Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol 2020-21

Ein Gweledigaeth

Yn falch o arwain y ffordd at ddyfodol gwell ar gyfer Cymru trwy reoli'r amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.

Ein Diben

Trwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 newydd, mae'n

  • rhaid ceisio rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, a
  • chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. 

Cyflwyniad

Mae ein system rheoli amgylcheddol (EMS) yn cefnogi gweledigaeth a diben Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) trwy gynnal ein hardystiad i safon amgylcheddol ISO14001: 2015, ein hardystiad coedwigaeth yn erbyn Safon Sicrwydd Coetir y DU a thrwy leihau ein heffaith amgylcheddol a'n hôl troed carbon ein hunain.

Yn 2020/21 mae Pandemig Covid-19 wedi effeithio'n ddramatig ar y ffordd y mae CNC wedi gweithredu. Trwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru, mae staff wedi gweithio gartref yn bennaf, gyda swyddfeydd ar gau neu gyda mynediad cyfyngedig. Bu cyfyngiadau hefyd ar deithio ac ar drefniadau gwaith maes.

Mae hyn wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn ynni, dŵr a gwastraff yn ein swyddfeydd a'n depos a gostyngiadau sylweddol mewn milltiroedd busnes. Mae pob un ohonynt wedi arwain at ostyngiadau cyffredinol mewn allyriadau carbon.

Rydym bellach yn datblygu methodoleg i gyfrifo ac adrodd ar allyriadau gweithio gartref staff CNC.

Crynodeb o Berfformiad

Yn 2020/21 rydym wedi:

  • gostwng ein hôl troed carbon cyffredinol 35.4% mewn perthynas ag allyriadau cwmpas 1 a chwmpas 2, yn ogystal ag allyriadau cwmpas 3 fel maent wedi’u mesur ar hyn o bryd, o gymharu â data 2019/20;
  • gostwng ein defnydd o drydan o’r prif gyflenwad mewn adeiladau a depos a feddiannir am y seithfed flwyddyn yn olynol, gostyngiad o 23.3% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20;
  • gostwng ein milltiroedd busnes cyffredinol 52.6% o gymharu â data 2019/20;
  • cadw ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 a Safon Sicrwydd Coetir y DU, yn dilyn archwiliadau a phrosesau dilysu allanol annibynnol.

Tabl 1: Tabl crynhoi'r Adroddiad Amgylcheddol Corfforaethol

Categori Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21

Allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

4,387

4,199

3,994

2,579

Ynni a ddefnyddir

miliwn kWh

6.0

6.3

7.1

5.4

Ynni - gwariant

£ mil

618

583

729

628

Gwastraff a gynhyrchwyd

tunellau

1,141

966

1,772

793

Gwastraff - gwariant

£ mil

273

218

333

199

Dŵr - defnydd

m3

50,908

40,115

42,127

33,116

Dŵr - gwariant

£ mil

25

30

13

18

Mae Tabl 1 yn adlewyrchu newid cymharol ar gyfer meysydd allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

I grynhoi:

  • bu gostyngiad o 1,415 tunnell o garbon deuocsid a’i gyfatebol (tCO2e) mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr sefydliadol;
  • gostyngodd ynni, teithio, gwastraff a dŵr i gyd, yn bennaf oherwydd y ffordd yr oedd CNC yn gweithredu yn 2020/21 oherwydd Pandemig Covid-19.

Mae mwy o fanylion am bob cydran i'w gweld yn adrannau cysylltiedig yr adroddiad hwn.

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr

Bu gostyngiad o 35.4% mewn allyriadau carbon yn 2020/21 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cwmpas 1 gostyngodd allyriadau uniongyrchol 26.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad yn swm y tanwydd a ddefnyddiwyd yn ein ceir a rennir a chan ein timau gweithredol.

Cwmpas 2  gostyngodd allyriadau anuniongyrchol ynni 32.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad yn y defnydd o drydan mewn adeiladau na châi eu defnyddio i’w capasiti llawn oherwydd mynediad cyfyngedig.

Cwmpas 3  gostyngodd allyriadau anuniongyrchol eraill 66.4%, roedd hyn oherwydd gostyngiad mewn milltiroedd busnes oherwydd cyfyngiadau teithio a swm y gwastraff a gynhyrchwyd.

Tabl 2: Allyriadau nwyon tŷ gwydr

Allyriadau nwyon tŷ gwydr Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21

Cwmpas 1: Allyriadau uniongyrchol

tCO2e

2,466

2,499

2,129

1,568

Cwmpas 2: Allyriadau ynni anuniongyrchol

tCO2e

1,317

1,077

1,130

764

Cwmpas 3: Allyriadau anuniongyrchol eraill

tCO2e

603

624

735

247

Cyfanswm gros allyriadau nwyon tŷ gwydr

tCO2e

4,387

4,199

3,994

2,579

Tu allan i’r cwmpasau (h.y. biomas)

tCO2e

208

187

184

132

Nodyn 1: Data heb ei ddilysu'n allanol – sicrwydd cyfyngedig.

Nodyn 2: Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol Cwmpas 3 eraill yn cynnwys: teithio ar drên, hedfan, teithio fflyd lwyd, teithio mewn car prydles, teithio mewn car llog, dŵr a gwastraff.

Nodyn 3: Nid yw'r allyriadau Cwmpas 3 a ddaw yn sgil prynu nwyddau a gwasanaethau, defnyddio agregau mewn gwaith adeiladu a defnyddio pren wedi'u cynnwys.

Ynni

Gostyngodd cyfanswm y defnydd o ynni o 1,681,637 kWh, gostyngiad o 23.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.

Mae hyn yn cynnwys; trydan, nwy prif gyflenwad, LPG, olew gwresogi a biomas o swyddfeydd, depos a safleoedd di-griw fel gorsafoedd mesur a phwmpio.

Gosodwyd paneli solar PV newydd ar dri safle ar ystad CNC, cynyddodd hyn yr ynni a gynhyrchwyd gan baneli solar PV 17.4%. Fodd bynnag, oherwydd y cynhyrchwyd llai o ynni o hydro ar yr ystad, parhaodd lefel gyffredinol yr ynni a gynhyrchwyd o ynni adnewyddadwy yn gyson.

Gostyngodd cyfanswm yr allyriadau ynni 492 tCO2ea sy’n ostyngiad o 29.0% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.

Tabl 3: Ynni a ddefnyddiwyd

Adnodd a ddefnyddir – Ynni Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2019/20

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff

kWh

4,918,340

4,973,616

5,131,465

4,027,176

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd lle ceir staff

tCO2e

1,436

1,236

1,188

876

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff

kWh

1,122,103

1,298,317

1,985,005

1,407,657

Ynni a ddefnyddir mewn safleoedd heb staff

tCO2e

395

367

507

328

Ynni adnewyddadwy a gynhyrchir

kWh

106,856

167,879

161,193

161,320

% cyfanswm ynni a ddefnyddir fel ynni adnewyddadwy

%

2.2

3.4

3.1

4.0

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd

kWh

6,040,443

6,271,933

7,116,470

5,434,833

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - defnydd

tCO2e

1,830

1,603

1,696

1,204

Cyfanswm Ynni a ddefnyddir - gwariant

£ mil

618

583

729

628

Dŵr

Gostyngodd defnydd o ddŵr o'r prif gyflenwad 7,150 m3, gostyngiad o 60.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20. Gostyngodd ein dwysedd defnydd dŵr (m3/FTE) hefyd o 2.9 i 1.0. Dwysedd cyfartalog dŵr mewn swyddfa nodweddiadol yw 4.0.

Mae CNC wedi derbyn Marc Gwirio Waterwise ar gyfer sawl swyddfa a chanolfan ymwelwyr.

“Mae CNC yn falch o fod y rheoleiddiwr cyntaf yn y DU i ennill Marc Gwirio Waterwise, gan dynnu sylw at ein hymrwymiad i effeithlonrwydd dŵr yn ein swyddfeydd a'n canolfannau ymwelwyr. Rydym yn cydnabod buddion amgylcheddol defnyddio un o'r adnoddau naturiol mwyaf hanfodol yng Nghymru yn effeithlon ac rydym wedi ymrwymo i wneud arbedion effeithlonrwydd pellach ar draws ein hystad, gan leihau ein hôl troed dŵr a'n heffaith ar yr hinsawdd. Byddwn yn ceisio rhannu ein profiad a'n gwybodaeth gyda phartneriaid, fel y gall pob un ohonom chwarae ein rhan i wneud arbedion effeithlonrwydd dŵr a helpu i greu'r Gymru yr ydym eisiau ei gweld yn y dyfodol." 
Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC

Tabl 4: Dŵr a ddefnyddiwyd

Defnydd adnoddau
– dŵr ar yr ystâd
Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21

Dŵr o’r prif gyflenwad

m3

11,894

12,368

11,803

4,653

Cyfanswm y dŵr a dynnir

m3

39,014

27,747

30,324

28,463

Dŵr o’r prif gyflenwad (swyddfa)

m3

5,555

6,047

6,228

2,107

Dŵr a dynnir (swyddfa)

m3

22

32

26

4

Dŵr prif gyflenwad (nad yw ar gyfer swyddfa)

m3

6,339

6,321

5,575

2,546

Dŵr a dynnir (nad yw ar gyfer swyddfa)

m3

38,992

27,715

30,298

28,459

Dwysedd defnydd dŵr
(ar gyfer swyddfeydd)

m3 / cyfwerth ag amser llawn

3.0

3.2

2.9

1.0

Cyfanswm dŵr – defnydd

m3

50,908

40,115

42,127

33,116

Cyfanswm dŵr – defnydd

tCO2e

18

14

15

11

Cyfanswm dŵr - gwariant

£ mil

25

30

13

18

Teithio

Mae ein hanghenion teithio yn cynnwys; teithio i reoli safleoedd, ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol difrifol, cymryd samplau, delio â llifogydd, cyfarfodydd safle a theithio rhwng swyddfeydd. 

Bu gostyngiad o 3,385,712 milltir mewn milltiroedd teithio busnes, sy’n ostyngiad o 52.6% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.

Roedd y gostyngiad mewn teithio busnes yn bennaf oherwydd cyngor Llywodraeth Cymru i beidio â theithio oherwydd Pandemig Covid-19. Parhaodd y gwaith hanfodol o amddiffyn rhag llifogydd, ymateb i argyfyngau a chynnal gwaith coedwigaeth wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr allweddol.

Ni ddigwyddodd unrhyw deithio awyr yn 2020/21 a gostyngodd teithio ar drên 99%, eto oherwydd cyfyngiadau teithio Pandemig Covid-19.

Gostyngodd teithio mewn cerbydau trydan eto yn 2020/21, cyfrannodd sawl ffactor at hyn, yr angen am deithio oddi ar y ffordd ar gyfer gwaith hanfodol a dim seilwaith gwefru cyflym ar waith.

Tabl 5: Teithio Busnes

Teithio busnes Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21

Fflyd â bathodyn CNC (heb gynnwys cerbydau trydan)

milltiroedd

5,440,945

5,562,246

4,934,687

3,020,287

Fflyd â bathodyn CNC

£ mil

749

789

720

455

Cerbydau fflyd lwyd

milltiroedd

590,998

614,868

554,375

266,804

Cerbydau fflyd lwyd

£ mil

266

277

249

120

Cerbydau llog

milltiroedd

261,039

277,390

512,209

153,361

Cerbydau llog

£ mil

88

124

195

181

Trên

milltiroedd

938,418

993,213

1,258,211

3,007

Trên

£ mil

183

328

397

< 1

Hedfan

milltiroedd

33,661

50,299

26,663

0

Hedfan

£ mil

5

7

7

0

Beic

milltiroedd

2,301

3,714

4,012

2,259

Beic

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Beic modur

milltiroedd

1,735

1,155

729

110

Beic modur

£ mil

< 1

< 1

< 1

< 1

Cerbydau trydan

milltiroedd

0

32,832

26,374

19,660

Cyfanswm teithio business

milltiroedd

7,269,097

7,535,717

7,317,260

3,465,488

Cyfanswm teithio business

tCO2e

2,019

2,002

1,810

1,087

Cyfanswm teithio business

£ mil

1,291

1,525

1,568

757

Lleihau a Rheoli Gwastraff

Bu gostyngiad o 979 tunnell yng nghyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd, gostyngiad o 55.2% yn 2020/21 o'i gymharu â data 2019/20.

Tabl 6: Gwastraff a gynhyrchwyd

Categori gwastraff Unedau 2017/18 2018/19 2019/20 2020/21

Gwastraffaeth - Tirlenwi

tunellau

213

286

90

23

Gwastraff - Tirlenwi

tCO2e

125

168

53

10

Gwastraff - Tirlenwi

£ mil

25

25

24

31

Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tunellau

600

431

972

460

Gwastraff swyddfa – Ailgylchwyd / ailddefnyddiwyd

tCO2e

13

9

21

10

Gwastraff swyddfa – a losgir

tunellau

27

31

31

18

Gwastraff swyddfa – a losgir

tCO2e

< 1

< 1

< 1

< 1

Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon

tunellau

301

218

680

292

Gwastraff gweithredol a thipio anghyfreithlon

tCO2e

135

98

269

111

Cyfanswm gwastraff

tunellau

1,141

966

1,772

793

Cyfanswm gwastraff

tCO2e

274

276

343

132

Cyfanswm gwastraff

£ mil

273

218

333

199

Digwyddiadau amgylcheddol

Yn 2020/21 roedd tri ar hugain o ddigwyddiadau amgylcheddol oherwydd ein gwaith ni neu waith contractwyr rydyn ni'n eu rheoli.

Pan fydd digwyddiadau'n digwydd oherwydd ein gwaith (neu waith ein contractwyr), rydym yn adolygu'r hyn sydd wedi digwydd, ac yn gweithredu i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y digwyddiad.

Caffael Cynaliadwy

Ein Gweledigaeth ar gyfer Caffael yw darparu arweinyddiaeth a strategaeth gaffael effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gwerthoedd Cyfoeth Naturiol Cymru ac ymgorffori cysyniadau sylfaenol sefydliad sy’n dysgu gyda Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol (SMNR) fel ei brif egwyddor drefniadol.

Mae'r timau caffael a charbon bositif wedi bod yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael ag allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi. Mae ystyriaeth o garbon wedi'i gwreiddio yn y broses gaffael ar gyfer dau gontract arwyddocaol.  Yn ogystal, mae papur ar y cynnydd hyd yma, gwersi a ddysgwyd, a nodau ar gyfer y dyfodol wedi'i baratoi a'i rannu gyda Llywodraeth Cymru.  

Llywodraethu ac Adrodd

Rydym yn adrodd ar ein hôl troed carbon fel rhan o'n fframwaith perfformiad, yr adroddir amdano gan y Tîm Gweithredol i'r Bwrdd (mewn sesiwn gyhoeddus agored) bedair gwaith bob blwyddyn.

Rydym yn casglu'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad cynaliadwyedd hwn trwy gyfuniad o ddarllen mesuryddion (e.e. nwy, trydan), anfonebau (e.e. pryniannau cardiau tanwydd), data cyflenwyr (e.e. milltiroedd trên) a data cyllid, gan ddefnyddio'r ffynhonnell/ffynonellau mwyaf cywir sydd gennym ar gael. Rydym hefyd yn ceisio lleihau'r defnydd o unrhyw ddata amcangyfrifedig wrth adrodd.

Prosiect Carbon Bositif

Buom yn gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod datgarboneiddio yn egwyddor allweddol yn y prosiect 'strategaeth fflyd' a'r prosiect 'ailymweld â’r adolygiad o’r strategaeth llety'.

Mae gwaith modelu ynni a datblygu llwybrau carbon isel yn ein un ar ddeg safle allyrru mwyaf wedi cael ei gomisiynu, gyda'r gwaith yn parhau yn 2021/22. 

Mae dau gynllun paneli solar ffotofoltäig newydd wedi'u gosod yn neorfa Cynrig (29kW) a swyddfa Clawdd Newydd (4.8kW).

Paratôdd y tîm bapur i'w benderfynu, ar ddefnyddio tanwydd olew llysiau hydrogenedig (HVO) ar gyfer CNC a oedd yn argymell treial HVO.  Cymeradwywyd y papur gan fwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio.

Oherwydd Pandemig Covid-19 rydym bellach yn datblygu methodoleg i gyfrifo ac adrodd ar allyriadau gweithio gartref staff CNC.

Amcangyfrifwyd bod allyriadau gweithio gartref sy'n gysylltiedig â gwresogi cartrefi a defnyddio pŵer yn 1083.9 tCO2e a 118.9 tCO2e yn y drefn honno yn 2020/21. Roedd hyn yn gynnydd mewn allyriadau ynni gweithio gartref o 444.6% o'r flwyddyn flaenorol, wedi'i yrru gan gyfarwyddeb gweithio gartref COVID-19. Amcangyfrifwyd defnydd gwres a phŵer cartref fesul gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yn dilyn methodoleg Papur Gwyn Allyriadau Gweithio Gartref EcoAct a gymhwyswyd i ddata CNC ar rifau cyfwerth ag amser llawn ac archebion desgiau swyddfa.

Roedd mwy o weithio gartref hefyd yn golygu bod ein hallyriadau cymudo ymhlith staff wedi gostwng 95.4% o'r flwyddyn flaenorol i 114.1 tCO2e yn 2020/21.

Strategaeth y Dyfodol

Yn unol â'n strategaeth gorfforaethol gyfredol, rydym eisiau:

  • Parhau i gyflawni cynllun gweithredu carbon bositif CNC i gynnwys; ôl-osod adeiladau â phaneli solar ffotofoltäig, datblygu seilwaith gwefru cerbydau trydan (EV), cynyddu milltiroedd cerbydau trydan, nodi a darparu rhaglen o brosiectau mawndir er mwyn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach;
  • Datblygu mecanweithiau ar gyfer gwneud teithio llesol a chynaliadwy y dewis a ffefrir ar gyfer teithio cymudo CNC ac ar gyfer teithiau busnes priodol;
  • Parhau i gynnal ardystiad i safon amgylcheddol ISO14001 ar gyfer holl weithgareddau CNC ac ardystiad i Safon Sicrwydd Coetir y DU ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf