Bwrw ymlaen â chynlluniau i ailddatblygu Ffordd Goedwig Fforest Cwmcarn
Heddiw, cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bydd y cyfnod nesaf o waith i ailagor y Ffordd Goedwig yn Fforest Cwmcarn yn dechrau yr wythnos nesaf.
O ddydd Llun, bydd contractwyr yn dechrau gwaith tirlunio ar draws yr wyth lleoliad a nodwyd i’w gwella ar hyd Ffordd y Goedwig.
Yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o waith, bydd tri man chwarae hygyrch newydd hefyd yn cael eu gosod, ynghyd ag wyth toiled di-ddŵr cynaliadwy mewn lleoliadau allweddol.
Mae gwaith atgyweirio ar wyneb y ffordd hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer gosod yr haen uchaf unwaith y bydd y gwaith tirlunio – y disgwylir iddo gymryd tua 12 wythnos – wedi’i gwblhau.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae CNC yn cynghori pobl y bydd peiriannau trymion yn gweithredu ar y safle, ac yn gofyn i bobl ddilyn hysbysiadau diogelwch ac arwyddion dargyfeirio llwybrau.
Dywedodd Geminie Drinkwater, sy’n Rheolwr Prosiect gyda CNC:
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn Fforest Cwmcarn wrth i ddatblygiadau fynd rhagddynt i roi bywyd newydd i atyniad y mae llawer eisoes yn ei garu ac yn ei werthfawrogi.
"Mae ein cynlluniau ar gyfer y goedwig wedi'u llywio gan syniadau a rannwyd gyda ni gan y gymuned a byddant yn cynnig rhywbeth i bob math o ymwelydd – o’r rhai i'r rhai sydd â’u bryd ar gael gwefr i’r sawl sy’n chwilio am heddwch a llonyddwch.
"Yn anffodus, fel llawer o brosiectau adeiladu eraill, mae ein cynnydd wedi cael ei lesteirio gan bandemig y coronafeirws. Ni fu modd osgoi hyn, ond rydyn ni’n adolygu ein cynlluniau'n barhaus ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i brysuro tuag at ailagor y ffordd."
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd CNC ei gynlluniau i ailddatblygu wyth safle hamdden ar hyd y ffordd goedwig, sy’n 7 milltir o hyd. Yn ogystal â’r mannau chwarae i blant, roedd hyn yn cynnwys cerfluniau coetir a thwneli synhwyraidd, ynghyd â nifer o lwybrau ar gyfer pob gallu a mannau barbeciw a phicnic newydd.
Roedd caban pren ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a gweithgareddau iechyd a lles hefyd ymhlith y cynlluniau, yn ogystal ag arwyddion gwybodaeth yn egluro hanes, treftadaeth a bywyd gwyllt y goedwig.
Mae rhannau o Fforest Cwmcarn - gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr a'r llwybrau beicio mynydd - wedi cau ers mis Ebrill fel rhan o’r ymdrechion i leihau lledaeniad y coronafeirws.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae CNC wedi bod yn gweithio'n galed i roi cynlluniau ar waith ar gyfer ailagor cefn gwlad Cymru yn ddiogel - rhywbeth y mae llawer ar bigau i’w weld. Mae hyn yn cynnwys cynnal archwiliadau yn ein meysydd parcio i sicrhau bod y safleoedd yn barod i ymwelwyr ddychwelyd yn ddiogel yn y dyfodol agos.
Gallai rhai cyfyngiadau barhau am beth amser er mwyn diogelu ymwelwyr yn ogystal â staff a chontractwyr. Wrth i gyfyngiadau'r Llywodraeth ddechrau llacio, mae CNC yn gofyn i ymwelwyr barchu pobl eraill bob amser, ac ufuddhau i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith.