Iechyd a lles
Ein cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru, ond mae gennym gyfrifoldebau hefyd i wella lles. Darparu dyfodol gwell i bawb:
- lleihau’r effaith a gaiff busnesau ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd
- annog pobl i fynd allan i’r awyr agored ac ymgysylltu â byd natur
Beth ydym yn ei wneud
- hyrwyddo manteision ymgysylltu â byd natur a’r amgylchedd naturiol
- rheoleiddio busnesau yn ogystal â darparu cyngor a chanllawiau i leihau eu heffaith ar iechyd pobl
- ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol, er enghraifft llygredd aer, clefyd coed a llifogydd
- ymgynghori ar y polisi a’r strategaeth iechyd a lles cenedlaethol
- ystyried yr effaith mae ein strategaethau, cynlluniau, polisïau a phrosiectau yn ei gael ar iechyd a lles pobl
- gofalu am safleoedd ledled Cymru lle gall pobl fynd i gerdded, rhedeg, beicio, marchogaeth a mwy
- cyhoeddi adnoddau addysg i helpu mwy o bobl ifanc ddysgu yn yr awyr agored ac ymgysylltu â byd natur
- darparu cyllid grant ar gyfer prosiectau sy’n helpu i wella iechyd pobl
Gweithio gyda’n partneriaid
Mae ein cynghorwyr iechyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol drwy’r Datganiadau Ardal, i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy boddhaus, wedi’u hamddiffyn rhag peryglon amgylcheddol.
Dyma rai o’n prif feysydd dylanwad:
- Strategaeth Gordewdra Pwysau Iach: Cymru Iach
- Bwrdd Teithio Llesol
- Grŵp gorchwyl a gorffen Strategaeth Presgripsiynu Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
- Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Grŵp Cynghori Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Grŵp Llywio Cymru o Blaid Pobl Hŷn
- Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru
- Grŵp Gweithgarwch Corfforol Cenedlaethol (NAPG) a Chynnig Rhagweithiol Dyddiol
- Hawliau plant i gael amgylchedd iawch
- Rhoi sylw i fanteision yr amgylchedd naturiol a hyfforddi meddygon teulu drwy weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf