Cefndir

Maestref yng Nghaerdydd yw Pen-y-lan, ac mae Nant Lleucu yn llifo trwyddi. Torrodd Nant Lleucu ei glannau y tro diwethaf yn ystod y llif uchel yn 2007 a 2009 ac yn ystod digwyddiadau llanwol yn 2010 a 2012.

Mae llawer o gartrefi a busnesau yn yr ardal mewn perygl o ddioddef llifogyddFlood risk areas of Roath and Rhymney. Mae hyn yn sgil llif uchel yr afon, llanw uchel neu gyfuniad o’r ddau.

Cynyddu a wnaiff y tebygolrwydd o ddioddef llifogydd gydag amser, oherwydd rhagwelir y bydd yna gynnydd yn lefel y môr a mwy o law aml a dwys o ganlyniad i newid hinsawdd.

Y Cynllun

Cwblhawyd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Nant Lleucu (Cam 1 a 2) yn 2018 gan leihau'r perygl o lifogydd i dros 300 o eiddo at ddigwyddiad llifogydd siawns 1 mewn 75 (1.3% o siawns o ddioddef llifogydd mewn unrhyw flwyddyn) yn sgil llif uchel yr afon a llifogydd siawns 1 mewn 150 (0.6% o siawns o ddioddef llifogydd mewn unrhyw flwyddyn) yn sgil llanw uchel.

Wnaethon ni welliannau mewn sawl lle ar hyd y nant rhwng Gerddi Melin y Rhath ac Afon Rhymni wrth Heol Casnewydd (ger archfarchnad Morrison’s). Dyma’r prif ardaloedd:

  • Gerddi Melin y Rhath
  • Gerddi Waterloo
  • Gerddi’r Rheilffordd (‘The Sandies’)

Rydym wedi adeiladu argloddiau a muriau llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath, Gerddi Waterloo a Gerddi'r Rheilffordd ac wedi ailosod pont Waterloo Road er mwyn hwyluso llif y nant. Rydym wedi lleihau’r effaith weledol trwy roi dulliau tirlunio trefol ar waith.

Trwy ymgynghori’n barhaus gyda thrigolion yr ardal, busnesau a rhanddeiliaid, roedd y gymuned leol wedi ein helpu i lunio’r cynllun terfynol, gan gynnwys cael gwared â chyn lleied o goed ag y bo modd a defnyddio llai o furiau drwy gydol y cynllun.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun ei roi gan Gyngor Caerdydd ym mis Ebrill 2016. Gellir gweld manylion y cais cynllunio ar-lein.

Gwaith i fynd i'r afael â'r perygl llifogydd sy'n weddill

Ar 24 Ionawr 2019, cymeradwyodd Bwrdd CNC ein cynnig i ailasesu cam olaf y cynllun (i ledu'r nant yng Ngherddi Nant Lleucu a Melin y Rhath, ​fel prosiect ar wahân. Rydym wedi penderfynu hyn ar sail cyngor gan Lywodraeth Cymru, barn a ddarparwyd gan y grŵp ymgyrchu gan ymgynghorydd annibynnol a dim cefnogaeth aruthrol gan y gymuned yr effeithir arno.

Ym mis Mawrth 2020, cwblhawyd yr ail-asesiad o'r perygl llifogydd sy'n weddill. Roedd yr ail-asesiad yn ystyried y gwaith a gwblhawyd eisoes i lawr yr afon a'r bont droed newydd a adeiladwyd yng Ngerddi Nant Lleucu gan Gyngor Caerdydd.

Adeiladwyd y bont droed ar ôl asesu'r perygl llifogydd gwreiddiol ond roedd y bont yn wedi’i ystyried yn y gwaith arfaethedig yng Ngerddi Nant Lleucu fel rhan o'r cynllun ehangach.

Mae'r canlyniad cychwynnol yn amcangyfrif y bydd y nifer o gartrefi mewn perygl llifogydd, yn ystod digwyddiad llifogydd â siawns 1.33% (1 mewn 75) o ddigwydd, wedi gostwng i 11. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid a'r gymuned i ddod o hyd i ateb i reoli’r perygl llifogydd, a bydd y risg hwn ond yn cynyddu oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Efallai fod ffordd o fynd i'r afael â'r perygl sy'n weddill fel rhan o'r gwaith y mae Cyngor Caerdydd yn ei ystyried yn Llyn Parc y Rhath, i fyny’r afon o Ben-y-lan. Rydym yn trafod hyn gyda Chyngor Caerdydd ac ni fyddwn yn ystyried gwaith pellach yng Ngerddi Nant Lleucu a Melin y Rhath tan i'r trafodaethau hyn gwblhau.

Byddwn yn hysbysu'r gymuned leol unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau a pha opsiynau sydd gennym i fynd i'r afael â'r perygl sy'n weddill.

Lluniau Cyn ac Ar ol

  

Mae nifer o luniau ar gael sy’n dangos sut olwg a fydd ar y cynllun cyn ac ar ôl y gwaith, unwaith mae'r coed wedi sefydlu, mewn lleoliadau arbennig ar hyd y llwybr ac yng Ngerddi’r Rhath.

Clirio a Phlannu Coed

Er mwyn sicrhau’r amddiffyniad angenrheidiol rhag llifogydd ac adeiladu argloddiau, muriau llifogydd newydd, lledu'r sianel, yn anffodus roedd rhaid clirio rhywfaint o goed ar hyd glannau Nant Lleucu.

I gael manylion ynglŷn â thorri a phlannu coed, ebostiwch roath@naturalresourceswales.gov.uk.

Rydym yn deall sut mae'r gymuned yn teimlo am y coed yn yr ardal, felly roedden ni wedi ceisio dylunio'r cynllun i leihau'r effaith hyn. Er enghriafft, gan peidio cael gwared ar goed ar ffiniau  parciau, a'n ailblannu coed o ansawdd gwell.

Nid oedd yn bosibl achub pob coeden yn y gerddi, ond rydym wedi ceisio unioni’r cydbwysedd rhwng gwarchod yr ardal gadwraeth a nodweddion treftadaeth y parc ar y naill law ac adeiladu’r cynllun a sicrhau’r safon angenrheidiol o amddiffyniad rhag llifogydd ar y llaw arall.

Banc coed cymunedol

Fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ein nod yw cynnal cyfraniad bositif i'r gymuned. Rydym wedi plannu coed ychwanegol yng nghae chwarae Parc y Rhath, ac wedi cynnig goed i blant er mwyn eu plannu gartref.

Gwybodaeth cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y cynllun, anfonwch e-bost at roath@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf