Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Cwympo coed yn Rhyslyn
Rydyn ni'n torri coed sydd â chlefyd y llarwydd yn ardal Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan. Bydd llawer o lwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd ym Mharc Coedwig Afan yn parhau ar agor - ond bydd rhai yn cael eu dargyfeirio neu eu cau. Dilynwch yr arwyddion o ran hyn. Y nod yw gorffen y gwaith yma erbyn mis Mai 2023.
Edrychwch ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith torri coed a’i effeithiau
Noder – efallai y bydd rhannau ychwanegol o’n llwybrau wedi cau neu wedi cael eu dargyfeirio oherwydd gwaith cynaeafu parhaus. Gweler y paneli gwybodaeth yn y meysydd parcio a dilynwch y gwyriadau a’r cyfarwyddiadau gan staff i aros neu i ildio i eraill.
Crëwyd Parc Coedwig Afan yn y 1970au ac mae wedi tyfu i fod yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain.
Wedi'i leoli mewn hen ddyffryn glofaol ychydig filltiroedd o'r M4, mae parc y goedwig yn cynnig llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol.
Mae maes parcio Rhyslyn ar safle hen orsaf reilffordd Pont-rhyd-y-fen a dyma fan cychwyn dau lwybr cerdded ag arwyddbyst sy’n mynd ar hyd yr afon.
Gellir dechra llwybr beicio mynydd Y Wal o faes parcio Rhyslyn hefyd.
Mae ein llwybrau beicio mynydd eraill yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan a Chanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, sydd eu dau’n gartref i amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer beicwyr mynydd.
Mae ardal bicnic ym maes parcio Rhyslyn.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch Afon Afan i fyny'r afon at olygfan a dychwelyd ar hyd trac rheilffordd mwyngloddio segur.
Mae hwn yn llwybr gwastad bron yr holl ffordd ar hyd llwybrau glan yr afon ac ar ffyrdd coedwig.
Cadwch lygad am feicwyr ar rannau o'r daith gerdded.
Mwynhewch olygfeydd panoramig ar hyd y gefnffordd hynafol a gysylltai eglwys Baglan ar yr arfordir â Chraig y Llyn i'r gogledd o Lyncorrwg.
Gallwch weld yr holl ffordd i Fannau Sir Gâr ar ddiwrnod clir.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Gyda rhai o'r disgynfeydd trac sengl gorau yn y DU, mae'r llwybr hwn yn croesi ochr ogleddol Cwm Afan ar drac sengl.
Mae'n amrywio o fod yn gyflym ac agored i fod yn dynn, technegol a gwreiddiog.
Mae golygfeydd gwych o'r dyffryn a'r arfordir yn ymddangos ar wahanol adegau, ac mewn mannau gall y llethrau serth deimlo'n agored.
Mae'r ffordd at y trac sengl yn rhannu adran â Llwybr Beicio Lefel Isel Rheilffordd a'r rheilffordd segur, felly cofiwch ystyried defnyddwyr eraill y goedwig wrth feicio.
Am daith hirach, cyfunwch â Llwybr White’s Level drwy un o’r cysylltiadau W2 - gweler Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Mae maes parcio Rhyslyn o fewn pellter cerdded hawdd i bentref Pont-rhyd-y-fen lle ganwyd yr actor enwog Richard Burton.
Mae Llwybr Man Geni Richard Burton yn cychwyn o'r maes parcio ac yn mynd i Bont-rhyd-y-fen a'i fan geni.
Mae paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr gyda ffeithiau diddorol am ei blentyndod a'i yrfa.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Darganfod Castell-nedd Port Talbot.
Mae Parc Coedwig Afan yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae maes parcio Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan chwe milltir o gyffordd 40 yr M4.
Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae Rhyslyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) 165 a 166.
Cyfeirnod grid yr AO yw SS 800 942.
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 ar yr A4107 tuag at Cymer.
Ar ôl 3¾ milltir, trowch i'r chwith ar y B4287 tuag at Bont-rhyd-y-fen a dilynwch yr arwyddbost brown a gwyn i faes parcio Rhyslyn.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Port Talbot.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gallwch feicio i Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans 887.
Mae Llwybr 887 yn darparu cyswllt rhwng trefi Port Talbot, Cwmafan, a Phont-rhyd-y-fen ac yn parhau i Barc Coedwig Afan.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.