Sut rydyn ni’n darogan llifogydd, yn rhoi rhybudd ac yn asesu’r risg
Mae gennym orsafoedd monitro ledled Cymru sy'n mesur lefelau afonydd. Caiff y data hwn ei ddadansoddi ynghyd â rhagolygon y tywydd, ymchwydd stormydd a thonnau gan y Swyddfa Dywydd i'n helpu i ddarogan pryd y gallai llifogydd ddigwydd.
Rhybuddion llifogydd a negeseuon ‘Llifogydd: byddwch yn barod’
Rydym yn defnyddio ein rhagolygon llifogydd ochr yn ochr â gwybodaeth leol, i wneud penderfyniadau ynglŷn â chyhoeddi rhybuddion i’r rhai sydd mewn perygl.
Neges ‘Llifogydd: byddwch yn barod’.
Rydym yn cyhoeddi Negeseuon ‘Llifogydd: byddwch yn barod’ pan fo’r perygl o lifogydd yn is ond yn bosibl.
Disgwylir llifogydd ar dir isel, isffyrdd, meysydd parcio, tir hamdden a ffermdir. Efallai y bydd ewyn yn tasgu neu donnau yn llifo dros amddiffynfeydd arfordirol.
Beth i’w wneud:
- paratowch becyn llifogydd o eitemau hanfodol
- gwiriwch rybuddion llifogydd
- dylai ffermwyr ystyried symud da byw ac offer o’r ardaloedd sy’n debygol o ddioddef llifogydd
- dylech fonitro lefelau afonydd lleol
- gwiriwch y rhagolygon llifogydd 5 diwrnod
Newidiadau i wybodaeth negeseuon ‘Llifogydd: byddwch yn barod’
Rydym wedi gwella’r ffordd yr ydym yn cyhoeddi negeseuon ‘Llifogydd : byddwch yn barod’ er mwyn gallu eu cyhoeddi’n gynt os bydd gennym ffydd yn y rhagolygon. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i bobl baratoi. Bydd negeseuon ‘Llifogydd : byddwch yn barod’ hefyd yn cynnwys dolen i wirio lefelau diweddaraf afonydd, glawiad a data’r môr i weld lefelau dŵr wrth iddynt newid.
Cafodd y newidiadau hyn eu gwneud yn dilyn adolygiad llifogydd mis Chwefror. Er mwyn sicrhau bod pawb ledled Cymru yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn gyflym ac yn rhwydd.
Mae’r tîm llifogydd wedi ysgrifennu blog am y gwelliannau hyn a pham y maen nhw wedi digwydd.
Rhybudd Llifogydd. Angen gweithredu ar unwaith.
Rydym yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd pan ddisgwylir llifogydd a phan fyddwn yn credu y gallai llifogydd effeithio ar eiddo. Gallem hefyd ddisgwyl:
- fod hyn yn effeithio ar deithio ar ffyrdd a rheilffyrdd
- tonnau sylweddol ac ewyn yn tasgu ar yr arfordir
- llifogydd helaeth ar orlifdir
- llifogydd mewn parciau carafanau neu wersylloedd
Beth i’w wneud:
- symudwch eich teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i le diogel
- diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw’n ddiogel gwneud hynny
- gosodwch offer amddiffyn rhag llifogydd
Llifogydd mewn cartrefi a busnesau,
Rhybudd Llifogydd Difrifol: Perygl i fywyd.
Rydym yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd Difrifol pan fo perygl sylweddol i fywyd neu os bydd y sefyllfa yn aflonyddu’n sylweddol ar y gymuned.
Dyma’r lefel uchaf o rybuddion a chânt eu cyhoeddi pan ddisgwylir llifddwr dwfn a chyflym neu os yw hyn yn digwydd yn barod.
Pan fo Rhybudd Llifogydd Difrifol gallem ddisgwyl:
- dŵr dwfn sy’n llifo’n gyflym
- malurion yn y dŵr sy’n ychwanegu at y perygl
- adeiladau a strwythurau eraill yn cael eu difrodi neu’n cael eu dymchwel
- llifddwr yn ynysu cymunedau
- difrod difrifol i seilwaith critigol
- cymunedau yn cael eu gwacáu
Beth i’w wneud:
- arhoswch mewn man diogel lle ceir ffordd o ddianc
- byddwch yn barod i adael eich cartref
- cydweithredwch â’r gwasanaethau brys
- ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol
Yr hyn na allwn ei ddarogan
Mae ein gwasanaeth negeseuon ‘Llifogydd : byddwch yn barod’ yn cynnwys pob dalgylch yng Nghymru. Mae ein gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd yn cynnwys tua 60% o'r eiddo sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd o brif afonydd neu'r môr yng Nghymru, ac rydym yn gweithio'n barhaus i ymestyn y gwasanaeth hwn.
Rhoi'r amddiffynfeydd, y gorsafoedd pwmpio ac asedau eraill ar waith
Mae ein timoedd gweithredol allan yn yr ardal cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd i wneud yn siŵr bod ein hamddiffynfeydd, ein gorsafoedd pwmpio, a'n hasedau eraill (er enghraifft sgriniau brigau) yn gweithredu fel maen nhw i fod, er mwyn diogelu cymunedau rhag llifogydd. Mewn rhai llefydd, mae'r staff yn rhoi amddiffynfeydd dros dro ar waith. Maen nhw'n gallu tynnu'r rheini eto ar ôl y llifogydd.
Rhybuddio a rhoi gwybodaeth i ymatebwyr brys
Drwy weithio gyda’r Swyddfa Dywydd yng Nghaerwysg, mewn Canolfan Darogan Llifogydd ar y cyd, rydyn ni'n llunio asesiad pum niwrnod o'r perygl llifogydd o bob ffynhonnell (afonydd, y môr, dŵr wyneb, a dŵr daear) ar sail sirol.
Mae'r asesiad yn cael ei rannu bob diwrnod gydag awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys, gan eu helpu nhw i weithredu'n gynt ac yn fwy effeithiol pan fydd risg uwch o lifogydd.
Asesu 'perygl llifogydd'
Mae 'perygl llifogydd' yn fwy na'r perygl y bydd llifogydd yn digwydd; mae hefyd yn ystyried y difrod y gall y llifogydd ei achosi.
Pan fyddwn ni'n siarad am 'berygl llifogydd', rydyn ni'n siarad am gyfuniad o ddau beth:
- Y tebygolrwydd y bydd llifogydd yn digwydd. Mae hyn yn cael ei fesur yn nhermau'r tebygolrwydd blynyddol. Er enghraifft, 'Yn y lleoliad hwn, mae 1 siawns mewn 100 y bydd llifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn'
- Yr effaith, neu'r canlyniadau, os bydd llifogydd yn digwydd