Asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd
Asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd
Dylai awdurdodau cynllunio lleol gynnal asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd ar gyfer eu hardal. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol adolygu ei asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd erbyn mis Tachwedd 2022 yn erbyn polisi drafft Nodyn Cyngor Technegol 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
Mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynhyrchu asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd i wneud y canlynol:
- llywio eu Cynlluniau Datblygu Strategol a'u Cynlluniau Datblygu Lleol
- cynllunio a chyflawni datblygu cynaliadwy
- darparu tystiolaeth perygl llifogydd ar gyfer cymunedau presennol a datblygiadau newydd
Mae asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd yn nodi'r canlynol:
- lle mae llifogydd o bob ffynhonnell yn gyfyngiad cynllunio
- lle mae erydu arfordirol yn gyfyngiad cynllunio
- perygl llifogydd lleol sydd heb ei nodi ar fapiau cenedlaethol
- ffyrdd o reoli perygl llifogydd
- cyfleoedd i leihau perygl llifogydd ar gyfer cymunedau presennol
Yr hyn i'w gynnwys mewn asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd
I gynhyrchu asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd, dylech gyfeirio at bennod 7 o fersiwn ddraft ddiwygiedig Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15). Fel lleiafswm, dylai eich asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd ystyried y canlynol:
- yr holl ffynonellau llifogydd
- risgiau erydu arfordirol
- tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys mapiau a modelau, y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd a Datganiadau Ardal
- amrywiaeth o senarios newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys digwyddiad 1,000 o flynyddoedd
- polisïau'r Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer yr ardal
- cynlluniau rheoli llifogydd a dŵr naturiol, gan gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy
- opsiynau fel adlinio arfordirol a reolir ac adfer gorlifdiroedd lle bo’n briodol, er enghraifft mewn ardaloedd lle mae datblygiad presennol yn anghynaliadwy, neu mewn ardaloedd heb lawer o ddatblygiad
- cronfeydd dŵr ac ardaloedd llifogydd
- cysylltiadau perthnasol â Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru
- cysylltiadau perthnasol â deddfwriaeth arall, e.e. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Ymgynghori
Yn ystod y cam cwmpasu
Yn ystod y cam cwmpasu, dylech ymgynghori â'r canlynol:
- Llywodraeth Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- eich Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol
am gyngor ar y canlynol:
- cwmpas yr asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd
- pa wybodaeth berthnasol sydd ar gael
- a oes angen modelu hydrolig arnoch
Dylech hefyd ymgynghori yn eich awdurdod lleol ac â rhanddeiliaid eraill, er enghraifft:
- cynllunwyr at argyfyngau
- timau bioamrywiaeth
- cwmnïau dŵr a charthffosiaeth
- perchnogion neu ymgymerwyr cronfeydd dŵr
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd yn hysbysu meysydd gwaith eraill ac nad yw'n gwrthdaro â strategaethau lleol eraill.
Rôl CNC
Rydym yn rhoi cyngor ar y peryglon llifogydd o afonydd a’r môr.
Nid ydym yn cynghori ar lifogydd o’r canlynol:
- dŵr wyneb neu ddraeniau
- cyrsiau dŵr bach
- dŵr daear
- erydu arfordirol
- cynllunio at argyfyngau
- risgiau o gronfeydd dŵr
Darllenwch fwy am yr hyn rydyn ni’n cynghori arno yn Adeiladu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd ac Ein gwasanaeth i ddatblygwyr.
Rydym yn rhoi cyngor a data perygl llifogydd i helpu i gynllunio a pharatoi asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd:
- Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Gallwch lawrlwytho'r haenau data ar MapDataCymru
- Data Modelau Lleol CNC, ar gael trwy'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio
- arweiniad ar fodelu hydrolig
- arweiniad ar fodelu ar gyfer asesiadau o ganlyniadau llifogydd
Efallai y bydd gennym fodelau manwl ar gael. Os oes angen i chi greu model newydd, cysylltwch â ni yn gyntaf i gytuno ar y cwmpas a'r amcanion:
Gwasanaeth cynllunio De-orllewin Cymru swplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwasanaeth cynllunio De-ddwyrain Cymru southeastplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwasanaeth cynllunio Gogledd Cymru northplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gwasanaeth cynllunio Canolbarth Cymru midplanning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ar ôl cytuno ar y cwmpas
Ar ôl cytuno ar y cwmpas cychwynnol, dylech ymgysylltu a chydweithio’n ehangach â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys:
- y gwasanaethau brys
- awdurdodau priffyrdd
- pwyllgorau llifogydd ac arfordirol rhanbarthol
Cynhyrchu asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd
Mae hyd at dri cham wrth gynhyrchu asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd
- Cam 1 – mae angen i bob awdurdod cynllunio lleol sy'n ymgymryd ag asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd gynhyrchu hwn
- Cam 2 – sicrhau bod awdurdodau cynllunio lleol yn deall peryglon llifogydd yn well wrth ddyrannu safleoedd Cynllun Datblygu Lleol
- Cam 3 – a oes risgiau llifogydd sylweddol a allai effeithio ar gadernid safleoedd Cynllun Datblygu Lleol
Cam 1 – casglu gwybodaeth am lifogydd
Mae Cam 1 yn asesiad lefel uchel o’r cyfyngiadau llifogydd yn ardal astudiaeth yr asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd. Bydd hyn yn helpu i nodi tir addas i'w ddatblygu nawr ac yn y dyfodol.
Dylech wneud y canlynol:
- blaenoriaethu datblygiad mewn ardaloedd lle prin iawn yw'r perygl o lifogydd, os o gwbl
- ystyried risgiau erydu arfordirol a pholisïau’r cynllun rheoli traethlin
Dylai eich asesiad gynnwys mapiau sy'n dangos y canlynol:
- yr holl ffynonellau perygl llifogydd
- maint llifogydd o bob ffynhonnell, gan gynnwys lwfans ar gyfer y newid yn yr hinsawdd (hyd at ac yn cynnwys digwyddiad 1,000 o flynyddoedd)
- llifogydd hanesyddol a'u ffynonellau
- llifoedd llifogydd dros y tir
- llifogydd o systemau draenio artiffisial
- llifogydd o fethiant seilwaith (gan gynnwys cronfeydd dŵr a charthffosydd)
- risgiau erydu arfordirol
Dylech hefyd gynnwys adroddiad ategol gyda gwybodaeth am y canlynol:
- ffynonellau perygl llifogydd
- seilwaith rheoli perygl llifogydd presennol
- nodweddion ffisegol lleol (naturiol neu o waith dyn) a allai dorri neu drosglwyddo llif llifogydd i ardaloedd eraill nad ydynt mewn perygl uniongyrchol o ffynhonnell y llifogydd
- tir sydd ei angen ar gyfer nodweddion ac adeileddau rheoli perygl llifogydd
- cyfleoedd i leihau achosion ac effeithiau llifogydd
- sut mae cynlluniau a pholisïau rheoli traethlin yn awgrymu y gallai perygl llifogydd ac erydu arfordirol newid dros amser
- risgiau o gronfeydd dŵr
- effaith gronnus datblygiad / newid yn nefnydd tir, a meysydd o ansicrwydd
Dylai eich mapiau a’ch adroddiad fod mewn fformat y gallwch ei ddiweddaru’n hawdd, er mwyn sicrhau bod yr asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd yn aros mor gywir â phosibl.
Cam 2 – cynnwys gwybodaeth fanylach
Bydd angen i chi wneud asesiad pellach os ydych yn ystyried dyrannu tir mewn Cynllun Datblygu Lleol yn y lleoedd canlynol:
- ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd
- lle y credwch y gallai datblygiad gynyddu perygl llifogydd mewn mannau eraill
Dylai Cam 2 o’r asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd fod yn ddigon manwl i chi allu gwneud y canlynol:
- nodi dyraniadau safle / ardaloedd twf sydd â'r perygl lleiaf o lifogydd
- ystyried mesurau lliniaru llifogydd ar gyfer y safleoedd hyn
- penderfynu a ellir datblygu'n ddiogel heb gynyddu perygl llifogydd yn rhywle arall
Mae angen i chi gyfeirio datblygiad i ardaloedd a all reoli perygl llifogydd yn dderbyniol. Mae hyn yn golygu dibynnu cyn lleied â phosibl ar amddiffynfeydd rhag llifogydd uwch presennol neu arfaethedig.
Dylai eich asesiad gynnwys mapiau manwl sy'n dangos y canlynol:
- ffynonellau perygl llifogydd
- tebygolrwydd llifogydd blynyddol
- dyfnder llifogydd
- cyflymder llifogydd
- peryglon
- hyd
- effeithiau bylchu/rhwystrau
- cymunedau, eiddo, adeileddau, a nodweddion eraill y mae llifogydd yn effeithio arnynt
- pa mor agored i niwed yw'r defnydd tir arfaethedig
- amddiffynfeydd rhag llifogydd a'r ardaloedd sy'n elwa ar yr amddiffynfeydd hyn
Dylech hefyd gynnwys adroddiad ategol gyda gwybodaeth am y canlynol:
- amddiffynfeydd rhag llifogydd (e.e. lleoliad, safon gwarchod, perchnogaeth, polisi cynnal a chadw hirdymor)
- canlyniadau llifogydd o ganlyniad i fylchu/rhwystr
- digwyddiadau gorlwytho/gormodedd i seilwaith (e.e. systemau draenio, mannau storio)
- ffynonellau eraill o lifogydd posibl o fewn ardal amddiffynedig (e.e. o ddŵr wyneb, draeniau sydd wedi’u gorlwytho ac ati)
- tystiolaeth i lywio dull dilyniannol o ddatblygu, er enghraifft difrifoldeb ac amrywiad y perygl llifogydd ar draws safle
- tystiolaeth i ddangos y gall datblygiad fod yn ddiogel dros ei oes, gan gynnwys mynediad/allanfa addas
- tystiolaeth i ddangos dim cynnydd mewn llifogydd mewn mannau eraill
- cyfleoedd i leihau achosion ac effeithiau llifogydd
- cyfleoedd i reoli/lliniaru perygl llifogydd
- cyfleoedd i ddarparu buddion cynaliadwyedd/amgylcheddol ehangach
Cam 3 – profi addasrwydd safle
Efallai y bydd angen i chi baratoi asesiad Cam 3 ar rai safleoedd arfaethedig i gadarnhau bod modd rheoli’r perygl llifogydd i lefel dderbyniol a’i fod yn bodloni gofynion TAN15.
Gall rheoli perygl llifogydd gael effaith sylweddol ar ddyluniad, cost a hyfywedd datblygiadau. Dylai asesiad Cam 3 eich bodloni bod rheoli perygl llifogydd ar gyfer dyraniad yn ymarferol.
Dylai eich asesiad Cam 3 wneud y canlynol:
- ystyried amrywiaeth o senarios newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys amcangyfrifon pen uchaf
- dangos na fydd datblygu'r safle yn cynyddu'r perygl o lifogydd mewn mannau eraill
- nodi ffyrdd o wella perygl llifogydd ar gyfer cymunedau presennol
- nodi anghenion seilwaith yn y dyfodol
Darganfyddwch fwy am brosiectau rheoli perygl llifogydd CNC.
Asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd ar y cyd
Gallwch weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol eraill i gynhyrchu asesiad strategol o ganlyniadau llifogydd ar y cyd. Gallai hyn roi mwy o opsiynau a hyblygrwydd i chi reoli achosion ac effeithiau llifogydd, yn enwedig lle mae'r canlynol yn wir:
- mae’r perygl llifogydd yn dod o’r tu allan i’ch ffin weinyddol
- mae'r atebion gorau i fynd i'r afael â pheryglon llifogydd y tu allan i ardal eich awdurdod lleol
- mae defnydd tir a datblygu yn ardal eich awdurdod yn effeithio ar berygl llifogydd mewn mannau eraill
- rydych yn rhannu dalgylch afon neu ardal arfordirol ag awdurdodau eraill
Mae ffynonellau ac achosion llifogydd yn aml yn faterion trawsffiniol. Mae llythyr 15 Rhagfyr 2021 Llywodraeth Cymru yn annog asesiadau rhanbarthol lle bynnag y bo modd.
Gall dogfennau strategol, megis cynlluniau rheoli perygl llifogydd, arfarniadau cynaliadwyedd a Datganiadau Ardal, nodi a llywio atebion ar gyfer y dalgylch cyfan.