Cefndir

Mae Arglawdd Tan Lan yn arglawdd 3.2km o hyd sy’n dirywio; mae wedi'i leoli'n agos at Abaty Maenan a 2km i'r Gogledd o Lanrwst yn Nyffryn Conwy. Mae'n dilyn Afon Conwy o'r groesfan reilffordd yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol 279060, 363500 i groesfan reilffordd arall yn 278560, 365734

Ar hyn o bryd mae’r arglawdd yn darparu lefel isel iawn o ddiogelwch rhag llifogydd i 6 chartref, busnesau lleol (gan gynnwys 49 o garafanau), tir amaethyddol, prif gefnffordd gogledd-de yr A470 a'r cyswllt rheilffordd sy'n cysylltu cymunedau Dyffryn Conwy â'r brif reilffordd yng Nghyffordd Llandudno. 

Oherwydd ei leoliad ar Afon Conwy ac o fewn Terfyn Arferol y Llanw (NTL), mae dŵr yn gorlifo drosto’n rheolaidd gan achosi difrod. Ers y 1960au, cofnodwyd o leiaf 10 achos o dorri'r arglawdd a nifer o atgyweiriadau eraill.

Yn ystod Storm Ciara, ar benwythnos 7 Chwefror 2020, llwyddodd cynllun llifogydd Dyffryn Conwy i amddiffyn eiddo yn Llanrwst a Threfriw rhag llifogydd o Afon Conwy. Fodd bynnag, gwnaeth lefel uchel yr afon, unwaith eto, ddifrodi a thorri arglawdd Tan Lan gan achosi i dir amaethyddol a thir isel fod dan ddŵr.

Fel rhan o'r argyfwng hinsawdd, rhagwelir y byddwn yn cael stormydd a glaw trwm yn amlach yn ogystal â gweld lefelau'r môr yn codi.  Felly bydd dŵr yn torri dros arglawdd Tan Lan gan achosi difrod iddo yn broblem barhaus, o ystyried ei gyflwr dirywiol a'i lefel gymharol isel.  

Mae CNC yn gyfrifol am amddiffyn pobl a chartrefi sy’n wynebu’r perygl mwyaf o lifogydd. Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rydym yn cymryd dull mwy cynaliadwy o reoli risg llifogydd ac yn archwilio cyfleoedd i alluogi ein tirwedd i addasu i newid yn yr hinsawdd.

Ynglŷn â'r Astudiaeth Hyfywedd

Cyn ein bod yn ymrwymo i unrhyw waith atgyweirio pellach, rydym yn mynd i gynnal astudiaeth hyfywedd i ddod o hyd i'r opsiynau gorau ar gyfer dyfodol yr arglawdd, gan ystyried yr effaith ehangach ar Ddyffryn Conwy.  

Bydd yr astudiaeth yn nodi opsiynau cynaliadwy ar gyfer rheoli'r arglawdd a'r risg llifogydd i gymunedau lleol. Rhan bwysig o'r broses hon fydd siarad â thrigolion lleol, tirfeddianwyr a chymunedau ym Maenan a Than Lan.

Rhaid i ni sicrhau nad yw newidiadau i'r arglawdd yn cael effeithiau risg llifogydd ehangach ar wasanaethau, cartrefi a seilwaith lleol.

Bydd angen i unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol yr arglawdd ystyried Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru, sy'n darparu fframwaith ar gyfer rheoli effaith tymor hir llifogydd llanw ledled Cymru. Mae'n cynnwys Aber Uwch Conwy o Dal y Cafn i Lanrwst. 

Rhaid edrych ar bob safle yn y cynllun yn fanwl ac yn ôl ei nodweddion penodol cyn ymgymryd ag unrhyw addasiadau rheoli llifogydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y dolenni canlynol:

Bydd angen i'r ateb hefyd sicrhau rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.  Mae mwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio gyda'r rhain ar ein gwefan:

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Rheoli Adnoddau Naturiol

Cadw mewn Cysylltiad

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y gall cymunedau lleol a'r rhai sydd â diddordeb yn y prosiect gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch dyfodol Arglawdd Tan Lan. Cyhoeddir manylion yr astudiaeth a sut i ddweud eich dweud wrth i'r prosiect ddatblygu.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect neu dderbyn diweddariadau rheolaidd, cysylltwch â: tan.lan@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf