Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Bydd Rhodfa Coedwig Cwm Carn ar gau dros y penwythos (28 a 29 Ionawr) oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Mae Coedwig Cwm Carn, sydd yng nghanol cymoedd De Cymru, yn hawdd i'w chyrraedd o'r M4 ac mae rhodfa goedwig, llwybrau cerdded a beicio mynydd.
Dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu coed ar y bryniau o amgylch pentref Cwmcarn yn y 1920au a bellach mae'r hen ardal lofaol hon yn gartref i amrywiaeth o gyfleusterau i ymwelwyr.
Mae’r cyfleusterau i ymwelwyr yn cynnwys:
Mae’r ganolfan ymwelwyr, rhodfa’r goedwig a’r rhan fwyaf o gyfleusterau i ymwelwyr yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Choedwig Cwm Carn ewch i ganolfan ymwelwyr neu wefan Coedwig Cwm Carn.
Mae Rhodfa Goedwig Cwm Carn wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr am flynyddoedd lawer.
Cafodd rhodfa’r goedwig ei chau ym mis Tachwedd 2014 er mwyn gallu cwympo 150,000 o goed llarwydd heintiedig a’u cludo o’r goedwig.
Ar ôl i’r coed olaf gael eu cwympo ym mis Tachwedd 2019 dechreuwyd ar brosiect i ddatblygu rhodfa’r goedwig.
Yn dilyn buddsoddiad a gwaith ailddatblygu sylweddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ail-agorodd rhodfa’r goedwig ym mis Mehefin 2021.
Mae’r rhodfa sy’n ymestyn am saith milltir yn cynnwys wyth o arosfannau lle ceir amrywiaeth o gyfleusterau newydd i ymwelwyr gan gynnwys ardaloedd chwarae, llwybrau hygyrch, twneli synhwyraidd a llwybr cerfluniau pren.
Hefyd ceir ardaloedd picnic, cyfleusterau barbeciw a thoiledau mewn rhai o’r arosfannau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n gofalu am rodfa’r goedwig drwy gytundeb partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Rhodfa Goedwig Cwm Carn ewch i wefan Coedwig Cwm Carn.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli'r llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Cwm Carn.
Mae’r ddau lwybr traws gwlad (Llwybr Twrch a Llwybr Cafall) â gradd coch (anodd).
Mae nodwyr llwybr arnynt o'r panel gwybodaeth ym maes parcio'r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r ddau lwybr ar i waered (Gwaered y Pedalhounds a Gwaered y Mynydd) â gradd oren (eithafol).
Mae nodwyr llwybr arnynt ac fe'u gwasanaethir gan Cwmdown, darparwr y gwasanaeth cludo beicwyr i fyny ar y safle.
Mae gwybodaeth am gau cyfredol ar frig y dudalen hon.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu eira.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Cwm Carn ar yr A467, wyth milltir o gyffordd 28 ar yr M4.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Caerffili a Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Coedwig Cwm Carn ar fap Arolwg Ordnans (AO) 152.
Cyfeirnod grid yr OS yw ST 229 935.
Gadewch yr M4 at gyffordd 28 a dilynwch arwyddion brown "Forest Drive" i fynedfa'r goedwig ar yr A467.
Y cod post ar gyfer sat nav yw NP11 7FA.
Mae gorsaf reilffordd agosaf y brif linell yn Crosskeys (llinell Caerdydd - Glyn Ebwy).
Y gwasanaeth bws agosaf yw 151 (Casnewydd i’r Coed-duon).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Caiff maes parcio ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Codir tâl am y maes parcio.
Am fwy o wybodaeth am barcio ewch i wefan Coedwig Cwm Carn.