Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Cyflwyniad
Darllenwch yr Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020, wedi’u gyhoeddi ym Mis Rhagfyr 2020
Bydd yr ail adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn gyfres o dudalennau gwe yn hytrach nag un ddogfen.
Byddwn yn ei gyflwyno ar dair lefel wahanol.
Byddwn yn canolbwyntio ar negeseuon, penawdau, casgliadau a datganiadau lefel uchel sy'n seiliedig ar ein gwaith adolygu a dadansoddi. Byddwn yn defnyddio ffeithluniau ac offer gweledol i helpu i gyflwyno negeseuon allweddol.
Byddwn yn cynnwys naratif ynghylch y dadansoddiad o'r dystiolaeth, gan arwain at y casgliadau yn Lefel 1.
Bydd yn cael ei strwythuro o amgylch wyth ecosystem:
a saith thema drawsbynciol:
Byddwn yn gosod y naratif o gwmpas y dull pum cam ar gyfer asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Byddwn yn cynnwys yr hyder sydd gennym yn yr asesiadau a disgrifiad o'r prosesau sicrhau ansawdd rydym yn eu defnyddio.
Byddwn yn rhoi mynediad i ffynonellau data penodol, prif lenyddiaeth berthnasol neu adroddiadau synthesis tystiolaeth. Gall y rhain fod yn adolygiadau cyflym neu systemaidd. Byddwn yn darparu unrhyw ragdybiaethau a saif oddi tanynt.
Byddwn yn darparu Lefel 3 drwy borth gwybodaeth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd yn dangos mapiau ac adroddiadau a adeiladwyd o'n data.
Bydd y porth yn darparu barn ar y dystiolaeth sydd wedi'i dehongli a'i defnyddio i greu Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020. Bydd y mapiau a'r adroddiadau ar gael fel ffynonellau annibynnol o wybodaeth i ddechrau. Mewn amser, bydd y rhain yn cael eu cysylltu fel y gellir edrych arnynt gyda'i gilydd a'u hidlo yn ôl cyfres o themâu.
Bydd tudalennau gwe yn dod â'r asesiadau ynghyd er mwyn mesur y cynnydd ar y pedwar mesur ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Bydd yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cloi gydag awgrymiadau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy a'r rhagolygon ar gyfer gwneud hyn.
Rydym am i'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ddangos cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol yng Nghymru a'r pwysau sy’n gweithredu ar y rhain.
Dylid defnyddio'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol i wneud y canlynol:
Caiff yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ei lunio trwy gydweithredu a chydgynhyrchu a chan ddefnyddio'r dystiolaeth orau sy'n bodoli.
Bydd yn helpu cymdeithas i ddeall y buddion y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu a sut mae eu camau gweithredu yn effeithio ar y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae angen eich help arnom.
Rydym am weithio gydag eraill i gadarnhau pa wybodaeth sydd ar gael.
Rydym yn cydnabod bod rhai o'n hanghenion tystiolaeth wedi'u diwallu, ond mae'n bosibl nad ydym yn ymwybodol o'r gwaith sydd wedi'i wneud.
Efallai bod rhai ohonoch eisiau cymryd mwy o ran yn y prosesau asesu neu adolygu.
Os ydych chi'n credu y gallwch chi ein helpu ni, cysylltwch â ni yn sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk