Gweld eich risg llifogydd ar fap (Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru)
Gwaith cynnal a chadw critigol parhaus
Rydym yn cynnal gwaith cynnal a chadw ar ein gwasanaethau mapio. Mae’n bosib na fydd ein mapiau yn ymddangos yn iawn dros y cyfnod hwn.
Ceisiwch ail-lwytho'r dudalen (F5 ar eich allweddell)
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.
Gwiriwch a ydych chi mewn perygl
Mae'r map Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn ddangos pa mor agored ydych i lifogydd o'r canlynol:
- afonydd
- y môr
- dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach
- cronfeydd dŵr
Mae'r map hefyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am eich ardal, megis:
- lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd
- yr ardaloedd sy'n elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd
- cynlluniau rheoli traethlin
Nid oes dim statws swyddogol i’r map hwn at ddibenion cynllunio. Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio / Map Cyngor Datblygu ar gyfer materion cynllunio datblygu. Gyda'i gilydd mae'r ddau fap hyn yn ffurffio Map Llifogydd Cymru.
Gallwch hefyd weld yr holl ardaloedd yr ydym yn darparu rhybuddion llifogydd am ddim ar eu cyfer.
Herio ein mapiau llifogydd
Dysgwch fwy am ein gwybodaeth risg llifogydd, gan gynnwys canllawiau ar:
Data GIS
Os oes angen i chi lawrlwytho data GIS, gellir lawrlwytho nifer o haenau’r map o MapDataCymru.
Ffyrdd eraill o ddysgu am berygl llifogydd tymor hir
- Ffoniwch Floodline: 0345 988 1188
- Sgwrsio drwy deipio: 0345 602 6340 (ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw)
Dysgwch fwy am gostau galwadau (Saesneg yn unig)
Cydnabyddiaeth
Mae'n cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Natural Resources Wales a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae cyfran o’r wybodaeth wedi’i seilio ar ddata gofodol digidol sydd wedi’u trwyddedu gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg © NERC (CEH). Mapio Daearegol: Arolwg Daeareg Prydain © NERC. DEFRA a’r Swyddfa Dywydd © hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Cynnwys data OS data © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data 2017. Gwasanaethau Tir ac Eiddo Land © Hawlfraint y Goron a hawl sylfaen-data.
Chwyddwch mewn i'r lleoliad mae gennych ddiddordeb ynddo er mwyn darganfod mwy.