Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Coetir y mae’n hawdd dod o hyd iddo, lle y ceir taith gerdded fer
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coetir Efail y Rhidyll ar ymyl Coedwig Clocaenog.
Mae wedi’i enwi ar ôl Ystad enfawr Efail y Rhidyll (Pool Park) gynt, a oedd ym mherchnogaeth teulu Bagot.
Yn wreiddiol roedd yr ardal yn un o bump o barciau ceirw a ddefnyddid gan berchnogion Castell Rhuthun ar gyfer hela.
Y maes parcio bach yw’r man cychwyn ar gyfer llwybr cerdded byr sydd â nodwyr arno, sy’n ddelfrydol ar gyfer torri siwrnai i ymestyn eich coesau neu i fynd am dro gyda’ch ci.
Mae sawl llwybr cyhoeddus gerllaw os oes map gennych ac os hoffech fynd ar daith gerdded hwy.
Mae’r llwybr â nodwyr arno ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Mae’r llwybr byr hwn yn dilyn nant ac yna’n dringo’n raddol drwy’r coetir.
Sylwch ar y coed ffynidwydd Douglas enfawr sy’n ffynnu yma a’r clystyrau o glychau’r gog yn y gwanwyn.
Mae Efail y Rhidyll ddwy filltir i’r de-orllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
Mae parcio’n ddi-dâl.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Ewch ar ffordd y B5105 o Ruthun tuag at Glawddnewydd.
Ar ôl 1½ filltir, mae’r maes parcio ar y dde.
Mae Efail y Rhidyll ar fap Arolwg Ordnans (AR) 279, 293 neu 294.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 101 560.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000