Cais i drosglwyddo trwydded safleoedd

Cyn i chi wneud cais

Mae trwydded amgylcheddol yn ymwneud â lleoliad penodol (oni bai ei fod ar gyfer gwaith symudol). Os ydych chi’n gwerthu’ch tŷ neu safle allwch chi ddim mynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau’r gweithgarwch y rhoddwyd caniatâd iddo yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo’ch trwydded i’r perchnogion newydd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo rhan o’ch trwydded neu’ch trwydded i gyd i berson arall. Mae’n bosib llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi Rhan A, D1 neu D2 a rhaid i’r ddau barti lofnodi’r datganiad yn Rhan F1.

Nodwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn ymgeisio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol 2019/2020

Help gyda'ch cais

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000 

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Diweddarwyd ddiwethaf