Biffenylau polyclorinedig (PCB): beth yw offer halogedig

Mae unrhyw offer sy'n cynnwys mwy na 5 litr o hylif sy'n cynnwys PCBs (neu fwy na 5 litr o hylif sydd â chrynodiad PCB o fwy na 0.005%) yn cael ei ystyried yn offer halogedig.

Offer halogedig

Yn gyffredinol, rhaid i chi dybio bod yr offer canlynol wedi'i halogi os cafodd ei gynhyrchu cyn 1987 a'i fod yn cynnwys mwy na 5 litr o hylif:

  • cynwysyddion ffactor pŵer
  • offer trosglwyddo gwres
  • newidyddion wedi'u gosod ar bolyn
  • offer gwresogi prosesau
  • pympiau gwactod
  • systemau hydrolig tymheredd uchel
  • gwrthyddion trydanol
  • offer brwsio ac offer foltedd uchel arall
  • balast golau fflwroleuol
  • offer diagnostig ar gyfer ysbytai

Nid oes rhaid i chi gymryd yn ganiataol bod offer o'r fath wedi'i halogi os ydych chi'n sicr nad yw'n cynnwys PCBs, er enghraifft os ydych chi wedi gwneud y canlynol:

  • cynnal profion ar yr offer sy'n dangos nad yw'n cynnwys PCBs
  • cadw llawlyfr gwreiddiol y gwneuthurwr sy'n dangos nad yw'r offer yn cynnwys PCBs

Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich offer yn cynnwys PCBs, rhaid i chi dybio ei fod yn eu cynnwys.

Setiau cyfunol o offer

Mae'n bosibl y bydd gennych chi sawl darn o offer na fyddent yn cael eu hystyried yn offer halogedig ar eu pen eu hunain, ond eu bod yn cael eu hystyried yn offer halogedig fel set gyfunol.

Byddai hyn yn berthnasol, er enghraifft, os oes gennych chi ddarn o offer sy'n cynnwys cynwysyddion lluosog sy'n cynnwys llai na 5 litr o hylif yr un, ond eu bod yn cynnwys mwy na 5 litr o hylif gyda'i gilydd.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch anfon e-bost atom i'r cyfeiriad hwn er mwyn derbyn cyngor: PCB-Registrations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf