Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Cyflwyniad
Mae datblygu'r dull pum cam o asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi ein helpu i ganolbwyntio ar ba dystiolaeth sydd ei hangen arnom nawr.
Nid oes angen rhai o'r anghenion a nodwyd yn gynharach mwyach. Mewn achosion eraill, mae'r gwaith wedi'i gynllunio neu eisoes ar droed.
Darllenwch fwy ynghylch sut rydym yn rhoi sylw i'r bylchau a nodwyd yn ein hadroddiad cyntaf.
Mae'n bwysig cofio mai ein hanghenion tystiolaeth yw'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i asesu rheolaeth gynaliadwy adnoddau naturiol nad ydym yn credu sydd gennym ar hyn o bryd.
Bydd yr anghenion tystiolaeth yn newid yn ôl y pwysau a'r cyfleoedd ar gyfer cyflawni'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae ein harbenigwyr wedi gweithio gydag eraill i ystyried beth arall y gallai fod ei angen arnom i asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy.
Rydym wedi rhestru'r rhain fel anghenion newydd a nodwyd.
Rydym wedi blaenoriaethu'r anghenion drwy ofyn cyfres o gwestiynau:
Darllenwch fwy ynghylch sut rydym yn blaenoriaethu anghenion tystiolaeth.
Darllennwch restr o’n hanghenion tystiolaeth wedi'u blaenoriaethu
Os credwch y gallwch ein helpu gyda'r rhain, neu os gallwch ein cyfeirio at wybodaeth sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae proses y Datganiadau Ardal yn casglu tystiolaeth newydd ynghylch yr heriau, y peryglon a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae saith Datganiad Ardal yn cwmpasu Cymru a'r amgylchedd morol.
Bydd ein hadroddiad nesaf yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o Ddatganiadau Ardal.
Er mwyn cynnal a gwella adnoddau naturiol, mae angen i ni fesur eu sefyllfa, eu cydnerthedd, a'r buddion rydym ni'n eu cael ohonynt.
Rydym yn bwriadu defnyddio stocrestr adnoddau naturiol.
Bydd hon yn cyfuno data economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mewn un fframwaith.
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cyfrifon Ecosystem Cenedlaethol y DU, prosiect Cadwyn Resymeg Natural England, a Phlatfform Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae'r Pyramid Gwybodaeth yn dangos llif yr wybodaeth o ddata sylfaenol i gyfres o brif ddangosyddion neu fesurau:
Mae creu stocrestr yn ein galluogi i uno gwybodaeth am yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi. Gwneir hyn drwy olrhain llif y buddion o adnoddau naturiol i bobl.
Bydd yn rhoi darlun eang i ni o werth, gan nodi'r buddion cymdeithasol ac anariannol rydym yn eu cael o adnoddau naturiol.
Bydd nodi gwerthoedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn ein helpu i gyflawni ein nodau llesiant.
Mae cyfrifon a stocrestrau adnoddau naturiol yn rhan allweddol o ddull Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig ac yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru.
Gweler ein templed ar gyfer llunio'r stocrestr adnoddau naturiol.
Darllenwch fwy ynghylch sut byddwn yn cyflwyno'r adroddiad nesaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.