Cynllun Adnoddau Coedwig Mathrafal – Cymeradwywyd 4 Gorffennaf 2024

Map Lleoliad

Map lleoliad Mathrafal

Amcanion â blaenoriaeth

Amcan 1: Adfer coetiroedd hynafol

Parhau i bennu ac adfer nodweddion coetir hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth, gan gynyddu’r coetir llydanddail ar draws ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig.

Blaenoriaethau 2, 4 a 5 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; thema “Gwella bioamrywiaeth” y Datganiad Ardal.

Amcan 2: Cadernid y goedwig

Parhau i ehangu ystod oedran a rhywogaethau’r coed o fewn y coetiroedd, gan ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ac osgoi llwyrgwympo pan fo hynny’n ymarferol. Gellir defnyddio adfywio naturiol mewn ardaloedd addas, gan ategu hynny ag ailstocio gofalus neu trwy blannu coed a fydd yn cyfoethogi ac yn gwella amrywiaeth y rhywogaethau. Mae coedwigoedd amrywiol yn gadarnach ac yn well am wrthsefyll y pwysau o du newid hinsawdd. Dylid teneuo’n rheolaidd er mwyn gwella sefydlogrwydd y coed a chynyddu cyfleoedd i wella cadernid a chyflawni’r amcanion eraill.

Blaenoriaethau 2 a 3 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Adnoddau coedwigaeth”, “Newid hinsawdd” a “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy” y Datganiad Ardal.

Amcan 3: Gwella ansawdd y cynefin

Cymryd camau pan fo angen i ddelio â bygythiadau i weithrediad ecolegol coetiroedd, gan wella ansawdd ardaloedd coetir brodorol. Gwella rhwydwaith y cynefinoedd trwy gysylltu ardaloedd sy’n cynnwys coetiroedd hynafol / brodorol, yn ogystal ag ystyried elfennau cynefinoedd (e.e. coetiroedd, gwrychoedd, afonydd) y tu allan i’r coetir. Caniatáu i goetir olyniaethol ddatblygu, gan leihau ymyriadau pan fo hynny’n briodol i gyflawni nodau cadwraeth. Wrth reoli’r goedwig, dylid bod yn ystyriol o safleoedd cadwraeth gwerthfawr y tu hwnt i ffiniau’r goedwig. Pan fo modd, dylid gwella ansawdd y cynefin a’r cysylltiadau oddi mewn i’r cynefin er budd rhywogaethau â blaenoriaeth, er enghraifft brithegion perlog yng nghoedwig Figyn. Ar adeg ysgrifennu’r crynodeb hwn, mae CNC wrthi’n datblygu gweithdrefnau gwell ar gyfer rheoli rhwydweithiau Natur, sef gweithdrefnau y gellir eu rhoi ar waith yn yr ardal hon maes o law.

Blaenoriaethau allweddol 2, 3, 4 a 5 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Adnoddau coedwigaeth” a “Gwella bioamrywiaeth” y Datganiad Ardal.

Amcan 4: Coetiroedd i bobl

Cynnal, a gwella pan fo modd, y profiadau a gaiff pobl sy’n ymweld â’r coetir, gan gynnig amgylchedd diogel, pleserus ac amrywiol o fewn y coetir. Dylai’r coetiroedd esgor ar fudd i iechyd a llesiant pobl leol, yn ogystal â chroesawu ymwelwyr o ardaloedd sydd ymhellach i ffwrdd. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y coetiroedd yn cael eu hymgorffori yn rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Blaenoriaethau 7 ac 8 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Adnoddau coedwigaeth” ac “Ailgysylltu pobl a lleoedd” y Datganiad Ardal.

Amcan 5: Cynhyrchu pren yn gynaliadwy

Cynhyrchu pren mewn modd cynaliadwy trwy ddefnyddio coed sy’n cael eu cwympo yn ystod prosesau teneuo, ymyriadau mewn Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, a choed sy’n cael eu llwyrgwympo (pan fo angen). Dylid rheoli prosesau adfywio naturiol ac ailstocio er mwyn sicrhau y bydd y coed yn adnewyddu, gan fachu ar gyfleoedd i ehangu amrywiaeth y rhywogaethau a’r strwythur. Bydd y coetir yn cael ei reoli yn unol â Safon Goedwigaeth y DU.

Blaenoriaethau 2, 3 a 9 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Adnoddau coedwigaeth” a “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy” y Datganiad Ardal.

Amcan 6: Cyfoethogi’r dirwedd

Mynd ati’n raddol i addasu’r coetiroedd er mwyn gwella amwynder y dirwedd: ar y cyd â defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a thyfu amrywiaeth o goed (a ddisgrifir yn yr amcanion uchod), bydd hyn yn golygu mynd ati’n araf i leihau bylchau amlwg / artiffisial yn y dirwedd, gan annog coetir cymysg wrth ymyl ffiniau a chan ystyried nodweddion cyfagos. Dylid osgoi llwyrgwympo pan fo modd; a phan fo llwyrgwympo’n angenrheidiol, dylid ailstocio mewn modd a fydd yn gydnaws â’r dirwedd.

Blaenoriaethau allweddol 3, 5, 7 ac 8 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy”, “Ailgysylltu pobl a lleoedd” ac “Adnoddau coedwigaeth” y Datganiad Ardal.

Amcan 7: Diogelu’r amgylchedd hanesyddol

Pennu a diogelu nodweddion treftadaeth ac archaeolegol pwysig, yn cynnwys yr amgylchedd naturiol hanesyddol.

Blaenoriaethau allweddol 5, 7 ac 8 Ystad Goetir Llywodraeth Cymru; themâu “Adnoddau coedwigaeth” a “Tir, dŵr ac aer cynaliadwy” y Datganiad Ardal.

Camau eraill sy’n angenrheidiol i gyflawni’r Cynllun Adnoddau Coedwig

Camau ar gyfer y tîm Gweithrediadau Coedwig

  • Cynnal system asesu gadarn a rhoi prosesau teneuo amserol ar waith yn rheolaidd mewn cnydau hyfyw, er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd eithaf ar gyfer dulliau rheoli’r dyfodol.
  • Defnyddio Gorchudd Di-dor / Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith mewn ardaloedd a nodir ar Fap 2 (Systemau Rheoli Coedwig), gan leihau maint yr ardaloedd cwympo (yn cynnwys cymedroli cwympo llennyrch bach) pa le bynnag y bo modd er mwyn lleihau’r effaith ar y dirwedd.
  • Wrth ddatblygu manylebau ailstocio / trefniadau plannu cyfoethogi, pan fo’n ymarferol dylid archwilio opsiynau ar gyfer cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau ar y safle, mewn modd a fydd yn briodol i’r math o safle ac i amcanion y safle.
  • Cydgysylltu â’r tîm Rheoli Tir er mwyn sicrhau y rheolir brithegion perlog yn briodol yng Nghoedwig Figyn (gweler Atodiad 4).
  • Gweithio gyda’r tîm Rheoli Tir er mwyn cynorthwyo i ddiogelu Henebion Cofrestredig, yn arbennig felly yn Ffridd Mathrafal, gan sicrhau y cânt eu diogelu yn ystod unrhyw waith a chan sicrhau y bydd y coed yn cael eu symud ymaith yn ofalus pan fo angen.
  • Cadw at y methodolegau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn ardaloedd lle ceir cyfyngiadau cadwraeth, yn arbennig felly y cyfyngiadau o ran cyfnodau gweithredu ym Mroniarth (wrth ymyl clwydfan ystlumod):
    • Ni ddylid mynd i’r afael â gweithrediadau cynaeafu ym mloc Broniarth rhwng Mai ac Awst (yn cynnwys y misoedd hynny). Gweler ffurflenni’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ar y DMS) i gael rhagor o fanylion.

Camau gweithredu ar gyfer y tîm Peirianneg Integredig

  • Sicrhau bod ffyrdd y goedwig yn cael eu cynnal a’u cadw a’u gwasanaethu’n briodol, fel y gellir rhoi gweithrediadau ar waith yn ddiogel.

Camau gweithredu ar gyfer y tîm Rheoli Tir

  • Gwerthuso cyflwr yr Henebion Cofrestredig o fewn y goedwig, gan fynd i’r afael â gwaith pan fo angen er mwyn sicrhau y caiff yr henebion eu cynnal mewn cyflwr addas a’u diogelu rhag difrod (yn arbennig felly rhag llystyfiant gordyfol). Mynd i’r afael â gwaith rheoli a monitro ar y cyd â Cadw.
  • Cydgysylltu â’r tîm Gweithrediadau Coedwig er mwyn sicrhau y rheolir brithegion perlog yn briodol yng Nghoedwig Figyn (gweler Atodiad 4). Hefyd, cydweithio ag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn pan fo hynny’n briodol, er mwyn gwella ansawdd y cynefin yn yr ardal hon.
  • Cynnal, a gwella pan fo modd, gyflwr y llwybrau cyhoeddus a’r seilwaith cysylltiedig.
  • Cynorthwyo’r timau gweithrediadau coedwig i gynllunio er mwyn sicrhau y caiff yr holl nodweddion sensitif hysbys ar y safle eu diogelu’n briodol yn ystod unrhyw waith, ac er mwyn sicrhau y bydd modd lleihau unrhyw effaith ar bobl leol.

Mapiau

Gweledigaeth Hirdymor

Y Strategaeth Rheoli Coedwigoedd a Chwympo Coed

Mathau o Goedwigoedd ac Ailblannu

Diweddarwyd ddiwethaf