Datblygu modelau hydrolig ar gyfer perygl llifogydd

Cyn i chi ddatblygu model hydrolig

Cyn i chi ddechrau gweithio ar eich model hydrolig, cysylltwch â'ch tîm dadansoddi perygl llifogydd lleol i drafod cwmpas eich model a pha ddata y bydd ei angen arnoch.

FRASouth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
FRANorth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn ddefnyddio eich canlyniadau i ddiweddaru ein mapiau a chynlluniau llifogydd, a'n data am lifogydd.

Dilynwch y canllawiau ar y dudalen hon i gyflwyno model sydd o ansawdd digonol i ni allu ei asesu. Gwrthodwn ni unrhyw fodelau sydd ddim o ansawdd digonol. 

Yr hyn y mae angen i chi ei gynnwys yn eich cyflwyniad

Dylid sicrhau bod gwaith modelu hydrolig yn cael ei wneud gan unigolion a sefydliadau cymwys.

Defnyddiwch ein rhestr wirio model llifogydd i sicrhau eich bod wedi cynnwys gweithgareddau allweddol.

Dylech gwblhau'r canlynol:

  • astudiaeth gwmpasu i nodi'r data sydd ei angen arnoch i greu eich model hydrolig
  • adroddiad cwmpasu i grynhoi'r data hwn
  • model 1D/2D sydd wedi'i gysylltu'n hydrodynamegol (yn y rhan fwyaf o achosion – mewn rhai achosion, gall model 1D neu 2D ‘unigol’ fod yn opsiwn gwell). Gallech ystyried modelau 3D ar gyfer achosion cymhleth, er enghraifft adeileddau hydrolig, neu achosion lle mae'n bwysig deall y newid fertigol mewn corff o ddŵr
  • adroddiad model a log model

Pecynnau modelu

Defnyddiwch offeryn Meincnodi Asiantaeth yr Amgylchedd i asesu addasrwydd eich pecyn modelu llifogydd hydrolig Gallwch hefyd ddefnyddio dulliau profi pwrpasol mwy diweddar drwy feddalwedd, lle bo'n berthnasol.

Dylech ystyried y canlynol o safbwynt y pecyn modelu:

  • argaeledd cyffredinol y feddalwedd
  • p'un a fydd y bobl a fydd yn adolygu, holi, ac yn rheoli data'r model yn meddu ar y sgiliau i ddefnyddio'r feddalwedd

Dylech ystyried y canlynol o safbwynt y dull modelu:

  • graddfa'r perygl llifogydd (i sicrhau bod lefel yr asesiad yn gymesur â'r risg)
  • ffynhonnell, mecanwaith a graddfa llifogydd
  • y derbynyddion sy'n agored i lifogydd
  • argaeledd ac addasrwydd gwybodaeth sy'n bodoli eisoes am berygl llifogydd
  • mwyafu ar gyfleoedd a chyflawni buddion ‘ehangach’

Terfynau modelau

Hydroleg (llifau afon a glawiad)

Rhaid i chi lynu wrth safonau ac arferion gorau'r diwydiant ar gyfer amcangyfrif llifau afon a glawiad, fel a ganlyn:

  • dilynwch ganllaw technegol GN008 ar amcangyfrif llifogydd ar gyfer eich cyfrifiadau hydrolegol (cysylltwch â ni i ofyn am hyn)
  • anfonwch gofnod cyfrifo o'r amcangyfrif llifogydd atom fel y gallwn gytuno arno cyn i chi gychwyn unrhyw waith modelu hydrolig manwl. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi oedi a gwaith ychwanegol diweddarach

Dylai'r asesiad hydrolegol fod yn broses ailadroddol sy'n cael ei chynnal ochr yn ochr â'r gwaith modelu hydrolig. Er enghraifft, dylech adolygu a diweddaru eich amcangyfrifon (lle mae data addas ar gael) fel rhan o ymarfer graddnodi a dilysu.

Amodau arfordirol

Yn achos lefelau eithafol y môr, defnyddiwch Set Ddata Ffin Llifogydd Arfordirol 2018 sydd wedi'i diweddaru ac sydd ar gael ar Borth Lawrlwytho Data Gofodol DEFRA.

Gall y timau dadansoddi perygl llifogydd lleol roi arweiniad a chyngor ychwanegol i chi ar ofynion o ran tonnau'n gorlifo.

Y newid yn yr hinsawdd

Rhaid i chi wneud cais am lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn achosion amcangyfrifon ar gyfer y canlynol:

  • llifau afon
  • glawiad
  • lefelau eithafol y môr

Mae Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol: addasu i newid yn yr hinsawdd gan Lywodraeth Cymru yn nodi'r lwfansau cyfredol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd. Ceir dadansoddiad manwl o ofynion yn Gofynion o ran allbwn modelau.

Arolygon topograffig ac arolygon LiDAR

Bydd angen i chi gynnal arolygon topograffigol ar gyfer y canlynol:

  • sianel yr afon
  • pob adeiledd yn y sianel sy'n dylanwadu ar lefelau neu lifau llifogydd
  • brig y lan (yn rheolaidd a lle ceir newid amlwg mewn lefel, graddiant a chyfeiriad / aliniad)
  • amddiffynfeydd llifogydd ffurfiol ac adeileddau ‘anffurfiol’ eraill sy'n dylanwadu ar lifogydd
  • unrhyw adeileddau neu nodweddion gorlifdir sylweddol

Dylech ddilyn Manylebau Technegol Safonol (Fersiwn 5.0) Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer cynnal eich arolwg.

Rhaid i chi wneud y canlynol os ydych yn modelu data ar sail arolygon a gynhaliwyd eisoes:

  • sicrhau bod data'r arolygon yn gyfredol ac yn addas ar gyfer ei ailddefnyddio
  • dilysu data sydd eisoes yn bodoli yn erbyn data newydd
  • cadarnhau na fu unrhyw newidiadau ers casglu data'r arolygon a gynhaliwyd eisoes, er enghraifft newidiadau o waith dyn neu brosesau naturiol
  • ystyried p'un a oes angen i chi ddiweddaru eich data ar sail newidiadau yn lefelau Datwm Ordnans (OSTN15)yn 2016

Os nad ydych yn sicr o safbwynt unrhyw beth uchod, dylech gynnal arolwg newydd.

Mae data tir LiDAR ar gael o MapDataCymru. Gallwch ei ddefnyddio i gynrychioli'r gorlifdir mewn dau ddimensiwn.

Elfennau modelau

Dylech gynnwys yr elfennau canlynol yn eich model:

  • cwmpas y model – a yw terfyn y model (ei gwmpas) yn briodol, ac a yw'r parthau 1D a 2D yn yr ardaloedd cywir? A yw cwmpas y model yn cynnwys yn llwyr effeithiau llifogydd ym mhob ardal y ceid effaith arnynt (ar y safle ac ar ardaloedd cyfagos)?
  • terfynau i fyny’r afon ac i lawr yr afon - a ydynt yn ymestyn yn ddigon pell i ddileu unrhyw ansicrwydd yn yr ardaloedd o ddiddordeb?
  • sianel yr afon – a ydych wedi pennu bylchau priodol rhwng trawstoriadau er mwyn adlewyrchu newidiadau yng ngeometreg, graddiant ac aliniad y sianel?
  • adeileddau hydrolig – a ydych wedi ystyried dulliau modelu gwahanol a dod i benderfyniad bwriadol ynglŷn â'r dull mwyaf priodol?
  • Cysylltiadau 1D a 2D – a ydych wedi pennu'r terfynau rhwng parthau'r model yn briodol? A ydych wedi cywiro'r rhain gan ddefnyddio data o arolygon?
  • model y ddaear – a yw maint grid y model, a'i ogwydd, yn briodol? A yw hyn yn adlewyrchu llwybrau llif a chyfyngiadau ar lif mewn modd realistig? A ydych wedi ychwanegu unrhyw ddata ychwanegol o arolygon er mwyn atgyfnerthu nodweddion allweddol?
  • cynrychioli adeiladau – a ydych wedi ystyried y dull mwyaf priodol o gynrychioli adeiladau yn y model hydrolig? Lle mae angen data dyfnder arnoch ar gyfer cyfrifo difrod, a ydych wedi pennu lefelau trothwyon adeiladau?
  • garwedd y sianel a'r gorlifdir – a yw'r model yn defnyddio gwerthoedd garwedd cyson a realistig sy'n cynrychioli'r amgylchedd adeiledig presennol? O safbwynt y parth 1D, dylech gyfeirio at werthoedd garwedd ‘n’ Manning (Chow, 1959). Gweler gwerthoedd garwedd 2D dangosol
  • graddnodi a dilysu’r model – a ydych wedi graddnodi'r model yn erbyn digwyddiadau llifogydd lleol hysbys (gan ddefnyddio lefelau a graddfa llifogydd a gofnodwyd neu yr arsylwyd arnynt), ac ar gyfer digwyddiadau lluosog, lle bônt ar gael? A ydych wedi cysoni gwahaniaethau lle nad oes data ar gael? A ydych wedi ‘gwirio sensitifrwydd’ canlyniadau'r model?

Senarios modelau

Model sylfaenol ac arfaethedig

Mae'r model sylfaenol yn cynrychioli'r amgylchedd adeiledig presennol.

Rhaid i chi greu modelau hydrolig ar gyfer y senarios ‘gydag amddiffynfa / sylfaenol’ a ‘heb amddiffynfa’ presennol (fel y bo'n berthnasol).

Bydd y rhain yn darparu'r modelau sylfaenol i'w hasesu ymhellach, a gallwn eu defnyddio i ddiweddaru map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynullio.

Rhaid i chi ymdrin â'r model arfaethedig ar wahân i'r model sylfaenol. Yn achos datblygiadau arfaethedig, rhaid i chi ystyried effeithiau trydydd parti o fewn y model.

Ceir rhagor o fanylion am asesu'r gwahaniaethau hyn yn y canllaw Modelu ar gyfer asesiadau o ganlyniadau llifogydd.

Rhwystrau a bylchau

Nid yw'n ofyniad uniongyrchol i chi asesu rhwystrau a bylchau ar gyfer diweddaru data mapio cenedlaethol.

Fodd bynnag, mae'n ystyriaeth bwysig o ran datblygu dealltwriaeth lawn o berygl llifogydd mewn ardal, yn enwedig o safbwynt cynllunio datblygu.

Dylai eich Astudiaeth Gwmpasu nodi'r senarios mwyaf priodol i gymhwyso rhwystrau a bylchau iddynt (er enghraifft y Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o un mewn 100, neu 1%).

Cysylltwch â'r tîm dadansoddi perygl llifogydd lleol i gytuno ar baramedrau a lleoliadau ar gyfer asesu rhwystrau a bylchau. Gallwch hefyd ofyn am ein canllaw 'Modelu senarios rhwystrau a bylchau.'

Dadansoddiad sensitifrwydd

Dylech wneud dadansoddiad sensitifrwydd yn erbyn paramedrau modelu allweddol er mwyn deall sut maent yn effeithio ar y model.

Ni ddylid ystyried hyn fel ymarfer ‘ticio blychau’ ond yn hytrach fel ffordd o lywio'r penderfyniadau a wneir ar safle penodol yn llawn.

Dylai eich astudiaeth gwmpasu nodi'r senarios mwyaf priodol i gyflawni'r dadansoddiad sensitifrwydd ar eu cyfer (fel rheol, lle ceir Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o un ym mhob 100, neu 1%).

