Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Tŷ Canol, ger Trefdraeth

Beth sydd yma

Croeso

Rhai o nodweddion tirwedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Tŷ Canol yw’r coed derw ceinciog cam, y brigiadau creigiog, yr hen waliau carreg a’r gaer o’r Oes Haearn.

Mynd a dod fu hanes y gorchudd coetir sydd yma a hynny ers Oes yr Iâ ac roedd y coetir eisoes yn hen pan adeiladwyd siambr gladdu Pentre Ifan gerllaw, 5500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r coetir yn gymysgedd o goetir derw hynafol a choed pori lle bu gwartheg, defaid a merlod yn pori am lawer o ganrifoedd.

Mae hwn yn un o’r safleoedd cyfoethocaf o ran cennau ym Mhrydain ac Iwerddon– ac mae’r rhain yn addurno’r clogfeini a’r coed a dyma’r prif reswm dros statws y coetir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Dilynwch ein llwybr cerdded drwy’r warchodfa i weld coed derw’r coetir hynafol a’r dirwedd gyfriniol.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.9 milltir/4.7 cilomedr
  • Amser: 1½ hours

Gallwch fwynhau Tŷ Coed Canol ar y daith hon drwy’r warchodfa hudolus hon.

Edrychwch ar goed deri hynafol a brigiadau creigiog Carnedd Meibion Owen, a mwynhewch y golygfeydd ysgubol dros Sir Benfro.

Llwybrau cerdded eraill

Mae llwybrau troed cyhoeddus yn arwain i Goed Tŷ Canol o Ganolfan yr Urdd gerllaw.

Gallwch hefyd gerdded at siambr gladdu Pentre Ifan o’r warchodfa.

Ymweld yn ddiogel â Choed Tŷ Canol​

Mae llethrau serth yma, a gall hi fod yn llithrig dan draed pan fydd hi’n wlyb.

Mae anifeiliaid yn pori ar rannau o’r warchodfa – peidiwch â mynd atyn nhw na cheisio rhoi bwyd iddyn nhw.

Cadwch reolaeth fanwl ar eich cwn a chofiwch gau pob clwyd ar eich hôl os gwelwch yn dda.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Coetir

Mae Coed Ty Canol ar lechwedd serth. Mae’n ymddangos fel coedwig ucheldir Gymreig arferol, gyda choed deri’n fwyaf amlwg ac ambell fedwen, cerddinen a chollen yma a thraw. Ond mae gan y goedwig hon hanes hir o bori– gan arwain at fath mwy agored o goedwig a elwir yn ‘borfeydd coedwig’.

Coedwig wlyb yw rhan ogleddol, ac isaf, y warchodfa (Hagr y Coed). Mae sawl nant fach yn codi o ynhonnau naturiol yma, ac ambell gae sydd wedi eu hen anghofio, ymysg y coed. Y dderwen a welir yma fwyaf, gyda rhywfaint o ynn ac ambell fedwen lwyd.

Cennau

If you walk through the reserve you will see that many of the surfaces of the rock faces, tree trunks and branches are covered in lichens.

Mae angen golau ar gen. Maen nhw’n ynnu yma oherwydd bod y pori traddodiadol wedi cyfyngu tyfiant planhigion y goedwig.

Heddiw rydym ni’n dal i bori’r safle, ac yn torri coed derw dethol er mwyn gofalu am y cennau.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Saif Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Tŷ Canol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Arfordir Penfro yw’r unig barc cenedlaethol hollol arfordirol ym Mhrydain, ac mae’n cynnwys 240 milltir sgwâr o dir godidog ar lannau de-orllewin Cymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Tŷ Canol 4.5 milltir i’r de-ddwyrain o Drefdraeth.

Mae yn Sir Benfro.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Tŷ Canol ar fap Explorer OL35 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 092 359.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Abergwaun & Wdig.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cyfarwyddiadau

O ffordd A487 drwy Drefdraeth cymerwch yr is-ffordd sydd wedi’i harwyddo i gyfeiriad Cilgwyn.

Ar ôl 2¼ milltir, trowch i’r chwith yn y gyffordd siâp T i gyfeiriad Maenclochog

Ar ôl ½ milltir, trowch i’r dde yn y gyffordd siâp T.

Ar ôl ½ milltir arall, gwnewch dro pedol i’r chwith, a dilyn yr arwydd Brynberian.

Mae’r maes parcio anffurfiol ar y tro ar y dde, ychydig oddi ar y ffordd.

Maes parcio

Gallwch barcio mewn cilfan barcio.

Gallwch barcio yno am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf