Canolfannau Ymwelwyr Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian yn cadw Statws y Faner Werdd yn 2023
Mae'r canolfannau ymwelwyr yn Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian wedi ennill y Faner Werdd fawreddog eleni eto.
Mae'r wobr - a chydlynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.
Mae'r ddwy ganolfan – ger Aberystwyth yng Ngheredigion - yn cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Canolbarth Cymru, Neil Stoddart:
"Rydym yn falch iawn bod y ddwy ganolfan ymwelwyr wedi cael eu cydnabod unwaith eto am gynnal y safonau amgylcheddol uchaf. Mae cadw'r statws yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein staff i sicrhau bod ymwelwyr yn cael diwrnod i'w gofio ac eisiau dychwelyd yn y dyfodol.
"Mae'r ddau le yn wahanol iawn o ran eu cymeriad ond yn ddigon agos i ymweld â'r ddau mewn un taith dydd. Felly, os ydych chi yn ardal Aberystwyth, mae'n werth ymweld â nhw."
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus:
"Rydym wrth ein bodd bod y canolfannau ymwelwyr yn Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian yn gallu parhau i chwifio eu baneri gwyrdd yn falch.
“Mae mynediad am ddim i ardaloedd gwyrdd o safon uchel a diogel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd penigamp yn chwarae rôl allweddol yn iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur.”
“Mae’r newyddion bod 280 o barciau yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.”
Cydlynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol ar fannau gwyrdd eu hamser yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned.