Paratoi eich cartref, eich busnes neu eich fferm am lifogydd
Rydym yn cyhoeddi tri math o rybuddion i’ch helpu i baratoi at lifogydd a gweithredu:
Mae negeseuon yn hysbysu am lifogydd yn cwmpasu ardaloedd mawr lle mae llifogydd yn bosibl o afonydd neu'r môr.
Mae rhybuddion yn cwmpasu ardaloedd cymunedol llai lle rydyn ni’n disgwyl gweld llifogydd o afonydd neu'r môr yn effeithio ar eiddo.
Cyhoeddir rhybuddion difrifol pan fydd llifogydd o afonydd neu'r môr eisoes yn digwydd a bod perygl i fywyd.
Dysgwch fwy am sut rydyn ni’n darogan llifogydd ac yn cyhoeddi rhybuddion
Gwrandewch ar gyngor gan y gwasanaethau brys a gadael pan ofynnir ichi wneud hynny.
Fe'ch tywysir i ganolfan wacáu sy'n cael ei rhedeg gan eich cyngor lleol. Darperir bwyd a dillad gwely am ddim ond bydd angen dillad sbâr, meddyginiaeth hanfodol ac eitemau gofal babanod arnoch chi os oes gennych faban.
Bydd y mwyafrif o ganolfannau gwacáu yn gadael ichi ddod â'ch anifeiliaid anwes. Dylech fynd â bwyd anifeiliaid anwes a chofio rhoi cathod ac anifeiliaid bach mewn cludwr anifeiliaid anwes neu flwch diogel.
Adroddwch am ddraeniau a gylïau wedi'u blocio
Os ydych chi'n poeni am lifogydd a achosir gan ddraeniau neu gylïau wedi’u blocio neu ddŵr yn rhedeg oddi ar gaeau, adroddwch hyn wrth eich awdurdod lleol.
Adroddwch am afonydd wedi blocio a thirlithriadau
Os ydych chi'n poeni am afonydd sydd wedi'u blocio, tirlithriadau neu lifogydd o afonydd a'r môr, adroddwch hyn ar unwaith i'n llinell digwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000.
Rhowch wybod am broblemau gyda nwy, trydan neu garthffosiaeth
Os ydych chi'n poeni am ddŵr llifogydd sy'n effeithio ar eich gwasanaethau nwy, trydan, dŵr neu garthffosiaeth, ffoniwch eich cyflenwr.
Ar gyfer llifogydd carthffosydd, neu os yw'ch toiled neu sinc yn llenwi yn ystod llifogydd, ffoniwch eich cwmni dŵr lleol.
Efallai bod gan eich awdurdod lleol rai bagiau tywod yn barod i'w defnyddio ar adegau o lifogydd, ond eu blaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol.
Dylech wirio gyda'ch awdurdod lleol ymlaen llaw i weld beth yw eu polisi, ac a oes tâl am y gwasanaeth.
Os nad yw'ch awdurdod lleol yn cyflenwi bagiau tywod, gallwch brynu'ch cyflenwad eich hun o siopau DIY a masnachwyr adeiladwyr.
Gall eich awdurdod lleol hefyd gynghori ynghylch beth i'w wneud â bagiau tywod ar ôl llifogydd. Gallant gael eu halogi gan ddŵr llifogydd, carthion, olew neu danwydd ac efallai y bydd angen eu trin fel gwastraff halogedig.
Sicrhewch ei bod yn ddiogel dychwelyd i'ch eiddo.
Os nad yw'ch cyflenwad trydan wedi'i ddiffodd yn y prif gyflenwad, gofynnwch i berson cymwys wneud hyn. PEIDIWCH â chyffwrdd â ffynonellau trydan wrth sefyll mewn dŵr llifogydd.
Yn mron pob achos, bydd y cwmni yswiriant yn anfon aseswr colled i edrych ar eich eiddo. Byddant yn cadarnhau pa atgyweiriadau ac amnewidion sydd eu hangen a pha elfennau sy'n dod o dan eich polisi.
Gofynnwch i'r cwmni yswiriant:
Gwnewch eich cofnod eich hun o ddifrod llifogydd bob amser:
Awgrymiadau da:
Os ydych chi'n rhentu'ch eiddo, cysylltwch â'ch landlord a'ch cwmni yswiriant cynnwys cyn gynted â phosibl.
Os nad oes gennych yswiriant, dylai eich cyngor lleol allu darparu gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a allai eich helpu.
Gall eich Awdurdod Lleol eich cynghori chi ar y canlynol:
Pwmpiwch ddŵr allan o'ch eiddo gan ddefnyddio generadur:
Rhofiwch fwd yn gyfartal o ddwy ochr wal i atal pwysau rhag cronni ar un ochr.
Glanhewch a diheintiwch eich eiddo. Mae pibell ardd yn ddefnyddiol ond peidiwch â defnyddio pibellau pwysedd uchel oherwydd eu bod yn chwythu deunydd halogedig i'r awyr.
Cadwch ddrysau a ffenestri ar agor i sychu'ch eiddo neu ddefnyddio dadleithydd gyda'r ffenestri a'r drysau ar gau.
Sicrhewch fod peiriannydd wedi gwirio'ch nwy a'ch gwres canolog cyn ei danio.
Mae cynghorau lleol fel arfer yn darparu sgipiau a chasgliadau sbwriel ychwanegol ar gyfer eitemau y gallwch eu taflu.
Os yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo, efallai y byddwch chi’n awyddus i gwblhau gwaith adfer yn gyflym. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o fasnachwyr twyllodrus. Os oes angen cyngor penodol arnoch chi, bydd adran safonau masnach eich awdurdod lleol a'r heddlu lleol yn gallu’ch helpu chi.
Gallwch chi gysylltu â Cyngor ar Bopeth os oes angen cyngor penodol arnoch chi. Rhif eu Llinell Gymorth ar gyfer Defnyddwyr yw 0808 223 1133 a rhif eu gwasanaeth Cymraeg yw 0808 223 1144.
Dyma rai darnau cyffredinol o gyngor:
Os ydych chi’n credu’ch bod wedi cael eich twyllo, gallwch roi gwybod i Action Fraud. Rhowch wybod iddyn nhw ar-lein ar Action Fraud neu ffoniwch 0300 123 2040.
Gall fod wedi'i halogi â charthffosiaeth, cemegau a gwastraff anifeiliaid felly golchwch eich dwylo'n drylwyr bob amser.
Peidiwch byth â cherdded, gyrru, na gadael i blant chwarae mewn dŵr llifogydd - gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro drosodd a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn arnofio'ch car.
Gall dŵr llifogydd godi'n gyflym iawn - peidiwch byth â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu lannau afonydd a byddwch yn ymwybodol y gallai pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostyn nhw.
Byddwch yn ofalus o goed wedi cwympo a llinellau pŵer. Gall y dŵr llifogydd hefyd achosi i orchuddion twll archwilio ddod i ffwrdd a chwlferi i orlifo.
Dechreuwch baratoi ar gyfer llifogydd cyn iddo ddigwydd.
Darganfyddwch sut i gofrestru ar gyfer derbyn rhybuddion llifogydd, ysgrifennwch gynllun llifogydd, gwirio'ch sicrwydd yswiriant a deall y gwahanol rybuddion llifogydd:
Canllawiau i berchnogion tai, perchnogion busnes a ffermwyr
Canllawiau i berchnogion carafannau a gwersylla
Byddwch yn barod am llifogydd - taflen (ar gael i'w argraffu)
Llifogyedd - Pwy all helpu - taflen (ar gael i'w argraffu)
Manylion sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig cymorth a chefnogaeth: