Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol 2019-20

Dull rheoliadol CNC

Yn unol ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, rydym yn mabwysiadu diffiniad eang o reoleiddio sy'n cwmpasu sawl math o ymyriadau, gan gynnwys rheoleiddio ffurfiol, mentrau gwirfoddol, mecanweithiau sy'n seiliedig ar yr economi a'r farchnad, a dulliau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyfathrebu.

Mae rhai digwyddiadau neu achosion o dorri gofynion rheoleiddiol yn achosi, neu mae ganddynt y potensial i achosi, difrod amgylcheddol  sylweddol. Gall eraill ymyrryd â mwynhad neu hawliau pobl, neu ein gallu i wneud ein gweithgareddau.

Y pandemig COVID-19

Mae ein gwaith rheoleiddiol yn bwysig er mwyn diogelu'r amgylchedd ac iechyd a llesiant dynol. Er y rhoddwyd cyfyngiadau ar waith yn 2020 i ymateb i bandemig y coronafeirws, gwnaeth CNC roi mesurau ar waith i gynnal ein gwasanaeth cymaint â phosib, wrth sicrhau bod ein staff a phobl eraill yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn iach. Roedd mesurau o'r fath yn cynnwys blaenoriaethu ymweliadau â safleoedd i gasglu data yn ystod digwyddiadau amgylcheddol sylweddol ac ymateb i faterion o'r risg uchaf i'r amgylchedd a'r cyhoedd. Gwnaethom ddatblygu ffyrdd newydd o weithio i barhau ag asesiadau cydymffurfedd, gan gynnwys galwadau ffôn, ymweliadau â ffocws â safleoedd â blaenoriaeth, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau amgen ar gyfer casglu gwybodaeth. Gwnaethom hefyd gyhoeddi 19 o benderfyniadau rheoleiddiol dros dro er mwyn helpu i ymateb i amrywiaeth o faterion a gododd.

Ymadael â’r UE

Gwnaethom weithio gyda Llywodraeth Cymru, asiantaethau partner a chwsmeriaid i gefnogi'r DU wrth iddi ymadael â’r UE, i nodi a rheoli risgiau, effeithiau a chyfleoedd a allai godi. Gwnaeth ein cynrychiolwyr rheoleiddiol gefnogi ymatebion amlasiantaeth i faterion gweithredol, polisi a rheoleiddiol wrth iddynt ddatblygu, gan ddarparu cyngor ac arweiniad. Rydym yn parhau i gefnogi newid deddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac ymgynghoriadau cysylltiedig gyda goblygiadau ar gyfer ein hadnoddau. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i ni ddefnyddio dull mwy cydweithredol yn y ffordd rydym yn cyflenwi cyngor, cymorth, cymhelliant a rheoleiddio i sicrhau'r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.

Digwyddiadau mawr

Roedd 2020 yn flwyddyn sylweddol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau mawr a thyngedfennol ac adfer ar eu hôl. Roedd y rhain yn cynnwys cefnogi'r ymateb cenedlaethol a lleol i'r pandemig wrth ymateb ar yr un pryd i effeithiau stormydd Ciara, Dennis a Jorge, a ddaeth ar ôl gaeaf hynod wlyb. Ar draws y rhwydwaith o 231 o orsafoedd medryddu afonydd CNC yng Nghymru, gwnaeth 51 (neu 22%) gofnodi'r lefelau uchaf erioed yn ystod Storm Dennis.

Ym mis Awst 2020, roeddem yn rhan o ymateb i ddireiliad trên cludo nwyddau yn Llangennech, a berodd i 350,000 litr o ddiesel ollwng i amgylchedd morol o bwys amgylcheddol rhyngwladol, gan achosi pryder sylweddol i’r cyrsiau dŵr a bywyd gwyllt amgylchynol. Dyma oedd y llygredd morol mwyaf sylweddol y mae CNC wedi ymateb iddo ers y Sea Empress yn 1996.

Crynodeb o'n gweithgareddau a reoleiddir yn 2020

Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2020. Daw'r data o'n systemau digwyddiadau, cydymffurfedd, trwyddedu a gorfodi. Gelwir y rhain yn System Cofnodi Digwyddiadau Cymru, y System Adrodd am Asesiadau Cydymffurfedd, y System Drwyddedu, a'r System Hysbysu Gwybodaeth Gyfreithiol am Droseddau a Thramgwyddau. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar reoliadau diwydiant a gwastraff oherwydd nad oedd unrhyw ddata amaethyddol ar gael ar gyfer 2020.