Rhaid i ddadansoddiad sensitifrwydd gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • llif (isafswm +/- 30%)
  • Gwerthoedd garwedd ‘n’ Manning (+/- 20%yn y parthau 1D a 2D)
  • y terfyn i lawr yr afon (er enghraifft newid o +/- 20% yn y lefel neu'r graddiant i lawr yr afon, cyd-ddigwyddiad y lefelau afonol a llanwol uchaf)
  • dull o gynrychioli adeiladau (er enghraifft, gydag ymwthiadau adeiladau uchel, neu hebddynt, a/neu rwystrau i lif)
  • adeileddau allweddol (dull o fodelu a/neu gyfernodau adeiledd)

Mae paramedrau eraill y dylech eu hystyried yn cynnwys y canlynol:

  • maint grid y model, a'i ogwydd
  • dylanwad amddiffynfeydd rhag llifogydd anffurfiol, neu ‘de facto’
  • hyd stormydd
  • ansicrwydd neu gyfyngiadau hysbys yn y data a pharamedrau a fewnbynnir i'r model.

Dylech ystyried canfyddiadau'r dadansoddiad sensitifrwydd ochr yn ochr â'r canllaw Accounting for residual uncertainty: updating the freeboard guide.

Canlyniadau'r modelau

Ceir tabl crynodeb o allbynnau modelau ar gyfer senarios gwahanol yma: Gofynion o ran allwn modelau.

Fel gofyniad sylfaenol, rhaid i'ch model efelychu llifogydd sydd â Thebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o

  • un ym mhob dau (50%) / Qmed, un ym mhob deg (10%), un ym mhob 30 (3.33%), un ym mhob 75 (1.33%), un ym mhob 100 (1%), un ym mhob 200 (0.5%), ac un ym mhob 1,000 (0.1%) yn achos amodau Diwrnod Presennol
  • un ym mhob 30 (3.33%), un ym mhob 100 (1%), un ym mhob 200 (0.5%), ac un ym mhob 1,000 (0.1%) yn achos newid yn yr hinsawdd.

Bydd hyn yn sicrhau y gall holl ganlyniadau eich model gyfrannu at setiau data perygl llifogydd allweddol a'r map llifogydd.

Dylai eich astudiaeth gwmpasu amlinellu'r canlyniadau y bydd eu hangen arnoch o'r gwaith modelu. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r allbwn uniongyrchol o'r model hydrolig gynnwys y canlynol:

  • dyfnder
  • cyflymder (maint a chyfeiriad y llif)
  • perygl (yn seiliedig ar y dull rhagofalus a amlinellir yn y nodyn esboniadol ar gyfer FD2320 ac FD2321, a gan ddefnyddio'r ffactor gweddillion ‘ceidwadol’)
  • uchder arwyneb y dŵr h.y. lefel y llifogydd
  • graddfa'r llifogydd

Dylech ystyried creu animeiddiadau mewn lleoliadau allweddol ar gyfer senarios allweddol.

Ardaloedd a amddiffynnir

Rhaid i chi greu ardaloedd a amddiffynnir ar gyfer amddiffynfeydd newydd neu bresennol sy'n seiliedig ar ganlyniadau eich model ac sy'n cynnwys asesiad o'u lefel o amddiffyniad.

Cysylltwch â'n timau dadansoddi perygl llifogydd i gael rhagor o gyngor ynglŷn â hyn.

Diweddaru'n mapiau perygl llifogydd

Rhaid i chi greu graddfeydd llifogydd yn y map Asesu Perygl Llifogydd Cymru er mwyn diweddaru gwybodaeth am ‘debygolrwydd’ llifogydd ar y map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a gwybodaeth am barthau llifogydd ar y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.

O fewn chwe mis o'i adeiladu, rhaid i chi anfon data model a data mapio newydd, ac arolwg ‘fel y'i hadeiladwyd’ atom er mwyn dangos y buddion a ddarperir gan waith rheoli perygl llifogydd newydd. Byddwn wedyn yn diweddaru ein mapiau llifogydd.

Byddwn yn adolygu'r holl ddata dylunio yn eich model yn erbyn gwybodaeth ‘fel y'i hadeiladwyd’ er mwyn sicrhau bod y data mapio'n cynrychioli'r gwaith adeiladu yn fanwl gywir.

Rhagor o wybodaeth am herio ein mapiau llifogydd.

Adolygu eich model

Rhaid i uwch-fodelwr adolygu'r model hydrolig, ar wahân, cyn ei gyflwyno i ni, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'r canlynol:

  • yn unol â'r arferion gorau
  • yn defnyddio data yn gywir
  • yn ymgorffori paramedrau model synhwyrol (o fewn terfynau diffiniedig)
  • yn sefydlog (o fewn terfynau goddefiant derbyniol)
  • yn cynhyrchu canlyniadau synhwyrol.

Rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o'r gwaith sicrhau ansawdd hwn yn eich adroddiad modelu a chynnwys unrhyw bryder a nodwyd o ran ansawdd.

Os yw eich model yn debygol o fod yn destun craffu manwl, efallai y byddwch am ystyried trefnu bod rhywun annibynnol yn sicrhau ansawdd y model hydrolig.

Cyflwyno eich adroddiad model

Rhaid i chi ddarparu adroddiad model cynhwysfawr ynghyd â log model ar wahân.  Dylai'r adroddiad model amlinellu'r canlynol yn glir:

  • amcanion y prosiect
  • methodoleg
  • rhagdybiaethau
  • dull adeiladu'r model a'i sefydlogrwydd
  • canlyniadau (gan gynnwys disgrifiad o allbwn y model a dehongliad ohono)
  • argymhellion a chasgliadau

Dylech amlygu unrhyw gyfyngiadau a meysydd o ansicrwydd yn yr adroddiad.

Dylech ddefnyddio log model i olrhain y newidiadau rhwng un dull o adeiladu model a'r nesaf, a'i ddefnyddio i labelu ffeiliau'r modelau yn glir.

Dylech gwblhau'r 'Nodyn newid i herio map llifogydd' a'i gynnwys gyda'ch model. Bydd hyn yn rhoi hawl anghyfyngedig, rhydd rhag breindal i ni ddiweddaru gwaith mapio, a data, cenedlaethol. Cyswlltwch â'r tîm lleol dadansoddi risg llifogydd am fwy o wybodaeth: 

FRASouth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
FRANorth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Fformat ffeiliau dogfennau

Dylech gyflwyno holl ddata eich model ar ffurf ddigidol:

Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol:

  • yr holl ddata a fewnbynnwyd i'r model a'r holl ddata a allbynnwyd ohono ynghyd â ffeiliau rhediad a gwirio perthnasol. Rhaid sicrhau mai'r model ‘terfynol’ yw hwn a bod ffeiliau a ddisodlwyd neu ffeiliau segur wedi'u tynnu oddi wrtho.
  • yr holl ganlyniadau modelu ar ffurf grai ac ar ôl eu prosesu (.asc neu .flt).
  • yr holl ddata ategol y gwnaethoch ei ddefnyddio i adeiladu'r model hydrolig, ar ffurf gytunedig, e.e. DWG yn achos arolwg.
  • adroddiad modelu (PDF / Word), log model, a chofnodion cyfrifo ategol.
  • amlinellau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) (fformat siapffeil).

Cysylltwch â'r tîm dadansoddi perygl llifogydd lleol i gytuno ar y dull o gyflwyno eich data drwy system Citrix Sharefile CNC neu system gyfatebol.

Ni fyddwch yn gallu anfon data eich model drwy Dropbox na gwasanaethau eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf