Sut i ddehongli canlyniadau eich ymarfer sgrinio neu fodelu ar gyfer allyriadau o amonia, GN 020

Beth i'w wneud gyda'r wybodaeth o'r offeryn SCAIL

Bydd yr offeryn SCAIL yn rhoi gwybod i chi beth yw cyfraniad proses eich datblygiad yn y safleoedd sensitif o fewn y pellter sgrinio. 

Cyfraniad y broses yw'r swm o amonia sy'n dod o'ch datblygiad. 

Ar gyfer amonia, mae'n cael ei fynegi mewn microgramau fesul metr ciwbig (µg/m3). 

Bydd angen i chi ddweud wrthym beth yw cyfraniad proses eich datblygiad a'i ddarparu fel canran o’r lefel gritigol ar gyfer amonia. 

Yr hyn sydd angen ei wneud unwaith bydd gennych ganlyniadau'r asesiad 

Bydd angen i chi wneud gwaith modelu manwl os ydych yn ateb ydy/oes i unrhyw un o'r cwestiynau canlynol.

Ni fydd angen gwaith pellach os ydych yn ateb nac ydy / nac oes i'r ddau gwestiwn. Gofynnwn i chi ddarparu canlyniadau eich gwaith modelu SCAIL (neu debyg) ar ffurf dogfen PDF gyda'ch cais. 

  • Ar ôl adio'ch ffigur cyfraniad proses a'r ffigur ar gyfer y lefel gefndirol gyda'i gilydd, a yw'r canlyniad yn rhagori ar y lefel gritigol?
  • A oes unrhyw darddleoedd eraill o amonia a allai gael effaith ar y safle sensitif? 

Sut i ddefnyddio canlyniadau eich gwaith modelu manwl

Rydym yn defnyddio lefel gritigol fel mesur safonol er mwyn sicrhau y caiff y safle sensitif ei ddiogelu ac i hwyluso datblygu cynaliadwy. Dylai'r datganiadau canlynol eich helpu i benderfynu'r cam gweithredu nesaf.

Fel arfer, gall y cais fynd yn ei flaen os nad yw ffigur cyfraniad y broses a ffigur y lefel gefndirol gyda'i gilydd yn rhagori ar y lefel gritigol ac os nad oes unrhyw darddleoedd eraill i'w hystyried.

Bydd adegau pan fydd y lefel yn agos at gyrraedd y lefel gritigol. Mae'n bwysig nodi nad targed mo'r lefel gritigol ond lefel yr ydym am ei hosgoi. Mewn achosion lle mae'r lefel gefndirol yn agos i'r lefel gritigol, mae'n bosibl y byddwn yn cynghori yn erbyn caniatáu'r datblygiad, hyd yn oed os nad yw'r lefel yn rhagori ar y lefel gritigol. 

Os yw ffigur cyfraniad y broses a'r ffigur lefel gefndirol yn cyrraedd neu'n rhagori ar y lefel gritigol, ac er mwyn ei gwneud yn bosibl i'r cais fynd yn ei flaen, rhaid defnyddio system lleihau allyriadau i sicrhau gostyngiad yng nghyfraniad y broses fel ei fod o dan 1% o'r lefel gefndirol. Gan dybio nac oes unrhyw darddloedd eraill o ammonia i’w hystyried.

Os yw eich ffigur cyfraniad y broses yn llai nag 1% o'r lefel gritigol, ac nid oes unrhyw darddloedd eraill o amonia i'w hystyried, gall y cais fynd yn ei flaen ni waeth beth yw'r lefel gefndirol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am dechnegau cyffredin ar gyfer lleihau lefelau o amonia ar ein tudalen we ar dechnegau lleihau lefelau o amonia.  

Os yw eich cynnig yn cynnwys defnyddio sgwrwyr, ewch i'r dudalen ‘Cynllunio a defnyddio sgwrwyr amonia’.

Diweddarwyd ddiwethaf