Hyd at 31 Rhagfyr 2020:

  • Gwnaethom dderbyn 8,126 o adroddiadau am ddigwyddiadau yn 2020. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 9% (703 o adroddiadau) o'r un cyfnod yn 2019.
  • Ein cyfradd ymateb i ddigwyddiadau yn 2020 oedd 21%. Mae hyn wedi gostwng 8% o’i gymharu â 2019, oherwydd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws a'r effeithiau dilynol ar ein harferion gwaith.
  • Roedd 10,447 o drwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar waith yng Nghymru wedi'u dyrannu gennym ni.
  • Gwnaethom gwblhau 1,845 o adroddiadau asesu cydymffurfedd ar gyfer 264 o safleoedd gwastraff â thrwyddedau, 181 o safleoedd a reoleiddir ym maes diwydiant, 393 o safleoedd ansawdd dŵr, a 41 o safleoedd tynnu dŵr.
  • Cofrestrwyd mwy na 40,000 o esemptiadau gwastraff ac amaethyddol yng Nghymru mewn 9,789 o leoliadau gwahanol.
  • Roedd 11,112 o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff gweithredol wedi'u cofrestru gyda ni.
  • Roedd gan bron 30,000 o bobl drwydded bysgota yng Nghymru. Cafwyd twf o 18% mewn trwyddedau iau, ar ben cynnydd blynyddol o 3% yn nifer y trwyddedau a werthwyd.
  • Gwnaethom greu 604 o achosion gorfodi newydd, a oedd yn cynnwys 620 o droseddwyr a 936 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Gwnaethom gymryd camau gorfodi yn erbyn 241 o gwmnïau a 379 o unigolion. Erbyn diwedd 2020, roedd gennym 278 o achosion wedi'u rhestru o hyd fel “cyfreithiol ar waith”, yn bennaf oherwydd eu bod dal i fod mewn tagfeydd ymchwilio yn y llys neu oherwydd cymhlethdod yr achos.
  • O ganlyniad i droseddau amgylcheddol perthnasol yn cael eu cyflawni, cynigiwyd tri ymgymeriad gorfodi i CNC. Ar ddiwedd 2020, derbyniwyd un ac roedd dau yn dal i fod ar waith.

Ymatebion i ddigwyddiadau

Yn ystod 2020, gwnaethom dderbyn 8,126 o adroddiadau am ddigwyddiadau. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 9% (703 o adroddiadau) o’i gymharu â 2019. Gwnaethom ddosbarthu 76% fel rhai lefel isel a 22% fel rhai lefel uchel. Dosbarthwyd gweddill yr adroddiadau fel dyblygiadau, nid yn y cylch gwaith, cwynion, a digwyddiadau. Gwelwyd ein tudalen we Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol 17,216 o weithiau yn ystod y flwyddyn, sef cynnydd o 20% ar y flwyddyn flaenorol.

Adroddwyd am 3,689 o ddigwyddiadau yn ymwneud â dŵr. Roedd y rhain yn cynnwys llygredd dŵr, cronfeydd dŵr, tynnu dŵr, rhwystr neu newid i gwrs dŵr, a llifogydd.

Adroddwyd am 1,232 o ddigwyddiadau yn ymwneud â gwastraff. Roedd y rhain yn cynnwys tipio anghyfreithlon, llosgi gwastraff, safleoedd gwastraff anghyfreithlon a chludwyr gwastraff.

Adroddwyd am 338 o ddigwyddiadau yn ymwneud â physgodfeydd. Roedd y rhain yn cynnwys pysgota anghyfreithlon a chasglu cocos a lladd pysgod yn anghyfreithlon, ac roedd 435 o ddigwyddiadau yn ymwneud â choedwigaeth.

Adroddwyd am 567 o ddigwyddiadau yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Roedd y rhain yn cynnwys llygru dŵr, halogi tir a llosgi gwastraff.

Ein cyfradd ymateb i ddigwyddiadau yn 2020 oedd 21%. Mae hyn wedi gostwng 8% o’i gymharu â 2019. Yn ogystal, gwnaethom fynychu 374 o ddigwyddiadau lefel uchel yn 2020. Mae hyn 13% yn llai na'r 424 o ddigwyddiadau a fynychwyd gennym yn 2019. Mae ein presenoldeb llai yn 2020 oherwydd y cyfyngiadau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i ymateb i bandemig y coronafeirws a'r effeithiau dilynol ar ein harferion gwaith.

Astudiaeth achos: gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Rydym wedi cyflwyno mesurau diogelwch mwy llym yn safleoedd CNC ar draws Canolbarth Cymru yn dilyn cynnydd sydyn mewn gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae cwynion am yrru oddi ar y ffyrdd yn anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r mesurau cyfyngiadau symud gael eu gweithredu am y tro cyntaf yng Nghymru ym mis Mawrth eleni.

Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau llacio dros yr haf, gwnaeth cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr â safleoedd CNC arwain at fwy o adroddiadau o wersylla anghyfreithlon, taflu sbwriel, tanau mewn coedwigoedd, a gyrru beiciau modur a cherbydau 4x4 oddi ar y ffordd, sy'n difrodi mannau awyr agored ac sy'n rhoi defnyddwyr eraill y goedwig mewn perygl.

Gan weithio mewn partneriaeth â'r heddlu, awdurdodau lleol a chwmnïau diogelwch, gwnaethom roi mesurau ar waith yn y safleoedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf ar draws ystad CNC i helpu i leihau nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau anghyfreithlon.

Trwyddedau a ddyrannwyd, a wrthodwyd ac a dynnwyd yn ôl

Rydym yn gyfrifol am fwy na 40 o drefniadau deddfwriaethol, yn amrywio o brosesau diwydiannol mawr i safleoedd a rhywogaethau gwarchodedig. Mae hyn yn cynnwys safleoedd diwydiannol, gwastraff a dŵr â thrwyddedau, bywyd gwyllt, a thrwyddedau morol ledled Cymru.

Rydym yn gyfrifol am wirio cydymffurfedd, darparu cyngor ac arweiniad, a chymryd ymatebion rhagweithiol, gan gynnwys dyrannu hysbysiadau, sancsiynau sifil neu gamau gorfodi.

Trwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Ar ddiwedd 2020, roedd cyfanswm o 10,447 o drwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol mewn grym ar waith yng Nghymru wedi'u dyrannu gennym ni.

Trwyddedau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Cyfanswm

Gweithgarwch sy’n uniongyrchol gysylltiedig

11

Defnyddio

132

Gosodiad

288

Dip defaid

998

Gwastraff mwyngloddio

6

Peiriannau symudol

61

Gwastraff

641

Gweithgaredd rhyddhau dŵr

6,383

 

Trwyddedau Adnoddau Dŵr

Cyfanswm

Tynnu dŵr yn llawn

1179

Cronni dŵr

718

Trosglwyddo tynnu dŵr

30

Astudiaeth achos: llygredd afon

Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi'i ddedfrydu am lygru afon ag elifion fferm yn barhaus.

Gwnaeth David Benjamin Huw Marks, o Fferm Cwrt, Pentre-cwrt, bledio'n euog i droseddau dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 pan wnaeth ymddangos gerbron y llys ar 11 Medi 2020. Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau 15 Hydref 2020 yn Llys Ynadon Llanelli a'i orchymyn i dalu cyfanswm o £12,497.10 – sef dirwy o £6,000, costau gwerth £6,327.10, a gordal dioddefwyr o £170.

Roedd Mr Marks wedi methu â gwagio tanc silwair yn rheolaidd, gan achosi i'r tanc orlifo a draenio i afon Gwr-fach ar dri achlysur ar wahân rhwng mis Rhagfyr 2017 a mis Rhagfyr 2018 (18 Rhagfyr 2017, 1 Chwefror 2018 a 11 Rhagfyr 2018).

Daethpwyd o hyd i ffyngau carthion ar hyd 0.75 km afon Gwr-fach o Fferm Cwrt i’r cydlifiad ag afon Teifi. Roedd y ffyngau wedi tyfu o ganlyniad i elifion silwair yn rhedeg i mewn i'r afon.

Byddai'r llygredd parhaus yn afon Gwr-fach wedi bod yn wenwynig neu gallai fod wedi anafu pysgod, ardaloedd silio a bwyd pysgod.

Roedd hi'n amlwg nad oedd perchnogion y fferm wedi gwrando ar y cyngor a rhybuddion blaenorol gan swyddogion CNC i Mr Marks, a wnaeth ganiatáu i lygredd y cwrs dŵr barhau.

Coedwigaeth

Deddf /

Rheoliadau

Cyfanswm y ceisiadau a dderbyniwyd

Dyrannwyd

Gwrthodwyd

Tynnwyd yn ôl

Deddf Coedwigaeth 1967

509

467

13

29

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

42

39

0

3

Cyfanswm

551

506

13

32

Trwyddedu rhywogaethau

Deddf / Rheoliadau

Derbyniwyd

Dyrannwyd

Diwygiwyd

Gwrthodwyd

Gwrthodwyd

Tynnwyd yn ôl

Reoliadau Cadwraeth  Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017

784 – yn cynnwys ceisiadau diwygio i drwyddedau a ddyrannwyd cyn 1 Ionawr 2020

736

212

15

0

36

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

923*

892

84

7

15

30

Deddf Gwarchod Moch Daear 1992

21

19

6

0

0

2

Deddf Ceirw 1991

1

1

0

0

0

0

Deddf Cadwraeth Morloi 1970

0

0

0

0

0

0

 

Esemptiadau o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016

Mae rhai gweithgareddau'n weithgareddau sy'n cael eu rheoleiddio ond ystyrir eu bod yn peri llai o risg i'r amgylchedd neu iechyd dynol. Mae amrywiaeth o esemptiadau'n caniatáu i weithredwyr wneud y gweithgareddau hyn heb drwydded amgylcheddol, pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Fel arfer, bydd esemptiadau'n rhoi cyfyngiadau ar y raddfa neu'r fath o weithgaredd sy'n gallu digwydd.

Ar ddiwedd 2020, roedd mwy na 40,000 o esemptiadau gwastraff ac amaethyddol wedi'u cofrestru yng Nghymru mewn 9,789 o leoliadau.

Ceisiadau gan gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff

Os yw rhywun yn cludo gwastraff fel rhan o'i fusnes, bydd angen iddo gael ei gofrestru fel cludwr gwastraff. Os yw'n trefnu i wastraff o fusnesau neu sefydliadau eraill gael ei gludo, ei waredu neu ei adfer, mae angen iddo gofrestru fel brocer gwastraff. Os yw rhywun yn prynu a gwerthu gwastraff, neu'n defnyddio asiant i wneud hyn, mae angen iddo gofrestru fel deliwr gwastraff.

Yn 2020, gwnaethom dderbyn 2,672 o geisiadau gan gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff. Roedd hyn yn cynnwys 592 o geisiadau i adnewyddu cofrestriadau cludwyr gwastraff a 1,259 o geisiadau newydd.

Ar ddiwedd 2020, roedd 11,112 o gludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff wedi'u cofrestru gyda ni.

Astudiaeth achos: troseddau gwastraff

Cafodd gweithredwr gwastraff o Gonwy a oedd yn hysbysebu ei wasanaethau ar Facebook ddedfryd o garchar wedi’i gohirio ar ôl cyfaddef i bum trosedd gwastraff yn Llys Ynadon Caernarfon.

Plediodd Ryan Green, a oedd yn gweithredu busnes dan yr enw Ultimate Waste Removal, yn euog i bedwar achos o dipio gwastraff domestig yn anghyfreithlon mewn safleoedd ar draws Gogledd Cymru a storio gwastraff cymysg yn anghyfreithlon yn Stryd Peel, Abergele.

Cafodd ei ddedfrydu i 52 o wythnosau o garchar wedi'i ohirio am 18 mis.

Gwnaed cais hefyd am ddigollediad am y costau glanhau llawn, a oedd yn cynnwys asbestos, a dyfarnwyd y swm o £4,000 am hyn, yn daladwy ar gyfradd o £100 y mis.

Ym mis Awst 2019, gwnaeth swyddogion CNC, ynghyd â swyddogion o Gyngor Conwy, ymweld â warws a thir cyffiniol yng Nghanolfan Fusnes Stryd Peel, Abergele.

Daeth swyddogion o hyd i ollyngiadau gwastraff lluosog, gan gynnwys sachau sbwriel, matresi, dodrefn, deunydd pecynnu bwyd, fframiau gwelyau, gwastraff adeiladu a dymchwel, blychau cardbord, gwastraff gardd, a theganau, ar y safle a gwelwyd llygod mawr ymysg y gwastraff.

Roedd Mr Green wedi rhentu'r warws ym mis Gorffennaf 2019 at ddibenion ailwampio a gwerthu dodrefn ail-law.

Gwnaeth ein swyddogion ddidoli’r gwastraff er mwyn ceisio nodi cyfeiriadau a phobl a oedd yn gysylltiedig â'r gwastraff. Daethpwyd o hyd i sawl cyfeiriad a chysylltwyd â'r trigolion.

Dywedodd pob un a ymatebodd ei fod wedi hurio Ultimate Waste Disposal i gael gwared ar ei wastraff ar ôl gweld hysbyseb ar Facebook. Roedd cwsmeriaid wedi talu rhwng £56 a £500 am wasanaethau gwaredu gwastraff.

Roedd cynghorau Gwynedd a Sir Ddinbych yn ymchwilio i bedwar digwyddiad tipio anghyfreithlon ar wahân. Ymchwiliwyd i’r cyfeiriadau y daethpwyd o hyd iddynt yn y gwastraff a gafodd ei dipio'n anghyfreithlon ac arweiniwyd y wybodaeth yn ôl at Ultimate Waste Removals.

Ymchwiliwyd i’r digwyddiad ar y cyd gan swyddogion gorfodi o CNC a chynghorau Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych.

Asesiadau cydymffurfedd

Rheoleiddio gwastraff a diwydiant

Erbyn diwedd 2020, gwnaethom gwblhau 828 o adroddiadau asesu cydymffurfedd am gyfanswm o 264 o safleoedd gwastraff â thrwyddedau a 181 o safleoedd a reoleiddir ym maes diwydiant yng Nghymru.

Math o asesiad

Gwastraff

Rheoleiddio diwydiant

Adroddiad/adolygiad data

91

267

Archwiliad safle

225

53

Anhysbys

19

12

Gwirio monitro/samplu

17

55

Archwiliad

50

39

Cyfansymiau

402

426

Trwyddedau â ffurflen adroddiad asesu cydymffurfedd

264

181

 

Categori'r toriad

Gwastraff

Rheoleiddio diwydiant

A – Wedi'i asesu, a dim tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio

163

204

C2 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol sylweddol

9

12

C3 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol fach

71

90

C4 – Diffyg cydymffurfio heb unrhyw effaith amgylcheddol bosib

66

38

NWL

33

45

O – Achos parhaus o ddiffyg cydymffurfio, heb ei sgorio

4

4

X – Cam gweithredu yn unig

56

33

Cyfanswm

402

426

Tynnu dŵr ac ansawdd dŵr

Erbyn diwedd 2020, gwnaethom gwblhau 1,017 o adroddiadau asesu cydymffurfedd ar gyfer ansawdd dŵr a thynnu dŵr mewn 434 o safleoedd wedi'u rheoleiddio yng Nghymru.

Categori'r toriad

Tynnu dŵr

Ansawdd dŵr

A – Wedi'i asesu, a dim tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio

38

125

C2 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol sylweddol

2

14

C3 – Diffyg cydymffurfio a allai gael effaith amgylcheddol fach

20

289

C4 – Diffyg cydymffurfio heb unrhyw effaith amgylcheddol bosib

7

474

X – Cam gweithredu yn unig

3

45

Trwyddedau â ffurflen adroddiad asesu cydymffurfedd

41

393

Amaethyddiaeth

Mae CNC yn ymgymryd ag ymarfer i wella hygyrchedd a thryloywder data sy'n ymwneud â'n perfformiad rheoleiddiol ar faterion amaethyddol. Nid yw'r gwaith hwn wedi dod i ben mewn pryd i gyhoeddi ein hymdrech cydymffurfedd a monitro ym maes amaethyddiaeth am y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2020.

Caiff ein Hadroddiad Rheoleiddio Blynyddol ar gyfer 2020 ei ddiweddaru i gynnwys y data hyn cyn gynted ag sy'n rhesymol bosib.

 

Rheoleiddio sylweddau ymbelydrol

Rheoleiddiwr amgylcheddol yw CNC dros y sectorau niwclear ac anniwclear yng Nghymru. Mae yna reoleiddwyr eraill hefyd sy'n gwneud gwaith cydymffurfedd yn y sectorau hyn, gan gynnwys y Swyddfa Reoleiddio Niwclear a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Niwclear

Mae yna ddau safle niwclear trwyddedig yng Nghymru: Wylfa a Thrawsfynydd.  Er nad ydynt bellach yn creu pŵer, mae yna waith parhaus yn digwydd i ddatgomisiynu'r safleoedd hyn. Ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd, rydym yn gwneud gwaith cydymffurfedd i sicrhau bod gweithredwyr yn bodloni eu rhwymedigaethau amgylcheddol.  Yn 2020, gwnaethom gwblhau gwaith cydymffurfedd ym mhob safle gan ddefnyddio dulliau archwilio o bell oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Gwnaethom gadw cyswllt rheolaidd â gweithredwyr y safleoedd a pharhau i ymgymryd â gwaith cydymffurfedd arferol drwy ohebiaeth. 

Anniwclear

Mae yna oddeutu 135 o drwyddedau ledled Cymru ar hyn o bryd sy'n rheoli'r defnydd o sylweddau ymbelydrol. Mae defnyddiau'n amrywiol o driniaeth ac ymchwil feddygol i fesur a phrofi mewn lleoliadau diwydiannol. Gelwir y gweithgareddau sylweddau ymbelydrol hyn a reoleiddir yn ''anniwclear'' oherwydd nad ydynt ar safleoedd niwclear trwyddedig.

Mae timau rheoleiddio diwydiant a gwastraff ledled Cymru'n ymgymryd ag archwiliadau cydymffurfedd ac arolygiadau mewn cyfleusterau sy’n defnyddio, cynnal neu waredu sylweddau ymbelydrol sy'n dod dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Caiff safleoedd eu harchwilio ar amlder sy'n seiliedig ar risg, gan ddibynnu ar y math o weithrediad. 

Gwnaeth cyfyngiadau COVID-19 effeithio ar ein gwaith cydymffurfedd cynlluniedig yn sylweddol; fodd bynnag, cyflawnwyd cyfartaledd o 40% o'n harchwiliadau a gynlluniwyd ledled Cymru yn 2020. Roedd y ffigur hwn yn amrywio gan ddibynnu ar flaenoriaethau lleol. Mewn rhai achosion, gwnaethom ddefnyddio dulliau archwilio o bell neu ddull hybrid yn llwyddiannus, lle cafodd dogfennau eu harchwilio o bell cyn ymweliad â’r safle.  Mae adborth gan weithredwyr ar y dulliau hyn wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan ac rydym wedi dysgu bod gwaith cydymffurfedd o bell yn gofyn am waith paratoi ychwanegol er mwyn bod yn llwyddiannus.

Er mwyn cefnogi gwaith y sector meddygol yn ystod y pandemig, gwnaethom benderfyniadau rheoleiddiol er mwyn caniatáu peth hyblygrwydd wrth gydymffurfio â chyfyngiadau trwyddedau, ar yr amod bod y risgiau i'r amgylchedd ac iechyd yn isel.  Gwnaethom hefyd fonitro'r effaith sy'n gysylltiedig â diwedd cyfnod pontio ymadael â’r UE ar ddiwydiant yng Nghymru.

Gwnaethom gysylltu â'r holl weithredwyr yn ystod cyfnod pontio ymadael â’r UE a'r pandemig COVID-19 i sicrhau eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau amgylcheddol. Wrth i gyfyngiadau godi, rydym yn cynyddu ein hymweliadau safle yn ôl eu blaenoriaeth.

Diogelwch cronfeydd dŵr

Fel ymgymerwr cronfeydd dŵr a'r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru, ein dyletswydd yw sicrhau bod diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru'n cael ei reoli'n dda a bod perchnogion a gweithredwyr cronfeydd dŵr yn cydymffurfio â'r gyfraith.

Ym mis Mawrth 2021, roedd 371 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi'u cofrestru yng Nghymru. Mae CNC yn rheoli 35 o'r cyforgronfeydd dŵr mawr hyn, yn ogystal â sawl un llai.

Ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2021:

  • Roedd gan yr holl gronfeydd dŵr risg uchel y peiriannydd goruchwylio gofynnol wedi'i benodi.
  • Gwnaethom brosesu 109 o benodiadau peirianwyr newydd.
  • Gwnaethom dderbyn a phrosesu 359 o ddatganiadau gan beirianwyr goruchwylio.
  • Gwnaethom dderbyn 44 o hysbysiadau o ymgymerwyr yn methu â chofnodi lefelau dŵr a gweithgareddau monitro eraill o dan adran 11 o’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr.
  • Gwnaethom dderbyn 52 o adroddiadau archwilio ar gyfer cronfeydd dŵr risg uchel. Nid oedd dwy gronfa ddŵr wedi cael eu harchwilio o fewn yr amserlen argymelledig. Mae un o'r rhain yn argae amddifad ac roedd y llall oherwydd cyfyngiadau COVID; fodd bynnag, ers hynny archwiliwyd y rhain yn foddhaol.
  • Roedd 77 o Fesurau i'w Cymryd er Budd Diogelwch.

Darllenwch yr adroddiad Diogelwch Cronfeydd Dŵr yng Nghymru ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2021.

Taclo Tipio Cymru

Drwy gydol 2020, gwnaeth gwaith gorfodi drwy brosiect tipio anghyfreithlon Gwastadeddau Byw ddatblygu. Gwnaeth ein swyddogion barhau i weithio gartref ac roeddent yn gallu anfon llythyrau neu hysbysiadau at bobl a ddrwgdybiwyd neu dystion wrth i ymchwiliadau i ddigwyddiadau fynd rhagddynt.

Cynhaliwyd cyfweliadau'r rheiny a ddrwgdybiwyd drwy gwestiynau cyfweliad ysgrifenedig neu drwy weithio mewn partneriaeth â thîm gorfodi Cyngor Casnewydd, yr oedd ganddo ystafell gyfweld a oedd yn cydymffurfio â rheolau COVID-19 yr oeddem yn gallu ei defnyddio. Gwnaeth ein swyddogion barhau i ddefnyddio camerâu cudd ond â llai o gapasiti.

Roedd Taclo Tipio Cymru yn gallu parhau i gynnal gweithgorau gorfodi o bell gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yng Nghymru.

Pan oedd cyfyngiadau'n caniatáu hynny, gwnaeth y tîm barhau i wneud y mwyaf o gyfleoedd ffilmio awyr agored i helpu i dynnu sylw at lwyddiant y prosiect o safbwynt gorfodi a chodi proffil tipio anghyfreithlon ar raglenni teledu cenedlaethol.

Astudiaeth achos: tipio anghyfreithlon

Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2019, gwnaeth tîm Taclo Tipio Cymru gynnal gwaith goruchwylio cudd awdurdodedig mewn man tipio anghyfreithlon poblogaidd ar Wastadeddau Gwent – tir sydd wedi'i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Yn ystod y cyfnod gweithredu o ddau fis, gwnaeth y camera cudd recordio pedwar digwyddiad tipio anghyfreithlon ar wahân.

Cafodd pob un o’r pedwar digwyddiad ei gyflawni gan ddau adeiladwr lleol, sef Michael a Jonny Doran, gan ddefnyddio eu tipiwr Ford Transit gwyn. Recordiwyd y troseddwyr yn gollwng gwastraff adeiladu, gan gynnwys brics, rwbel, a gwastraff gwyrdd a domestig, mewn sachau sbwriel du.

Ym mis Mawrth 2020, plediodd Michael a Jonny Doran yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd, a dedfrydwyd Michael Doran i orchymyn cymunedol o flwyddyn sy'n gyfwerth â 100 o oriau o waith di-dâl. Cafodd ei orchymyn hefyd i dalu £950 i CNC tuag at gostau a gordal dioddefwyr o £85.

Roedd Johnny Doran eisoes yn gwasanaethu dedfryd ohiriedig ar adeg y drosedd a chafodd ei ddedfrydu i dalu dirwy a'i orchymyn i dalu cyfraniad at y costau, sef cyfanswm o £1,900.

Cafodd yr erlyniad llwyddiannus lawer o sylw yn y cyfryngau ar-lein ac ar y teledu.

Gorfodi

Mae'r wybodaeth isod yn dangos ein canlyniadau gorfodi rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Rhagfyr 2020. Bydd rhai achosion wedi dechrau cyn 2020 ond cawsant eu cwblhau o fewn y flwyddyn. Bydd achosion a ddechreuwyd yn ystod 2020 hefyd sydd naill ai yn destun ymchwiliad o hyd neu yn system y llysoedd, a chaiff y rhain eu cofnodi yn ein hadroddiad ar gyfer 2021.

Gwaith gorfodi yn ymwneud â physgodfeydd

Mae bron 30,000 o bobl bellach yn meddu ar drwydded bysgota yng Nghymru, gyda chynnydd mewn gwerthiannau yn dilyn Llywodraeth Cymru yn llacio cyfyngiadau’r coronafeirws ar weithgareddau yn yr awyr agored.

Cafwyd twf o 18% mewn trwyddedau iau, ar ben cynnydd blynyddol o 3% yn nifer y trwyddedau oedolion a werthwyd.

Yn ystod 2020, daliwyd 56 o droseddwyr yn cyflawni troseddau pysgodfeydd, gan gynnwys troseddau gwialen a llinyn a throseddau cocos. Ar ddiwedd 2020, ymdriniwyd â 21 o droseddwyr, naill ai drwy'r Weithdrefn Cyfiawnder Sengl neu mewn llys ynadon, gyda chyfanswm y dirwyon yn £2,124 a thair dedfryd o garchar wedi’u gohirio. Roedd achosion y 35 o droseddwyr sy’n weddill yn dal i fod ar waith ar ddiwedd 2020.

Gweithdrefn Cyfiawnder Sengl (pysgodfeydd)

Nifer yr achosion 10

Cyfanswm y dirwyon

£1,354

Cyfartaledd y dirwyon

£135.40

Cyfanswm y costau a ddyfarnwyd

£1,192

Costau a ddyrannwyd ar gyfartaledd

£119.20

Astudiaeth achos: troseddau pysgodfeydd (rhwyd anghyfreithlon)

Cafodd dyn ei arestio ar ôl i swyddogion troseddau amgylcheddol o CNC weld rhwyd anghyfreithlon mewn afon yng Nghanolbarth Cymru.

Roedd y swyddogion yn cynnal patrôl arferol o afon Teifi ar ddydd Iau 14 Mai pan ddaethant ar draws rhwyd yn y dŵr. Tynnodd y swyddogion y rhwyd i'r lan a chanfod ei bod yn cynnwys saith brithyll môr marw.

Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed–Powys, arestiwyd dyn ar amheuaeth o droseddau pysgodfeydd anghyfreithlon yn Nyffryn Teifi.

Er gwaethaf cyfyngiadau symud y coronafirws, gwnaeth swyddogion CNC barhau i batrolio afonydd Cymru a chafodd pobl eu hannog i wirio bod y pysgod roeddent yn eu prynu'n lleol – yn enwedig drwy'r cyfryngau cymdeithasol – o ffynhonnell ddilys.

Astudiaeth achos: troseddau pysgodfeydd (cocos)

Mae dyn o Lwynhendy yn Llanelli wedi cael dirwy o £1,032 am gasglu cocos yn anghyfreithlon ym Mhysgodfa Gocos Cilfach Tywyn.

Galwyd Terry Royston Butchers, 64 oed, i ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 31 Ionawr 2020. Gwnaeth gyfaddef i gymryd cocos byw o'r ardal drwyddedig ddwywaith a methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau gan swyddog gorfodi.

Cafodd ddirwy o £240 a'i orchymyn i dalu costau cyfreithiol CNC, sef cyfanswm o £760, ynghyd â chostau'r llys gwerth £32.

Yn ystod patrôl gyda'r nos ar 29 Mehefin 2019, fe'i gwelwyd yn ceisio tynnu sachau o gocos o'i feic cwad a'u rhoi yn ei fan gludo.

Rhoddodd fanylion anwir a cheisio dianc sawl gwaith. Gwnaeth swyddogion CNC ei stopio a'i adnabod wedyn gyda chymorth gan Heddlu Dyfed–Powys.

Atafaelwyd ei gyfarpar casglu cocos a gorchmynnwyd iddo roi'r holl gocos byw yn ôl ar welyau'r cocos.

Sancsiynau sifil

Ymgymeriad gorfodi yw math o sancsiwn sifil sydd ar gael i CNC mewn perthynas â sawl trosedd amgylcheddol, fel y nodir yn Neddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Cytundeb rhwymol yw ymgymeriad gorfodi, yr ymrwymir iddo'n wirfoddol gan y troseddwr, a chaiff ei gynnig i'r rheoleiddiwr pan fo sail resymol i amau bod trosedd wedi cael ei chyflawni. Er mwyn i ymgymeriad gorfodi fod yn opsiwn i ni fel dewis amgen i erlyniad, mae'n rhaid inni fod wedi ymchwilio i'r drosedd a bod â chyfle realistig o erlyniad llwyddiannus i'r safon prawf troseddol, sydd y tu hwnt i amheuaeth resymol.

O ganlyniad i droseddau amgylcheddol perthnasol yn cael eu cyflawni, cynigiwyd tri ymgymeriad gorfodi yn 2020. Ar ddiwedd 2020, derbyniwyd un ac roedd dau yn dal i fod ar waith.

Astudiaeth achos: ymgymeriad gorfodi, Alun Griffiths (Contractors) Ltd

Ar 13 Mehefin 2019, cafwyd digwyddiad llygredd yn Nant Trebefered, Llanilltud Fawr. Gwnaeth y llygredd achosi i'r afon gael ei halogi gan solidau mewn daliant ond ni chafwyd fawr o effaith. Yn ôl yr ymchwiliad, roedd modd rhagweld y digwyddiad ac nid oedd mesurau lliniaru digonol wedi cael eu rhoi ar waith ar y safle i atal unrhyw lygredd posib rhag digwydd.

Yn yr achos hwn, cyflawnwyd troseddau dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016, am achosi weithgaredd gollwng dŵr heb drwydded amgylcheddol, a Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975, drwy ryddhau sylwedd neu elifiant sy'n wenwynig ei natur neu'n niweidiol i bysgod, silod, ardaloedd silio neu fwyd pysgod.

Gwnaeth Alun Griffiths (Contractors) gynnig ymgymeriad gorfodi i CNC, a gafodd ei dderbyn, ac ailgodwyd tâl o £2,062.50 ar y cwmni.  Yn ogystal, gwnaeth wario £14,400 arall ar lafur, ymgynghorwyr, ysgubwyr, peiriannau a lliniaru gwaddodion mewn ymateb i'r digwyddiad a chyfraniad o £1,200 i Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru.

System Hysbysu Gwybodaeth Gyfreithiol am Droseddau a Thramgwyddau

Yn 2020, gwnaeth CNC greu 604 o achosion newydd, a oedd yn cynnwys 620 o droseddwyr, gyda 936 o gyhuddiadau gorfodi ar wahân. Gwnaethom gymryd camau gorfodi yn erbyn 241 o gwmnïau a 379 o unigolion. Ar ddiwedd 2020, roedd gennym 278 o achosion wedi'u rhestru o hyd fel “cyfreithiol ar waith”.

Roedd modd cymharu cyfanswm y canlyniadau gorfodi yn fras â 2019.

Blwyddyn

Achosion

Troseddwyr

Cyhuddiadau

Cwmnïau

Unigolion

2020

604

620

936

241

379

2019

638

623

941

258

365


Roedd yna 39 o achosion lle na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu pellach gennym, tri achos lle roedd gennym dystiolaeth annigonol i barhau, a thri achos y gwnaeth yr heddlu fynd i'r afael â hwy.

Gwnaethom ddarparu cyngor ac arweiniad ffurfiol mewn 153 o achosion. Gwnaethom ddyrannu 324 o rybuddion, cyflwyno 19 o hysbysiadau gorfodi a gydymffurfiwyd â hwy, a dyrannu saith hysbysiad cosb benodedig.

Gwnaethom ddyrannu 30 o rybuddiadau ffurfiol ac erlyn 68 o gyhuddiadau ar wahân, y cafodd deg ohonynt eu profi yn absenoldeb y difinyddion.

O ganlyniad i'n herlyniadau llwyddiannus, cyfanswm dirwyon y llys oedd £25,097 a gwnaethom dderbyn £33,784 mewn costau. Roedd y ddau swm yn sylweddol llai na'r dirwyon a'r costau a ddyrannwyd yn 2019, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ar y llysoedd yng Nghymru.

Astudiaeth achos: gollwng gwastraff yn anghyfreithlon

Dechreuodd ymchwiliad ym mis Mehefin 2019 pan wnaeth y tîm rheoleiddio gwastraff dderbyn nifer o adroddiadau o weithrediad gwastraff anghyfreithlon a ddrwgdybiwyd.

Yn ôl adroddiadau, roedd symiau mawr o wastraff yn cael eu tipio'n rheolaidd a'u llosgi mewn lleoliad ar ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gwnaeth swyddog gorfodi, yng nghwmni swyddog heddlu o Heddlu Dyfed–Powys a oedd ar secondiad i CNC ar y pryd, ymweld â'r safle. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw ac ymholiadau dilynol, daethant o hyd i symiau sylweddol o dystiolaeth a wnaeth arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn.

Gwnaeth James Anthony Gunter, 32 oed, o Frynaman, gyfaddef i'r troseddau mewn cyfweliad, a chafodd ei gyhuddo o weithredu cyfleuster gwastraff anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn y cyfleuster hwnnw mewn ffordd a oedd yn debygol o achosi llygredd i'r amgylchedd ac iechyd dynol.

Roedd Gunter wedi bod yn gweithredu gwasanaeth clirio cartrefi a symud sbwriel yn ardaloedd Rhydaman, Castell-nedd, Port Talbot a Llanelli.

Dedfrydwyd Gunter yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 31 Gorffennaf. Derbyniodd gorchymyn cymunedol o 12 mis ynghyd â 200 o oriau o waith di-dâl. Mae'n rhaid iddo hefyd dalu costau llawn o £6,709 a gordal dioddefwyr o £85.

Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron

Mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud cais am orchmynion digolledu ac ategol, fel gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion atafaelu, ym mhob achos priodol. Isod, ceir rhestr o'r gorchmynion ategol y gall llys eu rhoi o ganlyniad i euogfarn:

Anghymhwyso cyfarwyddwyr

Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion.

Atafaelu asedau – Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cynllun Cymell Adennill Asedau)

Blwyddyn dreth 19-20

Enw'r troseddwr

Ffigur budd troseddol

Y swm sydd ar gael

Talwyd

Math

Kenneth Davies

£402,937.00

£341.26

Do

Atafaelu

Jeanette Davies

£402,937.00

£402,937.00

Do

Atafaelu

Raymond ac Ian Murray

£72,637.57

£30,413.67

Do

Digollediad

Raymond ac Ian Murray

£72,637.57

£37,153.71

Do

Digollediad


Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol

Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion.

Fforffedu cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni'r drosedd

Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion.

Anghymhwyso rhag gyrru

0

Digollediad arall ar wahân i achosion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau

3

Atafaelu cerbydau

Dim

Adfer – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

0

Gwaith di-dâl

3

Gorchmynion cymunedol

2

Cyrffyw

0

Gorchymyn adfer o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1980

0

Rhyddhad amodol

2

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf