Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot

Beth sydd yma

Bydd gwaith gwella ar y llwybrau cerdded yn tarfu ar yr ardal o amgylch Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan. Bydd y gwaith yn dechrau ar 26 Chwefror ac yn parhau am tua 3 wythnos.

 

Cau a dargyfeirio llwybrau oherwydd gwaith torri coed

 

Bydd rhai o'n llwybrau'n cael eu dargyfeirio neu eu cau dros dro ym Mharc Coedwig Afan oherwydd ymgyrch fawr i dorri coed. Bydd gwybodaeth i’w gweld yn y meysydd parcio - a dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar hyd y llwybrau. Byddwch yn ymwybodol y bydd lorïau cludo pren o gwmpas, a dilynwch holl gyfarwyddiadau'r staff. Dysgwch pa lwybrau sy'n cael eu heffeithio a mwy o fanylion am y gwaith torri coed.

 

Newidiadau ychwanegol i lwybrau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr

 

  • Llwybr Awyrlin – mae adrannau Granada, Eiliad Felys, Fyny Fry ac Ar y Dibyn a Rhondda ar gau oherwydd gwaith cwympo coed a choed sydd wedi chwythu drosodd.
  • Mae dolenn llwybr uchaf W2 ar gau oherwydd gwaith cynaeafu coed.

Dilynwch y gwyriadau.

Croeso

Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ym Mharc Coedwig Afan.

Mae tri o'n llwybrau beicio mynydd â gradd goch yn cychwyn o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr.

Nid Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli'r maes parcio, y ganolfan ymwelwyr na'r cyfleusterau eraill sydd yma.

Mae'r rhan fwyaf o'n llwybrau beicio mynydd yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr White’s Level

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 15.4 cilometr (gyda dolen ychwanegol ddewisol 2.3 cilometr o hyd wedi'i graddio'n ddu)
  • Esgyniad: 405 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Dyma'r mwyaf technegol o'r holl lwybrau ym Mharc Coedwig Afan ac mae 90% ohono’n drac sengl wedi’i adeiladu’n arbennig.

Mae dringfa 6 cilometr o hyd ar drac defaid yn arwain at olygfeydd gwych o Ddyffryn Afan.

Mae’r cwymp eithafol ar drac sengl cul yn golygu gwefr heb ei ail a disgynfeydd hir, heriol gyda grisiau creigiog i'w taclo, y cyfan yn creu un llwybr rhyfeddol.

Mae dolen ychwanegol ddewisol 2.3 cilometr o hyd sydd wedi'i graddio'n ddu.

Am daith hirach, cyfunwch hwn â Llwybr y Wal drwy un o’r cysylltiadau W2.

Llwybr Blade

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 23.6 cilometr
  • Esgyniad: 570 metr
  • Amser: 2½-3½ awr

Mae gan Lwybr Blade lawer o draciau sengl, sy'n cynnig llwybr gwych i feicwyr mwy profiadol.

Mae'r llwybr hwn yn mynd â chi i rannau uwch a mwy anghysbell o'r goedwig gyda golygfeydd anhygoel dros Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'n troi a throelli drwy'r goedwig bell gyda rhai dringfeydd a disgynfeydd technegol heriol cyn dychwelyd i Lyncorrwg.

Gallwch hefyd ychwanegu dolen o lwybr Skyline ond gwnewch yn siŵr fod gennych y cyfarpar iawn gan fod y ddolen ychwanegol hon yn mynd â chi i ardal anghysbell iawn lle mae’r tywydd yn gallu newid yn sydyn.

Llwybr Awyrlin (Skyline)

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 46.5 cilometr
  • Esgyniad: 995 metr
  • Amser: 4-7 awr

Ar ôl bod ar gau am sawl blwyddyn oherwydd gwaith datblygu fferm wynt gyfagos, mae Llwybr Awyrlin wedi cael ei ailgynllunio ac fe ailagorodd ym mis Hydref 2021.

Mae’n dringo ar hyd yr un llwybr cul â Lefel White ac yn parhau trwy ddringfeydd hir ar hyd heolydd coedwig gyda disgyniadau melys, rhwydd ar draciau unigol.

Wrth edrych tua’r gorwel, cewch olygfeydd heb eu hail dros Fannau Brycheiniog, Mynyddoedd y Preselau, y Mynyddoedd Du ac arfordir De Cymru.

Bydd y llwybr hwn yn profi eich stamina a’ch dewrder, gyda thraciau unigol technegol megis ‘Ar y Dibyn’ a ‘Caledfwlch’.

Mae hefyd 2 ddolen llwybr tarw ar y llwybr.

Cyfleusterau i ymwelwyr

Mae cyfleusterau i ymwelwyr yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn cynnwys:

  • caffi (Corrwg Cwtch)
  • siop beiciau (Afan a Blast)

Mae'r cyfleusterau hyn a'r maes parcio yn cael eu rheoli'n breifat.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Parc Coedwig Afan

Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ym Mharc Coedwig Afan.

Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.

Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.

Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.

Llwybrau eraill ym Mharc Coedwig Afan

Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Afan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg 10½ milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot.

Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Map Arolwg Ordnans

Mae Rhyslyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer 165 and 166.

Cyfeirnod grid AO Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yw SS 872 984.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 (Port Talbot) a dilynwch yr arwyddion i’r A4107 i gyfeiriad y Cymer.

O'r gylchfan, dilynwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer Parc Coedwig Afan.

Ewch heibio maes parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar y dde.

Ewch yn eich blaen am 3 milltir a mynd drwy’r Cymer.

Yna dilynwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Maesteg.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae'r maes parcio yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn cael eu rheoli'n breifat.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Manylion cyswllt

Mae'r maes parcio, caffi, siop beiciau mynydd, toiledau a chyfleusterau ymwelwyr eraill yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn cael eu rheoli'n breifat. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn. Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr Blade PDF [1.2 MB]

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf