Gwaredu biffenylau polyclorinedig (PCBs)

Rhaid i chi gael gwared ar PCBs a deunyddiau sy'n cynnwys PCBs gan eu bod yn llygrydd organig parhaus ac yn wastraff peryglus.

Mae hynny'n golygu y gallwch chi naill ai:

  • gael gwared ar y PCBs neu offer mewn ffordd sy'n dinistrio'r cynnwys PCB 
  • gwneud cais i storio'r offer yn barhaol o dan y ddaear os na allwch ddinistrio'r cynnwys PCB

Rhaid i chi gadw cofnodion i ddangos eich bod wedi cael gwared ar y PCBs drwy un o'r ddau ddull hyn.

Gwaredu a dihalogi trawsnewidyddion

Gallwch barhau i ddal trawsnewidyddion sy'n cynnwys hylifau sy'n cynnwys mwy na 0.005% o PCBs o ran eu pwysau ond dim mwy na 0.05%, a chyfanswm cyfaint o fwy na 0.05dm3 o PCBs tan 31 Rhagfyr 2025.

Ar ôl y dyddiad hwn, rhaid rhoi’r gorau i’w defnyddio a chael gwared arnynt, neu eu dihalogi cyn gynted â phosibl.

Dywedwch wrthym am eich cynlluniau i fodloni'r terfyn amser hwn a sut y byddwch yn dangos eich bod wedi ei roi ar waith yn llwyddiannus.

Dysgwch sut i adnabod a gwaredu gwastraff sy’n cynnwys llygryddion organig parhaus (GOV.UK).

E-bostiwch PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os oes angen i chi drafod sut i wneud hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf