Crynodeb

Mae ffermdir caeedig yn cynnwys y tir amaethyddol wedi'i wella a'i led-wella yng Nghymru sydd wedi'i amgylchynu gan ffiniau caeau. Mae'r ecosystem hon yn cwmpasu 54% o Gymru. Y brif ran yw glaswelltir wedi'i wella gan amaethyddiaeth. Rheolir yr ecosystem yn bennaf ar gyfer cynhyrchu bwyd, yn enwedig cynhyrchu da byw ar gyfer cig a llaeth.

Mae ffermdir caeedig yn ecosystem a reolir yn ddwys gydag ardaloedd bach o werth uchel o ran bioamrywiaeth fel:

  • Gwrychoedd
  • Perllannau traddodiadol
  • Porfeydd coediog
  • Parcdir
  • Tir âr wedi'i reoli'n helaeth

Mae cynhyrchiant amaethyddol wedi aros yn gymharol sefydlog dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae darparu bwyd yn cael effaith negyddol ar wasanaethau ecosystemau eraill. Gall allyriadau amonia a dŵr ffo achosi llygredd i dir, dŵr ac aer. Mae hyn, ynghyd â phlannu cnydau a glaswelltir prin ei rywogaethau, yn arwain at golli bioamrywiaeth frodorol.

Mae amaethyddiaeth yn wynebu her fawr o ran lleihau ei chyfraniad at newid yn yr hinsawdd. Mae angen iddi leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae ganddi rôl i'w chwarae wrth storio carbon.

Gallai defnyddio maetholion yn fwy effeithlon ar raddfeydd caeau, ffermydd a dalgylchoedd leihau llygredd gwasgaredig a gwella cyflwr y pridd heb effeithio ar faint o fwyd a gynhyrchir. Fodd bynnag, mae angen newidiadau systemig i arferion amaethyddol cyfredol er mwyn mynd i'r afael yn llawn â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod ffermdir caeedig (Saesneg PDF)

Mae'r bennod hon yn archwilio cyflwr presennol tir amaethyddol cynhyrchiol yng Nghymru. Mae'n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i wella gwydnwch a gwasanaethau ecosystemau. Gall camau gweithredu sy'n cynnwys amrywio'r defnydd a wneir o'r tir, rheoli priddoedd a maetholion a defnyddio arferion ffermio arloesol a chynaliadwy wella cynhyrchiant a diogelu'r amgylchedd.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod ffermdir caeedig wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf