Cynllun Adnoddau Coedwig Llanuwchllyn - Cymeradwywyd 12 Gorffennaf 2023

Lleoliad a safle

Mae Coedwig Llanuwchllyn yn ymestyn dros 1,503 Hectar ac wedi’i lleoli i’r Gorllewin o Lyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r goedwig yn cynnwys nifer o flociau coedwig sef Penaran, Wenallt a Lordship, yn ogystal â nifer o goetiroedd llai sydd wedi’u canolbwyntio o amgylch pentref Llanuwchllyn. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau dŵr yn y goedwig gan gynnwys ffynhonnell Afon Dyfrdwy yn llifo i Lyn Tegid, sy’n ardal gadwraeth arbennig. Mae’r goedwig hefyd yn gorgyffwrdd ag ardal cadwraeth arbennig Migneint-Arenig-Dduallt lle ceir sawl cynefin gorgors a gweundir.

Map lleoliad Llanuwchllyn

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Adfer a chynnal nodweddion o ddiddordeb ACA Migneint-Arenig-Dduallt sydd i’w cael o fewn y goedwig i gyflwr ffafriol, yn unol ag amcanion cadwraethol. Mae’r rhain yn cynnwys cynefinoedd Gweundir Sych a Gwlyb a Gorgors.
  • Rheoli ymyl y goedwig yn briodol er budd, ac i sicrhau cyflwr ffafriol ar gyfer cynefinoedd gweundir sych a gwlyb, gorgors ac adar ysglyfaethus. Ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer rheoli megis lleiniau clustogi o goetir olynol brodorol i leihau gymaint ag sydd bosibl ar effaith conwydd sy’n hadu ac er mwyn darparu cysgod i adar sy’n nythu ar lawr megis Bodaod Tinwyn a Grugieir Duon.
  • Creu strwythur coedwig ac ecosystem parhaol ac amrywiol sy’n cynnwys coetir torlannol a brodorol, gyda gwarchodfeydd naturiol a mwy o goetir olynol a chynefinoedd agored ar hyd ffyrdd a llwybrau cul y goedwig. Bydd ecosystem y coetir yn parhau i ddarparu cynefinoedd ar gyfer nifer o rywogaethau o adar, mamaliaid ac infertebratau yn ogystal ag amrywiaeth eang o fflora.
  • Cynyddu nifer y coed marw sydd yn y goedwig, sy’n cynnal biota amrywiol yn ecosystem y goedwig.
  • Ehangu’r rhwydwaith o goetir torlannol sy’n bodoli eisoes i ddarparu gwell dull clustogi yn erbyn gweithrediadau cynaeafu ac i helpu i wella ansawdd dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoliad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 wrth gynnal gweithgareddau, drwy ddilyn arferion gorau fel y cânt eu nodi yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigoedd a Dŵr’ i warchod ansawdd dŵr ac ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.
  • Cynllunio llennyrch cwympo coed a defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith lle bo’n bosibl wrth reoli nawr ac yn y dyfodol, er mwyn lleihau’r effaith ar ansawdd dŵr yn ardal ehangach prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, drwy leihau’r risg o waddodi, llifau brig ac asideiddio yn ogystal â lleihau effeithiau gweledol ar y dirwedd.
  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig drwy hyrwyddo strategaeth ailstocio fwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiaethau o goed llydanddail a choed brodorol yn ogystal â chonwydd cynhyrchiol.
  • Gwella strwythur mewnol y goedwig drwy ddatblygu amrywiaeth o ran dosbarth ac oedran, amrywiaethau o ran meintiau coed a chymysgedd o rywogaethau pan fo’n bosibl. Gellir gwneud hyn drwy leihau systemau rheoli llwyrgwympo yn raddol a sefydlu systemau coedwigaeth gorchudd di-dor yn eu lle yn y tymor hir sy’n ymaddasu’n well.
  • Cael gwared ag unrhyw larwydd sydd wedi’u heintio gan Phytophthora ramorum ac yn y pen draw, cynllunio ar gyfer gwaredu’r ardaloedd lle ceir nifer sylweddol o larwydd o dan Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.
  • Cynnal hyfywedd masnachol hir dymor y goedwig, drwy gynllunio cyflenwad cynaliadwy o bren, ac ar yr un pryd bodloni’r holl amcanion a blaenoriaethau eraill.
  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwig ac olrhain i ddarparu gwell mynediad i ganiatáu gweithredu’r cynllun a mwy o systemau coedamaeth bach eu heffaith wrth reoli yn y dyfodol.
  • Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwig. Efallai y bydd angen ymgynghoriad ychwanegol mewn ardaloedd archeolegol sensitif a nodwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
  • Ystyried effaith weledol gweithrediadau rheoli a chynigion hir dymor ar olygfeydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Canolbwyntir ar y cyferbyniad rhwng conwydd llawn dwf a’r dirwedd agored.
  • Gwella gwerth gweledol, synhwyraidd a thirweddol y goedwig drwy gynyddu coetir brodorol.
  • Cynnal a gwella cyfleoedd ar gyfer parhau i ddefnyddio ffyrdd y goedwig a hawliau tramwy cyhoeddus gan gynnwys llwybrau eraill o fewn y goedwig.
  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus y mae gweithrediadau cynaeafu yn effeithio arnynt, gan gynnwys cwympo, teneuo ac ailstocio. Bydd unrhyw hawl tramwy cyhoeddus sy’n bodoli eisoes ac y mae gwaith plannu yn cael ei wneud drosto ar hyn o bryd am resymau hanesyddol, yn cael ei ailsefydlu yn unol â’r map diffiniol.
  • Adfer pob Safle Coetir Hynafol trwy waredu conwydd yn raddol dros gyfnod o amser.
  • Ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid ac ar brosiectau megis ‘prosiect LIFE afon Dyfrdwy’ i ddatblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella cysylltedd a gwydnwch hirdymor ecosystemau yn y dirwedd ehangach.
  • Parhau i archwilio’r potensial ar gyfer prosiectau trydan dŵr ar raddfa fach, er enghraifft ar hyd afon Dyfrdwy yng Nghoedwig Penaran.

Mapiau

Gweledigaeth hirdymor

Strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo

Mathau o goedwigoedd ac ailstocio

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf