Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coed Maen Arthur yn swatio yng Nghwm Ystwyth ger pentref Pont-rhyd-y-groes.
Mae’r daith â chyfeirbwyntiau drwy’r coetir yn arwain at Gastell Grogwynion, un o fryngaerau mwyaf Cymru, ac yn mynd heibio’n agos i raeadr drawiadol.
Ar un adeg bu’r ardal yn gartref i ddiwydiant gwaith plwm prysur.
Gellir cyrraedd y daith gerdded ar draws bont bren uchel dros geunant afon dwfn - cymrodd y bont hon le’r un a ddefnyddiwyd gan y mwyngloddwyr y credir iddi gwympo.
Mae Coed Maen Arthur yn arbennig o hardd yn yr hydref, pan fo’r coed yn dân o felyn a choch.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded
Mae Llwybr Maen Arthur yn dringo llechwedd goediog y fryngaer o’r Oes Haearn ac yn arwain at lannerch gyda golygfeydd dros y coed ac i lawr i’r cwm.
Mae’r llwybr yn mynd heibio i raeadr ysblennydd ac yna’n dilyn yr afon chwim.
Mae’n dychwelyd hyd lwybr ar hyd gwaelod y ceunant.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coed Maen Arthur 14 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Mae yn Sir Ceredigion.
Mae Coed Maen Arthur ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 738 722.
Dilynwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.
Ewch yn eich blaen drwy Drawscoed ac, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y bont.
Dilynwch yr afon tuag at Bont-rhyd-y-groes, lle mae'r olwyn ddŵr wrth ochr dde'r ffordd.
I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r llwybr yn dechrau’n agos i olwyn ddŵr pentref Pont-rhyd-y-groes.
I gyrraedd man cychwyn y llwybr rhaid ichi fynd trwy giât y llwybr troed gyferbyn â’r olwyn ddŵr.
Nid oes maes parcio yma felly parrciwch yn synhwyrol ar ochr y ffordd.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.