Crynodeb

Mae angen dŵr ar bob peth byw i oroesi, ac eto'n fyd-eang, mae ecosystemau dŵr croyw ymhlith y rhai sydd fwyaf dan fygythiad. Mae afonydd, llynnoedd, pyllau a gorlifdiroedd yn gartrefi i fioamrywiaeth gyfoethog gan gynnwys peth o'r bywyd gwyllt sydd fwyaf dan fygythiad yng Nghymru fel misglod perlog, eogiaid a llygod pengrwn y dŵr.

Yng Nghymru, dim ond 44% o afonydd sydd â statws ecolegol da o dan ddosbarthiad interim Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2018. Mae amrywiaeth o bwysau yn peryglu iechyd ein hecosystemau dŵr croyw, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, llygredd, addasu ffisegol, tynnu dŵr a rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae cysylltiad agos rhwng rheoli ecosystemau dŵr croyw yn gynaliadwy a'r tir cyfagos o fewn eu dalgylchoedd.

Mae ecosystemau dŵr croyw yn darparu gwasanaethau ecosystem pwysig gan gynnwys cyflenwi dŵr, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, rheoli llifogydd, gwaredu gwastraff, pysgodfeydd a hamdden. Mae cydbwyso'r defnydd o'r gwasanaethau hyn â'i gilydd a rheoli dalgylchoedd yn gynaliadwy yn her sylweddol.

Ein hasesiad

Lawrlwytho SoNaRR2020: Pennod dŵr croyw (Saesneg PDF)

Mae'r bennod yn cyflwyno tystiolaeth ar gyflwr ecosystemau dŵr croyw a'r pwysau sy'n effeithio ar eu hiechyd. Mae'n trafod goblygiadau'r dystiolaeth hon o ran gwydnwch ecosystemau a darparu gwasanaethau ecosystemau. Mae hefyd yn disgrifio cyfleoedd i reoli ecosystemau dŵr croyw yn gynaliadwy.

Mae anghenion tystiolaeth y bennod dŵr croyw wedi'u cynnwys yn y tabl anghenion tystiolaeth cyffredinol.

Dogfennau cysylltiedig i'w lawrlwytho

Data, mapiau ac adroddiadau sy’n gysylltiedig â SoNaRR 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf