Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Ymatebion

Coed trefol yng Nghaerdydd (Peter Frost)

Camau gweithredu integredig

Ni ellir mynd i'r afael â her yr argyfyngau o ran yr hinsawdd a byd natur ar wahân.

Mae angen ymateb integredig arnynt sydd â'r gallu i symud systemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn cyfeiriad mwy cynaliadwy.

Gallwn ymateb i'r heriau hyn mewn dwy ffordd strategol: yr economi gylchol a seilwaith gwyrdd.

Yr angen am newid

Mae adroddiad y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau yn pwysleisio bod angen 'newidiadau trawsnewidiol' i adfer byd natur a'i ddefnyddio mewn modd cynaliadwy.

Mae'n amlygu pwysigrwydd:

  • codi ymwybyddiaeth o'r defnydd
  • gwarchod amgylcheddau lleol
  • hyrwyddo economïau lleol
  • adfer ardaloedd sydd wedi dirywio er mwyn cryfhau rhwydweithiau ecolegol
  • cael ardaloedd gwarchodedig sydd wedi'u cysylltu'n dda
  • gwarchod dalgylchoedd
  • mentrau/sancsiynau i leihau llygredd a chael gwared ar eraill sy'n niweidio bioamrywiaeth

Dywed yr adroddiad y bydd gwneud newidiadau o ran cynhyrchu a defnyddio ynni, bwyd, bwyd anifeiliaid, ffeibr a dŵr, defnydd cynaliadwy, rhannu'r buddion a ddaw yn sgil defnyddio mewn modd cyfartal, a mesurau addasu a lliniaru o ran newid hinsawdd sy'n gyfeillgar i natur yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol yn well yn y dyfodol.

Ac mae'n nodi pum prif ffordd o greu newid:

  • mentrau ac adeiladu gallu
  • cydweithrediad traws-sector
  • camau gweithredu rhagataliol
  • gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun cydnerthedd ac ansicrwydd
  • cyfraith amgylcheddol a'i gweithrediad

Economi gylchol

Mae economi gylchol yn ddewis amgen i'r economi draddodiadol lle rydym yn gwneud, yn defnyddio ac yna'n gwaredu.

Mewn economi gylchol, rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau am gyn hired â phosibl ac yn cael y gwerth mwyaf ohonynt. 

Rydym wedyn yn adfer ac yn adnewyddu cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd eu bywyd gwasanaeth. 

economi gylchol

: Trwy garedigrwydd The Waste and Resources Action Programme (WRAP)

Yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd am dwf, bydd economi fwy cylchol yn:

  • lleihau gwastraff
  • lleihau camddefnydd o adnoddau
  • hybu mwy o gynhyrchiant o ran adnoddau
  • cyflawni economi fwy cystadleuol
  • cynnal cyflenwad deunyddiau yn y dyfodol
  • helpu i leihau effeithiau amgylcheddol ein cynhyrchu a'n defnyddio yng Nghymru a thramor

Yn ôl amcangyfrifon 2015, pe bai pawb ar y blaned yn defnyddio cymaint â'r cyfartaledd yng Nghymru, byddai angen 2.5 o blanedau arnom i ddarparu'r adnoddau y byddai eu hangen i amsugno'r gwastraff.

Yn ôl adroddiad llesiant Cymru, mae ein hôl troed ecolegol, sy'n 10.05 miliwn o hectarau byd-eang, oddeutu pum gwaith yn fwy na maint Cymru.

Mae lleihau ac ailddefnyddio gwastraff yn un ffordd o leihau'r adnoddau rydym yn eu defnyddio.

Trwy'r adroddiad cyntaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Pholisi Adnoddau Naturiol cyntaf Cymru, mae camau'n cael eu cymryd i hyrwyddo ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni ac i leihau gwastraff.

Seilwaith gwyrdd

Mae ein hadnoddau naturiol yn cyflenwi amrywiaeth o fuddion pwysig i bobl a gellir eu hystyried fel ein seilwaith gwyrdd.

Gall mynediad hawdd i fannau gwyrdd arwain at fwy o weithgarwch corfforol. Mae bod yn agos at fan gwyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl.

Seilwaith gwyrdd trefol

Mae Polisi Adnoddau Naturiol Cymru yn sbarduno cyfleoedd newydd i wella seilwaith gwyrdd gwledig a threfol drwy Bolisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Asesiadau Seilwaith Gwyrdd arfaethedig.

Mae polisïau cynllunio Cymru'n nodi na ddylai datblygiadau achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol nac yn genedlaethol, a rhaid iddynt gyflwyno budd net i fioamrywiaeth.

Bydd hyn yn golygu cynnal yr asedau seilwaith gwyrdd sydd gennym, yn ogystal â buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd newydd ochr yn ochr â datblygiadau.

Gall cynnydd o bobl mewn amgylchedd olygu mwy o oruchwylio a gall arwain at lai o weithgarwch gwrthgymdeithasol. 

Gall seilwaith gwyrdd trefol gyfrannu at dwf economaidd. Gall buddsoddiad o'r fath wneud ardaloedd yn lleoedd mwy deniadol i fyw neu weithio ynddynt. Gall hyn ddenu mwy o fuddsoddiad, creu swyddi, a chynyddu gwerth tir ac eiddo.

Dysgwch fwy am rôl datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ar gyfer llygredd aer a sŵn yn y canllawiau polisi statudol ar gyfer awdurdodau lleol ar lygredd sŵn ac aer.

Darllenwch fwy ynghylch rheoliadau draenio trefol cynaliadwy – rhaid i bob datblygiad newydd ddilyn y rhain bellach. 

Darganfyddwch fwy am waith Fforwm Seilwaith Gwyrdd Cymru.

Seilwaith gwyrdd gwledig

Cynghorodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd fod angen newid y defnydd a wneir o dir ac adnoddau. Byddai hyn yn golygu diogelu mawndiroedd, mwy o amaethgoedwigaeth, diogelu coedwigoedd a defnyddio llai o gig.

Rhagwelodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y byddai'r arbedion mwyaf mewn allyriadau yn dod yn sgil cynyddu gorchudd coedwigoedd, gan neidio o 13% i 19% o dir y DU erbyn 2050.

I Gymru, byddai angen cynyddu gorchudd y coetir 5% er mwyn cyflawni'r uchelgais datgarboneiddio.

Gallai gorchudd coetir newydd ar dir ffermio llai cynhyrchiol, yn ogystal â phlannu ar ymylon, gyfrannu tuag at y targed hwn.

Gall plannu coed ar hyd nentydd ucheldiroedd hefyd helpu i gadw afonydd yn oer yng ngŵydd y newid yn yr hinsawdd.

Priddoedd mawn dwfn yn yr ucheldiroedd a'r iseldiroedd sy'n storio'r fwyaf o garbon daearol yng Nghymru, ond amcangyfrifir mai dim ond 30% o adnoddau mawndir Cymru sydd mewn cyflwr da.

Pe bai holl fawndiroedd Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, byddai'n lleihau allyriadau ymhellach, cyfwerth â 230 cilodunnell o garbon deuocsid y flwyddyn.

Darganfyddwch fwy ynghylch sut mae ein prosiect newydd LIFE ar gyfer cyforgorsydd Cymru yn adfer cyforgorsydd a chynefinoedd mawndir yng Nghymru.  

Mae adroddiad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut mae cynllun amaethamgylcheddol newydd yn cynnig cyfleoedd i ddylanwadu ar y gwaith o reoli defnydd tir.

Dysgwch fwy am Barc Rhanbarthol y Cymoedd – cynllun i ryddhau a manteisio i'r eithaf ar botensial treftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd i greu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Darllenwch Strategaeth Genedlaethol Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol – ymgynghoriad ar amrediad o ddatrysiadau seiliedig ar natur er mwyn mynd i'r afael â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. 

Darganfyddwch fwy am waith Fforwm Rheoli Tir Cymru a'i is-grwp, sy'n canolbwyntio ar drechu llygredd amaethyddol.

Newid dulliau gweithredu

Mae enghraifft o ddull integredig o fynd i'r afael â'r heriau byd-eang hyn wedi ymddangos yn yr UDA ar ffurf y Fargen Newydd Werdd.

Mae Ewrop wedi dechrau dilyn agenda'r fargen hon, sy'n ceisio trawsnewid systemau cynhyrchu, defnyddio a threfniadaeth gymdeithasol. 

Mae Adroddiad Sefyllfa a Rhagolygon 2020 Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn nodi eu meddylfryd diweddaraf

Gwnaeth Adolygiad Stern ymgymryd â dull integredig o fynd i'r afael ag effaith y newid yn yr hinsawdd. 

Mae Trysorlys y DU wedi lansio Adolygiad Dasgupta ar economeg bioamrywiaeth, a allai arwain at newid tebyg yn y modd y meddylir am golli bioamrywiaeth.

Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth newydd a fydd yn cael ei hymgynghori arni ar ddiwedd y flwyddyn fel olynydd i Tuag at Ddyfodol Diwastraff.

Bydd hyn yn gosod llwybr i Gymru ddod yn economi fwy cylchol – un sy'n parhau i ddefnyddio adnoddau am gyn hired â phosibl ac sy'n osgoi gwastraff.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymgorffori'r pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Bydd yn cynnig prif gamau gweithredu a themâu sydd wedi'u targedu at gyflenwi agenda strategol y llywodraeth, sef:

  • defnyddio adnoddau un blaned, dyfodol diwastraff erbyn 2050
  • bodloni ein hamcanion carbon sero net
  • manteisio ar y cyfleoedd economaidd a ddaw yn sgil symud tuag at economi fwy cylchol

Anghenion tystiolaeth

Darllenwch fwy am y dystiolaeth sydd gennym a'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf