Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Yng ngwarchodfa heddychlon Cors y Llyn ceir un o’r dolydd blodau gwyllt gorau yng Nghanolbarth Cymru ac mae rhai o goed y warchodfa dros 100 mlwydd oed, er nad ydynt ond ychydig droedfeddi o uchder.
Daw’r ddôl yn fyw yn y gwanwyn a’r haf pan fydd llu o flodau gwyllt, gan gynnwys tegeirian a melynog y waun yn denu gloÿnnod lliwgar.
Mae taith gerdded fechan gyda llwybr bordiau, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, yn dilyn dôl o flodau gwyllt a throelli heibio’r goedwig fach.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Ychydig y tu draw i’r gât, mae’r llwybr yn dilyn dôl o flodau gwyllt ac yna’n mynd o amgylch pwll, lle gellir dod o hyd i fainc i allu mwynhau’r olygfa.
Mae’r llwybr bordiau yna’n troelli trwy’r coetir corsiog a heibio’r goedwig fach, cyn dod at lethr graddol sy’n eich arwain yn ôl i’r maes parcio.
Mae Cors y Llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Cafodd Cors y Llyn ei enw am fod ehangder y gors a’r corstir unwaith yn llyn.
Cafodd y ddau fasn, sy’n ffurfio craidd y warchodfa, eu naddu gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf, a’u llenwi gan y dŵr tawdd.
Dros filoedd o flynyddoedd, cawsant eu llenwi’n raddol â llystyfiant, cerrig a phridd, i greu’r cynefinoedd cyfoethog a chymysg sydd i’w gweld yn y warchodfa heddiw.
Mae’r basnau yn cynnal ystod eang o blanhigion sy’n hoff o asid, gyda digonedd o figwyn, grug, llugaeron, grug croesddail a’r gwlithlys pryfysol. Ar y cyrion, mae pocedi o lafn y bladur.
Mae gan y basn deheuol gymeriad unigryw ei hun: mae pinwydden yr Alban yn fychan iawn yma, steil Sgandinafaidd, oherwydd y mawn sy’n ddwrlawn.
Mae darn hirgul o goed bedw a ffen yn amgylchynu’r gors.
Mae dros 100 o rywogaethau o blanhigion blodeuog wedi’u cofnodi yn y ddôl, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, yr hesgen lwydlas, y cycyllog bach a’r ystrelwys.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn ‘n/yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Edrychwch am y darnau pinc golau yn y ddôl –dyma flodau’r llefrith sydd yn un o’r blodau cyntaf i flodeuo yn gynnar iawn yn y gwanwyn.
Mae nifer o flodau’r gwanwyn yn dilyn yr arddangosfa gynnar hon, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, fioled y gors ac ysgall y ddôl.
Mae’r ddôl ar ei gorau yn yr haf, gyda’r cyfoeth o flodau gwyllt yn denu’r gloÿnnod byw ar ddiwrnodau cynnes, llonydd.
Mae yna arddangosfa liwgar o fursennod a gweision neidr ger y pwll yn yr haf hefyd, gan gynnwys rhai mwy fel yr ymerawdwr a gwas neidr y de.
Os byddwch chi’n lwcus, efallai cewch chi’r fraint brin o weld hebog yr ehedydd, yn dal y pryfed yn yr awyr.
Edrychwch am y gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed - y triawd sy’n ymweld â choetir derw Cymru dros yr haf.
Mae lliwiau llachar y mwsogl a’r cen yn ddigon i oleuo’r diwrnodau tywyllaf.
Gwrandewch yn astud am grawc y broga cyffredin wrth i chi gerdded heibio’r mannau gwlypaf.
Efallai cewch gipolwg ar froga neu amffibiad arall fel y llyffant cyffredin neu’r fadfall ddŵr balfog.
Mae’r adar sy’n ymweld â’r Warchodfa yn ystod y gaeaf yn cynnwys y cyffylog a’r gïach cyffredin.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn llefydd sydd â’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r llwybrau’n wastad ac mae rhai wedi’u gorchuddio â rhwyll.
Mae'r llwybr pren yn hygyrch.
Mae seddi a mannau pasio ar gael ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Cors y Llyn 3½ milltir i’r gogledd-orllewin o Lanfair ym Muallt.
Mae yn Sir Powys.
Mae Cors y Llyn ar fap Explorer 200 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 016 556.
Dilynwch y A470 o Raeadr Gwy tuag at Lanfair ym Muallt.
Yn syth ar ôl gyrru trwy bentref Y Bontnewydd ar Wy, trowch i’r dde gan ddilyn isffordd (yr hen A470 sy’n rhedeg cyfochr â’r A470 newydd i’r de tuag at Lanfair ym Muallt).
Parhewch ar hyd y ffordd yma am oddeutu 1½ milltir, ewch dros bont gerrig a dilynwch y troad nesaf i’r dde gyferbyn â bwthyn gyda ffenestri ‘dormer’.
Dilynwch y lôn gul hon am oddeutu ¼ milltir, gyrrwch yn ofalus trwy iard breifat ac anelwch am y gornel chwith bellaf lle mae’r lôn yn parhau allan o’r iard ac ymlaen i faes parcio Cors y Llyn.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.