Rheoli gwaddod: yn y môr, ar yr arfordir ac mewn aber
Os oes angen i chi symud gwaddod o un rhan o wely'r môr i rywle arall fel rhan o'ch gweithgareddau rheoli, mae angen i chi benderfynu sut i wneud hynny.
Ymhlith y gweithgareddau a allai olygu bod angen i chi symud gwaddod mae:
- gwaith i amddiffyn yr arfordir
- gweithgareddau carthu a gwaredu er mwyn cynnal a chadw
- prosiectau seilwaith — megis datblygiadau ynni adnewyddadwy a gwaith cysylltiedig (ee. gosod ceblau)
- datblygiadau ar y môr, neu ddatblygiadau harbwr neu borthladd
Rydym yn eich annog i ystyried sut y gallwch ymgymryd â'ch gweithgareddau rheoli gwaddod mewn modd cynaliadwy.
Darllenwch Rheoli gwaddod morol ac arfordirol yn gynaliadwy (Saesneg yn unig) i'ch helpu i:
- ddod o hyd i'r dewisiadau a flaenoriaethir ar gyfer symud gwaddod
- deall ein dull gweithredu
- deall pam mae rheoli gwaddodion yn gynaliadwy yn bwysig
- deall sut rydym yn cymhwyso polisïau a deddfwriaeth
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf