Cofrestru neu ddadgofrestru eich offer biffenyl polyclorinedig (PCB)

Erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn, mae'n rhaid i chi gofrestru neu ddadgofrestru unrhyw offer yng Nghymru sy'n cydymffurfio â’r diffiniad cyfreithiol o offer halogedig PCB.

Cofrestru offer PCB

Mae'n rhaid i chi roi'r wybodaeth ganlynol i ni:

  • rhestr gyfoes o offer halogedig PCB rydych chi'n gyfrifol amdano
  • cyfeiriad a chyfeirnod grid lleoliad yr offer
  • union leoliad yr offer ar y safle
  • maint y sylwedd
  • crynodiad y sylwedd
  • math o offer
  • cyfeirnod neu rif cyfresol unigryw
  • dogfen yn amlinellu eich cynlluniau i waredu offer PCB halogedig

Dadgofrestru eich offer PCB

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni am unrhyw ddull gwaredu
  • dangos bod yr holl hylif wedi'i halogi â PCB wedi'i dynnu o'r offer. Os nad oes modd gwneud hyn, efallai y byddwn yn gofyn i chi gymryd sampl o'r hylif newydd yn yr offer i ddangos nad yw wedi'i halogi â hylif sy'n cynnwys PCB gweddilliol
  • darparu manylion am unrhyw berchennog newydd y safle
  • rhoi gwybod i ni am unrhyw leoliadau rydych chi wedi symud PCB iddynt a beth rydych chi'n bwriadu ei wneud ag ef
  • math o offer
  • cyfeirnod neu rif cyfresol unigryw
  • dogfen yn amlinellu eich cynlluniau i waredu offer PCB halogedig

Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth i ni fel rhan o’r broses ddadgofrestru, er enghraifft:

  • nodiadau llwythau gwastraff peryglus
  • adroddiadau labordy ar gyfer offer sy'n dangos bod ganddo grynodiad PCB llai na 0.0005% yn ôl pwysau
  • dogfennau perchennog newydd, gan gynnwys manylion cyswllt

Ni chodir tâl i ddadgofrestru offer halogedig PCB.

 

Cysylltu â ni

Os oes angen cyngor arnoch, cysylltwch â PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf