Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot

Beth sydd yma

Cau a dargyfeiriadau llwybrau cerdded

 

Byddwch yn ymwybodol, oherwydd cau pontydd, mae dechrau’r llwybrau cerdded o Ganolfan Ymwelwyr Afan wedi cael ei newid i ddechrau o fynedfa’r llwybr beicio mynydd ‘Rookie’. Dilynwch yr arwyddion a chofiwch ildio i feicwyr sy’n dod tuag atoch.

 

Cau a dargyfeiriadau llwybrau beicio mynydd

 

Dilynwch unrhyw wyriadau ar y safle a chyfarwyddiadau gan staff i aros neu i ganiatáu i eraill fynd heibio, a byddwch yn ymwybodol o lorïau sy’n cludo pren.

 

Gweler y manylion isod a darllenwch y paneli diweddaru yn y meysydd parcio ac yn y canolfannau ymwelwyr.

 

Mae gwyriadau wedi’u harwyddo ar y safle ar y llwybrau hyn:

 

  • Skyline
  • Blade
  • White's Level

Cwympo Coed yn Rhyslyn

 

Noder – efallai y bydd rhannau o’r llwybrau hyn wedi cau neu wedi cael eu dargyfeirio oherwydd gwaith cynaeafu parhaus:

 

Llwybrau beicio mynydd:

 

  • Llwybr y Wal - gwyriad dros dro – dechrau a diwedd yn Bryn Bettws Lodge am y tro (SA12 9SP)

Llwybrau cerdded:

 

  • Llwybr Pen-rhys - mae’r daith gerdded hon ar gau am y tro
  • Llwybr Crib Gyfylchi - gwyriad dros dro – dechrau a diwedd yn Bryn Bettws Lodge am y tro (SA12 9SP)
  • Llwybr Afon a Rheilffordd - mae’r daith gerdded hon ar gau am y tro

Gweler y paneli gwybodaeth yn y meysydd parcio a dilynwch y gwyriadau a’r cyfarwyddiadau gan staff i aros neu i ildio i eraill. Rydyn ni hefyd yn torri coed sydd â chlefyd y llarwydd yn ardal Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan. Bydd llawer o’n llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd yn parhau ar agor - ond bydd rhai yn cael eu dargyfeirio neu eu cau yn ystod y gwaith hwn. Dilynwch yr arwyddion o ran hyn. Y nod yw gorffen y gwaith yma erbyn mis Mai 2023.

 

Edrychwch ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith torri coed a’i effeithiau

Croeso

Crëwyd Parc Coedwig Afan yn y 1970au ac mae wedi tyfu i fod yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain.

Wedi'i leoli mewn hen ddyffryn glofaol ychydig filltiroedd o'r M4, mae parc y goedwig yn cynnig llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol.

Mae'r rhan fwyaf o'n llwybrau beicio mynydd yn dechrau o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr ond gallwch gychwyn ar ddau lwybr hefyd o faes parcio Rhyslyn ac mae tri llwybr ychwanegol o Ganolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Mae tri llwybr cerdded o'r ganolfan ymwelwyr sy'n amrywio o lwybr byr, gwastad ar hyd hen drac i lwybr cerdded anodd saith milltir o hyd ar hyd crib gyda golygfeydd panoramig.

Rheolir y ganolfan ymwelwyr gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac mae'n gartref i Amgueddfa Glowyr De Cymru, yn ogystal a chaffi a siop feiciau.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Hen Heol y Plwyf

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/2 gilometr
  • Dringo: Gwastad yn bennaf
  • Amser: 45 munud

Mae Llwybr Cerdded Hen Ffordd y Plwyf yn dilyn rhan o'r llwybr hynafol a oedd yn brif gyfrwng trafnidiaeth yn y cwm nes iddo fynd yn segur ym 1920.

Mae seddi a byrddau ar hyd y ffordd i fwynhau'r golygfeydd.

Mae'r daith gerdded yn dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr ar yr hen reilffordd (sydd bellach yn rhan o Lwybr Beicio Dyffryn Afan/Llwybr Sustrans 887).

Llwybr Afon a'r Rheilffordd

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/4.8 cilometr
  • Dringo: 300 troedfedd/70 metr
  • Amser: 1½ awr

Mae Llwybr Afon a'r Rheilffordd yn disgyn i'r cwm ac yn croesi Afon Afan cyn dringo'n serth i'r hen reilffordd.

Mae'n mynd heibio i fynedfa twnnel rheilffordd wedi'i selio, a gynlluniwyd ac a adeiladwyd gan Brunel, ac yna'n dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr drwy ardal bicnic ger yr afon.

Llwybr Crib Gyfylchi

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 7 milltir/11.2 cilometr
  • Dringo: 800 troedfedd/240 metr
  • Amser: 3½ awr

Mae Llwybr Crib Gyfylchi yn croesi Afon Afan ac yn dringo drwy goetiroedd i ben y bryn.

Ceir golygfeydd panoramig o'r dyffryn.

Yna mae'r llwybr yn mynd heibio dwy set o adfeilion – Fferm Nant y Bar a Chapel Gyfylchi o'r ddeunawfed ganrif, a arferai fod yn gysegrfan i Fethodistiaeth Gymreig – cyn disgyn i'r maes parcio. 

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Rookie ac Ardal Sgiliau

  • Gradd: Gwyrdd (Hawdd)
  • Pellwch: 5.8 cilometr (gyda dolen ychwanegol ddewisol 2.4 cilometr o hyd wedi'i graddio'n las)
  • Esgyniad: 158 metr
  • Amser: 30 munud – 2 awr

Mae'r llwybr hwn sydd wedi'i raddio'n wyrdd yn llwybr cyffrous a throellog.

Mae'n llwybr perffaith fel man cychwyn i newydd-ddyfodiaid, gyda llwybr llydan a disgynfeydd gweddol eang.

Mae Ardal Sgiliau ar y llwybr sy'n cynnig cyfle i feicwyr ddatblygu eu galluoedd beicio technegol hefyd.

Mae'r ddolen ddewisol 2.4 cilometr o hyd sydd wedi'i graddio'n las yn rhoi blas i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i’r her nesaf; mae'n disgyn i lawr at Afon Afan ac yn datgelu rhai mannau cudd.

Gellir dod o hyd i ardaloedd picnic ar hyd y llwybr.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybr Blue Scar

  • Gradd: Glas (Cymedrol)
  • Pellter: 7.1 cilometr
  • Esgyniad: 177 metr
  • Amser: 1-1½ awr

Llwybr gwych i wella sgiliau beicio a datblygu hyder.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybr Pen-hydd

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 14.4 cilometr
  • Esgyniad: 353 metr
  • Amser: 1½-3 awr

Mae'r llwybr clasurol hwn yn Ne Cymru wedi'i gynllunio i fod yn ddilyniant i'r llwybrau mwy heriol ym Mharc Coedwig Afan.

Mae'n dringo allan o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr at lwybr trawiadol sy’n cymysgu'r hen â'r newydd.

Mwynhewch y cyfuniad o ddringfeydd ar ffyrdd coedwig gyda golygfeydd gwych, a disgynfeydd trac sengl cyflym, ynghyd â rhai rhannau newydd mwy serth i’ch cadw’n effro.

Gall y llwybr hwn fod yn heriol i feicwyr llai profiadol ac mae'n agored i dywydd gwael ar y tir uwch.

Llwybr y Wal

  • Gradd: Coch (Anodd)
  • Pellter: 18.6 cilometr
  • Amser: 1½-3 awr
  • Esgyniad: 520 metr
  • Man cychwyn amgen: Maes parcio Rhyslyn

Gyda rhai o'r disgynfeydd trac sengl gorau yn y DU, mae'r llwybr hwn yn croesi ochr ogleddol Cwm Afan ar drac sengl.

Mae'n amrywio o fod yn gyflym ac agored i fod yn dynn, technegol a gwreiddiog.

Mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r arfordir yn ymddangos ar wahanol adegau, ac mewn mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored.

Mae'r ffordd at y trac sengl yn rhannu adran â Llwybr Beicio Lefel Isel Rheilffordd a'r rheilffordd segur, felly cofiwch ystyried defnyddwyr eraill y goedwig wrth feicio.

Am daith hirach, cyfunwch hwn â Llwybr White’s Level drwy un o’r cysylltiadau W2.

Cyfleusterau i ymwelwyr

Maes parcio a'r toiledau

Mae'r maes parcio, y toiledau a rhai cyfleusterau eraill i ymwelwyr yma yn cael eu rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth ac amseroedd agor ewch i wefan Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Afan Valley Bike Shed

Mae Afan Valley Bike Shed wrth ymyl Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

I gael rhagor o wybodaeth ac amseroedd agor ewch i wefan Afan Valley Bike Shed.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae Llwybr Rookie a Llwybr Blue Scar yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilmiau ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Afan yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Parc Coedwig Afan chwe milltir o gyffordd 40 yr M4.

Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Parc Coedwig Afan ar fap Arolwg Ordnans (AO) 165 a 166.

Cyfeirnod grid yr AO Canolfan Ymwelwyr yw SS 820 950.

Cyfarwyddiadau

Gadewch yr M4 wrth gyffordd 40 ar yr A4107 tuag at y Cymer a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn o'r gylchfan ar ôl gadael y draffordd.

Ar gyfer llywio lloeren, y cod post ar gyfer Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yw SA13 3HG.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Port Talbot.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Llwybr beicio Sustrans

Gallwch feicio i Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 887.

Mae Llwybr 887 yn darparu cyswllt rhwng trefi Port Talbot, Cwmafan, a Phont-rhyd-y-fen ac yn parhau i Barc Coedwig Afan.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Maes parcio

Mae'r maes parcio, y toiledau a'r holl gyfleusterau i ymwelwyr yma yn cael eu rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

I gael rhagor o wybodaeth ac amseroedd agor ewch i wefan Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Llwybr Rookie PDF [1.1 MB]
Canllaw Llwybr Penhydd PDF [2.3 MB]
Canllaw Llwybr y Wal PDF [5.7 MB]

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf