Herio ein mapiau llifogydd

Sut i herio ein mapiau llifogydd

Rhaid i chi anfon y canlynol atom os ydych am herio ein mapiau llifogydd:

  • eich model perygl llifogydd newydd
  • adroddiad model perygl llifogydd a mapiau perthnasol
  • nodyn newid map llifogydd (cysylltwch â'r timoedd risg llifogydd lleol am y cyfeiriadau ebyst isod am fwy o wybodaeth)

Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o berygl llifogydd sy'n rhagori ar y dystiolaeth sydd gennym.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys yr wybodaeth yr ydym ei hangen gan ddefnyddio'r canlynol:

Cysylltwch â'r tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd lleol cyn i chi ddechrau eich proses herio. Bydd y tîm yn trafod y dull y bydd angen i chi ei ddilyn a lefel y gwaith modelu y bydd yn ofynnol gennym:

FRASouth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
FRANorth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd heriau yn llywio ein diweddariadau i'n map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynullio.

Ein modelau a'n mapiau perygl llifogydd

Mae ein mapiau llifogydd yn defnyddio modelau mathemategol manwl i ddehongli'r data gorau sydd ar gael am y dirwedd a llifau dŵr.

Rydym wedi gwella ansawdd a manwl gywirdeb ein gwaith modelu a mapio yn sylweddol dros amser. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall fod meysydd lle gallem wella neu ddiweddaru ein gwybodaeth am berygl llifogydd.

Daw'r data rydym yn ei ddefnyddio â rhywfaint o ansicrwydd oherwydd terfynau manwl gywirdeb yn ein dulliau o fesur a modelu.

Yr hyn y gallwch ei herio yn ein mapiau perygl llifogydd

Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Gallwch herio'r haenau canlynol ym map Asesu Perygl Llifogydd Cymru

  • afonydd
  • y môr
  • cyrsiau dŵr bach a dŵr wyneb
  • ardaloedd a amddiffynnir

Mae'r map hwn yn dangos yr ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd â lefel amddiffyn rhag llifogydd o afonydd neu'r môr sydd cyfwerth â siawns o un ym mhob 30, neu fwy, y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Gall ardaloedd elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd hyd yn oed os yw'r amddiffynfa yn cael ei gorlifo, oherwydd eu bod yn gallu atal llifogydd os yw presenoldeb yr amddiffynfa honno'n golygu nad yw'r dŵr llifogydd yn ymestyn mor bell ag y byddai pe na bai’r amddiffynfa yno.

Rhagor o wybodaeth am y map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a'r categorïau risg uchel, canolig, isel ac isel iawn.

Y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Gallwch herio'r haenau canlynol yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynullio

  • Parth Llifogydd 3 – yn achos afonydd a dŵr wyneb lle ceir siawns o un ym mhob 100, neu fwy, y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn, gan gynnwys effeithiau'r newid yn yr hinsawdd; siawns o un ym mhob 200 o lifogydd yn achos y môr
  • Parth Llifogydd 2 – yn achos afonydd a dŵr wyneb lle ceir siawns o rhwng un ym mhob 100 ac un ym mhob 1,000 o lifogydd, gan gynnwys effeithiau'r newid yn yr hinsawdd; siawns o rhwng un ym mhob 200 ac un ym mhob 1,000 o lifogydd yn achos y môr
  • Parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Mae'r haen ar gyfer parthau a amddiffynnir o dan Nodyn Cyngor Technegol 15 yn dangos ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd llifogydd ffurfiol sy'n berchen i Awdurdodau Rheoli Risg ac a gynhelir ganddynt.

Mae gan amddiffynfeydd llifogydd a adeiladwyd cyn 1 Ionawr 2016 y lefel amddiffyn ganlynol:

  • siawns o un ym mhob 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn yn achos afonydd
  • siawns o un flwyddyn ym mhob 200 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn yn achos y môr

Rhaid i amddiffynfeydd llifogydd a adeiladwyd ar ôl 1 Ionawr 2016 fodloni lefel flaenorol yr amddiffyniad, a chynnwys y canlynol yn ogystal:

  • lwfans ar gyfer bwrdd rhydd dylunio (lwfans a ychwanegir ar gyfer uchder yr amddiffyniad er mwyn lliniaru yn erbyn ansicrwydd yn y gwaith modelu)
  • lwfans ar gyfer effeithiau'r newid yn yr hinsawdd

Defnyddio modelau perygl llifogydd lleol

Rydym yn defnyddio ‘model cyffredinol’ ar gyfer perygl llifogydd o afonydd ac o'r môr ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru. Ond mewn ardaloedd lle ceir risg uchel i bobl, er enghraifft ardaloedd trefol, rydym yn defnyddio modelau perygl llifogydd lleol manwl.

Dylech ddefnyddio'r modelau perygl llifogydd lleol manwl hyn fel sail i'ch modelau newydd, lle bônt ar gael. Gallwch weld lleoliad y modelau hyn ar ein Map Llifogydd ar gyfer Cynullio, ar ffurf yr haen ‘Rheolwr model lleol CNC’ ar y ‘map manwl’.

Bydd yn rhaid i chi wneud cais am y data am y modelau lleol hyn a gallwn godi tâl arnoch am y gwasanaeth hwn datadistribution@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ni fydd gennym ddata ar gyfer rhai ardaloedd, a bydd angen model newydd arnoch.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi herio ein mapiau llifogydd?

Bydd ein tîm dadansoddi perygl llifogydd lleol yn gwneud y canlynol:

  • gwerthuso eich adroddiad model llifogydd
  • profi'ch model llifogydd a'r hydroleg i ddeall eich canlyniadau a'ch dull o ddatblygu'r model
  • gwirio sefydlogrwydd eich model
  • cymharu eich canlyniadau chi â'n gwybodaeth ein hunain

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl na fydd gennym y feddalwedd angenrheidiol i gynnal asesiad manwl o'ch model. Mewn achosion o'r fath, byddwn yn anfon eich model at ymgynghorydd trydydd parti i gael adolygiad annibynnol gan gymheiriaid.

Os yw eich her yn llwyddiannus

Os yw eich her i'n mapiau llifogydd yn llwyddiannus, mae hyn yn golygu bod eich model yn addas er mwyn newid ein mapiau llifogydd.

Nid yw hyn yn golygu'r canlynol:

  • ein bod yn cytuno bod eich model yn addas i bob diben
  • bod eich cynigion datblygu yn briodol
  • na fyddwn yn gwneud sylwadau pellach ar berygl llifogydd yn yr ardal sy'n destun eich her

Bydd angen i chi ystyried y canlynol hefyd:

  • ni ellir dileu perygl llifogydd yn llwyr, a disgwylir iddo gynyddu dros amser oherwydd y newid yn yr hinsawdd
  • gall y cyhoedd ofyn i weld canlyniadau ein hasesiad o'ch model o dan Reoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
  • os oedd ein hasesiad o'ch adolygiad o'r model yn rhan o gynnig datblygu awdurdod lleol, bydd yr asesiad yn debygol o fod ar gael yn gyhoeddus fel rhan o ffeil achos cynllunio
Diweddarwyd ddiwethaf