod yn y cwrs dŵr.

Astudiaeth Achos: Ymgymeriad Gorfodi – Iawndal Amgylcheddol

Mae grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol wedi elwa ar ddull cydweithredol a roddwyd ar waith gennym ni a Bwydydd Castell Howell yn dilyn digwyddiad llygredd a achoswyd gan fethiant mewn gorsaf bwmpio yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd prosiectau a roddir ar waith gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, partneriaeth Mawndiroedd SoDdGA Llyn Llech Owain, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn elwa ar arian a dalwyd gan Fwydydd Castell Howell Cyf ac a hwyluswyd gennym ni.

Talodd y cwmni yr arian fel rhan o iawndal am ddigwyddiad llygredd ym mis Gorffennaf 2019. Yn dilyn ymchwiliad, ac ar ôl ystyried ymateb, gwaith adfer ac edifeirwch Castell Howell, penderfynasom fod y digwyddiad yn addas ar gyfer Sancsiwn Sifil – sef ymgymeriad gorfodi.

Llifodd elifion i Afon Gwili ger Cross Hands oherwydd methiant mecanyddol mewn gorsaf pwmpio carthion a fabwysiadwyd gan Gastell Howell ar ôl i’r cwmni brynu tir cyfagos. Gwaethygwyd y digwyddiad, a arweiniodd at farwolaeth pysgod sy’n gynhenid i’r afon, gan lif isel yr afon yn sgil tywydd poeth, sych.

Pan gysylltodd CNC â Chastell Howell adeg y digwyddiad, cadarnhaodd y cwmni ei fod wedi rhyddhau elifion trwy’r bibell orlifo yn ddiarwybod oherwydd methiant yn offer telemetreg yr orsaf bwmpio. Cymerodd y cwmni gamau ar unwaith trwy droi at ddefnyddio pympiau llaw, gan fynd ati wedyn i gau’r gorlif argyfwng.

Y mis canlynol (Awst 2019), gosododd y cwmni system delemetreg a phwmp newydd. Cynhaliwyd archwiliadau dyddiol a rhoddwyd amserlen cynnal a chadw well ar waith. Hefyd, cynhaliwyd arolwg llawn o’r system teledu cylch cyfyng yn y broses ddraenio.

Disgwylir y bydd datganiad cwblhau’r Ymgymeriad Gorfodi hwn yn cael ei gwblhau yn 2023.

Astudiaeth Achos: Ymgymeriad Gorfodi – Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio (PRN)

Erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, mae’n ofynnol i gynhyrchwyr deunyddiau pacio gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio (PRN) ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Caiff y rhwymedigaeth hon ei seilio ar faint o ddeunydd pacio y bydd y cynhyrchwyr yn ei roi ar y farchnad. Caiff cost y rhwymedigaeth ei thalu trwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio a gynhyrchir gan ailbrosesyddion trwy’r DU sy’n ailgylchu gwastraff deunyddiau pacio.

Ar 31 Ionawr 2023, methodd pedwar o unigolion cofrestredig uniongyrchol yng Nghymru â chydymffurfio ac nid aethant ati i brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio ar gyfer 2022. Methodd ein hunigolion cofrestredig uniongyrchol â phrynu cyfanswm o 1415 o Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio ar gyfer 2022, sef cymysgedd o blastig, papur a phren.

Gwelwyd sefyllfa debyg ym mhob un o’r pedair gwlad. Cyrhaeddodd Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Deunyddiau Pacio plastig bris eithriadol o uchel ac yna daethant i ben cyn diwedd y flwyddyn, gan beri i gynhyrchwyr deunyddiau pacio fethu â’u prynu.

Rhoddwyd camau gorfodi ar waith ar ôl i’r troseddau gael eu cyflawni. Rhoddwyd gwybod i’r cynhyrchwyr pa droseddau a gyflawnwyd a dechreuwyd gweithio trwy’r camau gorfodi. Bydd y camau hyn yn para tan ganol 2023.

Erlyniadau yn 2022

Dyma’r achosion a arweiniodd at erlyniadau yn 2022. Dechreuodd nifer o’r achosion hyn mewn blynyddoedd blaenorol ac, mewn rhai achosion, aethom ati i erlyn mwy nag un cyhuddiad.

Dyddiad y canlyniad

Enw’r troseddwr

Cwmni

Math o drosedd

Cyhuddiad (y prif gyhuddiad)

Cyfanswm y dirwyon

Cyfanswm y costau

05 Ionawr 22

GILL WASTE RECYCLING LIMITED

Ie

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd)

£2,100

£10,486

06 Ionawr 22

Colin Griffiths

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£440

£127.30

06 Ionawr 22

Ian Morgan

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£80

£127.30

06 Ionawr 22

DAVID JOHN LLOYD WATKINS

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£440

£127.30

14 Ionawr 22

Memory Lanes Cakes Ltd

Ie

Ansawdd dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010

£26,300

£13,000

31 Ionawr 22

PHUNGAN NGUYEN

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£400

£1,800

07 Chwefror 22

Joseph Arran Davies

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£300

£1,800

07 Chwefror 22

Ryan Lee Jenkins

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£300

£1,800

07 Chwefror 22

Corey Charles Gilbert

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£200

£1,800

07 Chwefror 22

HUNG LE

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£200

£1,800

07 Chwefror 22

VAN VINH NGUYEN

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£400

£1,800

16 Chwefror 22

Mateusz Kakolewski

Na

Pysgodfeydd

Deddf Eogiaid 1986 (a ddiwygiwyd gan adran 229 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009)

£100

£2,000

23 Chwefror 22

Carlos Davies

Na

Pysgodfeydd

Deddf Eogiaid 1986

£100

£2,000

01 Mawrth 22

Peter Richards

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£80

£127.30

07 Mawrth 22

NAG Recycling Ltd

Ie

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£500

-

16 Mawrth 22

Bob Gay Plant Hire Ltd

Ie

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

£7,320

£5,197.29

18 Mawrth 22

VU VAN KET

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£400

£400

05 Ebrill 22

Persimmon Homes Limited

Ie

Ansawdd dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£424,000

£9,161

13 Ebrill 22

Bryn DAVIES

Na

Pysgodfeydd

Byelaw - River Dee Shellfish Byelaw

£2,400

£2,500

13 Ebrill 22

Leon BRICK

Na

Pysgodfeydd

Byelaw - River Dee Shellfish Byelaw

£180

£500

22 Ebrill 22

DEVONALD GWYN NOEL RICHARDS

Na

Ansawdd dŵr

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

£2,153

£2,344

22 Ebrill 22

GAVIN DAVIES

Na

Pysgodfeydd

Deddf Adnoddau Dŵr 1991

£200

£2,800

26 Ebrill 22

VU QUANG TIEN

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£300

£2,000

12 Mai 22

Daniel SUMMERS

Na

Tipio anghyfreithlon

Deddf yr Amgylchedd 1995

£1,100

£500

13 Mai 22

David Lee Rigby

Na

Pysgodfeydd

Is-ddeddf – Is-ddeddf Pysgod Cregyn Afon Dyfrdwy

£3,000

£1,500

18 Mai 22

Graham Percival

Na

Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£20,000

£11,500

20 Mai 22

Miroslaw Wroblewski

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£54

£300

22 Mai 22

Wieslaw Mroziewicz

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£54

£300

16 Mehefin 22

Craig McGivney

Na

Tipio anghyfreithlon

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

£1,384

£500

16 Mehefin 22

Terence Purvey

Na

Pysgodfeydd

Deddf Dwyn 1968 / Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£200

£500

17 Mehefin 22

Romuald Kryzysztof BIERNACKI

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£1,500

£4,000

17 Mehefin 22

Hung Van Tran

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£1,500

£1,800

17 Mehefin 22

TAN VAN TRAN

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£1,500

£3,000

17 Mehefin 22

DUC DUY TRAN

Na

Pysgodfeydd

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£1,500

£3,000

23 Mehefin 22

Mervyn Lewis

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

£800

£2,524.18

29 Mehefin 22

William LEVER

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

£600

£1,400

19 Gorffennaf 22

Shane DOOLEY

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

-

£5,997.27

16 Awst 22

LLWYD WILLIAMSON

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

-

-

13 Hydref 22

Kyle Charlton Moses

Na

Gwialen a Lein

Deddf Dwyn 1968

£120

£125

18 Hydref 22

Richard Glynne Jones

Na

Ansawdd dŵr

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

£1,600

£2,950

24 Hydref 22

Keilan Roberts

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.50

27 Hydref 22

Daniel Price

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£40

£127.30

28 Hydref 22

David Manns

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£98

28 Hydref 22

Macauley Simpson

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£133

£98

28 Hydref 22

Stewart Reed

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£164

£98

28 Hydref 22

Richard Ward

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£192

£98

28 Hydref 22

Gareth Park

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£192

£98

28 Hydref 22

Simon Lewis

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£157

£98

28 Hydref 22

Shaun Powel

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£98

28 Hydref 22

John Mark Shellard

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£98

28 Hydref 22

JOSHUA EDWARDS

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£100

28 Hydref 22

GEORGE LEWIS

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£146

£98

02 Tachwedd 22

Robert Jackson

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

£480

£3,383.25

02 Tachwedd 22

Benjamin Stephen John

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£146

£127

02 Tachwedd 22

LEE ALEXANDER CALLAGHAN

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£138

£127

11 Tachwedd 22

David Ross Pickett

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£146

£127.30

22 Tachwedd 22

Stephen Owen Jones

Na

Gwastraff

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd)

£1,477

£1,000

29 Tachwedd 22

Mark Harris

Na

Gwialen a Lein

Salmon and Freshwater Fisheries Act 1975

£220

£127.30

29 Tachwedd 22

Howard Clarke

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£80

-

29 Tachwedd 22

Goaba Bogdam

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Tachwedd 22

Thomas Bluett

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Tachwedd 22

PETER PEMBERTON

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Tachwedd 22

STEPHEN GRIFFITHS

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Tachwedd 22

Paul Spencer

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Rhagfyr 22

Scott Heaps

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

29 Rhagfyr 22

TOM ROBINSON

Na

Gwialen a Lein

Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975

£220

£127.30

 

Cyfanswm y dirwyon Cyfanswm y costau
£510,156 £110,613.69

Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Ym mhob achos priodol, mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn ei gwneud yn ofynnol inni wneud cais am iawndal a gorchmynion ategol, megis gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion atafaelu. Isod, rhestrir y gorchmynion ategol y gall y llys eu gwneud yn dilyn euogfarnau, ynghyd â’r defnydd a wnaed ohonynt yn 2022 mewn perthynas ag achosion a gafodd eu dwyn gennym ni:

Anghymhwyso cyfarwyddwyr

Ni wnaed unrhyw orchymyn gan y llys.

Atafaelu asedau – Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cynllun Cymell Adennill Asedau – ARIS)

Blwyddyn Dreth 21-22

Enw’r troseddwr

Ffigur budd troseddol

Y swm sydd ar gael

Math

Emlyn Rees

£61,791.50

£1.00

Atafaelu

Lee Rigby

£3,750.00

£3,750.00

Atafaelu

 

Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ni wnaed unrhyw orchymyn gan y llys.

 

Fforffedu cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni troseddau

Gwnaed tri gorchymyn fforffedu gan y llysoedd ar gyfer cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni troseddau’n ymwneud â physgodfeydd.

 

Diarddel rhag gyrru

Un diarddeliad 12 mis am ddefnyddio cerbyd a ddefnyddiwyd i gyflawni troseddau’n ymwneud â physgota anghyfreithlon.

 

Digollediad ac eithrio achosion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau

Dim

 

Atafaelu cerbydau

Dim

 

Adfer – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Dim

 

Gwaith di-dâl

Gweler isod

 

Gorchmynion Cymunedol

  • Un Gorchymyn Cymunedol 300 awr gyda Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu 20 diwrnod am ddwy flynedd. Gorchmynnwyd hyn ar ôl yr apêl, oherwydd yn wreiddiol cafodd y troseddwr ddedfryd o 20 wythnos yn y carchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, a’i ddiarddel rhag gyrru am ddwy flynedd, am weithredu safle Diwedd Oes (ELV) anghyfreithlon.
  • Un gorchymyn Cymunedol 12 mis gyda 250 awr o waith di-dâl am weithredu safle Diwedd Oes (ELV) anghyfreithlon.

 

Cyrffyw

Dim

 

Gorchymyn Adfer o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1980

Dim

 

Rhyddhad Amodol

Dim

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf